Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Elizabeth Hopkins
Gwasanaeth: Gwraig a Mam
Nodiadau: Priododd Elizabeth Hopkins, née Thomas (1882-1959) â David Hopkins (1877-1949) - 8fed Hydref 1905. Tynnwyd y ffotograff tua’r 16eg Tachwedd 1914 pan ymrestrodd David gyda Chyffinwyr De Cymru. Roedd gan David ac Elizabeth bedwar o blant eisoes, 8 oed yn unig oedd yr hynaf, a’r ieuengaf yn 21 mis. Er bod David yn falch ei fod wedi gwirfoddoli mae Elizabeth yn edrych yn bryderus am y dyfodol - a hynny’n ddisgwyliadwy, oherwydd clwyfwyd David yn ddifrifol yn Gallipoli. Ni wellodd e erioed yn llwyr o’i anafiadau.
Cyfeirnod: WaW0070
Rowena Hopkin (Field)
Man geni: Llan-giwg
Gwasanaeth: Nyrs, SWH, 1916 - 1917
Nodiadau: Ymunodd Rowena Hopkin ag Ysbytai Menywod yr Alban yn 1916, ac ymddengys iddi weithio yn Serbia. Priododd GW Field yn 1918; mae ychydig o’u gohebiaeth wedi goroesi.
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0122
Llun papur newydd
Llun ac adroddiad am wobrwyo Rowena Hopkin ag Urdd San Siôr. Herald of Wales 5ed Mai 1917
Hannah Isaacs
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Ffynonellau: http://www.theguardian.com/world/2015/dec/24/soldiers-letters-bring-first-world-war-christmas-truce-to-life
Cyfeirnod: WaW0083
M A James
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Cofeb: Coflech eglwys, Llandre, Ceredigion
Nodiadau: 26 oed.
Cyfeirnod: WaW0029
Abigail James
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Nodiadau: Trigai Abigail James ym Mrynhyfryd, Abertawe. Gweithiai yn Ffatri Sieliau Genedlaethol Abertawe yn llifanu edau.
Cyfeirnod: WaW0082
Abigail James, Ffatri Sieliau Genedlaethol Abertawe
Llun agos o Abigail James, Ffatri Sieliau Genedlaethol Abertawe, 1915 - 1917
Abigail James gyda chydweithwyr, Ffatri Sieliau Genedlaethol Abertawe
Abigail James (ail res cyntaf ar y chwith) gyda chydweithwyr Ffatri Sieliau Genedlaethol Abertawe, 1915 - 1917
Gweithwyr Ffatri Sieliau Genedlaethol Abertawe tua 1915-1917
Gweithwyr Ffatri Sieliau Genedlaethol Abertawe tua 1915-1917. Abigail James yn eistedd 6ed o’r dde rhes flaen.
Asa Fish
Man geni: Abertawe ?
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel
Nodiadau: Roedd Ada 22 oed o Hafod, Abertawe, yn gweithio mewn ffatri gwneud arfau rhyfel yn Sheffield lle’r enillodd hi £1 yn wobr mewn cystadleuaeth harddwch a noddwyd gan y Sheffield Telegraph
Cyfeirnod: WaW0482
Adroddiad a llun papur newydd
Ada Fish mewn gwisg gweithwraig ffatri arfau rhyfel. Y Cambrian Daily Leader, 8 Ebrill 1919
Lizzie John[s]
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Cofeb: Senotaff, Egwlys S Stephen, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Claddwyd yng Nghladdfa Glyn Ebwy
Cyfeirnod: WaW0032
Jane M Jones
Man geni: Llandeiniol
Gwasanaeth: Metron, RRC
Cofeb: Plac i'r rhai fu yn gwasanaethu, Eglwys Sant Deiniol, Llandeiniol, Ceredigion
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/ceredigion-war-memorials; http://1914-1918.invisionzone.com/forums/index.php?showtopic=149755
Cyfeirnod: WaW0035
Olwen Jones (née Lewis)
Gwasanaeth: Gwraig, mam
Nodiadau: Fy Mam-gu, Olwen Jones, a'i dwy ferch, Dora Louise, chwith, dwy oed a Frances, chwith, tri mis ar ddeg yn iau. Tynnwyd y llun yn 1916 pan gafodd fy nhad-cu (Percy Jones Y Gatrawd Gymreig ) ei orfodi i ymuno â'r fyddin a'i anfon i Ffrainc. Cafodd ei anafu ond dychwelodd i Abercarn a chawsant ddau blentyn arall wedi'r rhyfel (Rosemary Scadden)
Cyfeirnod: WaW0036
Olwen Jones gyda
Olwen Jones gyda'i merched Dora a Frances; Tynnwyd y llun pan gafodd ei g?r, Percy Jones, ei gonsgriptio yn 1916.
Fanny Irene Sprake Jones
Man geni: Caerfyrddin
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNS
Marwolaeth: 1919-06-11, Achos anhysbys
Cofeb: Cofeb Ryfel, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Nodiadau: 36 oed. Ymgymhwysodd yn Ysbyty Coleg y Brenin , Llundain , Mai 1913
Cyfeirnod: WaW0037