English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r casgliad


Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth

Annie M Evans

Man geni: Cwmdar c.1872

Gwasanaeth: Nyrs, SWH, 1915 - 1916

Nodiadau: Cyn fetron Ysbyty Twymyn Blackburn oedd Annie Evans. Ymunodd ag Ysbyty Menywod yr Alban yn Valjevo, Serbia yn 1915. Cymerwyd hi a’r uned yr oedd yn ei gwasanaethu yn garcharorion rhyfel gan yr Awstriaid ar 10fed Tachwedd 1915. Wedi misoedd o ddadlau gan Dr Alice Hutchinson, Pennaeth yr uned cafodd hi a 32 arall eu hanfon adre i Brydain.

Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/

Cyfeirnod: WaW0111


Gertrude Fairclough

Man geni: Sir Gaerhirfryn , 1880

Gwasanaeth: Gwraig a Mam

Nodiadau: Roedd Gertrude Fairclough yn wraig i’r Uwchgapten Rowland Fairclough, Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a threuliodd ei bywyd priodasol yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Yn ôl traddodiad teuluol symudodd hi i westy yn syth wedi i’w gwr ymuno â’i gatrawd yn Ffrainc (er ei fod yn 48 oed yn 1914).

Cyfeirnod: WaW0076

Gertrude Fairclough née Appleby, gwraig yr Uwchgapten Rowland Fairclough, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

Gertrude Fairclough tua 1915

Gertrude Fairclough née Appleby, gwraig yr Uwchgapten Rowland Fairclough, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig


Jane Fisher

Man geni: Cydweli

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel

Nodiadau: Derbyniodd MOBE am ei dewrder yn helpu yn stopio tân mewn ffatri ffrwydron er bod ei bywyd hi ei hun mewn cryn berygl.

Ffynonellau: The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser;

Cyfeirnod: WaW0019

adroddiad am y cyflwyniad yn y Carmarthen Journal and South Wales Advertiser, 19 Ebrill, 1918

Adroddiad papur newydd

adroddiad am y cyflwyniad yn y Carmarthen Journal and South Wales Advertiser, 19 Ebrill, 1918

Llun papur newydd Jane Fisher

Jane Fisher

Llun papur newydd Jane Fisher


Dyfyniad am MoBE Jane Fisher, London Gazette 10 Ionawr 1918

Dyfyniad

Dyfyniad am MoBE Jane Fisher, London Gazette 10 Ionawr 1918


Elizabeth Foulkes

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel

Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg

Nodiadau: 28 oed. Claddwyd yn eglwys Sant Mihangel, Rhydaman

Cyfeirnod: WaW0022

Enw Elizabeth Foulkes, Senotaff Abertawe

Senotaff Abertawe

Enw Elizabeth Foulkes, Senotaff Abertawe


Olive Francis

Gwasanaeth: Ymgyrchydd dros Heddwch

Ffynonellau: Pioneer 28 Gorffennaf 1917

Cyfeirnod: WaW0023

Hysbyseb am gyfarfod cysylltiedig â Phererindod Heddwch Menywod, Pioneer 28 Gorffennaf 1917

Hysbyseb papur newydd

Hysbyseb am gyfarfod cysylltiedig â Phererindod Heddwch Menywod, Pioneer 28 Gorffennaf 1917


Dorothy Gibbon

Man geni: Clydach

Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1918

Nodiadau: Gweithiodd Dorothy Gibbons, athrawes, yn Fintai Atodol Wirfoddol, VAD yn Ysbyty Atodol Quarr, Clydach, Cwm Tawe. Priododd Benjamin Clatworthy yn 1923.

Cyfeirnod: WaW0102

Dorothy Gibbon VAD


Benjamin Clatworthy


Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Dorothy Gibbon

Cerdyn y Groes Goch

Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Dorothy Gibbon


Amy Goodwin

Man geni: Cefn Mawr?

Gwasanaeth: Clerc, WAAC/QMAAC, 1917 - 1919

Nodiadau: Gwirfoddolodd Amy Goodwin i ymuno â’r WAAC yn 1917. Ar ôl hyfforddi yng Ngwersyll Cinmel, Bodelwyddan, anfonwyd hi i Bourges yn Ffrainc i weithio’n gofnodydd i’r Fyddin Alldeithiol Americanaidd. Mae ei chasgliad o ffotograffau o’i chyfnod yn Ffrainc ar adnau yn Archifdy Gorllewin Morgannwg.

Ffynonellau: http://www3.swansea.gov.uk/CalmView/Overview.aspx?s=Amy+Goodwin

Cyfeirnod: WaW0123

Amy Goodwin yn Frainc, 1919

Amy Goodwin

Amy Goodwin yn Frainc, 1919

Tystysgrif yn cymeradwyo gwaith Amy Goodwin yn Bourges

Tystysgrif

Tystysgrif yn cymeradwyo gwaith Amy Goodwin yn Bourges


WAACau newydd yn dangos eu bandiau braich

Bandiau braich

WAACau newydd yn dangos eu bandiau braich

‘Jeff a Billie’ yn gwneud tasgau’r Sul

QMAACau

‘Jeff a Billie’ yn gwneud tasgau’r Sul


QMAACau mewn gwisgoedd ffansi, Ffrainc 1919

Gwisg ffansi

QMAACau mewn gwisgoedd ffansi, Ffrainc 1919

Grŵp o WAACau /QMAACau, yn Bourges mwy na thebyg

Gorymdeithio

Grŵp o WAACau /QMAACau, yn Bourges mwy na thebyg


Swyddogion WAAC yng Ngwersyll Cinmel, Bodelwyddan

Swyddogion WAAC

Swyddogion WAAC yng Ngwersyll Cinmel, Bodelwyddan

Amy Goodwin (ail ar y chwith) a ffrindiau gyda GIau

QMAACau a GIau

Amy Goodwin (ail ar y chwith) a ffrindiau gyda GIau


Amy a ffrind ar daith yn y ffosydd, Baillie Fields, Soissons

Taith y ffosydd 1

Amy a ffrind ar daith yn y ffosydd, Baillie Fields, Soissons

Amy a ffrind ar daith yn y ffosydd, Baillie Fields, Soissons. Mae corff Almaenwr yn y blaen.

Taith y ffosydd 2

Amy a ffrind ar daith yn y ffosydd, Baillie Fields, Soissons. Mae corff Almaenwr yn y blaen.


Olivia Griffiths

Man geni: Cilgerran

Gwasanaeth: Darlithydd

Nodiadau: Roedd Olivia Griffiths yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn adran Addysg Coleg y Brifysgol Aberystwyth yn 1916. Yn ddiweddarach symudodd i Goleg y Normal Bangor (1920au).

Cyfeirnod: WaW0081

Olivia Griffiths mewn gwisg academaidd, tua 1910. Enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth er bod ei mam wedi marw yn ystod cyfnod yr arholiadau

Olivia Griffiths mewn gwisg academaidd tua 1910

Olivia Griffiths mewn gwisg academaidd, tua 1910. Enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth er bod ei mam wedi marw yn ystod cyfnod yr arholiadau

Olivia Griffiths yn ferch ysgol (yn sefyll nesaf at yr athro) tua 1905

Olivia Griffiths yn ferch ysgol (yn sefyll nesaf at yr athro);

Olivia Griffiths yn ferch ysgol (yn sefyll nesaf at yr athro) tua 1905


Edith Haines (Spridgeon)

Gwasanaeth: Tocynwraig

Nodiadau: Edith Haines oedd un o’r tocynwragedd bws cyntaf yn Abertawe

Cyfeirnod: WaW0074

Edith Haines yn iwnifform tocynwraig bws

Edith Haines

Edith Haines yn iwnifform tocynwraig bws

Edith Haines (née Spridgeon, ar y dde), gyda Maggie (anhysbys, ar y chwith) a Nellie Williams (née Spridgeon, chwaer Edith)  yn y canol

Edith Haines (née Spridgeon, ar y dde), gyda Maggie (anhysbys, ar y chwith) a Nellie Williams (née Spridgeon, chwaer Edith) yn y canol


Emmy (Mary Emily) Harvey ((Harries yn ddiweddarach))

Man geni: Abertawe

Gwasanaeth: Tocynwraig Bws, 1914 - 1918

Nodiadau: cofnodwyd gan Gr?p Hanes Menywod Abertawe 08/08/1983. Darparwyd y ffeil gan Jen Wilson.

Cyfeirnod: WaW0024

 Adroddiad Emmy Harvey,Tocynwraig

Account of Emmy Harvey

Adroddiad Emmy Harvey,Tocynwraig



Administration