Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Arvona (Fona) Powell Jones
Man geni: Gorseinon 10fed Gorffennaf 1913
Gwasanaeth: Plentyn
Nodiadau: Cadarnhaodd Fona ei chyfeiriad a’i dyddiad geni: Gorffennaf 10fed 1913. Adroddodd stori am ei mam adeg y Rhyfel Byd Cyntaf yn gofyn iddi, pan gafodd ei thad ‘call-up’, ‘ Ych chi ddim am i’ch tad fynd i ryfel ych chi?’ a hithau’n ateb ‘Ww - ydw!’ achos roedd hi wedi gweld ei hwncwl – ac yntau ar y môr - mewn iwnifform a chwisl am ei wddwg. Credai y byddai ei thad felly yn cael chwisl ac iwnifform hefyd. Felly roedd wrth ei bodd i feddwl y byddai ei thad yn cael iwnifform a chwisl. Ond mae’n cofio wyneb ei mam yn cwympo ‘O! oedd hi’n siomedig ofnadw bo fi wedi gweud bo fi’n moyn i 'nhad fynd i ryfel.’ Ond roedd ei thad yn gweithio yn y gwaith dur ac roedd angen dur adeg y rhyfel ac felly yno fuodd e drwy’r rhyfel. Ond roedd ei thad yn gweithio yn y gwaith dur ac roedd angen dur adeg y rhyfel ac felly yno fuodd e drwy’r rhyfel.Enwau ei rhieni oedd Mary Ann Powell a Richard Jones; ei thad o Gydweli a’i mam o ardal Gorseinon. Bu ei thad yn gweithio yn y gwaith dur yng Nghydweli hefyd.Sonia hefyd am wncwl iddi, Brynmor, oedd yn y llynges ond roedd yn gas ganddo’r rhyfel. Ar derfyn y rhyfel rhoddodd e’i ddillad llynges i’w mam a dweud wrthi am wneud beth fynnai hi â nhw. Gwnaeth hithau ffrog i Fona o’r bell-bottoms - o ‘serge’ ac ychwanegodd flodau yn addurn. Byddai’n ei gwisgo drwy’r amser - i’r capel a phopeth. Roedd hi tua 5-6 oed ar y pryd. Mae’n cofio ei gwisgo a siglo ar gangen colfen ynddi. Collwyd brawd ei mam (Tom – 1915 o restr achau’r teulu) yn ystod y Rhyfel – o deiffoid pan oedd yn Crystal Palace. Mae llun ganddi o briodas adeg y Rhyfel a’r dynion mewn du i gyd i’w goffáu. Cafodd brawd arall ei mam (Baden) ei alw i fyny ond pan gyrhaeddodd y lle bwyta roedd platiau yn hedfan ar hyd y lle oherwydd roedd y Cytundeb Heddwch newydd gael ei arwyddo. A dyna’r cyfan welodd e o’r rhyfel. Cofia Fona hefyd sut y bu i’w mam, dros gyfnod y rhyfel, symud y model o eryr a oedd ar ben cloc tad-cu’r teulu a’i storio mewn dror, gan ei fod yn symbol ac atgof o’r Almaen. Ar derfyn y rhyfel rhoddwyd yr eryr yn ôl yn ei le priodol ar ben y cloc! rn ‘Mae cof yn beth od on’d yw e!’
Ffynonellau: fona_jones_gorseinon.wave_sound
Cyfeirnod: WaW0075
Priodas deuluol yn dangos Fona Jones yn aneglur ar y chwith rhes flaen.
Priodas deuluol yn dangos Fona Jones yn aneglur ar y chwith rhes flaen. Mae’r dynion i gyd mewn du i fwrnio marw ewyrth Fona, Tom a fu farw yn 1915
Lily Tobias (Shepherd)
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Awdur, actifydd, cenedlaetholwraig
Nodiadau: Roedd Lily yn ferch i rieni Iddewig Rwsaidd a ffodd o Rwsia i osgoi gorfodaeth filwrol, a setlo yn Abertawe ac yna Ystalyfera; hi oedd y plentyn cyntaf a anwyd iddynt yng Nghymru. Dechreuodd ysgrifennu i Llais Llafur yn 14 oed, ac roedd yn gefnogol iawn i achosion rhyddfreinio menywod, y Blaid Lafur Annibynnol a gweithgareddau heddychwyr. Roedd ei brodyr yn wrthwynebwyr cydwybodol. Disgrifir hi gan y gwleidydd Llafur, Fenner Brockway, fel “heddychwraig weithredol a rhyfelgar … a ddangosodd ddyfeisgarwch a dewrder mawr yn herio’r awdurdodau ac yn helpu’r rhai oedd yn ceisio osgoi cael eu galw i fyny, a’r rhai yn y carchar.” Yn ddiweddarach bu’n brwydro dros achos sefydlu’r wladwriaeth Iddewig , ac ysgrifennodd sawl nofel.
Ffynonellau: Jasmine Donahaye The Greatest Need: The creative life and troubled times of Lily Tobias, a Welsh Jew in Palestine. Honno 2015 https://wciavoices.wordpress.com/2016/12/07/the-shepherd-family-of-ystalyfera-and-pontypridd-in-the-first-world-war
Cyfeirnod: WaW0245
Doris Quane
Man geni: Ynys Mannaw
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Cofeb: Bedd Rhyfel, Boddelwyddan, Sir Ddinbych
Nodiadau: 28 oed. Claddwyd ym mynwent Sant Mihangel, Rhydaman
Ffynonellau: http://www.flintshirewarmemorials.com/memorials/bodelwyddan-memorial/canadians-2/quane-doris/
Cyfeirnod: WaW0047
Bedd rhyfel Doris Quane
Bedd rhyfel Doris Quane, QMAAC, wedi ei amgylchynu gan feddau milwyr o Ganada
Hannah Rees
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Cofeb: Rhestr Anrhydedd Capel y Garn, Rhydypennau, Ceredigion
Nodiadau: Ymddengys iddi wasanaethu a goroesi
Cyfeirnod: WaW0048
Capel y Garn
Enw Hannah Rees, Bronceiro, VAD, a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhestr Anrhydedd Capel y Garn
Rebecca Rees
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Cofeb: Rhestr Anrhydedd Capel y Garn, Rhydypennau, Ceredigion
Nodiadau: Ymddengys iddi wasanaethu a goroesi
Cyfeirnod: WaW0049
Capel y Garn
Enw Rebecca Rees, Bronceiro, VAD a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Coflech Capel y Garn
Mimmi (Sarah) Richards
Gwasanaeth: Mam
Nodiadau: Fy mam, Mimmi (Sarah) a’i chwaer, Edith, ar y chwith, wrth fedd Tom, tua1920; y Gynnwr Thomas Sidney Richards,‘a laddwyd mewn brwydr’, Armentieres, Ffrainc, 14 Mawrth 1918, 20 mlwydd oed.
Cyfeirnod: WaW0079
Sarah (Mimmi) ac Edith Richards
Ffotograff o Mimmi (Sarah) ac Edith Richards, Mam a chwaer y Gynnwr Thomas Sidney Richards, ar lan ei fedd yn Ffrainc, tua 1920
Edith Richards
Gwasanaeth: Chwaer
Nodiadau: Fy mam, Mimmi (Sarah) a’i chwaer, Edith, ar y chwith, wrth fedd Tom, tua1920; y Gynnwr Thomas Sidney Richards,‘a laddwyd mewn brwydr’, Armentieres, Ffrainc, 14 Mawrth 1918, 20 mlwydd oed.
Cyfeirnod: WaW0080
Edith a Mimmi (Sarah) Richards
Ffotograff o Edith a Mimmi (Sarah) Richards, Mam a chwaer y Gynnwr Thomas Sidney Richards, ar lan ei fedd yn Ffrainc, tua 1920
Charlotte Emma (Lottie) Roberts
Man geni: Abergwyngregyn ger Bangor, 1883
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 - 1919
Nodiadau: Ymunodd Charlotte (Lottie) Roberts â’r Fintai Gymorth Wirfoddol (VAD) yn Awst 1914. Ar ôl cyfnod yn nyrsio yn Lincoln cafodd ei hanfon i Calais ym Mehefin 1916. Roedd mor falch o’i hiwnifform gwisgodd hi ar gyfer ei phriodas yn Llundain yn 1919 neu 1920. Enillodd y Groes Goch Frenhinol.
Cyfeirnod: WaW0099
Lottie Roberts Mintai Gymorth Wirfoddol (VAD);
Lottie Roberts yn iwnifform y Fintai Gymorth Wirfoddol ( VAD);
Gwenllian Elizabeth Roberts
Man geni: Llangynidr
Gwasanaeth: Chwaer Nyrsio, QAIMNS Reserve
Nodiadau: Enillodd Gwenllian Roberts y Groes Goch Frenhinol am ei gwasanaeth yn Ysbyty Milwrol Canolog Chatham, swydd Caint.
Cyfeirnod: WaW0115
Gwenllian Elizabeth Roberts
Y Chwaer Gwenllian Elizabeth Roberts QAIMNSR yn gwisgo ei medal Croes Goch Frenhinol
Croes Goch Frenhinol Gwenllian Roberts
Croes Goch Frenhinol y Chwaer Gwenllian Roberts, a enillodd ar Awst 5ed 1919.
Yr Edinburgh Gazette yn rhestru gwobr y Chwaer Roberts
Yr Edinburgh Gazette yn rhestru gwobr y Chwaer Roberts, Awst 5ed 1919 (8fed yn y golofn ar y dde)
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am wobr y Chwaer Roberts, Llais Llafur Hydref 25ain 1919
Gertrude Rosewarne
Man geni: Glyn Ebwy
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Gweithiai Gertrude Rosewarne yn ddisgybl-athrawes yn 1911. Ymunodd â’r Fintai Gymorth Wirfoddol (VAD) yn gynnar yn ystod y Rhyfel, yn gyntaf yn y Fenni ac yna yng Nglyn Ebwy. Casglodd gyfraniadau gan nifer o’i chleifion yn ei halbwm llofnodion.
Cyfeirnod: WaW0100