Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Mathilde Augusta Lilian Laloe
Man geni: Caerfyddin 1877
Gwasanaeth: Gweinyddwraig, SWH, 1916 - 1920
Nodiadau: Roedd Lilian Laloe yn ferch i Auguste Felix Laloe, athro o Ffrainc a ddaeth yn brifathro Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth yn 1874. Ymunodd hi âg Ysbytai Menywod yr Alban yn gogydd, ond cafodd ei dyrchafu yn Weinyddwraig ymhen dim.
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0086
Lilian Laloe, (cefn, ail o’r chwith)
Lilian Laloe (cefn, ail o’r chwith) gyda Doctoriaid Ysbyty Menywod yr Alban, Salonica, 1917?
Margaret Ann Lloyd
Man geni: Treforys 1894
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Nodiadau: Margaret Ann Lloyd o Dreforys (ar y chwith) a ffrind (anhysbys) pan oeddent yn gweithio yn Ffatri Ffrwydron Rhyfel Mannesman yn cynhyrchu sieliau yn Nhreforys - oedran 20au cynnar tua 1914-8
Cyfeirnod: WaW0084
Margaret Ann Lloyd (L) a ffrind
Margaret Ann Lloyd (yn eistedd) a ffrind, Ffatri Ffrwydron Mannesman, Treforys, tua 1915 neu 1916
Gertrude Madley
Man geni: Llanelli, 1892
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS Reserve / Wrth gefn, September 1916 - May 1920
Nodiadau: Roedd Gertrude Madley yn ferch i rolerwr yn y gwaith tun, a gweithiai yn y gwaith hwnnw cyn hyfforddi’n nyrs yn Abertawe yn 1913. Ymunodd â Gwasanaeth (wrth gefn) Nyrsio Milwrol Ymerodrol y Frenhines Alexandra yn nyrs staff ym mis Medi 1916. Yn ddim ond tair ar hugain oed roedd ymhlith y nyrsys ieuengaf i wasanaethu gyda’r Adfyddin yn ystod y Rhyfel Mawr. Gwasanaethodd ym Malta i ddechrau ac yna yn Ffrainc, 1918 – 1920.
Ffynonellau: http://greatwarnurses.blogspot.co.uk/2014/09/from-small-acorns-mighty-oaks-grow.html
Cyfeirnod: WaW0098
Alice Meldrum
Man geni: Trefor, Llangollen, 1880
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS Reserve / Wrth gefn, 1914 - 1920
Nodiadau: Goroesodd Alice Meldrum pan suddodd Llong Ysbyty HMHS Anglia ar 17eg Tachwedd 1915. Roedd y llong yn cario dynion clwyfedig o Boulogne i Folkestone pan drawodd ffrwydryn. Yn ei hadroddiad disgrifia Alice sut y carion nhw gymaint â phosibl i fyny ar y dec, a sut y taflodd y rhai oedd yn gallu eu hunain i’r môr. Gostyngwyd eraill i fad achub, ond yn anffodus dim ond un bad y llwyddwyd i’w ostwng gan fod y llong yn suddo mor gyflym. Cadwodd y cleifion eu pennau’n rhyfeddol, meddai. Doedd dim panig o gwbl, a phan gofir eu bod yn dioddef o aelodau wedi’u torri, clwyfau difrifol a thrychiadau ym mhob achos bron, mae’n destament i’w gwir ysbryd, eu gwroldeb a’u dewrder, oherwydd mae’n rhaid eu bod yn dioddef poenau arteithiol. Pan oedd y criw yn hollol fodlon nad oedd yn bosibl o gwbl i gael rhagor o gleifion allan, oherwydd erbyn hyn roedd trwyn y llong wedi mynd dan y d?r, a dim ond y starn uwchben y d?r, gyda’r propelorau yn troi’n gyflym tu hwnt ac yn ein dallu ag ewyn, yna aethant i lawr ar y llyw a neidio i’r môr. Achubwyd tri chant o’r clwyfedig a’r criw gan longau’r llynges a llongau eraill a oedd yn yr ardal. Disgrifia Alice ochr ddoniol y sefyllfa hefyd, oherwydd bydden nhw wedi edrych yn rhyfedd iawn yn y dilladach gwahanol a gawsent gan swyddogion a dynion y llongau distryw, a wnaeth bopeth y gallent i ofalu amdanynt. Pwysleisia nad yw 40 munud yn y d?r yn Nhachwedd y math o ymdrochi y byddai llawer yn dewis ei wneud. Ar ôl pryd da o fwyd ar y Trên Ambiwlans, cyn pen dim roeddent ar eu ffordd i Lundain. Enillodd Alice Meldrum y Groes Goch Frenhinol ac ysgrifennodd adroddiad byr am ei phrofiadau. Treuliodd weddill y Rhyfel yn gweithio mewn ysbytai maes yn Ffrainc.
Ffynonellau: http://greatwarnurses.blogspot.co.uk/2009/11/sinking-of-hospital-ship-anglia.html
Cyfeirnod: WaW0101
Mary Morgan (née Corfield)
Man geni: Abertawe c.1890
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Bu’r siaradwraig yn nyrsio yn adeilad yr YMCA yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gweithient o 6 y bore tan 2 y prynhawn. Ymhen amser cawsant ystafelloedd sengl i fyny’r grisiau gan weithio o 6 tan 10.30 a chael cinio canol dydd. Gweithient yn galed iawn a gwneud fel y dywedid wrthynt. Roedd swyddogion y fyddin, ac roedd yn rhaid iddynt ddilyn eu gorchmynion e.e. sefyll i fyny. Aeth hi i’r wyrcws (ar Mount Pleasant) i ddechrau hyfforddi a bu wedyn yn ward ddamweiniau Ysbyty Abertawe - gwelon nhw lawer yno. Ai’r milwyr yn syth i’r YM o’r dociau neu’r orsaf, gan osgoi Llundain, fe ymddengys. Gwelon nhw anafiadau difrifol. Un peth roedd hi’n ei gasáu (doedd gwaed ddim yn ei phoeni) - oedd rhoi rhwymynnau ar socedi gwag llygaid. Roedden nhw’n gweithio’n galed.Doedd dim llawer ar gyfer merched ifanc - roedd rhai yn gyrru ceir … ac yn gwisgo caci. Doedd ei thad byth yn gadael iddi adael cartref, ond roedd nyrsio yn ystod y rhyfel yn wahanol. Rhoddodd e lwfans da o £60 y flwyddyn iddi. Cynghorodd hi i edrych ar ei hôl ei hun a pheidio mynd i ddyled. Roedd hi’n caru (nyrsio). Roedden nhw’n tynnu’u pwysau. Roedd yn rhaid iddynt gymryd gorchmynion oddi wrth bobl y byddent wedi codi’u trwynau arnynt gynt. Dim ond Minteioedd Atodol Gwirfoddol (VADs) oedden nhw. Rhyfel yw rhyfel. Cadwon nhw mewn cysylltiad â llawer o’r dynion.
Ffynonellau: Recorded at Bloomfield Care Home, Sketty by Jenny Sabine, c. 1990
Cyfeirnod: WaW0124
M Jane Owen
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Cyfeirnod: WaW0041
Doris Patterson
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Nodiadau: 34 oed. Bu Doris Patterson yn dyst i’r ffrwydrad a laddodd Gwenllian Williams ac Eleanor Thomas. Ni chafodd niwed er mai dim ond ‘dwy lath i ffwrdd ‘ yr oedd hi.
Cyfeirnod: WaW0095
Adroddiad tyst am ffrwydrad
Adroddiad papur newydd; adroddiad tyst – Doris Patterson o ffrwydrad, South Wales Daily Post 18 Ionawr 1919
Violet Phillips
Man geni: Casnewydd 1899
Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC/QMAAC, 1917 - 1919
Marwolaeth: 1919-03-08, Hostel Chadderton, Achos anhysbys
Cofeb: Sant Gwynlliw , Casnewydd, Sir Fynwy
Nodiadau: Roedd hi’n ferch i Mrs C.M.Phillips, 32 Barrack Hill, Casnewydd
Ffynonellau: http://www.cwgc.org/find-war-dead/casualty/390079/PHILLIPS,%20V
Cyfeirnod: WaW0118
A M Davies
Man geni: Llanharan
Gwasanaeth: Nyrs, Not known / anhysbys, 1915 - 1918 ?
Nodiadau: Treuliodd Miss Davies, a oedd yn nyrs broffesiynol, 18 mis yn gynnar yn y rhyfel yn Ysbyty’r Arglwyddes Hadfield yn Wimereux, Ffrainc (yn ddiweddarach Ysbyty Rhif 5 y Groes Goch Brydeinig). Yna gweithiodd yn yr Ysbyty Gymreig yn Netley. Gwobrwywyd hi â’r Groes Goch Brydeinig yn Ionawr 1918.
Cyfeirnod: WaW0393
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Nyrs A M Davies â’r Groes Goch Brydeinig. Glamorgan Gazette 18 Ionawr 1918
Ladas May (Known as Gladys WAAC / in Gelwid yn Gl Powell ( later Pritchard)
Man geni: Cwmaman
Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC/QMAAC, 24/05/1918 - 11/02/1920
Nodiadau: Roedd Ladas Powell dan oedran pan ymunodd â’r WAAC. Bu’n gwasanaethu yng ngwersyll Stonar, ger Sandwich, swydd Caint. Cadwodd Ladas, neu Gladys fel y’i gelwid yn y WAAC) albwm o luniau a dogfennau yn ogystal â chyfraniadau gan ffrindiau a chydweithwyr.
Cyfeirnod: WaW0044