Nodiadau: Roedd Hylda Salathiel, yn un o saith chwaer ac addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd Penybont ar Ogwr. Hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol Merthyr. Am gyfnod bu’n chwaraewraig hoci ryngwladol, gan chwarae i dimau Menywod Penybont a De Cymru. Bu’n nyrsio yn Bournemouth am gyfnod, ond dychwelodd i dde Cymru, lle daliodd y ffliw a bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach. Gwellodd y claf ac anfonodd flodau i angladd Hylda.
Cyfeirnod: WaW0301
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gêm hoci ryngwladol rhwng Menywod de Cymru a Mynwy a Menywod Munster. Glamorgan Gazette 12fed Chwefror 1909
Adroddiad papur newydd
Queenie Parry
Man geni: Glyn Ebwy ?
Gwasanaeth: Nyrs, Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel a chwaraewraig rygbi, VAD, March 1915 – May 1918 Mawrth
Nodiadau: Roedd Queenie yn Aelod o VAD Glyn Ebwy yn wreiddiol, ond cafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Maindiff Court, Y Fenni. Gweithia yno fel nyrs nos am £20 y flwyddyn. Cafodd ei symud i weithio i ffatri arfau Rotherwas , swydd Henffordd. Cynigiodd ddychwelyd i Maindiff Court petai angen.rn
Cyfeirnod: WaW0424
Cerdyn cofnod yr Groes Goch
Cofnod Queenie Parry o’i gwasanaeth gyda’r VAD
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cefn cerdyn Queenie Parry yn nodi manylion ei symud i’r ffatri arfau.
Dorothy Caroline Edmondes (née Nicholl)
Man geni: Brynbuga
Gwasanaeth: Nyrs, masseur, VAD
Marwolaeth: 1963, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Dorothy yn 1871, yn ferch i deulu o dirfeddianwyr ym Merthyr Mawr. Bu farw ei gŵr, yr Uwchgapten Charles Edmondes yn 1911. Ymunodd â’r VAD yn 1915 yn nyrs, ond roedd wedi hyfforddi rywdro mewn tylino cyrff (ffisiotherapi). Yn 1917 sefydlodd glinig orthopedig i gleifion allanol yn Ysbyty’r Groes Goch ym Mhenybont ar Ogwr, lle roedd hi yn brif dylinwraig, swydd y bu ynddi tan 1922. Enillodd OBE yn y flwyddyn hon am ei gwaith gyda milwyr clwyfedig ym Mhenybont. Safodd Dorothy Edmondes yn ymgeisydd Ceidwadol dros Ogwr yn etholiad cyffredinol 1922.
Cyfeirnod: WaW0296
Dorothy Edmondes
Dorothy Edmondes mewn gwisg nyrs
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn cofnod ar gyfer Mrs Dorothy Edmondes
Cerdyn cofnod y Groes Coch (cefn)
Cerdyn cofnod ar gyfer Mrs Dorothy Edmondes (cefn)
Datganiad OBE
Datganiad o OBE Dorothy Edmondes, London Gazette 2 Ionawr 1922
Kate Phyllis Davies (Lyons)
Man geni: Tregaron
Gwasanaeth: Nyrs, Penswyddog
Nodiadau: Roedd Phyllis Davies yn Benswyddog Brigâd Ceredigion o’r VADs, ac felly hefyd ei chwaer a Phenswyddog Cynorthwyol Ysbytai yn Aberystwyth. Dywedir iddi wirfoddoli gyda’r Groes Goch Americanaidd yn Rhyfel Sbaen America yn 1898. Ei chwaer oedd Margaret (Peggy) Lyons [gweler]
Cyfeirnod: WaW0281
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cofnod am waith Kate Phyllis Davies gyda’r Groes Goch.
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cofnod am waith Kate Phyllis Davies gyda’r Groes Goch.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am waith Mrs Davies a’r Chwaer Lyons, Carmarthen Journal 30ain Mehefin 1916.
Nodiadau: Cychwynnodd Ethel Booker ei gwasanaeth yn Tuscar House yn forwyn-cegin wirfoddol, ond daeth yn swyddog cyflewni effeithiol ym mis Awst 1915. Daeth yn Benswyddog yr Ysbyty wedi marwolaeth ei chwaer Nellie [qv] yn 1917. Dywed ei chofnod gwasanaeth (a lanwyd gan ei mam Caroline [qv]) ei bod yn byw yn yr ysbyty ac na chymerodd wyliau yn ystod 18 mis olaf ei chyfnod yno. Ethel a’i chwaer Dulcie [qv] oedd prif drefnwyr digwyddiadau ar gyfer codi arian a difyrru’r cleifion yn yr ysbyty. rn
Cyfeirnod: WaW0474
Cerdyn Cofnod y Groes Goch
Cofnod y Gores Goch ar gyfer Ethel Booker
Cerdyn Cofnod y Groes Goch (cefn)
Cefn cerdyn Ethel Booker, yn manylu ar ei gwasanaeth, ac a ysgrifennwyd gan ei mam, Caroline Booker.
Tuscar House
Ysbyty’r Groes Goch Tuscar House. Southerndown. Defnyddiwyd y tŷ yn ysbyty yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Matinée Mawreddog yn Sinema Penybont gan filwyr Tuscar House (ac eraill). Glamorgan Gazette 29 Tachwedd 1918
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyflwyniad i Ethel a Dulcie Booker pan gaewyd ysbyty Tuscar House ym mis Ebrill 1919 Glamorgan Gazette 4 Ebrill 1919.
E M Jenkins
Man geni: Glynrhedynog
Gwasanaeth: Optegydd offthalmig
Nodiadau: Cymhwysodd Miss E M Jenkins yn optegydd offthalmig yn Rhagfyr 1914. Mae’n debyg fod hyn yn rhoi iddi ryddid Dinas Llundain
Cyfeirnod: WaW0371
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gymhwyso Miss E M Jenkins yn Optegydd offthalmig. Carmarthen Journal 1af Ionawr 1915.
Edith Moore-Gwyn (née Jepson)
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Penswyddog, VAD, 1914 - 1919
Nodiadau: Ganed Edith Moore-Gwyn yn 1852. Bu hi’n Llywydd neu’n Gadeirydd nifer o gyrff cyhoeddus yn ac o gwmpas Castell Nedd. Iechyd ac addysg oedd ei diddordebau, a sefydlodd hi Ysbyty Atodol y Groes Goch, Laurels yng Nghastell Nedd. Derbyniodd yr OBE ar ddiwedd y Rhyfel.
Cyfeirnod: WaW0178
Edith Moore-Gwyn
Edith Moore-Gwyn yng ngwisg penswyddog gyda’r VAD
Edith Moore-Gwyn (cefn)
Cefn ffotograff o edith Moore-Glyn yn rhestru ei swyddogaethau cyhoeddus.
Alys Bertie Perkins (née Sandbrook)
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Penswyddog a Phwyllgorwraig, British Red Cross
Nodiadau: Roedd Alys Bertie Perkins yn Benswyddog ac Ysgrifennydd Cymdeithas y Groes Goch Abertawe, ac yn benswyddog yng ngofal recriwtio ar draws sir Forgannwg. Erbyn yn gynnar yn 1918 nodid mai yn Abertawe yr oedd y nifer mwyaf o welyau Croes Goch ledled de Cymru. Gwobrwywyd hi â’r OBE yn Ionawr 1918, a disgrifir hi yn y Cambria Daily Leader fel gweithwraig a threfnydd frwdfrydig a phoblogaidd y Groes Goch yn Sgeti.
Cyfeirnod: WaW0369
Alys Bertie Perkins
Llun o Alys Bertie Perkins OBE, rhan o Gasgliadau Menywod mewn Gwaith yr Imperial War Museum. rn
Hysbyseb papur newydd
Hysbyseb ar gyfer cwrs Croes Goch mewn Cymorth Cyntaf a nyrsio. Cambria Daily Leader 22ain Chwefror, 1916.
Edinburgh Gazette
Atodiad i’r Edinburgh Gazette, yn cynnwys gwobrwyo Alys Bertie Perkins â’r OBE, Ionawr 9fed 1918.
Nodiadau: Deuai’r Arglwyddes Hughes o deulu yng ngogledd Cymru a phriododd Syr Thomas Hughes, gwleidydd yng Nghaerdydd. Yn ystod y Rhyfel roedd yn aelod o bwyllgor Corfflu Argyfwng y Menywod, Cymdeithas y Milwyr, y Llongwyr a’u Teuluoedd, Cymdeithas Nyrsio Ardal a sawl corff arall. Roedd hefyd yn Benswyddog Cantîn Arfau Rhyfel, Grangetown, Caerydd ac enillodd yr OBE am hyn yn 1918.
Cyfeirnod: WaW0330
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am lwyddiannau Phyllis Hughes ar ddiwedd adroddiad am ddyrchafu ei gŵr yn farchog. Glamorgan Gazette 7fed Ionawr 1916
Datganiad
Datganiad OBE yr Arglwyddes Hughes. The London Gazette, 7 Mehefin, 1918.
Auriol Jones
Man geni: Llanbedr, Crughywel
Gwasanaeth: Pianydd
Nodiadau: Roedd Auriol a’i chwaer Beatrice Eveline yn gerddorion proffesiynol. Yn ogystal â dilyn gyrfa broffesiynol (bu’n unawdydd mewn tri Chyngerdd Promenâd yn y Queen’s Hall, Llundain) byddai hi a’i chwaer yn perfformio’n rheolaidd mewn cyngherddau i godi arian i’r Groes Goch o gwmpas Cymru. At hyn teithiodd i Malta yn 1916 yn un o Bartïon Cyngerdd Lena Ashwell, ac i Ffrainc yn 1917 fel rhan o un arall; ‘rhodd oddi wrth y Cymry’.
Cyfeirnod: WaW0225
Auriol Jones
Auriol Jones, pianydd cyngerdd
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am barti cyngerdd Auriol yn mynd i Malta. Brecon County Times 28 Medi 1916
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y Parti Cyngerdd o Gymru. Canbrian Daily Leader 29 Hydref 1917
Gwahoddiad
Gwahoddiad i gyngerdd ‘Croeso Gartref Fechgyn’, Rhagfyr 23ain 1919