English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r casgliad


Trefnwyd yn ôl galwedigaeth

Violet Williams

Gwasanaeth: Plismones, nyrs gynt, Ministry of Munitions Women’s Police Service

Nodiadau: Roedd Violet Williams, a Muriel Richards [qv], yn rhan o ymgyrch ar 28ain Rhagfyr 1918 i ddinoethi dwy fenyw dweud ffortiwn yn Nhanerdy, Abergwili. Dwedodd y fenyw dweud ffortiwn gyntaf, Eleanor Rees, wrth Violet fod dyn tywyll yn ei charu, a’i fod wedi ysgrifennu llawer o lythyron ati ond nad oedd hi wedi eu derbyn. Pan ofynnwyd iddi a oedd wedi ysgrifennu at ddyn, atebodd Violet ‘Ydw – dwi wedi ysgrifennu at fy mrawd sawl gwaith.’ Talodd 6c. am y sesiwn. Mary Evans oedd yr ail fenyw dweud ffortiwn yr ymwelodd y ddwy blismones â hi yr un bore. Dwedodd wrth Violet fod ‘dyn tywyll .. mewn swydd dda yn y Llywodraeth’ eisiau ei phriodi, ac y byddent yn cael deuddeg o blant yn cynnwys dwy set o efeilliaid! Cododd Mrs Evans 1/- am y sesiwn. Cafwyd y ddwy fenyw dweud ffortiwn yn euog a’u dirwyo 5/- yr un.

Cyfeirnod: WaW0446

Rhan o adroddiad y llys am achos llys dwy fenyw dweud ffortiwn; Roedd Violet Williams yn un o ddau dyst yr heddu. Carmarthen Journal 10 Ionawr 1919.

Adroddiad papur newydd

Rhan o adroddiad y llys am achos llys dwy fenyw dweud ffortiwn; Roedd Violet Williams yn un o ddau dyst yr heddu. Carmarthen Journal 10 Ionawr 1919.


Muriel Richards

Gwasanaeth: Plismones, nyrs gynt, Ministry of Munitions Women’s Police Service

Nodiadau: Roedd Muriel Richards, a Violet Williams [qv], yn rhan o ymgyrch ar 28ain Rhagfyr 1918 i iddinoethi dwy wraig dweud ffortiwn yn Nhanerdy, Abergwili. Dwedodd y fenyw gyntaf, Eleanor Rees, wrth Muriel y byddai’n priodi dyn ifanc hardd, ac y byddai ei theulu’n gwrthwynebu hynny. Talodd 6c. am y sesiwn. Mary Evans oedd yr ail fenyw dweud ffortiwn yr ymwelodd y ddwy blismones â hi ar yr un bore. Dwedodd wrth Muriel y byddai’n cwrdd â dyn tywyll iawn; byddent yn priodi ac yn cael wyth o blant. Cododd Mary Evans 1/- am hyn. Cafwyd y ddwy fenyw dweud ffortiwn yn euog a chawsant ddirwy o 5/-.

Cyfeirnod: WaW0445

Darn o adroddiad llys am achos llys y ddwy fenyw dweud ffortiwn. Roedd Muriel Richards yn un o ddau dyst yr heddlu Carmarthen Journal 10 Ionawr 1919.

Adroddiad papur newydd

Darn o adroddiad llys am achos llys y ddwy fenyw dweud ffortiwn. Roedd Muriel Richards yn un o ddau dyst yr heddlu Carmarthen Journal 10 Ionawr 1919.


Annie Sanders

Man geni: Caerdydd

Gwasanaeth: Postmones, Post Office / Swyddfa Bost

Nodiadau: Ychydig a wyddys am Annie Saunders, heblaw ei bod yn aelod yn Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Mae’r Roath Road Roamer, a argreffid yn fisol o Dachwedd 1914 ymlaen yn cynnwys gwybodaeth am fenywod yn ogystal â dynion oedd yn gwasanaethu yn y rhyfel. Roedd Annie yn un o’r ‘Road Roamers’. Cyflwynodd y Swyddfa Bost y wisg swyddogol las o frethyn gwrymog sydd amdani yn 1914. Cafwyd y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg (DWESA6)

Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/

Cyfeirnod: WaW0108

Annie Sanders, Postmones, Caerdydd, yn ei gwisg frethyn gwrymiog nefi blw.

Annie Sanders, Postmones

Annie Sanders, Postmones, Caerdydd, yn ei gwisg frethyn gwrymiog nefi blw.


Annie Lillian Thomas (later McLoughlin)

Man geni: Cwm-iou

Gwasanaeth: Postmones, WAAC

Nodiadau: Ymunodd Annie Thomas â’r WAAC ym mis Mehefin 1918, yn 21 oed. Cyn hynny roedd wedi gweithio yn weinyddes yn Ysbyty Frenhinol Gwent. Cafodd ei hanfon i’r Ysbyty Milwrol Awstralaidd, Dartford. Erbyn iddi gael ei rhyddhau yng Ngorffennaf 1919 roedd wedi priodi, er na wyddys unrhyw beth am ei gŵr.

Ffynonellau: National Archives WO-398-153-8

Cyfeirnod: WaW0305

Papur rhyddhau Annie NcLoughlin am resymau tosturiol o’r WAAC.

Papur rhyddhau

Papur rhyddhau Annie NcLoughlin am resymau tosturiol o’r WAAC.

Ffurflen gofrestru Annie Thomas. Mae ei chyfenw a’i statws priodasol wedi cael eu newid. rn

Ffurflen gofrestru WAAC

Ffurflen gofrestru Annie Thomas. Mae ei chyfenw a’i statws priodasol wedi cael eu newid. rn


Ffurflen eirda ar gyfer Annie Thomas.

Geirda

Ffurflen eirda ar gyfer Annie Thomas.


Elizabeth Edmunds

Gwasanaeth: Prif Arolygydd Lles Menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol Pen-bre

Nodiadau: Prif Arolygydd Lles Menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol Pen-bre (Ffatri Arfau Rhyfel). Enillodd yr MBE yn Ionawr 1919.

Cyfeirnod: WaW0139

Elizabeth Edmunds, Elizabeth Edmunds, prif Arolygydd Lles y Menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol, Pen-bre

Elizabeth Edmunds

Elizabeth Edmunds, Elizabeth Edmunds, prif Arolygydd Lles y Menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol, Pen-bre

Cefn ffotograff Elizabeth Edmunds


Etheldreda Morris

Man geni: Penbryn

Gwasanaeth: Prif Arolygydd Lles menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol, Pen-bre

Nodiadau: Enillodd Etheldreda, merch y bardd Cymreig, Lewis Morris, yr MBE am ei gwaith ym Mhen-bre, mewn llythyr a arwyddwyd gan Winston Churchill a oedd yn Weinidog Arfau Rhyfel 1917-1919.

Cyfeirnod: WaW0147

Etheldreda Morris

Etheldreda Morris

Etheldreda Morris (cefn)

Etheldreda Morris (cefn)


Llythyr a arwyddwyd gan Winston Churchill yn dyfarnu’r MBE i Etheldreda Morris. Mai 1918.

Letter

Llythyr a arwyddwyd gan Winston Churchill yn dyfarnu’r MBE i Etheldreda Morris. Mai 1918.


Caroline Jackson Davies

Man geni: Llanymddyfri

Gwasanaeth: Prif arweinydd adrannol Cogyddes, WRNS, 22/05/1918

Marwolaeth: 1918-10-26, Caerfyrddin, illness/salwch

Nodiadau: 22 oed. Claddwyd yn Llandingad

Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-war-memorials/

Cyfeirnod: WaW0005


Mabel Mary Tunley

Man geni: Pontypridd, 1870

Gwasanaeth: Prif Fetron Weithredol, QAIMNS, 1903 - 1925

Nodiadau: Ar ôl gwasanaethu yn Rhyfel y Boeriaid, ymunodd Mabel Tunley â’r QAIMNS yn 1903 yn nyrs staff, gan gael ei dyrchafu’n Brif Fetron Weithredol yn Ffrainc a Fflandrys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymysg anrhydeddau eraill, derbyniodd y Fedal Filwrol am waith eithriadol, yn helpu i gael yr holl gleifion, 260 ohonynt, i lawr i’r seleri ac felly pan fomiwyd yr Orsaf Glirio ni anafwyd yr un claf. Bu ei sirioldeb a’i dewrder yn allweddol yn cadw pawb a ddaeth i gysylltiad â hi i fyny â’r safon. Er iddi gael ei chlwyfo ychydig, parhaodd ar ddyletswydd. Bethune, 7fed Awst 1916

Ffynonellau: http://anurseatthefront.org.uk/names-mentioned-in-the-diaries/other-people/medical-colleagues/mabel-mary-tunley/

Cyfeirnod: WaW0087

Metron Tunley

Mabel Mary Tunley

Metron Tunley

Metron Tunley (cefn)

Mabel Mary Tunley (cefn)

Metron Tunley (cefn)


Caroline Maud Edwards

Man geni: Casnewydd

Gwasanaeth: Prif Nyrs, QARNNS

Marwolaeth: 1915/12/30, Explosion/Ffrwydrad

Cofeb: Cofeb Forol Chatham, Chatham, Caint

Nodiadau: Roedd y Chwaer Edwards yn gwasanaethu ar HMHS Drina, ond ar ymweliad â HMS Natal gydag eraill i weld ffilm Nadolig. Bu farw gydag o leiaf 400 o bobl eraill mewn ffrwydrad diesboniad.

Ffynonellau: http://www.northern-times.co.uk/Opinion/Stones-Throw/The-little-known-tragedy-of-HMS-Natal-07112012.htm

Cyfeirnod: WaW0091

Enw Caroline Edwards, QARNNS, ar Gofeb Forol Chatham

Enw Caroline Edwards ar Gofeb Forol Chatham

Enw Caroline Edwards, QARNNS, ar Gofeb Forol Chatham

Maud Edwards yn iwnifform y QARNNSrn

Maud Edwards

Maud Edwards yn iwnifform y QARNNSrn


Annie Alice Guy

Man geni: Casnewydd

Gwasanaeth: Prif Nyrs, SWH, 1916

Marwolaeth: 1916/08/21, Salonika, Dysentery

Nodiadau: Alice Annie Guy bu farw 21ain Awst 1916, Ysbyty Menywod Albanaidd a Byddin Serbia, Chwaer Nyrs, Cyn-Arolygydd Ysbyty Devonshire, Buxton. Claddwyd yng Nghladdfa Filwrol Salonica (Lembet Road). Ceir ei henw ar lyfr Rhestr Anrhydedd y Rhyfel Byd Cyntaf a gedwir yn Llyfrgell Gyfeirio Casnewydd.

Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/

Cyfeirnod: WaW0142

Enw Alice Annie Guy Rhestr Anrhydedd Casnewydd

Rhestr Anrhydedd Casnewydd

Enw Alice Annie Guy Rhestr Anrhydedd Casnewydd

Adroddiad papur newydd am farwolaeth Sister Guy

Alice Annie Guy

Adroddiad papur newydd am farwolaeth Sister Guy


Rhestr Anrhydedd aelodau o Ysbytai Albanaidd y Menywod fu farw dramor.

Rhestr Anrhydedd

Rhestr Anrhydedd aelodau o Ysbytai Albanaidd y Menywod fu farw dramor.



Administration