Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl galwedigaeth
Arvona (Fona) Powell Jones
Man geni: Gorseinon 10fed Gorffennaf 1913
Gwasanaeth: Plentyn
Nodiadau: Cadarnhaodd Fona ei chyfeiriad a’i dyddiad geni: Gorffennaf 10fed 1913. Adroddodd stori am ei mam adeg y Rhyfel Byd Cyntaf yn gofyn iddi, pan gafodd ei thad ‘call-up’, ‘ Ych chi ddim am i’ch tad fynd i ryfel ych chi?’ a hithau’n ateb ‘Ww - ydw!’ achos roedd hi wedi gweld ei hwncwl – ac yntau ar y môr - mewn iwnifform a chwisl am ei wddwg. Credai y byddai ei thad felly yn cael chwisl ac iwnifform hefyd. Felly roedd wrth ei bodd i feddwl y byddai ei thad yn cael iwnifform a chwisl. Ond mae’n cofio wyneb ei mam yn cwympo ‘O! oedd hi’n siomedig ofnadw bo fi wedi gweud bo fi’n moyn i 'nhad fynd i ryfel.’ Ond roedd ei thad yn gweithio yn y gwaith dur ac roedd angen dur adeg y rhyfel ac felly yno fuodd e drwy’r rhyfel. Ond roedd ei thad yn gweithio yn y gwaith dur ac roedd angen dur adeg y rhyfel ac felly yno fuodd e drwy’r rhyfel.Enwau ei rhieni oedd Mary Ann Powell a Richard Jones; ei thad o Gydweli a’i mam o ardal Gorseinon. Bu ei thad yn gweithio yn y gwaith dur yng Nghydweli hefyd.Sonia hefyd am wncwl iddi, Brynmor, oedd yn y llynges ond roedd yn gas ganddo’r rhyfel. Ar derfyn y rhyfel rhoddodd e’i ddillad llynges i’w mam a dweud wrthi am wneud beth fynnai hi â nhw. Gwnaeth hithau ffrog i Fona o’r bell-bottoms - o ‘serge’ ac ychwanegodd flodau yn addurn. Byddai’n ei gwisgo drwy’r amser - i’r capel a phopeth. Roedd hi tua 5-6 oed ar y pryd. Mae’n cofio ei gwisgo a siglo ar gangen colfen ynddi. Collwyd brawd ei mam (Tom – 1915 o restr achau’r teulu) yn ystod y Rhyfel – o deiffoid pan oedd yn Crystal Palace. Mae llun ganddi o briodas adeg y Rhyfel a’r dynion mewn du i gyd i’w goffáu. Cafodd brawd arall ei mam (Baden) ei alw i fyny ond pan gyrhaeddodd y lle bwyta roedd platiau yn hedfan ar hyd y lle oherwydd roedd y Cytundeb Heddwch newydd gael ei arwyddo. A dyna’r cyfan welodd e o’r rhyfel. Cofia Fona hefyd sut y bu i’w mam, dros gyfnod y rhyfel, symud y model o eryr a oedd ar ben cloc tad-cu’r teulu a’i storio mewn dror, gan ei fod yn symbol ac atgof o’r Almaen. Ar derfyn y rhyfel rhoddwyd yr eryr yn ôl yn ei le priodol ar ben y cloc! rn ‘Mae cof yn beth od on’d yw e!’
Ffynonellau: fona_jones_gorseinon.wave_sound
Cyfeirnod: WaW0075
Priodas deuluol yn dangos Fona Jones yn aneglur ar y chwith rhes flaen.
Priodas deuluol yn dangos Fona Jones yn aneglur ar y chwith rhes flaen. Mae’r dynion i gyd mewn du i fwrnio marw ewyrth Fona, Tom a fu farw yn 1915
Mair Jenkins
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Plentyn
Nodiadau: Ffotograff adeg pen-blwydd efallai o Mair, 7 neu 8 oed. Ganwyd hi ar 18fed Ebrill 1908, ac mae’n gwisgo ‘gwisg nyrs’ newydd sbon.
Cyfeirnod: WaW0125
Ethel Roberts
Man geni: Wrecsam
Gwasanaeth: Plentyn
Marwolaeth: 1916/03.09, Moss, Wrecsam , Explosion / Ffrwydrad
Cofeb: Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, Wrecsam, Sir Ddinbych
Nodiadau: Lladdwyd Ethel, blwydd oed, pan ffrwydrodd siel y daeth ei hewyrth adre â hi fel swfenîr, gan ei lladd hi ac anafu ei chwaer a dwy gyfnither yn angeuol. Anafwyd ei hewyrth y milwr cyffredin John Bagnall yn ddifrifol yn ogystal â’i mam Sarah Roberts a’i modryb Mary Bagnall. Claddwyd y plant mewn dau fedd ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, lle cysegrwyd cofeb i’r pedair merch ym mis Mawrth 2016.
Ffynonellau: http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/wrexham-remembers-four-children-killed-11027982
Cyfeirnod: WaW0220
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ffrwydrad y siel a laddodd bedair merch ac anafu tri oedolyn, North Wales Chronicle 10fed Mawrth1916
Cofeb
Cofeb i Sarah Bagnall, Ethel Roberts, Mary Roberts a Violet Williams ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt a gysegrwyd ym mis Mawrth 2016.
Mary Frances Roberts
Man geni: Wrecsam
Gwasanaeth: Plentyn
Marwolaeth: 1916/03/09, Moss, Wrecsam, Explosion / Ffrwydrad
Cofeb: Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, Wrecsam, Sir Ddinbych
Nodiadau: Bu farw Mary, bedair oed, pan ffrwydrodd siel yr oedd ei hewyrth wedi dod â hi adre yn swfenîr, gan ladd ei chwaer a’i hanafu hi a dwy gyfnither iddi. Anafwyd ei hewyrth y milwr cyffredin John Bagnall yn ddifrifol yn ogystal â’i mam Sarah Roberts a’i modryb Mary Bagnall. Claddwyd y plant mewn dau fedd ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, lle cysegrwyd cofeb i’r pedair merch ym mis Mawrth 1916.
Ffynonellau: http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/wrexham-remembers-four-children-killed-11027982
Cyfeirnod: WaW0219
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ffrwydrad y siel a laddodd bedair merch ac anafu tri oedolyn, North Wales Chronicle 10fed Mawrth1916
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y ffrwydrad yn enwi’r dioddefwyr. Abergavenny Chronicle 17 Mawrth 1916
Adroddiad papur newydd
Cofeb i Sarah Bagnall, Ethel Roberts, Mary Roberts a Violet Williams ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt a gysegrwyd ym mis Mawrth 2016.
Sarah Hannah Bagnall
Man geni: Wrecsam
Gwasanaeth: Plentyn
Marwolaeth: 1916/03/09, Moss, Wrecsam, Explosion / Ffrwydrad
Cofeb: Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, Wrecsam, Sir Ddinbych
Nodiadau: Lladdwyd Sarah, blwydd oed, pan ffrwydrodd siel y daethai ei thad â hi adre’n swfenîr, ac a laddodd neu a anafodd yn ddifrifol hi a’i thair cyfnither. Anafwyd ei mam Mary Bagnall ei thad a’i modryb Sarah Roberst yn ddifrifol hefyd. Claddwyd y plant mewn dau fedd ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, lle cafodd cofeb iddynt ei chysegru ym Mawrth 2016.
Ffynonellau: http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/wrexham-remembers-four-children-killed-11027982
Cyfeirnod: WaW0217
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ffrwydrad y siel a laddodd bedair merch ac anafu tri oedolyn, North Wales Chronicle 10fed Mawrth1916
adroddiad papur newydd
Adroddiad am y ffrwydrad yn enwi’r dioddefwyr.Abergavenny Chronicle 17 Mawrth 1916
Adroddiad papur newydd
Cofeb i Sarah Bagnall, Ethel Roberts, Mary Roberts a Violet Williams ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt a gysegrwyd ym mis Mawrth 2016.
Violet Williams
Man geni: Wrecsam
Gwasanaeth: Plentyn
Marwolaeth: 1916/03/09, Moss, Wrecsam, Explosion / Ffrwydrad
Cofeb: Eglwys y Drindod Sanctaidd , Gwersyllt, Wrecsam, Sir Ddinbych
Nodiadau: Lladdwyd Violet, saith oed, pan ffrwydrodd siel y daeth ei hewyrth adre â hi fel swfenîr, gan ladd neu anafu hi a’i tair cyfnither yn angeuol. Anafwyd ei hewyrth y milwr cyffredin John Bagnall yn ddifrifol yn ogystal â’i modrybedd Sarah Roberts a Mary Bagnall. Claddwyd y plant mewn dau fedd ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, lle cysegrwyd cofeb i’r pedair merch ym mis Mawrth 2016.
Ffynonellau: http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/wrexham-remembers-four-children-killed-11027982
Cyfeirnod: WaW0218
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ffrwydrad y siel a laddodd bedair merch ac anafu tri oedolyn, North Wales Chronicle 10fed Mawrth1916.
Adroddiad papur newydd
Cofeb i Sarah Bagnall, Ethel Roberts, Mary Roberts a Violet Williams ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt a gysegrwyd ym mis Mawrth 2016.
Margaret Watts
Man geni: Llanelli
Gwasanaeth: Plentyn
Nodiadau: Yn Nhachwedd 1915 cynhaliodd Margaret Watts fasâr yn ei chartref, gan werthu ‘ei holl deganau ac addurniadau bach’ dros ddau niwrnod. Cododd hanner gini (10s 6c) tuag at gost Ambiwlans Modur Llanelli
Cyfeirnod: WaW0234
Gladys Butler
Man geni: Y Cymoedd, 1914
Gwasanaeth: Plentyn bach
Nodiadau: Mae gan Gladys Butler atgof byw o gael ei gwisgo mewn iwnifform milwr bychan (tua1916/17) a’i rhoi i sefyll ar fwrdd. Pan edmygwyd y ‘milwr bychan smart’, mynnodd nad bachgen ydoedd ond merch! (CF Tachwedd 2014)
Cyfeirnod: WaW0090
Nancy Davies
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Plentyn yn perfformio
Nodiadau: Gelwid ‘Nancy Davies Fach’ yn ‘Seren Fach Abertawe’. Yn blentyn roedd yn gomediwraig o fri a gymerai ran mewn cyngherddau codi arian yn ardal Abertawe yn 1918 ac yn rheolaidd yn yr Empire, Abertawe. Ymddangosodd hefyd yn yr Empire Caerdydd.
Cyfeirnod: WaW0456
Hysbyseb papur newydd
Enw Nancy Davies ar hysbyseb yr Empire Aberatwe. Cambria Daily Leader 18 Ebrill 1919
Adroddiad papur newydd
Adolygiad am Nancy Davies yn yr Empire Abertawe. South Wales Weekly Post 10 Mai 1919
Sergeant [later Inspector] Guthrie
Gwasanaeth: Plismones, Ministry of Munitions Women’s Police Service
Nodiadau: Dechreuodd Sarsiant Guthrie weithio ym Mhen-bre yn Ebrill 1917. Roedd wedi bod yn gweithio i’r heddlu am beth amser. Yn ôl Gabrielle West [qv] ‘Mae Sarsiant Guthrie yn gwneud y lle hwn yn anghyfannedd. Mae hi’n berson rhyfedd iawn: gwallt wedi ei dorri’n grop fel dyn; corff byrdew a dim gwasg fel dyn, traed mawr fel dyn; a math o lais tenor fel dyn. Yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf, nid oedd merched yn fodlon cael eu harchwilio ganddi: roeddent yn dweud ei bod yn ddyn-dditectif, nid yn blismones o gwbl … Beth bynnag, mae hi’n helbulus ac ychydig yn ansad.’
Ffynonellau: ed Avalon Richards Menus Munitions and Keeping the Peace: The Home Front Diaries of Gabrielle West 1914 -1917. Pen & Sword 2016.
Cyfeirnod: WaW0444
Ministry of Munitions Women’s Police Service
Plismonesau mewn ffatri arfau rhyfel (nid Pen-bre) Efallai mai Sarsiant Guthrie sydd yn y rhes gefn, yn ail o’r dde.