Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Margaret Haig Thomas (Mrs/Lady Mackworth, Lady Rhondda)
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Swffragét, menyw fusnes, Comisiynydd a Rheolwraig, golygydd a chyhoeddwraig, Women’s National Service Department, Ministry of
Marwolaeth: 1958/07/20, Llundain, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Margaret Haig Thomas yn 1883, yn unig ferch i D.A.Thomas AS, Is-iarll y Rhondda a’i wraig Sybil. Roedd cartref y teulu yn Llanwern. Cefnogai’r teulu ryddfreinio menywod, ac ymunodd Margaret â’r WSPU yng Nghasnewydd yn 1909, gan ddatgblygu’n fwyfwy milwriaethus. Ym Mehefin 1913 treuliodd chwe niwrnod yng Ngharchar Brynbuga oherwydd iddi geisio llosgi bocs postio yng Nghasnewydd. Cefnogai’r rhyfel i’r carn ond nid oedd yn cytuno â jingoistiaeth eithafol Emmeline a Christabel Pankhurst. Ar ôl gweithio dros ffoaduriaid o Wlad Belg ar ddechrau’r rhyfel, roedd yn teithio i Efrog Newydd ar fwrdd y Lusitania gyda’i thad pan ymosodwyd ar y llong gan yr Almaenwyr ar 7fed Mai 1915. Goroesodd Margaret a’i thad, ond bu hi’n anymwybodol yn y dŵr am dros ddwy awr [clicliwch ar y cyswllt i weld ei hadroddiad hi a recordiwyd yn 1950 http://www.bbc.co.uk/programmes/p02qvqwp]. Yn 1916 dechreuodd weithio dros Weinyddiaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol yng Nghymru, a Llundain, a daeth yn Gomisiynydd Gwasanaeth Cenedlaethol Menywod yng Nghymru a Sir Fynwy yn gynnar yn 1917, gyda’r cyfrifoldeb dros annog merched a menywod i fyd amaeth. Cyn hir roedd yn recriwtio’n drwm dros annog merched ifanc i ymuno â’r WAAC, yn enwedig i gael rhai i weithio yn glercod y fyddin yn Ffrainc. Roedd angen menywod hefyd ar wasanaethau newydd y WRNS a’r WRAF. Yn Chwefror 1918 penodwyd hi yn Brif Reolwraig Adran y Menywod o Weinyddiaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol. Pan fu farw ei thad yn 1918, etifeddodd Margaret y teitl Arglwyddes Rhondda. Parhaodd ym myd busnes a bywyd cyhoeddus am sawl blwyddyn wedi’r rhyfel.
Ffynonellau: Angela V John Turning the Tide’, Parthian Books 2013 http://www.bbc.co.uk/programmes/p02qvqwp
Cyfeirnod: WaW0257
Hysbyseb papur newydd
Hysbyseb papur newydd am gyfarfod yn Aberhonddu i’w annerch gan Arglwyddes Mackworth. Brecon County Times 12th April 1917
Adroddiad papur newydd
Adrna gyntaf adroddiad hir am brofiadau Arglwyddes Mackworth yn suddo’r Lusitania. Cambrian Daily leader 10fed Mai 1915. Adroddiad llawn – gweler:rnhttp://newspapers.library.wales/search?alt=full_text%3A%22Lady%22+AND+full_text%3A%22Mackworth%22&range%5Bmin%5D=1915-1-01T00%3A00%3A00Z&range%5Bmax%5D=1915-12-31T00%3A00%3A00Z&page=5rn
Adroddiad papur newydd
Adoddiad am ryddhau Mrs Mackworth o Garchar brynbuga. Aberdare Leader 19eg Gorffennaf 1913
Ffotograff o glercod WAAC
FFotograff o glercod WAAC newydd eu recriwtio ar risiau Llysoedd Barn Caerdydd, mehefin 1917. Maent ar fin ymadael am Ffrainc. Mae Margaret Mackworth yn y blaen ar y dde.
Welsh Outlook
Erthygl Margaret Mackworth am Wasanaeth Cenedlaethol i Gymraesau, yn y cylchgrawn Welsh Outlook, Cyf. 4, rhif 7, Gorffennaf 1917
Hysbyseb papur newydd
Hysbyseb am arddangosfa Wythnos Gwaith Rhyfel Menywod a gynhaliwyd yn siop Howells, Caerdydd, Ebrill 1918.
Minnie Pallister
Man geni: Kilkhampton, Cernyw
Gwasanaeth: Athrawes, actifydd, awdur
Marwolaeth: 1960, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Minnie Pallister yng Nghernyw a chafodd ei haddysgu ym mhrifysgol Caerdydd, cyn mynd yn athrawes ym Mryn Mawr. Etholwyd hi’n llywydd Ffederasiwn Sir Fynwy o’r Blaid Lafur Annibynnol yn union cyn dechrau’r Rhyfel yn 1914. Roedd hi’n enwog am siarad am heddwch a’r mudiad Llafur, a hi oedd trefnydd cenedlaethol Cymru y No Conscription Fellowship. At hyn roedd yn bianydd medrus, yn cyfeilio i Gymgeithas Gorawl Menywod Bryn mawr ac eraill mewn cyngherddau codi arian dros y Groes Goch.
Cyfeirnod: WaW0230
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Minnie Pallister yn Llywydd Sir Fynwy y Blaid Lafur Annibynnol, Llais Llafur 1af Awst 1914
Mary Edith Nepean (née Bellis)
Man geni: Llandudno
Gwasanaeth: Nofelydd, artist, colofnydd, Prif Swyddog VAD , VAD, 1914 - 1919
Marwolaeth: 1960, Llandudno ?, Achos anhysbys
Cofeb: Eglwys Sant Tudno, Llandudno, Caernarfon
Nodiadau: Ganwyd Edith Nepean yn 1876: ei thad oedd John Bellis, Gwarcheidwad y Tlodion yn Llandudno. Roedd yn artist talentog, gan ennill medal arian yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1894, yn ogystal â gwobrau paentio a llenyddol mewn eisteddfodau lleol. Priododd Molyneux Edward Nepean yn 1899 a symudodd i dde-ddwyrain Lloegr. Yn 1914 penodwyd hi’n Brif Swyddog Mintai Folkestone o’r Groes Goch, swydd a ddaliodd tan 1919. Cyhoeddodd ei nofel ramantus gyntaf ‘Gwyneth and the Welsh Hills’ yn 1917. Cafodd hon ei gwneud yn ffilm fud yn 1921. Dilynwyd hon gan ‘Welsh love’ a nifer o deitlau tebyg. Ysgrifennai hefyd ar gyfer cylchgronau ffilm cyfredol.
Ffynonellau: https://womenandsilentbritishcinema.wordpress.com/the-women/edith-nepean\r\n http://historypoints.org/index.php?page=grave-of-mary-edith-nepean
Cyfeirnod: WaW0269
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am lwyddiant Edith Bellis yn Eisteddfod 1894. The Weekly News and Visitors’ Chronicle 20fed Gorffennaf 1894.
Gwyneth of the Welsh Hills
Nofel gyntaf Edith, Gwyneth of the Welsh Hills. Dywedir i Lloyd George ei hannog i ysgrifennu.
Cyhoeddusrwydd papur newydd
Cyhoeddusrwydd ar gyfer nofel Edith Welsh Love. Cambria Daily Leader17eg Medi 1919
Lilian Winstanley
Man geni: Manceinon ?
Gwasanaeth: Darlithydd, swffragydd, University College Aberystwyth / Coleg Prifysgol A, 1898 - 1941
Marwolaeth: 1960, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Lilian Winstanley yn fyfyrwraig ddisglair yng Ngholeg Owen, Manceinion, un o adrannau cyfansoddol Prifysgol Victoria. Roedd yn swffragydd ac yn seilcwraig frwd pan oedd yn fyfyrwraig, a graddiodd â gradd ddosbarth 1af yn 1897. Yn 1898 symudodd i Aberystwyth gyda chyfeilles, Marion Benson [m. 1900], ac ymuno ag Adran Saesneg Coleg y Brifysgol, Aberystwyth yn ddarlithydd cynorthwyol. Yno y bu nes iddi ymddeol yn ddarlithydd hŷn yn 1941. Parhaodd ei diddordeb mewn rhyddfreinio menywod (gan ddarlithio er enghraifft i’r WSPU yn Preston, Swydd Gaerhirfryn, yn 1908). Roedd yn Aelod o Gymdeithas Socialaidd y Brifysgol ac wedyn o’r Blaid Ryddfrydol ac ysgrifennai’n rheolaidd i’r Welsh Gazette a Welsh Outlook, gan gynnwys ambell gerdd. Ysgrifennodd a golygodd lawer o lyfrau academaidd ac o leiaf un nofel. Gadawodd ei llyfrgell i’r Brifysgol pan fu farw yn 1960.
Cyfeirnod: WaW0454
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am anerchiad Lilian Winstanley i’r WSPU yn Prestin Welsh Gazette 16 ionawr 1908.
Cerdd
Cerdd ‘Land of Dante’ yn adlewyrchu ar oresgyniad Awstria o’r Eidal. Welsh Outlook Cyf. 2 rhif 9 Medi 1915
Edith Picton Turbervill
Man geni: Fownhope, Swydd Henffordd
Gwasanaeth: Gweithwraig Lles, AS, Y W C A
Marwolaeth: 1960, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Edith (a aned yn 1872) yn efeilles [qv Beatrice Picton-Warlow], ac yn un o blant niferus John Picton Turbervill a etifeddodd Briordy Ewenni, Morgannwg yn 1891. Roedd hi’n grefyddol iawn, bu’n gweithio gyda nafis tlawd rheilffordd Bro Morgannwg a theuluoedd tlawd Llundain. Ar ôl chwe blynedd yn India dychwelodd i Brydain i fod yn ysgrifennydd tramor yr Y.W.C.A. Pan dorrodd y rhyfel allan, cododd chwarter miliwn o bunnau i godi hosteli i’r Y.W.C.A. ar gyfer gweithwragedd ffatrïoedd arfau rhyfel a gweithwyr fferm. Roedd yn gefnogol iawn i ordeinio menywod a phregethodd mewn sawl capel anghydffurfiol yng Nghymru cyn dod yn y fenyw gyntaf i bregethu mewn Eglwys Anglicanaidd, yn 1919, yn gwisgo casog a gwenwisg. Gan ei bod dros chwe throedfedd, a chanddi lais braidd yn uchel, gwnaeth argraff yn y papurau newyddion. Yn y flwyddyn honno hefyd, ymunodd â’r blaid Lafur. Ar ôl dwy ymdrech aflwyddiannus, etholwyd hi yn AS dros Wrekin yn Swydd Amwythig yn 1929. Yn ystod ei gyrfa Seneddol fer llwyddodd i gyflwyno deddf i atal menywod beichiog rhag cael eu dienyddi.
Ffynonellau: Angela V John: Rocking the Boat, Parthian Press 2018
Cyfeirnod: WaW0442
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y cyfarfod cyntaf i lansio darparu hosteli Y.M.C.A. ar gyfer gweithwragedd ffatrïoedd arfau yng Nghymru (rhan 1) Glamorgan Gazette 13 Hydref 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y cyfarfod cyntaf i lansio darparu hosteli ar gyfer gweithwragedd ffatrïoedd arfau yng Nghymru (Rhan 2) .Glamorgan Gazette 13 Hydref 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Edith Picton Turbervill yn pregethu yng nghapel Annibynwyr Bishopgate. Cambrian Daily Leader 14 Chwefror 1919.
Adroddiad papur newydd
Colofn ‘Small Talk’ yn disgrfio Edith Picton Turbervill yn pregethu mewn gwasanaeth rheolaidd yn Egwys Loegr yn Somercotes, Swydd Lincoln. Glamorgan Gazette 11 Gorffennaf 1919.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Edith Picton Turbervill yn ymuno â’r Blaid Lafur. Cambria Daily Leader 18 Ionawr 1919
Llun
rnY menywod Llafur a etholwyd yn ASau yn 1929. Mae Edith Picton Turbervill yn y canol yn y cefn. Ar y dde yn y blaen mae Jennie Lee ifanc iawn, a briododd Aneurin Bevan yn ddiweddarach. Yn 24 oed roedd hi’n rhy ifanc i bleidleisio ond nid yn rhy ifanc i sefyll. Yn nesaf ati hi mae Ellen Wilkinson.
Mildred Lloyd Hughes
Man geni: Llanbedr Pont Steffan
Gwasanaeth: Nyrs, QARNNS
Marwolaeth: 1962, Cilgwri , Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Mildred Hughes yn nyrs broffesiynol, a anwyd yn 1879. Roedd hi’n chwaer gyda’r QARNNS yn 1911, ac ar ddechrau’r Rhyfel roedd yn Chwaer Arolygydd yn Ysbyty Morol Brenhinol, Gibraltar, a hynny ers 1912. Yn 1916 daeth yn Brif Chwaer (h.y. Metron) yn Ysbyty Morol Plymouth, ac oddi yno ysgrifennodd lythyr at rieni’r VAD Maggie Evans ar farwolaeth Maggie [qv]. Arhosodd yn Plymouth nes iddi gael ei phenodi yn bennaeth y QARNNS yn 1929. Ymddeolodd yn 1934. Derbyniodd y Groes Goch Frenhinol yn 1916, ac ail wobr yn 1919.
Ffynonellau: http://1914-1918.invisionzone.com/forums/index.php?/topic/158399-mildred-lloyd-hughes-qarnns/
Cyfeirnod: WaW0252
Datganiad
Y Brenin George V yn cyflwyno bar i’r Groes Goch Frenhinol rnBritish Journal of Nursing 6ed Rhagfyr 1919rn
Jane Edwards
Man geni: Tai Cyn Haeaf
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau
Marwolaeth: 1962, Dolgellau, Achos anhysbys
Nodiadau: Gweithiai Jane Edwards mewn ffatri arfau rhyfel yn Lerpwl, er na wyddys ym mha un o’r ffatrïoedd niferus hyn. Yn ôl traddodiad teuluol trwy gyfrwng ei nai, aeth ei gwallt yn felyn oherwydd y powdwr. Diolch i J T Jones.
Cyfeirnod: WaW0352
Jane Edwards
Jane Edwards yn ei gwisg fel gweithwraig ffatri arfau rhyfel. Gwelir bathodyn siap triongl gweithwyr y rhyfel ar ei gwisg. Llun gan J T Jones, Y Bala.
Minna Amelia Benner (née MacFarlane)
Man geni: Yr Alban
Gwasanaeth: Meddyg, 1914 - 1934
Marwolaeth: 1962, Achos anhysbys
Nodiadau: Minna Benner oedd un o’r menywod cyntaf i gymhwyo’n feddyg ym Mhrifysgol Glasgow, yn 1897. Ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn Iwerddon, yn gweithio fel Swyddog Iechyd Cynorthwyol, symudodd i Gasnewydd yn Swyddog Meddygol Cynorthwyol mewn Ysgolion yn 1914. Yn 1917 daeth yn swtddog meddygol cyntaf Casnewydd ar gyfer y Cynllun Mamolaeth a Lles Plant. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig ym maetheg plant (cyhoeddwyd papur ganddi ar y pwnc yn y Perspectives in public Health yn 1924), ac roedd yn ffeminydd a diddordeb mewn diwygio cymdeithasol. Bu fyw tan ei bod yn 99 oed.
Ffynonellau: British Medical Journal, Who’s Who in Newport 1920
Cyfeirnod: WaW0408
Dorothy Caroline Edmondes (née Nicholl)
Man geni: Brynbuga
Gwasanaeth: Nyrs, masseur, VAD
Marwolaeth: 1963, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Dorothy yn 1871, yn ferch i deulu o dirfeddianwyr ym Merthyr Mawr. Bu farw ei gŵr, yr Uwchgapten Charles Edmondes yn 1911. Ymunodd â’r VAD yn 1915 yn nyrs, ond roedd wedi hyfforddi rywdro mewn tylino cyrff (ffisiotherapi). Yn 1917 sefydlodd glinig orthopedig i gleifion allanol yn Ysbyty’r Groes Goch ym Mhenybont ar Ogwr, lle roedd hi yn brif dylinwraig, swydd y bu ynddi tan 1922. Enillodd OBE yn y flwyddyn hon am ei gwaith gyda milwyr clwyfedig ym Mhenybont. Safodd Dorothy Edmondes yn ymgeisydd Ceidwadol dros Ogwr yn etholiad cyffredinol 1922.
Cyfeirnod: WaW0296
Margaret Sidney Davies
Man geni: Llandinam
Gwasanaeth: Casglwraig, dyngarwraig, a gweithwraig mewn cantîn , French Red Cross, 1917 - 1919
Marwolaeth: 1963, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Margaret yn 1884 a hi oedd chwaer iau Gwendoline [qv] ac wyres David Davies y perchennog glo ac adeiladydd Dociau’r Barri. Derbyniodd hi, a’i chwaer Margaret[qv] a’i brawd David ill tri un rhan o dair o ffortiwn enfawr eu tad pan fu farw yn 1898. Roedd y tri ohonynt yn Fethodistiaid Calfinaidd cryf ac ynddynt elfen gref o ddyngarwch. Dechreuodd y ddwy chwaer deithio yn eang, ac i astudio celf yn Ewrop. Yn eu hugeiniau cynnar roeddent yn dechrau ffurfio’r casgliad sydd bellach yn Amgueddfa Cymru. Ym Mawrth 1913 arddangoswyd y casgliad, yn ddienw, yng Nghaerdydd; a thalodd y chwiorydd yr holl gostau. Denodd 26,000 o ymwelwyr. Ar ddechrau’r rhyfel hyrwyddodd y chwiorydd gynllun i wahodd artistiaid a cherddordion o Wlad Belg i ddod i Gymru, gan eu sefydlu yn Aberystwyth a Llandiloes. Yn 1917 ymunodd Margaret â Gwendoline yn y Cantine des Dames Anglais, a oedd bellach yng ngorsaf drên Troyes. Yn ei dyddiadaur ysgrifenna taw prif fendith cantîn oedd tap dŵr a gramaffôn. Mae’r cyntaf yn gwneud bywyd yn bosibl ei ddioddef a’r llall yn gwneud bywyd yn bosibl ei ddioddef i’r poilu (milwr ym myddin Ffrainc). Am gyfnod symudwyd hi a Gwendoline i wersyll Americanaidd yn nes i’r ffrynt, roedd ganddynt brofiad o gyrchoedd awyr a lladdwyd dau o’u cydweithwyr gan fomiau. Yn ystod gaeaf 1918-1919 gweithiodd am dri mis mewn cantîn wedi ei redeg gan y Eglwysi Albanaidd yn Rouen cyn dychwelyd i Gymru. Yn ddiweddarach cynorthwyodd Margaret i sefydlu’r ganolfan i’r celfyddydau yng Ngregynog. Parhaodd i gasglu lluniau, gan artisitiaid Prydeinig modern yn bennaf, tan yr 1950au. Rhoddodd ei chasgliad, fel un ei chwaer, yn rhodd i Amgueddfa Cymru
Ffynonellau: Oliver Fairclough [ed] Things of Beauty: What two sisters did for Wales. National Museum Wales 2007. Trevor Fishlock A Gift of Sunlight. Gomer 2014\r\nhttps://museum.wales/articles/2007-07-29/The-Davies-Sisters-during-the-First-World-War/
Cyfeirnod: WaW0334