Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Minnie James (née Watkins)
Man geni: Merthyr Tudful
Gwasanaeth: Mam
Marwolaeth: 1954, Achos anhysbys
Nodiadau: Priododd Minnie a William James ar Ionawr 1891. Roedd ganddynt chwe phlentyn a oroesodd. Gwasanaethodd ei thri mab hynaf yn y Rhyfel. Lladdwyd David ym Medi 1915, yn 24 oed. Bu farw Thomas o’i glwyffau ar ddydd Nadolig 1918, yn 21 oed a bu farw Jack a gawsai ei anafu hefyd o’r diciáu ym Mehefin 1920, yn 24 oed hefyd.rnYn 1938 dewiswyd Minnie James, a oedd yn 72 oed, i gynrychioli holl famau Cymru a gollodd eu meibion yn ystod y Rhyfel, ac i agor y Deml Heddwchrn
Ffynonellau: http://www.walesforpeace.org/wfp/theme_TempleInternationalism.html
Cyfeirnod: WaW0264
Mary Sutherland
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Coedwigwraig , WLA, 1916 -17
Marwolaeth: 1955, Wellington, Seland Newydd, Achos anhysbys
Nodiadau: Mary Sutherland oedd un o’r menywod cyntaf ym Mhrydain i ennill gradd mewn Coedwigaeth. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol gogledd Cymru Bangor o 1912-1916. Ar ôl graddio (yn yr un flwyddyn â Mary Dilys Glynne a Violet Jackson qv) gweithiodd yn adran goedwigaeth Byddin Dir y Menywod, ac o 1917 yn swyddog arbrofi cynorthwyol y Comisiwn Coedwigaeth. Wedi i’r Comisiwn Coedwigaeth grebachu yn 1922 symudodd i Seland Newydd lle gweithiodd yng Ngwasanaeth Coedwigaeth y Wladwriaeth a oedd newydd ei sefydlu.
Ffynonellau: Dictionary of New Zealand Biography, 1998.
Cyfeirnod: WaW0314
Adroddiad paper newydd
Adroddiad am raddedigion o Fangor gan gynnwys Mary Sutherland, Violet Gale Jackson a Mary Glynne. North Wales Chronicle 7fed Gorffennaf 1916.
Dorothea Adelaide Lawry Pughe Jones
Man geni: Surrey
Gwasanaeth: Swffragydd, Prif Swyddog,, VAD, 1914 - 1920
Marwolaeth: 1955, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Dorothea Pughe Jones yn 1875, ac etifeddodd Ynysgain, Cricieth oddi wrth ei thad yn 1897. Wedi iddo farw aeth hi i Brifysgol Rhydychen i astudio hanes, ac yna ddiploma mewn ethnograffeg. Enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol 1901 am werslyfr ar hanes Cymru. Yn 1902 roedd yn un o dîm Llywodraeth Prydain a fu’n archwilio i addysg yng ngwersyll-garcharau’r Boeriaid yn Ne Affica. Yn 1910 roedd yn un o sylfaenwyr cangen Bangor a’r Cylch o Gymdeithas Rhyddfreinio Menywod (Women’s Suffrage Society). Ymunodd â’r VAD yn 1914, yn gyntaf yn Swyddog Cyflenwi yng Nghaernarfon, ond gwirfoddolodd i wasanaethu yn Ffrainc yn 1915. Hi oedd Prif Swyddog yr Hotel des Anglaises, hostel ar gyfer perthnasau swyddogion wedi eu hanafu yn Le Touquet, Ffrainc, ac am hyn enillodd yr MBE. Pan oedd yn Ffrainc cafodd ei phenodi yn warden Eglwys yng Nghricieth, er bod rhai’n gwrthwynebu am ei bod yn ‘foneddiges’. Yn Nhachwedd 1918 cafodd ei hanfon i Salonica yn Brif Bennaeth y VAD, tan Fai 1920. Ar ôl dychwelyd cafodd ei hanfon gan y Llywodraeth i ymchwilio’r cyfleoedd i fenywod yn Awstralia.
Ffynonellau: GB 0210 YNYSGAIN - Pughe-Jones of Ynysgain Collection of Deeds and Papers National Library of Wales Women members and witnesses on British Government ad hoc Committees of Inquiry Elaine Harrison, London School of Economics, Doctor of Philosophy, 1998.
Cyfeirnod: WaW0320
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn cofnod y Groes Goch Dorothea Pughe Jones. Roedd ganddi dri cherdyn i gyd.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobr eisteddfodol Dorothea Pughe Jones Cambrian News 23ain Awst 1901.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddychweliad Dorothea Pughe Jones o dde Affrica. Cambrian News 8fed Mai 1903.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyfarfod cyffredinol blynyddol cangen Bangor a’r Cylch o’r Gymdeithas Rhyddfreinio Menywod (Women’s Suffrage Society). North Wales Express 2il Rhagfyr 1910.
Cerdyn post
Cerdyn post o’r Hotel des Anglaises, hostel y VAD yn Le Touquet, yr oedd Dorothea Pughe Jones yn ei rhedeg.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Dorothea Pughe Jones yn warden Eglwys. North Wales Chronicle 20fed Ebrill 1917.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad o bapur newydd yn Awstralia am rôl Dorothea Pughe Jones yn yr ymchwiliad i’r cyfleoedd yn Awstralia i fenywod o’r DU. The Advertiser 10fed Ionawr 1920 Adelaide De Awstralia.
Winifred Margaret Coombe Tennant (née Pearce-Serocold)
Man geni: Stroud
Gwasanaeth: Pwyllgorwraig, swffragydd, bardd, ysbrydegydd, noddwraig, mam.
Marwolaeth: 1956, Llundain, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Winifred yn 1874, roedd ei mam née Mary Richardson, yn Gymraes. Priododd Charles Coombe Tennant yn 1895 a buon nhw’n byw yn Cadoxton Lodge, ger Castell Nedd. Ymunodd â’r NUWSS yn 1911 a gwasanaethodd ar ei bwyllgor yn ddiweddarach, yn ogystal â chadeirio pwyllgor Castell Nedd. Yn ystod y rhyfel bu’n Gadeirydd pwyllgor Pensiynau Castell Nedd a phwyllgor Amaeth y rhyfel ym Morgannwg; roedd ganddi ddiddordeb hefyd mewn tai gwledig a diwygio’r deddfau cosb (daeth yn Ustus Heddwch yn 1920). Yn 1917 derbyniwyd hi i Orsedd y Beirdd a dewisodd yr enw barddol ‘Mam o Nedd’. Cadeiriodd Bwyllgor Celf a Chrefft Eisteddfod 1918, ac yn ddiweddarach daeth yn Feistres y Gwisgoedd. Roedd wedi dechrau ymddiddori mewn ysbrydegaeth yn dilyn marwolaeth ei merch Daphne yn 1908, ac atgyfodwyd y diddordeb yn dilyn marwolaeth ei mab hynaf a laddwyd yn Fflandrys ym Medi 1917, yn 19 oed. Fe ddaeth yn gyfrwng mawr ei pharch er mai dim ond ychydig o bobl a wyddai pwy ydoedd – defnyddiai’r ffugenw Mrs Willet. Safodd yn aflwyddiannus yn ymgeisydd Rhyddfrydol dros Fforest y Ddena yn etholiad cyffredinol 1922, ac roedd yn noddwraig gywir i nifer o artistiaid Cymreig, yn enwedig Evan Walters.
Ffynonellau: Winifred Tennant: a life through Art Peter Lord NLW 2007.\r\nhttp://yba.llgc.org.uk/en/s2-COOM-MAR-1874.htm
Cyfeirnod: WaW0268
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ethol Winifred Coombe Tennant i bwyllgor yr NUWSS, Cambria Daily Leader 8fed Gorffennaf 1915
Adroddiad papur newydd
Winifred trefnyddes Glamorgan War Agricultural Committee, Herald of Wales 20th May 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyfarfod i drafod adferiad gwledig Cymru wedi’r Rhyfel. Herald of Wales 10fed Awst 1918rn
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am agor Adran Gelf a Chrefft Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd 1918. Eto yn yr Herald of Wales 10fed Awst 1918rn
Mary Elizabeth Phillips (Eppynt)
Man geni: Merthyr Cynog, Aberhonddu
Gwasanaeth: Meddyg, Scottish Womens Hospitals, Royal Army Medical Corp, 1914 - 1919
Marwolaeth: 1956, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Mary Phillips yn 1874 a mabwysiadodd yr enw ‘Eppynt’ o’r mynyddoedd ger man ei geni. Hi oedd y fenyw gyntaf i hyfforddi’n feddyg yng Ngholeg Prifysgol, Caerdydd (1894 – 8), ac yn dilyn hynny bu’n gweithio yn Lloegr. Cefnogai’r NUWSS, ac weithiau siaradai yn eu cyfarfodydd. Ar 8fed Rhagfyr 1914 derbyniodd delegram oddi wrth y Scottish Women’s Hospitals a gefnogid gan yr NUWSS yn gofyn iddi fynd i’w hysbyty yn Calais ar unwaith. Bu yno tan Ebrill 1915, cyn ymuno â’r SWH yn Valjevo, Serbia. Anfonwyd hi gartref yn sal yn union cyn i lawer o aelodau’r SWH gael eu cipio gan fyddin Awstria/Bwlgaria [gweler Elizabeth Clement, Gwenllian Morris]. Ym mis Ebrill 1916 cafodd ei phenodi yn swyddog meddygol Ysbyty Menywod yr Alban yn Ajaccio, Corsica, lle roedd llawer o’r ffoaduriaid o’r lloches o Serbia yn lletya. Gwasanaethodd yno am 14 mis, cyn dychwelyd a theithio trwy Loegr a Chymru Ar ôl gwella penodwyd hi’n Brif Swyddog Meddygol yr SWH yn Corsica. Dychwelodd i deithio Cymru yn codi arian i’r Ysbytai yn Serbia. Roedd yn siaradwraig nodedig yn Gymraeg a Saesneg. Yn 1918 aeth i Lundain i weithio yn Ysbyty Milwrol Stryd Endell, ysbyty 573-gwely a gâi ei redeg gan fenywod yn unig, llawer ohonynt yn swffragetiaid. Ar ôl y Rhyfel bu’n Ddirprwy Swyddog Meddygol Iechyd ym Merthyr Tudful.
Cyfeirnod: WaW0362
Dr Mary Eppynt Phillips
Dr Mary Eppynt Phillips yng ngwisg swyddogol Corfflu Meddygol y Fyddin Frenhinol. Tynnwyd y llun yn 1920. Imperial War Museum.
Telegram
Telegram yn gofyn i Dr Phillips fynd i Calais, 8fed Medi 1914. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar waith Dr Phillips yn ystod y Rhyfel. Brecon County Times 19eg Gorffennaf 1917.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddyfarnu arwyddlun urdd St Java [sef Sava mewn gwirionedd] gan Frenin Serbia. Brecon and Radnor Express 22ain Awst 1918.
Cissie Cripps
Man geni: Aberhonddu
Gwasanaeth: Gwirfoddolwraig , Womens Volunteer Reserve Corps, 1915 - ?
Marwolaeth: 1956, Montreal, Canada, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Cissie yn yrwraig cyn y rhyfel, roedd ganddi ddau frawd yn gwasanaethu yn y fyddin, ac ymunodd â Chorfflu Wrth Gefn y Gwirfoddolwragedd yn Folkestone yn Awst 1915. Yn 1920 ymfudodd i Montreal, Canada, lle priododd hi George Elsdon Mears yn ddiweddarach. Roedd ganddynt dair merch. Diolch i Ian Sumpter.
Cyfeirnod: WaW0374
Cissie Cripps
Cissie Cripps o Aberhonddu, yn edrych yn ‘smart iawn’ yn ei gwisg swyddogol. Brecon County Times 12fed Awst 1915.
Gladys Maud Feiling (née Norman)
Man geni: Bleddfa, sir Faesyfed
Gwasanaeth: Swyddogol, WAAC / QMAAC, September 1917 - September 191
Marwolaeth: 1958, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Gladys yn 1879 a phriododd Cecil Feiling, cyfreithiwr yn Llundain yn 1906. Ymddengys ei bod yn ddi-blant a dywed ei bod yn ‘bur annibynnol’ yn ei llythyr cais i fod yn swyddog gyda’r WAAC yn 1917. Mae’r papurau am ei gyrfa gyda’r WAAC wedi goroesi, er wedi’u difrodi, yn yr Archifau Cenedlaethol. Ar ôl ymchwiliad meddygol a hyfforddiant a basiodd gyda dim ond 69% o farciau dwedir nad oes ganddi fawr brofiad o unrhyw fath ond ei bod o’r teip cywir i fynd i Ffrainc. Erbyn 1919 roedd yn Is-reolwraig gyda’r QMAAC, ac enillodd OBE ym Mehefin 1919. Ymddengys iddi wasanaethu gyda’r ATS yn yr Ail Ryfel Byd.
Ffynonellau: National Archives WO 398/75/6, https://www.thegazette.co.uk/London/issue/35017/supplement/7105/data.pdf
Cyfeirnod: WaW0209
Cefn y llun
Reverse of photograph of Gladys Feiling outlining her career In the WAAC/QMAAC. Photograph collected by the Women’s Subcommittee of the Imperial War Museum.
Evelyn Margaret Abbott
Man geni: Y Grysmwnt,Sir Fynwy
Gwasanaeth: Nyrs, Scottish Womens Hospitals, January - June 1916
Marwolaeth: 1958, Llundain, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganed Evelyn yn 1883 yn ferch i ysgolfeistr y Grysmwnt. Roedd yn nyrs broffesiynol a hyfforddodd yn Llundain. Treuliodd 6 mis yn gweithio yn ysbyty Ysbytai’r Menywod Albanaidd yn L’abbaye de Royaumont i’r gogledd o Baris. Dilynwch y cyswllt i weld yr ysbyty ar ffilm.
Ffynonellau: http://movingimage.nls.uk/film/0035\r\nhttp://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0248
Beatrice [B] Picton Turbervill (Picton Warlow)
Man geni: Fownhope, Swydd Henffordd
Gwasanaeth: Gweithwraig dros Ddirwest a Lles, warden hostel gweithwragedd ffatrïoedd arfau rhyfel, H M Factories, before/cyn 1916 - 1918
Marwolaeth: 1958, Achos anhysbys
Cofeb: Priordy Ewenny, Ewenny, Bro Morgannwg
Nodiadau: Roedd Beatrice yn efeilles i Edith Turbervill [qv]. Yn ferch ifanc cadwodd ei chyfenw gwreiddiol Picton-Warlow; newidiodd ei thad yr enw pan etifeddodd Briordy Ewenni yn 1891. Cyn y Rhyfel roedd yn frwd dros hyrwyddo achos Dirwest a hi oedd Cadeirydd cangen Caerdydd o Gymdeithas Ddirwest Menywod Prydain. Yn 1916 penodwyd hi yn bennaeth un o hosteli gweithwragedd y ffatrïoedd arfau rhyfel yn Woolwich. Flwyddyn yn ddiweddarach symudodd i Coventry yn Warden yr Housing Colony for Women Munitions Workers, sefydliad mawr â staff o 200, â rhai gweithwyr ifanc anystywallt iawn. ‘Roedd y gweithwyr Gwyddelig- Cymreig … yn taflu bwyd a tsieina ac eitemau o ddodrefn bwrdd at y gweinyddesau, at ei gilydd, a thrwy’r ffenestri’. Fodd bynnag llwyddodd y Gymraes Miss Picton Turbervill a’i chydweithwraig y Wyddeles, Miss MacNaughton i gael trefn ar bethau. Ar ddiwedd y Rhyfel bu ar daith ddarlithio yn UDA, yn siarad am Waith Lles ym Mhrydain. Am sawl blwyddyn wedi’r rhyfel bu’n ymwneud â gwaith Dr Barnardos.
Ffynonellau: Monthly Labor Review Volume 7 Issue 6 [US]
Cyfeirnod: WaW0443
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Gyfarfod Blynyddol cangen Caerdydd o Gymdeithas Ddirwest Menywod Prydain gyda Beatrice Picton Warlow yn y gadair. Evening Express 18 Ionawr 1901.
Monthly Labor Review
Adroddiad ar waith Beatrice Picton Turbervill (a’i chydweithwraig Miss MacNaughton) a ymddangosodd yn y cylchgrawn Americanaidd Monthly Labor Review.
Gwladys Perrie Williams (Morris)
Man geni: Llanrwst
Gwasanaeth: Addysgwraig, gweinyddwraig, WLA
Marwolaeth: 1958/07/13, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Gwladys i rieni oedd yn siarad Cymraeg a hi oedd y seren yn Ysgol Sir Llanrwst – dim ond dau ddisgybl oedd yn y chweched dosbarth. Graddiodd o Goleg y Brifysgol Bangor. Enillodd gymrodoriaeth i astudio Ffrangeg canoloesol yn y Sorbonne, Paris a derbyniodd radd D Litt yn 1915. Mae ei golygiad hi o Le Bel Inconnu (1929) yn dal i gael ei ddarllen. Yn ôl yn ne Cymru yn 1917 cafodd ei phenodi yn drefnydd arolygydd Byddin Dir y Menywod yn ne Cymru. Cafodd ei derbyn i Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yn 1918. Cyhoeddodd ‘Welsh Education in Sunlight & Shadow’ (1919), gan gymharu addysg ganolradd yng Nghymru a Ffrainc yn seiliedig ar ei phrofiadau ei hunan. Mae’n cynnwys llawer o bapurau arholiad y Bwrdd Arholi Canolog Cymreig o dystygrifau ar lefel iau i lefel gradd. Priododd [Syr] Rhys Hopkins Morris, pennaeth cyntaf BBC Wales ac As Gorllewin Caerfyrddin yn 1918, ond cadwodd ei henw ei hun ar gyfer gwaith proffesiynol. Cwrddon nhw ym Mhrifysgol Bangor.
Cyfeirnod: WaW0415
Adroddiad papur newydd
Adroddiad yn dangos llwyddiannau ysgol Gwladys Perrie Williams. The Weekly News 27 Rhagfyr 1907.