Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Ethel Nicholas
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: Aelod o Fyddin y Tir
Nodiadau: Derbyniodd Ethel Bar am Wasanaeth Nodedig ym Myddin y Tir am iddi ymateb yn chwim i achub coes (a bywyd hefyd mae’n debyg) ffermwr a gafodd ei anafu gan offer fferm.
Cyfeirnod: WaW0343
Adroddiad papur newydd
Adroddiad – ‘A Plucky Land Girl’ Cambrian News 10fed Ionawr 1919. Gwelwyd adroddiad unfath yn yr Abergavenny Chronicle.rn
Jane Edwards
Man geni: Tai Cyn Haeaf
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau
Marwolaeth: 1962, Dolgellau, Achos anhysbys
Nodiadau: Gweithiai Jane Edwards mewn ffatri arfau rhyfel yn Lerpwl, er na wyddys ym mha un o’r ffatrïoedd niferus hyn. Yn ôl traddodiad teuluol trwy gyfrwng ei nai, aeth ei gwallt yn felyn oherwydd y powdwr. Diolch i J T Jones.
Cyfeirnod: WaW0352
Jane Edwards
Jane Edwards yn ei gwisg fel gweithwraig ffatri arfau rhyfel. Gwelir bathodyn siap triongl gweithwyr y rhyfel ar ei gwisg. Llun gan J T Jones, Y Bala.
Flossie Abbott
Man geni: Pen y Bont ?
Gwasanaeth: Clerc, Bridgend Food Control Committee, 1919
Nodiadau: YYn Hydref 1919 gofynnodd Flossie Abbott am godiad cyflog o £1 12s 6c yr wythnos i £2 10s, i fod yn gyfartal â thâl y clerc gyda’r Pwyllgor Rheoli bwyd ym Mhenybont. Byddai dyn yn gwneud yr un gwaith yn ennill £3 yr wythnos. Dim ond un aelod o’r pwyllgor wrthwynebodd y cais.
Cyfeirnod: WaW0351
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyfarfod Pwyllgor Bwyd Penybont lle cytunwyd codiad cyflog Flossie Abbott. Glamorgan Gazette 17eg Hydref 1919.
Alice Evans
Man geni: Caerfyrddin
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 - 1919
Nodiadau: Ar y dechrau bu’n gwirfoddoli yn Ysbyty’r Groes Goch yng Nghaerfyrddin, ac yna roedd yn nyrs yn derbyn tâl yn Ysbyty Filwrol Netley, Southampton. Ym Medi 1918 cafodd swydd yn Ffatri Bowdwr Genedlaethol Pen-bre.
Cyfeirnod: WaW0353
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Alice Evans yn nodi ei gwasanaeth yn Ffatri Bowdwr, Pen-bre.
Catherine Fraser
Man geni: Anhysbys
Gwasanaeth: Meddyg, NEF Pembrey / Pen-bre, June 1918 -
Nodiadau: Penodwyd Dr Catherine Fraser a fu cyn hynny yn swyddog meddygol cynorthwyol yn Bradford, yn swyddog meddygol Ffatri Ffrwydron Genedlaethol, Pen-bre ym Mehefin 1918.
Cyfeirnod: WaW0361
Adroddiad papur newydd
Erthygl yn cyfeirio at benodi Dr Fraser i weithio yn Ffatri Ffrwydron Pen-bre.
Mary Elizabeth Phillips (Eppynt)
Man geni: Merthyr Cynog, Aberhonddu
Gwasanaeth: Meddyg, Scottish Womens Hospitals, Royal Army Medical Corp, 1914 - 1919
Marwolaeth: 1956, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Mary Phillips yn 1874 a mabwysiadodd yr enw ‘Eppynt’ o’r mynyddoedd ger man ei geni. Hi oedd y fenyw gyntaf i hyfforddi’n feddyg yng Ngholeg Prifysgol, Caerdydd (1894 – 8), ac yn dilyn hynny bu’n gweithio yn Lloegr. Cefnogai’r NUWSS, ac weithiau siaradai yn eu cyfarfodydd. Ar 8fed Rhagfyr 1914 derbyniodd delegram oddi wrth y Scottish Women’s Hospitals a gefnogid gan yr NUWSS yn gofyn iddi fynd i’w hysbyty yn Calais ar unwaith. Bu yno tan Ebrill 1915, cyn ymuno â’r SWH yn Valjevo, Serbia. Anfonwyd hi gartref yn sal yn union cyn i lawer o aelodau’r SWH gael eu cipio gan fyddin Awstria/Bwlgaria [gweler Elizabeth Clement, Gwenllian Morris]. Ym mis Ebrill 1916 cafodd ei phenodi yn swyddog meddygol Ysbyty Menywod yr Alban yn Ajaccio, Corsica, lle roedd llawer o’r ffoaduriaid o’r lloches o Serbia yn lletya. Gwasanaethodd yno am 14 mis, cyn dychwelyd a theithio trwy Loegr a Chymru Ar ôl gwella penodwyd hi’n Brif Swyddog Meddygol yr SWH yn Corsica. Dychwelodd i deithio Cymru yn codi arian i’r Ysbytai yn Serbia. Roedd yn siaradwraig nodedig yn Gymraeg a Saesneg. Yn 1918 aeth i Lundain i weithio yn Ysbyty Milwrol Stryd Endell, ysbyty 573-gwely a gâi ei redeg gan fenywod yn unig, llawer ohonynt yn swffragetiaid. Ar ôl y Rhyfel bu’n Ddirprwy Swyddog Meddygol Iechyd ym Merthyr Tudful.
Cyfeirnod: WaW0362
Dr Mary Eppynt Phillips
Dr Mary Eppynt Phillips yng ngwisg swyddogol Corfflu Meddygol y Fyddin Frenhinol. Tynnwyd y llun yn 1920. Imperial War Museum.
Telegram
Telegram yn gofyn i Dr Phillips fynd i Calais, 8fed Medi 1914. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar waith Dr Phillips yn ystod y Rhyfel. Brecon County Times 19eg Gorffennaf 1917.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddyfarnu arwyddlun urdd St Java [sef Sava mewn gwirionedd] gan Frenin Serbia. Brecon and Radnor Express 22ain Awst 1918.
Gertrude Mary Bailey (née Buchanan)
Man geni: Sunderland
Gwasanaeth: Gwraig fusnes, Pwyllgorwraig,, 1914 - 1919
Marwolaeth: 1942, Achos anhysbys
Nodiadau: Symudodd Gertrude Bailey i Gasnewydd ar ôl priodi yr atgyweiriwr llongau cyfoethog o Gasnewydd C H Bailey yn 1895. Ar ôl iddo farw yn 1907 bu hi’n rhedeg ei fusnes llwyddiannus. Wedi dechrau’r Rhyfel bu’n ymwneud â sawl gweithgaredd yn gysylltiedig â’r rhyfel, gan gynnwys helpu Ffoaduriaid Gwlad Belg a’r Groes Goch, a gwasanaethu ar bwyllgor Pensiynau Rhyfel. Yn 1917 sefydlodd Gertrude feithrinfa ar gyfer plant menywod yn gweithio yn y ffatrïoedd arfau. Enillodd anrhydedd y CBE yn 1918; yn rhyfeddol nid oes datganiad yn ei henw. Efallai ei bod yn rhy brysur gyda chymaint o bethau i’w henwi. Yn 1920 trosglwyddodd y busnes i’w meibion a daeth yn un o ddau ynad heddwch benywaidd cyntaf Casnewydd. Roedd Gertrude yn erbyn rhyddfreinio menywod cyn y Rhyfel a noddai gymdeithasau dirwest. Yn Who’s Who in Newport (1920) disgrifir hi yn ‘La Grande Dame of the place’.
Ffynonellau: Sylvia Mason: Every Woman Remembered. Saronpublishers 2018\r\nhttp://www.newportpast.com/gallery/photos/php/search.php?search=munition&search2=&Submit=Submit
Cyfeirnod: WaW0360
Meithrinfa Gweithwyr y Ffatrïoedd Arfau
Agor Meithrinfa Gweithwyr y Ffatrïoedd Arfau, Casnewydd 1917.
Louisa James
Man geni: Merthyr Tudful ?
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel, not known / anhysbys
Nodiadau: Tynnwyd llun o Louisa James yn ei gwisg yn weithwraig ffatri arfau.
Cyfeirnod: WaW0358
Louisa Jones
Man geni: Harlech
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel, Not known / anhysbys
Nodiadau: Anafwyd Louisa pan syrthiodd siel ar ei throed yn y ffatri arfau rhyfel lle gweithiai. Yn ôl y papur lleol roedd hi gartref yn Harlech oherwydd salwch.
Cyfeirnod: WaW0359
Adroddiad papur newydd
Adroddiad yn nodi absenoldeb oherwydd salwch Louisa Jones. Cambrian News and Merioneth Standard 18fed Mai 1917.
Margaret Sara Meggitt (née ?)
Man geni: Grantham
Gwasanaeth: Athrawes, undebwraig lafur
Nodiadau: Symudodd Margaret Meggitt i Gasnewydd yn 1906 gyda’i gŵr. Cyn hynny roeddent wedi byw ym Mansfield, lle bu’n ymwneud â’r mudiad rhyddfreinio menywod. Ymunodd â’r Blaid Lafur yn 1913, a ffurfio Cangen Casnewydd o Ffederasiwn Genedlaethol y Gweithwragedd, a gwasanaethodd yn ysgrifenyddes iddi am bedair blynedd. Hi oedd y fenyw gyntaf i eistedd ar Gyngor Llafur a Masnach Casnewydd ac roedd yn asesydd ar dribiwnlys ffatrioedd arfau rhyfel Casnewydd yn Sir Fynwy, gyda phwyslais arbennig ar amodau gwaith merched a menywod. At hyn roedd ar bwyllgor gwaith Pwyllgor Sir Fynwy o Gyngor Cenedlaethol y Fam Ddibriod a’i Phlentyn, a chefnogodd yr apêl i amddiffyn Gladys May Snell [qv].
Ffynonellau: Who’s Who in Newport 1920
Cyfeirnod: WaW0363
Bathodyn NFWW
Bathodyn y National Federation of Women Workers o Sir Fynwy mae’n bosibl. Diolch i Pete Strong.