Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Margaret Irene John
Man geni: Pen-y-graig
Gwasanaeth: Gweinyddwraig, Uwcharolygyddes, Womens League
Nodiadau: Ymunoddd Margaret John, athrawes gwyddor tŷ yn sir Fynwy a fu’n hyfforddi yn Aberystwyth, Caerdydd a Llundain, â Lleng y Menywod yn 1916 yn un o’i chogyddion medrus. Ar ôl rhai misoedd yn Uwcharolygyddes yn Wiltshire anfonwyd hi i Ffrainc yn weinyddwraig ardal yn Hydref 1917.
Cyfeirnod: WaW0380
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ferch i Ustus Heddwch lleol, Margaret John, yn cael ei hanfon i wasanaethu yn Ffrainc. Rhondda Leader, 27ain Hydref 1917.
Cissie Cripps
Man geni: Aberhonddu
Gwasanaeth: Gwirfoddolwraig , Womens Volunteer Reserve Corps, 1915 - ?
Marwolaeth: 1956, Montreal, Canada, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Cissie yn yrwraig cyn y rhyfel, roedd ganddi ddau frawd yn gwasanaethu yn y fyddin, ac ymunodd â Chorfflu Wrth Gefn y Gwirfoddolwragedd yn Folkestone yn Awst 1915. Yn 1920 ymfudodd i Montreal, Canada, lle priododd hi George Elsdon Mears yn ddiweddarach. Roedd ganddynt dair merch. Diolch i Ian Sumpter.
Cyfeirnod: WaW0374
Cissie Cripps
Cissie Cripps o Aberhonddu, yn edrych yn ‘smart iawn’ yn ei gwisg swyddogol. Brecon County Times 12fed Awst 1915.
Nellie Prosser
Man geni: Govilon
Gwasanaeth: Prif oruchwylwraig, gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel, NFF Rotherwas
Nodiadau: Cyhuddwyd Nellie Prosser yn hydref 1919 o gael gafael ar £15.10s mewn tâl diweithdra yn anonest pan oedd hi yn gweithio fel morwyn i Mrs Solly-Flood [qv], gwraig adnabyddus yn y gymdeithas leol. Roedd wedi ei rhoi ar y clwt, gyda’r holl weithwyr eraill yn ffatri lenwi sieliau Rotherwas ar ddiwedd y rhyfel, ond wedi hawlio yng Nghyfnewidfa Waith y Fenni ei bod yn disgwyl i’r ffatri ailagor. Yn ôl Rheithor Gofilon, a oedd yn adnabod y teulu yn dda, roedd Nellie wedi ei dyrchafu’n brif oruchwylwraig y ffatri er ei bod yn dioddef o wenwyn TNT a ffitiau o’r herwydd. Roedd hefyd yn un o chwiorydd hŷn May Prosser [qv]. Dirwywyd Nellie Prosser i dalu £25, neu dri mis o lafur caled.
Cyfeirnod: WaW0382
Adroddiad papur newydd
Adroddiad o Lys Heddlu’r Fenni o achos yn erbyn Nellie Prosser. Abergavenny Chronicle 3ydd Hydref 1919.
May McIndoe
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel, NEF Pembrey / Pen-bre
Nodiadau: Daethpwyd â May McIndoe, 53 oed, gerbron y llys yn Awst 1918 am fod â thin wedi ei selio o faco yn ei meddiant i’w roi i ddyn. Gwrthodwyd yr achos, gan iddi gael ei dal yn mynd ag ef i’r ystafell fwyta, lle câi nwyddau o’r fath eu gadael. Roedd hyn o fewn y rheolau ynglŷn â deunyddiau ymfflamychol yn y ffatri gwneud arfau rhyfel.
Cyfeirnod: WaW0381
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am yr achos a fethodd yn erbyn May McIndoe. Cambrian Daily Leader 22ain Awst 1918
Margaret E Jones
Man geni: Preswylfa Porth Amlwch
Gwasanaeth: Swyddog Gweithredol, Amlwch Urban District Food Control Committee, 1917 - 1919
Nodiadau: Penodwyd Madge ar Bwyllgor Rheoli Bwyd Amlwch yn 1917. Ymddengsy i’r pwyllgor ddod i ben yng Ngorffennaf 1919. Enillowdd hi’r MBE yn Chwefror 1919.
Cyfeirnod: WaW0365
Margaret E Jones
Darlun o Madge Jones MBE, Rhan o Gasgliadau Gwaith Menywod yn yr Imperial War Museum.
Margaret E Jones (cefn)
Cefn llun Madge Jones, MBE. Rhan o Gasgliadau Gwaith Menywod yn yr Imperial War Museum.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Margaret Jones â’r MBE. North Wales Chronicle 7fed Chwefror 1919.
Mary Elizabeth Lewis
Man geni: Y Fenni
Gwasanaeth: Morwyn ward, VAD
Marwolaeth: 1923/04/06, Y Fenni, Achos anhysbys
Nodiadau: Ymunodd Mary Elizabeth Lewis â’r VAD yn 29 oed yn 1918. Gwasanaethodd yn forwyn ward yn Ffrainc, yn Ysbyty Awstralaidd Sutton Verney, ac yna yn Ffrainc eto am 6 mis, cyn iddi gael ei rhyddhau yn Ionawr 1920. Bu farw dair blynedd wedyn. Mae bathodyn Cymdeithas y Groes Goch Brydeinig ar ei charreg fedd yng nghladdfa’r Fenni.
Cyfeirnod: WaW0384
Carreg fedd
Carreg fedd Mary Elizabeth lewis yn dangos bathodyn y Groes Goch Brydeining a’r adysgrif ‘She served for two years in France during the Great War as a British Red Cross Nurse’. Diolch i Marian Senior ac ALHS.
Hilda Campbell Vaughan (Morgan)
Man geni: Llanfair ym Muallt
Gwasanaeth: Cogyddes, trefnydd amaethyddol, nofelydd, VAD, WLA, 1915 - 1919
Marwolaeth: 1985, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Hilda Vaughan yn 1892, yn ferch i gyfreithiwr adnabyddus yn siroedd Brycheiniog a Maesyfed. Yn gynnar yn ystod y Rhyfel ymunodd â’r VAD yn gogyddes yn Ysbyty’r Groes Goch yn Llanfair ym Muallt ond yn 1917 gadawodd i wneud gwaith ar y tir am dâl. Tra’r oedd yn gweithio yn y VAD, arweiniodd ymgais i drefnu llyfrgell rad yn y dref, agorodd hi yn Nhachwedd 1917. Roedd Hilda eisoes yn gysylltiedig ag annog menywod i weithio ar y tir, ac annog ffermwyr i’w derbyn. Ei swydd newydd oedd yn ysgrifenyddes trefnu Byddin y Tir yn siroedd Brycheiniog a Maesyfed. Ar ôl y Rhyfel symudodd Hilda i Lundain a phriodi’r nofelydd Charles Morgan. Dechreuodd hithau ysgrifennu. Dylanwadwyd ar ei gwaith yn fawr gan ei phrofiadau yn cwrdd â menywod o gefndiroedd gwahanol ym Myddin y Tir.
Ffynonellau: https://www.southwales.ac.uk/study/subjects/history/worldwarone/jayne-bowden/
Cyfeirnod: WaW0383
Adroddiad papur newydd
Rhan gyntaf adroddiad am y Llyfrgell newydd Rad yn Llanfair ym Muallt. Brecon County Times, 25ain Tachwedd 1915
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyfarfod yn yr awyr agored yn Aberhonddu, i roi cyhoeddusrwydd i fenywod a gwaith fferm. Brecon and Radnor Express 5ed Ebrill 1917
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyfarfod yn yr awyr agored yn Rhaeadr yn nodi ‘dull … dymunol a pherswadiol’ Miss Vaughan. Brecon and Radnor Express 31ain Mai 1917
Beatrice Elise Solly-Flood (née Hanbury, formerly Martin)
Man geni: Trefynwy ?
Gwasanaeth: Gwraig a gweddw filwrol, Pwyllgorwraig
Nodiadau: Roedd Elise Solly-Flood yn briod â’r swolegydd Lefftenant Charles Martin o’r Fenni, milwr wrth gefn a laddwyd ym mis Mai 1915. Ym Mehefin 1916 ailbriododd â’r Cadfridog Frigadydd Arthur Solly-Flood, milwr proffesiynol. Cefnogodd Elise yr holl elusennau a’r mudiadau lleol, gan gynnwys arolygu cadlanciau’r fyddin yn y Fenni. Yn groes i’r graen galwyd arni i roi tystiolaeth yn yr achos o dwyll yn erbyn Nellie Prosser [qv] a oedd yn frowyn gyflogedig iddi.
Cyfeirnod: WaW0385
Cyhoeddi priodas
Cyhoeddi priodas arfaethedig rhwng y Cadfridog Frigadydd Arthur Solly-Flood a Mrs Charles Martin. Abergavenny Chronicle 19eg Mai 1916.
Llythyr papur newydd
Llythyr oddi wrth Mrs Solly-Flood ynglŷn ag atgyfodi Cwmni Geidiau y Fenni. Abergavenny Chronicle 22ain Chwefror 1918
Ethel Dora Heins
Man geni: Aberhonddu
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915/09/11 - 1918/05/18
Nodiadau: Gwrifoddolodd Ethel Heins i ymuno â’r VADs yn gynnar yn y rhyfel, ac ar ôl ‘hyfforddiant arbennig’ cafodd ei hanfon i weithio yn y 19eg Ysbyty Milwrol Cyffredinol yn Alexandria yn yr Aifft, lle bu an flwyddyn. Yn ystod ei chyfnod yno cadwodd ddyddiadur sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awr. Ynddo mae’n disgrifio y daith allan yno, yn osgoi llongau’r Almaen, a’r clefydau a effeithiai ar lawer o staff yr Ysbyty. Ar ôl dychwelyd gweithiodd mewn ysbytai milwrol yn Lloegr.
Cyfeirnod: WaW0386
Cerdyn cofnod yr Groes Goch
Cerdyn cofnod y Groes Goch Ethel Heins. Roedd ei thad yn berchennog siop bianos a cherddor adnabyddus yn Aberhonddu
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cerdyn cofnod y Groes Goch Ethel Heins yn dangos iddi wasanaethu yn yr Aifft a Lloegr [cefn]
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am anfon Ethel Heins i wasanaethu i’r Aifft. Brecon County Times, 16eg Medi 1915
Dyddiadur
Tudalen o ddyddiadur Ethel Heins, Hydref 1915. Florence Smales o Whitby, Swydd Efrog, yw’r Miss Smales a nodir. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gwladys Jones
Man geni: Caerfyddin ?
Gwasanaeth: Nyrs, SWH
Nodiadau: Roedd Gwladys Jones yn nyrs broffesiynol a hyfforddodd ac a weithiodd yn Llundain, ac a weithiodd hefyd yn nyrs ysgol yn Abertawe. Gwirfoddolodd gydag Ysbytai Menywod yr Alban ac aeth i Serbia ym Medi 1915. Roedd ymysg y grŵp o nyrsys a gipiwyd gan yr Awstriaid yn Krushevatz. Llwyddodd i gael neges i’w mam trwy un o’r byrsys a ddihangodd fyddin Awstria trwy’r mynyddoedd. Cyrhaeddodd ei llythyr ar Ddydd Nadolig 1915. Roedd yn ffrindiau gyda Nora Tempest [qv].
Cyfeirnod: WaW0387
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar gipio Gwladys Jones a’i chydweithwyr yn Serbia. Haverfordwest and Milford Haven Telegraph 19eg Ionawr 1916.