Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Elisabeth De Saedeleer
Man geni: Sint-Martens-Latem, Gwlad Belg
Gwasanaeth: Artist Tecstiliau, arlunwraig
Marwolaeth: 1972, Gwlad Belg, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Elisabeth yn 1902, a hi oedd yr ail o bum merch yr arlunydd o Wlad Belg, Valerius de Saedeleer. Roedd ymhlith grŵp o artistiaid a gefnogwyd gan Gwendoline a Margaret Davies [qv] i ddod i Gymru yn ffoaduriaid yn 1914. Ymsefydlodd y teulu yn Aberystwyth, ac roedd ganddynt gysylltiadau cryfion â Choleg Prifysgol Aberystwyth. Ymddiddorodd Elisabeth a’i chwaer hŷn Marie mewn gwehyddu a thapestrïau (yn sgil cyfarfod â merch William Morris, May); bu’r ddwy yn addysgu yn adran Gelf a Chrefft newydd y coleg, gyda’u tad. Wedi dychwelyd i Wlad Belg yn 1921, daeth Elisabeth yn gynllunydd a gwehydd nodedig am ei thecstiliau a’i thapestrïau. Dechreuodd weithdy, yn ogystal ag ysgrifennu nifer o lyfrau ar grefft ac ymgymerodd â llawer o gomisiynau cyhoeddus.
Ffynonellau: https://digitalcommons.unl.edu/cgi/viewcontent.cgi?article=1177&context=tsaconf\r\nhttps://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/informationservices/pdf/specialcollections/the-davies-family-and-belgian-refugee-artists-and-musicians-in-wales.pdf\r\nArt in Exile: Flanders, Wales and the First World War. 2002\r\n
Cyfeirnod: WaW0331
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am arddangosfa godi arian i adeilad undeb y myfyrwyr, cofeb i feirwon y rhyfel o Goleg Prifysgol Aberystwyth. Cambrian News 25ain Ebrill 1919
Margaret Sidney Davies
Man geni: Llandinam
Gwasanaeth: Casglwraig, dyngarwraig, a gweithwraig mewn cantîn , French Red Cross, 1917 - 1919
Marwolaeth: 1963, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Margaret yn 1884 a hi oedd chwaer iau Gwendoline [qv] ac wyres David Davies y perchennog glo ac adeiladydd Dociau’r Barri. Derbyniodd hi, a’i chwaer Margaret[qv] a’i brawd David ill tri un rhan o dair o ffortiwn enfawr eu tad pan fu farw yn 1898. Roedd y tri ohonynt yn Fethodistiaid Calfinaidd cryf ac ynddynt elfen gref o ddyngarwch. Dechreuodd y ddwy chwaer deithio yn eang, ac i astudio celf yn Ewrop. Yn eu hugeiniau cynnar roeddent yn dechrau ffurfio’r casgliad sydd bellach yn Amgueddfa Cymru. Ym Mawrth 1913 arddangoswyd y casgliad, yn ddienw, yng Nghaerdydd; a thalodd y chwiorydd yr holl gostau. Denodd 26,000 o ymwelwyr. Ar ddechrau’r rhyfel hyrwyddodd y chwiorydd gynllun i wahodd artistiaid a cherddordion o Wlad Belg i ddod i Gymru, gan eu sefydlu yn Aberystwyth a Llandiloes. Yn 1917 ymunodd Margaret â Gwendoline yn y Cantine des Dames Anglais, a oedd bellach yng ngorsaf drên Troyes. Yn ei dyddiadaur ysgrifenna taw prif fendith cantîn oedd tap dŵr a gramaffôn. Mae’r cyntaf yn gwneud bywyd yn bosibl ei ddioddef a’r llall yn gwneud bywyd yn bosibl ei ddioddef i’r poilu (milwr ym myddin Ffrainc). Am gyfnod symudwyd hi a Gwendoline i wersyll Americanaidd yn nes i’r ffrynt, roedd ganddynt brofiad o gyrchoedd awyr a lladdwyd dau o’u cydweithwyr gan fomiau. Yn ystod gaeaf 1918-1919 gweithiodd am dri mis mewn cantîn wedi ei redeg gan y Eglwysi Albanaidd yn Rouen cyn dychwelyd i Gymru. Yn ddiweddarach cynorthwyodd Margaret i sefydlu’r ganolfan i’r celfyddydau yng Ngregynog. Parhaodd i gasglu lluniau, gan artisitiaid Prydeinig modern yn bennaf, tan yr 1950au. Rhoddodd ei chasgliad, fel un ei chwaer, yn rhodd i Amgueddfa Cymru
Ffynonellau: Oliver Fairclough [ed] Things of Beauty: What two sisters did for Wales. National Museum Wales 2007. Trevor Fishlock A Gift of Sunlight. Gomer 2014\r\nhttps://museum.wales/articles/2007-07-29/The-Davies-Sisters-during-the-First-World-War/
Cyfeirnod: WaW0334
Marjorie Wagstaff
Man geni: Casnewydd ?
Gwasanaeth: ‘Eillwraig’ , VAD ?
Nodiadau: Roedd Marjorie Wagstaff yn wirfoddolwraig o Gasnewydd a fyddai’n mynd i mewn i Adran Casnewydd o 3edd Ysbyty Milwrol Cyffredinol y Gorllewin ddwywaith yr wythnos i eillio’r cleifion. Erbyn diwedd y rhyfel roedd wedi perfformio dros 2000 o eilliadau. Gwelwyd ei llun yn y Daily Mirror ac yn the South Wales Argus
Cyfeirnod: WaW0336
Dilys Herbert
Man geni: Rhydaman
Gwasanaeth: Gwrifoddolwraig / Gyrrwr Ambiwlans, Womens Legion
Nodiadau: Roedd Dilys yn un o aelodau Gyrrwyr Modur Lleng y Menywod a arolygwyd gan y Frenhines ym Mhalas Buckingham ym mis Mawrth 1918. Roedd wedi bod yn gwneud gwaith gwirfoddol gydol y rhyfel, gan gynnwys rhifo personau rhwng 15 a 65 oed ar gyfer y Gofrestr Genedlaethol yn Awst 1915.
Cyfeirnod: WaW0340
Adroddiad papur newydd
rnArolygwyd gan y Frenhines ym Mhalas Buckingham ym mis Mawrth 1918. Cambria Daily Leader 21st March 1918
Erthygl papur newydd
Erthygl yn enwi Dilys Herbert yn rhifwraig wirfoddol.rnHerald and Monmouthshire Recorder 7fed Awst 1915. rn
Mary Ellen Small
Man geni: Abercreg[g]an
Gwasanaeth: Gweinyddes, Womens Legion
Nodiadau: Esgorodd Mary Ellen Small ar fachgen bach yn Ebrill 1918. Roedd y tad, William Speake, a wadai hynny, yn gorporal yn y Gatrawd Gymreig, ac yn gyn-lowr o Drealaw. Cwrddon nhw pan oedd yn hyfforddi yng Ngwersyll Cinmel, Bodelwyddan, lle gweithiai yn weinyddes. Gorchmynnwyd iddo dalu 5 swllt yr wythnos nes roedd y bachgen yn 14 oed.
Cyfeirnod: WaW0341
Elizabeth Anne Montgomery Wilson
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: Nyrs (Prif Fetron), TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Bu Elizabeth Montgomery Wilson yn gwasanaethu yn Rhyfel y Boer, yn uwcharolygydd Gwasanaeth Nyrsio Byddin Gristnogol y Dywysoges. Roedd hi’n Fetron Ysbyty Infirmary Caerdydd eisoes, ac yn Brif Fetron pan ddaeth yr ysbyty yn 3ydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin yn 1914. Dychwelodd i swydd metron ar ddiwedd y rhyfel.
Cyfeirnod: WaW0339
Elizabeth Montgomery Wilson
Elizabeth Montgomery Wilson yn narlun Margaret Lindsay Williams o 3ydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin. Mae hi ar y chwith.
London Gazette
Gwobr o far i’r Groes Goch Frenhinol a gyhoeddwyd yn y London Gazette. Roedd Elizabeth Montgomery Wilson eisoes wedi derbyn yr anrhydedd hwn yn gynt yn y rhyfel. London Gazette13th January 1920
Margaret Lindsay
Man geni: Anhysbys
Gwasanaeth: Ysgrifenyddes SSFA
Nodiadau: Llwyddodd Margaret, merch Ficer Tonna, i rwystro twyll yn achos y Gymdeithas ar gyfer teuluoedd milwyr a morwyr (SSFA). Wedi iddi gael ei thwyllo i roi £1 i bâr priod, yr Israeliaid, neidiodd ar feic a’u hymlid. Cafodd yr arian yn ôl, dim ond 6c roeddent wedi ei wario ar lemonêd a bisgedi. Cyhuddwyd yr Israeliaid o dwyll a’u dedfrydu i dri mis o lafur caled.
Cyfeirnod: WaW0337
Margaret Lindsay Williams
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Artist
Nodiadau: Cafodd Margaret Lindsay Williams ei hyfforddi yng Nghaerdydd a Llundain a bu’n lobïo i fod yn artist rhyfel swyddogol i’r Adran Gymreig yn Ffrainc. Ni chaniatawyd hynny, a bu’n aflwyddiannus hefyd pan geisiodd gael gwaith gyda’r Adran Ddiwydiant. Fodd bynnag cysegrodd ei hamser i godi arian i’r Ysbyty Cymreig yn Netley trwy nifer o arddangosfeydd. At hyn acomisiynwyd nifer o weithiau mawr ganddi. Yn eu plith roedd Cardiff Royal Infirmary during the Great War a beintiwyd yn 1916, darlun enfawr (20X16 troedfedd) o’r Gwasanaeth Cenedlaethol Cymreig a gynhaliwyd yn Abaty Westminter ym Mehefin 1918 i gefnogi Cronfa Ryfel Carcharorion Cymreig
Ffynonellau: Margaret Lindsay Williams, 1888 – 1960: Wedded to her Art. Angela Gaffney. University of Wales 1999. https://artuk.org/discover/artists/williams-margaret-lindsay-18881960
Cyfeirnod: WaW0338
Cardiff Royal Infirmary during the Great War, 1916
Caption [Cy] Elizabeth Montgomery Wilson yw’r fenyw ar y chwith ‘[qv] Gwasanaeth Nyrsio’[r Fyddin Diriogaethol, Prif fetron 3ydd Ysbyty’r Gorllewin Y fenyw arall yw’r Chwaer Mary Jones [qv] hithau yng Ngwasanaeth Nyrsio’r Fyddin Diriogaethol.
Alice Lidster
Man geni: Pont-y-pŵl
Gwasanaeth: Gorsaf-feistres, Great Western and Rhymney Railway
Nodiadau: Penodwyd Alice, a oedd yn ferch i Brif Arolygydd gyda’r GWR, yn ‘orsaf-feistres’ Arosfa Troedyrhiw yn Ebrill 1915, y penodiad cyntaf o’i fath, mae’n debyg, yng Nghymru. Ymddengys ei bod yn nyrs wedi ei hyfforddi.
Ffynonellau: httpsfriendsofsaron.wordpress.comtagtroedyrhiw-halt
Cyfeirnod: WaW0342
Adriddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Alice Lidster yn ‘orsaf-feistres’ Cambria Daily Leader 20fed Ebrill 1915
Aroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Alice Lidster yn ‘orsaf-feistres’. Pioneer 24ain Ebrill 1915
Elizabeth Roberts
Man geni: Sir Ddinbych ?
Gwasanaeth: Golchwraig, 1918 - 1919
Nodiadau: Er nad oedd yn aelod o’r Groes Goch, gweithiai Elizabeth un diwrnod am ddim, yn ogystal â 3 neu 4 am dâl, yn golchi dillad ar gyfer yr ysbyty Croes Goch atodol, lle roedd 36 gwely, yn Y Waun. ‘Roedd y gwaith yn drwm iawn’
Cyfeirnod: WaW0349