Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Gweneth Kate Moy Evans
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Clerc, Sandycroft, NEF Queensferry, 1916 - 1918
Nodiadau: Penodwyd Gweneth yn glerc yn y Ganolfan Waith ynghlwm wrth Ffatri Ffrwydron Genedlaethol, Y Fferi Isaf, heb sefyll arholiad arferol y Gwasanaeth Sifil. Cyn hynny roedd wedi gweithio yn y Ganolfan Waith yng Nghastell-nedd. Gwobrwywyd hi â’r MBE ym Mehefin 1918.
Cyfeirnod: WaW0366
Edinburgh Gazette
Adroddiad am benodi Gweneth Moy Evans yn glerc, The Edinburgh Gazette, Medi 12, 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Gweneth Moy Evans â’r MBE. Amman Valley Chronicle 13eg Mehefin 1918.
Edinburgh Gazette
Cyhoeddiad am wobrwyo Gweneth Moy Evans â’r MBE. The Edinburgh Gazette Mehefin 19eg 1918.
Gladys May Snell
Man geni: Tregatwg, Y Barri
Nodiadau: Arestiwyd Gladys Snell ar 7fed Mai 1919 am fabanladdiad ei mab siawns 21 mis oed Ieuan Ralph. Roedd wedi cael ei foddi. Anfonwyd hi o’r llys ynadon i’r Brawdlys yn Abertawe. Ni allai’r rheithgor yno gytuno, ac felly ymddangosodd gerbron Brawdlys Tachwedd, lle cafwyd Gladys, a oedd yn 19 oed yn euog o ddyn-laddiad yn hytrach na llofruddiaeth. Dedfrydwyd hi i garchar am naw mis. Cyfrannodd nifer o ewyllyswyr da ar draws de Cymru, gan gynnwys y Sgowtiaid, at gronfa i dalu am ei hamddiffyniad. Gwelir y stori ar ei hyd ar dudalen flaen y Cambrian Daily News, 25ain Gorffennaf 1919.
Cyfeirnod: WaW0364
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am arestio Gladys May Snell am fabanladdiad Barry Dock News 9fed Mai 1919.
Llythyr papur newydd
Llythyr yn apelio am gronfa i amddiffyn Gladys Snell. Barry Dock News 16eg Mai 1919.
Cyfrifon y gronfa amddiffyn
Rhoddion i gronfa amddiffyn Gladys May Snell, Barry Dock News 27ain Mehefin.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am fethiant y y rheithgor i gytuno ar ddedfryd. Cambria Daily leader 26ain Gorffennaf 1919.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am ddedfryd y rheithgor o ddynladdiad. Barry Dock News 7fed Tachwedd 1919.
Elsie E Williams
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel, Not known / anhysbys
Nodiadau: Honnodd Elsie Williams i fforman ei cham-drin yn rhywiol ar dren yn yr un ffatri arfau, ac iddi feichiogi. Cytunodd Llys yn Abertawe mai ef oedd tad ei phlentyn.
Cyfeirnod: WaW0368
Adroddiad papur newydd
Adroddiad yn profi tadolaeth baban Elsie Williams. Herald of Wales 22 ain Rhagfyr 1917.
Ada May King
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: TVR
Nodiadau: Rhegodd rhyw Alfred Collins ar Ada, porthor rheilffordd, a’i tharo yn ei mynwes, yng ngorsaf Aberdâr. Roedd e’n ceisio osgoi talu am docyn (eto).
Cyfeirnod: WaW0372
Alys Bertie Perkins (née Sandbrook)
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Penswyddog a Phwyllgorwraig, British Red Cross
Nodiadau: Roedd Alys Bertie Perkins yn Benswyddog ac Ysgrifennydd Cymdeithas y Groes Goch Abertawe, ac yn benswyddog yng ngofal recriwtio ar draws sir Forgannwg. Erbyn yn gynnar yn 1918 nodid mai yn Abertawe yr oedd y nifer mwyaf o welyau Croes Goch ledled de Cymru. Gwobrwywyd hi â’r OBE yn Ionawr 1918, a disgrifir hi yn y Cambria Daily Leader fel gweithwraig a threfnydd frwdfrydig a phoblogaidd y Groes Goch yn Sgeti.
Cyfeirnod: WaW0369
Alys Bertie Perkins
Llun o Alys Bertie Perkins OBE, rhan o Gasgliadau Menywod mewn Gwaith yr Imperial War Museum. rn
Hysbyseb papur newydd
Hysbyseb ar gyfer cwrs Croes Goch mewn Cymorth Cyntaf a nyrsio. Cambria Daily Leader 22ain Chwefror, 1916.
Edinburgh Gazette
Atodiad i’r Edinburgh Gazette, yn cynnwys gwobrwyo Alys Bertie Perkins â’r OBE, Ionawr 9fed 1918.
E M Jenkins
Man geni: Glynrhedynog
Gwasanaeth: Optegydd offthalmig
Nodiadau: Cymhwysodd Miss E M Jenkins yn optegydd offthalmig yn Rhagfyr 1914. Mae’n debyg fod hyn yn rhoi iddi ryddid Dinas Llundain
Cyfeirnod: WaW0371
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gymhwyso Miss E M Jenkins yn Optegydd offthalmig. Carmarthen Journal 1af Ionawr 1915.
Ethel Clara Basil Jayne
Man geni: Llanelli
Gwasanaeth: Menyw fusnes, perchennog golchdy, swyddog lles ffatri arfau, ymgynghorydd y llywodraeth
Marwolaeth: 1940, St Albans, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Ethel Jayne yn 1874, yn ferch i berchennog Cwmni Glo a Haearn Brynmawr cyf. Hyfforddodd mewn gwaith golchdy a chychwynnodd ei chwmni golchdy stêm ei hun, Little Laundries Ltd, yn Harrow tua 1906. Ar ddechrau’r Rhyfel ymunodd ag Adfyddin Wirfoddol y Menywod a gweithiodd hefyd yn trefnu cantinau i’r Groes Goch Ffrengig. Yn 1916 penodwyd hi yn brif swyddog lles cwmni arfau rhyfel Armstrong Whitworth, gyda chyfrifoldeb dros fwy nag 20,000 o fenywod cyflogedig yng ngogledd Lloegr a Glasgow. Ymhlith y datblygiadau newydd a wnaeth roedd golchdai stem. Yn 1919 cyflwynodd dystiolaeth ar les i’r Pwyllgor Seneddol ar Fenywod mewn Diwydiant. Roedd ymhlith y gyntaf i ennill OBE yn Awst 1917. Ar ôl iddi farw claddwyd ei llwch ym medd y teulu yn Llanelli.
Ffynonellau: https://doi.org/10.1093/odnb/9780198614128.013.111297
Cyfeirnod: WaW0370
Ethel Basil Jayne 1907
Ethel Basil Jayne yn gyrru i un o’i golchdai cynnar mewn poni a thrap. Dyma’i hoff ddull o deithio, fe ymddengys.
Sarah Ann Harry (née Rees)
Man geni: Clydach, Cwmtawe
Gwasanaeth: Clerc signalau , 1917-Tachwedd 1918 / 1917 - No
Marwolaeth: 1964, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Sarah Rees yn 1890 a bu’n gweithio yn delegraffydd yn Abertawe cyn ymuno â’r WAAC yn 1917. Bu’n gwasanaethu yn signalydd yn Ffrainc. Tra yno priododd ei dyweddi, Evan John Harry, a oedd yn gwasanaethu gyda Chorfflu’r Ambiwlans Maes. Cyn y rhyfel roedd e’n Brifathro Ysgol Gyngor Ynystawe. Cerddodd i mewn i’r caffe lle roedd hi gyda’i ffrindiau a gofyn iddi ei briodi yn y fan a’r lle. Cynhaliwyd y briodas mewn eglwys fechan yn Étaples. Ar ôl priodi bu’n rhaid i Sarah Harry ymddiswyddo o’r WAAC. Diolch yn fawr i Nia Richards.
Cyfeirnod: WaW0376
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am briodas Sarah ann Harry a’i dychweliad o Ffrainc. Llais Llafur 23 Tachwedd 1918.
Sarah Ann Rees
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Cogyddes Gynorthwyol, WAAC, Ionawr - Mawrth 1918 / January
Nodiadau: Ymgeisiodd Ann Rees i ymuno â’r WAAC fel morwyn cegin: ar y pryd roedd yn gweithio yn pacio blawd yn Star Mills, Casnewydd. Yn rhyfedd, er mai fel aelod o’r Eglwys yng Nghymru y cofnodir ei chrefydd, cafodd ei geirda gan y Tad Hickey, offeiriad yn Eglwys y Santes Fair, Stow Hill, a’r Chwaer Agnes o Gwfaint Sant Joseph, a mynychodd ysgol Holy Cross. Ymddengys iddi ymuno â’r WAAC heb roi gwybod na chael cefnogaeth ei rhieni yn gynnar yn 1918: yn dilyn gohebiaeth rhyngddi hi a’i mam, cafodd Ann ei rhyddhau am reswm tosturiol ar 14eg Mawrth 1918.
Cyfeirnod: WaW0379
Llythyr
Llythyr oddi wrth Mrs Bridget Rees, mam Ann, yn egluro pam fod ei hangen gartref [1] yr Archif Genedlaethol
Llythyr
Llythyr oddi wrth Mrs Bridget Rees, mam Ann, yn egluro pam fod ei hangen gartref [2] yr Archif Genedlaethol.
Llythyr
Llythyr oddi wrth Mrs Bridget Rees, mam Ann, yn egluro pam fod ei hangen gartref [3] yr Archif Genedlaethol
Thurza Dunn
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel a chwaraewraig rygbi
Nodiadau: Gweithiai Thurza Dunn yn un o’r ffatrïoedd arfau rhyfel yng Nghasnewydd. Roedd hi’n chwarae rygbi dros dîm y ffatri hefyd. Câi’r gemau hyn eu chwarae i godi arian tuag at yr ymdrech ryfel. Diolch i Ann Davison.
Cyfeirnod: WaW0377
Thurza Dunn
Thurza Dunn a’i chyd-chwaraewyr. Mae Thurza yn y rhes flaen, yn ail o’r chwith. Diolch i Ann Davison.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gêm rygbi elusennol a chwaraewyd ym Mharc Jenner, y Barri, rhwng dau dîm o weithwyr mewn ffatrïoedd arfau rhyfel. Roedd y Barri yn codi arian am long danfor: rhagorwyd ar y targed o £10,000! Barry Dock News 15fed Mawrth 1918.