English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r casgliad


Trefnwyd yn ôl galwedigaeth

Phyllis Violet McKie

Man geni: Bangor

Gwasanaeth: Gwyddonydd, Ymchwilydd Cemegol

Nodiadau: Ganwyd Phyllis yng Ngorffennaf 1893, yn ferch i glerc yn Chwarel y Penrhyn. Aeth i Goleg Prifysgol Bangor yn 1912, ac enillodd radd Meistr yn y Gwyddorau, yn ogystal â Baglor yn y Gwyddorau yn 1916, i gydnabod ei gwaith gyda’r rhyfel. Datblygodd hi ddull newydd o gynhyrchu’r cemegyn tetranitromethane ffrwydrol yn ogystal â dulliau o wneud sacarin a fanila ffug. Aeth yn ei blaen i gael gyrfa ddisglair mewn sawl Prifysgol.

Ffynonellau: Chemistry Was Their Life: Pioneer British Women Chemists 1880 – 1949. Marelene Rayner-Canham & Geoff Rayner-Canham Imperial College Press 2008

Cyfeirnod: WaW0233

Phyllis Mckie yn ei gwisg fel doethur, paentiwyd gan Patrick Phillips, 1957.

Dr Phyllis Mckie

Phyllis Mckie yn ei gwisg fel doethur, paentiwyd gan Patrick Phillips, 1957.


Dorothi James (Robertson)

Man geni: Abertawe ?

Gwasanaeth: Gyrrwr, 1915 – 17 ?

Nodiadau: Roedd Dorothi yn ferch athletaidd iawn a dysgodd yrru yn gynnar yn ystod y Rhyfel. Yn 1916 hi oedd gyrwraig Lloyd George; roedd e’n Weinidog Arfau ar y pryd. Yn 1917 priododd Lefftenant Frederick Robertson. Anafawyd Fred yn ddifrifol yn y rhyfel ac achubwyd ei fywyd gan lawfeddyg o Ganada a’r arloeswr trallwysiad gwaed Bruce Robinson. Daeth ef yn dad bedydd i’w mab yn 1922.

Cyfeirnod: WaW0288

Adroddiad am waith Dorothi yn yrrwr i Lloyd George. Cambria Daily Leader 9fed Mawrth 1916.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am waith Dorothi yn yrrwr i Lloyd George. Cambria Daily Leader 9fed Mawrth 1916.

Rhybudd o briodas rhwng Dorothi James a Lt Fredercik Robertson. Cambria Daily Leader 9fed Mawrth 1916.

Rhybudd priodas

Rhybudd o briodas rhwng Dorothi James a Lt Fredercik Robertson. Cambria Daily Leader 9fed Mawrth 1916.


Llythyr oddi wrth Dorothi yn gofyn i Dr Robertson fod yn dad bedydd i’w mab. Gorffennaf 21ain 1922. Trwy garedigrwydd Archifau Ontario

Lythyr

Llythyr oddi wrth Dorothi yn gofyn i Dr Robertson fod yn dad bedydd i’w mab. Gorffennaf 21ain 1922. Trwy garedigrwydd Archifau Ontario


Frances Mary Dulcie Llewellyn-Jones

Man geni: Llandow

Gwasanaeth: Gyrwraig, WRAF, 1918:11:13

Marwolaeth: Ysbyty Milwrol Mexborough, Yorkshire, Influenza / Y Ffliw?

Cofeb: Nghladdfa Christchurch, , Casnewydd, Sir Fynwy

Nodiadau: 22 mlwydd oed. Merch y Parch. David Ernest Llewellyn-Jones a Frances Eliza Sophia o Ficerdy Maendy, Casnewydd.

Cyfeirnod: WaW0093

Bedd Dulcie Llewellyn-Jones, Claddfa Christchurch, Casnewydd

Bedd Dulcie Llewellyn-Jones

Bedd Dulcie Llewellyn-Jones, Claddfa Christchurch, Casnewydd

Cofnod o wasanaeth Frances Llewellyn-Jones

Gwasanaeth Frances Llewellyn-Jones

Cofnod o wasanaeth Frances Llewellyn-Jones


Adroddiad papur newydd am farwolaeth Frances Llewellyn Jones

Adroddiad papur newydd

Adroddiad papur newydd am farwolaeth Frances Llewellyn Jones

Enw Dulcie Llewellyn-Jones ar Restr Anrhydedd Casnewydd

Rhestr Anrhydedd Casnewydd

Enw Dulcie Llewellyn-Jones ar Restr Anrhydedd Casnewydd


Elsie Agnes Courtis

Man geni: Llandaf, 1894

Gwasanaeth: Gyrwraig , FANY, 1914 - 1918

Nodiadau: Ar gyfer ‘dyletswyddau cegin a nyrsio’ yr arwyddodd Elsie yn wreiddiol, ond yn ddiweddarach bu’n gyrru ambiwlans. Gwobrwywyd hi â Medal Filwrol yn 1917 ‘am ei dewrder yn achub milwyr clwyfedig yn ystod y brwydro yn Ffrainc’.

Cyfeirnod: WaW0129

Ffotograff o fenywod, gan gynnwys Elsie Courtis, a wobrwywyd â’r Fedal Filwrol, 1918

Menywod a wobrwywyd â Medal Filwrol

Ffotograff o fenywod, gan gynnwys Elsie Courtis, a wobrwywyd â’r Fedal Filwrol, 1918

Gwobr Medal Filwrol Elsie Courtis a gofnodwyd yn y London Gazette, 26ain Mehefin 1918

London Gazette, 26ain Mehefin 1918

Gwobr Medal Filwrol Elsie Courtis a gofnodwyd yn y London Gazette, 26ain Mehefin 1918


Un o gardiau cofnod VAD Elsie Courtis

Cerdyn cofnod VAD

Un o gardiau cofnod VAD Elsie Courtis


Esther Davies

Man geni: Abertawe ?

Gwasanaeth: Gyrwraig

Marwolaeth: 1919/09/22, Tre-gŵyr, Septicaemia / Gwenwyn gwaed

Nodiadau: Bu farw Esther Davies, tua 30 oed, o gymhlethdodau yn dilyn erthyliad. Cyhuddwyd bydwraig o Abertawe, Mary Lavinia Bowen [qv] o’i llofruddio, gan ei chyhuddo o fod wedi defnyddio offeryn i wneud erthyliad. Ymddengys bod Esther Davies ‘menyw ddeniadol yr olwg’ wedi byw bywyd digon amheus yn gyrru ar gyfer y gwasanaeth gwneud Arfau Rhyfel tra bod ei gŵr yn y fyddin. Disgrifiwyd ei ‘ffrindiau gwrywaidd boneddig’ a’i hymweliadau â Birmingham gyda menyw arall, Nyrs Poulson, yng ngwasg Abertawe. Cafwyd Mrs Beynon, gwraig i Arolygydd gyda’r Heddlu, yn ddieuog.

Cyfeirnod: WaW0302

Cambria Daily Leader 1af Mehefin 1917

Adroddiad papur newydd

Cambria Daily Leader 1af Mehefin 1917

Ffotograff o Mrs Esther Davies, South Wales Daily Post 13eg Medi 1919

Ffotograff y wasg

Ffotograff o Mrs Esther Davies, South Wales Daily Post 13eg Medi 1919


Adroddiad am wrandawiad llys cyntaf achos Esther Davies. South Wales Weekly Post 16eg Awst 1919.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am wrandawiad llys cyntaf achos Esther Davies. South Wales Weekly Post 16eg Awst 1919.

Adroddiad am y ddedfryd achos llofruddiaeth Esther Davies. South Wales Weekly Post, 8fed Tachwedd 1919.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am y ddedfryd achos llofruddiaeth Esther Davies. South Wales Weekly Post, 8fed Tachwedd 1919.


Ella Jane Vincentia MacLaverty

Man geni: Llangatwg Feibion Afel

Gwasanaeth: Gyrwraig, FANY, Red Cross, 1914 ? - 1919

Nodiadau: Ganwyd Ella MacLaverty yn 1880, yn ieuengaf o blant ficer cyfoethog o Langatwg ger Trefynwy. Efallai iddi ymuno â’r Groes Goch yn yrwraig yn 1914; roedd hi’n bendant yn Aelod o Iwmyn Nyrsio Cymorth Cyntaf erbynGorffennaf 1918, ac efallai iddi fod yn rhan o gonfoi St Omer pan ymwelodd George V â meysydd y gad. Yn ddiweddar yn ystod y rhyfel ac ar ôl y Cadoediad bu’n gweithio yn gyrru’r rhai oedd yn clrio bomiau heb ffrwydro yn Hazebrouck a Poperinge.

Ffynonellau: https://tochcentenary.wordpress.com/2020/01/05/the-women-who-knew-talbot-house/?fbclid=IwAR3pjQb2iBRWs1CH1vjyMJC9ek1RiF5eCHWPM6HfXW2FK3BuGVzRfwe-vCk

Cyfeirnod: WaW0414

Cerdyn cofnod ar gyfer Ella MacLaverty.

Cerdyn cofnod yr Groes Goch

Cerdyn cofnod ar gyfer Ella MacLaverty.

Cerdyn cofnod ar gyfer Ella MacLaverty (cefn)

Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]

Cerdyn cofnod ar gyfer Ella MacLaverty (cefn)


Slip Cymunwr ar gyfer Talbot House, canolfan eglwysig Toc H yn Poperigne, Fflandrys.

Slip Cymunwr

Slip Cymunwr ar gyfer Talbot House, canolfan eglwysig Toc H yn Poperigne, Fflandrys.


Caroline Emily Booker (née Lindsay)

Man geni: Glanafon, Sir Forgannwg

Gwasanaeth: Is-lywydd , VAD, 1909-1919

Nodiadau: Daeth Mrs Booker yn weddw yn 1887. Hi oedd sylfaenydd mintai leol Morgannwg o’r VAD (22) yn 1909. Ymddengys iddi symbylu defnyddio Tuscar House, Southerndown, yn Ysbyty’r Groes Goch ym mis Mai 1915, a bu’r rhan fwyaf o’i 7 merch yn chwarae rhan o bwys neu un fechan yn rhedeg yr Ysbyty. [qv Etta,Ellen, Mabel, Ethel and Dulcie Booker]. Darparodd Mrs Booker gar a phetrol i gludo cleifion i ac o orsaf Penybont 5 milltir i ffwrdd.

Cyfeirnod: WaW0470

Cofnod am Mrs Booker yn  The County Families of the United Kingdom, Edward Walford (yr argraffiad hwn, tua 1920)

Cofnod am Caroline Booker

Cofnod am Mrs Booker yn The County Families of the United Kingdom, Edward Walford (yr argraffiad hwn, tua 1920)

Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Caroline Emily Booker

Cerdyn Cofnod y Groes Goch

Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Caroline Emily Booker


Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Caroline Booker yn dangos ei gweithgaredd ar ran VAD.

Cerdyn Cofnod y Groes Goch (cefn)

Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Caroline Booker yn dangos ei gweithgaredd ar ran VAD.

Ysbyty’r Groes Goch Tuscar House Southerndown. Defnyddiwyd y tŷ’n ysbyty yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd.

Tuscar House

Ysbyty’r Groes Goch Tuscar House Southerndown. Defnyddiwyd y tŷ’n ysbyty yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd.


Gretta Davies

Man geni: Sili, Bro Morgannwg

Gwasanaeth: Llaethferch

Nodiadau: Erbyn cyfrifiad 1911 trigai Gretta a oedd yn 13 oed, ar fferm y teulu yn Llansbyddid ger Aberhonddu. Yn dilyn cwrs gwaith llaethdy yn Aberhonddu ddechrau haf 1917, enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Llaethdy Coleg y Brifysgol Aberystwyth. Fodd bynnag ymddengys bod Gretta wedi cymryd swydd athrawes yn ysgol newydd gydweithredol gwneud caws yng Ngwynfe, sir Gaerfyrddin yng Ngorffennaf 1919.

Cyfeirnod: WaW0453

Gretta a’i theulu a chymdogion yn perfformio mewn sgets ddoniol mewn cyngerdd yn Libanus, sir frycheiniog. Brecon Radnor Express 18 Ebrill 1918.

Adroddiad papur newydd

Gretta a’i theulu a chymdogion yn perfformio mewn sgets ddoniol mewn cyngerdd yn Libanus, sir frycheiniog. Brecon Radnor Express 18 Ebrill 1918.

Adroddiad am ganlyniadau Gretta yn ysgol llaethdy Aberhonddu Brecon Radnor Express 24 Ionawr 1918

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am ganlyniadau Gretta yn ysgol llaethdy Aberhonddu Brecon Radnor Express 24 Ionawr 1918


Adroddiad am ysgoloriaeth Gretta i astudio am ddiploma mewn Llaethyddiaeth. Brecon County Times 30 Ionawr 1919.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am ysgoloriaeth Gretta i astudio am ddiploma mewn Llaethyddiaeth. Brecon County Times 30 Ionawr 1919.

Adroddiad am benodi Gretta yn athrawes mewn gwneud caws. Carmarthen Journal 18 Gorffennaf 1919.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am benodi Gretta yn athrawes mewn gwneud caws. Carmarthen Journal 18 Gorffennaf 1919.


Jane Charlotte Stapleton Cotton (née Methuen)

Gwasanaeth: Llywydd Sefydliad y Merched

Nodiadau: Roedd Jane Stapleton yn wraig i’r Cyrnol Richard Stapleton Cotton, tirfeddiannwr a hyrwyddwr brwd gwelliannau amaethyddol a chymdeithasol. Ef gyflwynodd y syniad o ffurfio Sefydliad y Merched yn Llanfairpwll, sir Fôn, wedi iddo gwrdd â Mrs Margaret Watt o Ganada, a fu’n ymwneud â Sefydliad y Merched yng Nghanada. Agorodd y Sefydliad cyntaf ym Mehefin 1915, gyda Jane Stapleton yn Llywydd. Y Cyrnol Stapleton Cotton yn sicr oedd yn pennu’r rhaglen; fe a’i gi Tinker yw’r unig ddau wryw i fod yn aelodau llawn o SyM.

Ffynonellau: http://www.bbc.co.uk/programmes/p01sdvv0; www.afwi.org.uk/the-first-wi-in-britain.html

Cyfeirnod: WaW0241

Mrs Stapleton Llywydd cyntaf SyM Llanfairpwll

Mrs Jane Stapleton Cotton

Mrs Stapleton Llywydd cyntaf SyM Llanfairpwll

Y Cyrnol Stapleton Cotton a’i gi Tinker oedd yr unig ddau wryw i fod yn aelodau llawn o SyM erioed.

Y Cyrnol Stapleton Cotton a’i gi Tinker

Y Cyrnol Stapleton Cotton a’i gi Tinker oedd yr unig ddau wryw i fod yn aelodau llawn o SyM erioed.


Adroddiad am Gyfarfod Blynyddol cyntaf SyM LlanfairpwllrnNorth Wales Chronicle 22ain Medi 1916

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am Gyfarfod Blynyddol cyntaf SyM LlanfairpwllrnNorth Wales Chronicle 22ain Medi 1916


Margaret Ker Pryse-Rice (Stewart)

Man geni: Ceredigion

Gwasanaeth: Llywydd y Groes Goch , Brisitsh Red Cross Society

Marwolaeth: 1948, Achos anhysbys

Nodiadau: Margaret Pryse-Rice oedd mam Dorothea a Nest. Roedd hi’n Llywydd cangen Sir Gaerfyrddin o Gymdeithas y Groes Goch Brydeinig a chafodd ei dyrchafu’n Fonesig yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydedd Dydd Calan 1918. Bu fawr yn 1948, yn 72 oed.

Cyfeirnod: WaW0205

Margaret Pryse-Rice, c.1890

Margaret Pryse-Rice

Margaret Pryse-Rice, c.1890

London Gazette 7fed Ionawr 1918, yn dangos enw Margaret Pryse-Rice

London Gazette 7fed Ionawr 1918

London Gazette 7fed Ionawr 1918, yn dangos enw Margaret Pryse-Rice


Adroddiad am anrhydeddu Margaret Pryse-Rice yn y Carmarthen Journal. Cafwyd adroddiad yn y Cambrian News hefyd ond am gyflawniadau ei gŵr yn unig!

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am anrhydeddu Margaret Pryse-Rice yn y Carmarthen Journal. Cafwyd adroddiad yn y Cambrian News hefyd ond am gyflawniadau ei gŵr yn unig!



Administration