Nodiadau: Trigai Beatrice Cope gyda’i g?r George yn Nhryleg, Sir Fynwy. Cyn hynny roeddent wedi byw yn Sir Ddinbych. Yma gwelir hi mewn ffotograff gyda’i mab ieuengaf George, a elwid yn Eric. Roedd e’n ail lefftenant dros dro yn 2il Gatrawd (1st Tyneside Scottish) Ffiwsilwyr Northumberland. Mae’n debyg i’r darlun gael ei dynnu’n union cyn i Eric gael ei anfon i Ffrainc yn Ionawr 1916. Lladdwyd Eric ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme, 1af Gorffennaf 1916. Dim ond 18 mlwydd oed ydoedd.
Cyfeirnod: WaW0069
Beatrice Cope gyda’i mab Eric
Beatrice Cope gyda’i mab Eric, efallai ddechrau 1916
Mimmi (Sarah) Richards
Gwasanaeth: Mam
Nodiadau: Fy mam, Mimmi (Sarah) a’i chwaer, Edith, ar y chwith, wrth fedd Tom, tua1920; y Gynnwr Thomas Sidney Richards,‘a laddwyd mewn brwydr’, Armentieres, Ffrainc, 14 Mawrth 1918, 20 mlwydd oed.
Cyfeirnod: WaW0079
Sarah (Mimmi) ac Edith Richards
Ffotograff o Mimmi (Sarah) ac Edith Richards, Mam a chwaer y Gynnwr Thomas Sidney Richards, ar lan ei fedd yn Ffrainc, tua 1920
Thomas Richards
Tom Richards ar faes y gad, Armentieres,Ffrainc.
Elizabeth Humphreys
Man geni: Pont-y-pŵl
Gwasanaeth: Mam
Nodiadau: Roedd tri mab Elizabeth Humphreys, Charles, George ac Owen, yn filwyr. Dim ond George oroesodd y Rhyfel. Gydag Elizabeth, yn hytrach na’i gŵr, y byddai Swyddfa’r Rhyfel yn cyfathrebu, a’i henw hi oedd ar ewyllysiau maes y gad ei mab.
Cyfeirnod: WaW0135
Elizabeth a George Humphreys
Elizabeth Humphreys gyda’i mab, y Gyrrwr George Humphreys (yr unig un o’i thri mab i oroesi’r rhyfel). 1915 neu 1916.
Llythyr swyddogol i Elizabeth Humphreys
Llythyr o Swyddfa’r Rhyfel at Elizabeth Humphreys yn cydnabod mai hi oedd ‘unig etifedd’ ei diweddar fab Charles
Ewyllys maes y gad G Humphreys (cefn)
Cefn ewyllys George Humphreys, yn dangos ei lofnod a’r dyddiad 1/8/15
Ewyllys maes y gad G Humphreys
Ewyllys gan George Humphreys yn gadael ei holl arian I’w fam Elizabeth Humphreys
Llythyr oddi wrth Cofrestriadau Beddau
Llythyr at Elizabeth Humphreys am fedd ei mab Owen.
Bedd Owen Humphreys
Ffotograff swyddogol o fedd Owen Humphreys, claddfa Danube Post ger Thiepval.
Mary Anne James
Man geni: Llanelli?
Gwasanaeth: Mam
Nodiadau: Llythyr gan Mary Anne James (1876-1960) o Lanelli at ei mab Idwal yn nodi ei galar o golli ei mab Brynmor, gyrrwr gyda’r Peirianwyr Brenhinol ac a fu farw ar 16eg Mawrth 1917. Yn drasig lladdwyd Idwal yntau ar 4ydd Gorffennaf 1917 yn Ypres.
Cyfeirnod: WaW0145
Llythyr
Llythyr gan Mary Anne James (1876-1960) o Lanelli at ei mab Idwal
Lythyr
Llythyr gan Mary Anne James (1876-1960) o Lanelli at ei mab Idwal
Mary Davies
Man geni: Sir Morgannwg ?
Gwasanaeth: Mam
Nodiadau: Ganwyd Mary Davies tua 1858 ac roedd yn fam I Eva Davies (WaW0008). O’i thri mab, lladdwyd yr un canol, Glyn, yn Ffrainc 10 mis cyn marw Eva, a’i mab ieuengaf, Max, ar 10fed Awst 1918.
Adroddiad yn y Glamorgan Gazette, 23ain Awst 1918, am farowlaeth Eva Davies.
Lythyr
Llythyr at Is-bwyllgor Gwaith y Menywod, Imperial War Museum, ynglŷn â ffotograff o Eva Davies, Chwefror 1919.
Llythyr
Llythyr at Is-bwyllgor Gwaith y Menywod, Imperial War Museum, ynglŷn â ffotograff o Eva Davies, Rhagfwr 1920.
Sarah Roberts
Man geni: Wrecsam ?
Gwasanaeth: Mam
Nodiadau: Collodd Sarah ei dwy goes mewn ffrwydrad siel ym Moss, Wrecsam, ar 9fed Mawrth 1916. Lladdwyd ei merch Ethel ar unwaith ac anafwyd ei merch Mary a dwy ferch fach arall yn angeuol. Gweler Mary Bagnall. Dyfynnwyd disgrifiad Sarah yn adroddiad y cwest, Cambrian Times, 18fed Mawrth, 1916.
Adroddiad am ffrwydrad y siel a laddodd bedair merch ac anafu tri oedolyn, North Wales Chronicle 10fed Mawrth1916
Adrddiad papur newydd
Adroddiad am y ffrwydrad yn enwi’r dioddefwyr
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y cwest i farwolaethau’r pedair merch.
Minnie James (née Watkins)
Man geni: Merthyr Tudful
Gwasanaeth: Mam
Marwolaeth: 1954, Achos anhysbys
Nodiadau: Priododd Minnie a William James ar Ionawr 1891. Roedd ganddynt chwe phlentyn a oroesodd. Gwasanaethodd ei thri mab hynaf yn y Rhyfel. Lladdwyd David ym Medi 1915, yn 24 oed. Bu farw Thomas o’i glwyffau ar ddydd Nadolig 1918, yn 21 oed a bu farw Jack a gawsai ei anafu hefyd o’r diciáu ym Mehefin 1920, yn 24 oed hefyd.rnYn 1938 dewiswyd Minnie James, a oedd yn 72 oed, i gynrychioli holl famau Cymru a gollodd eu meibion yn ystod y Rhyfel, ac i agor y Deml Heddwchrn
Mrs Minnie James yn agoriad y Deml Heddwch, Caerdydd, 10fed Tachwedd 1938rn
Anne Davies
Man geni: Tregŵyr
Gwasanaeth: Mam
Marwolaeth: 1915/05/07, S S Lusitania, Drowning / Boddi
Nodiadau: Deuai Anne Davies yn wreiddiol o Dregŵyr, ond ymfudodd i America tua 1995. Trigai yn Ontario, Canada, ond roedd wedi bod yn ymweld â’i merch yn Llanelli. Roedd yn dychwelyd ar y Lusitania pan ymosodwyd ar y llong oddi ar arfordir Iwerddon. Yn 52 oed, ei chorff hi oedd un o’r cyntaf i’w ddarganfod, ac mae wedi ei chladdu yng nghladdfa Cobh Old Town, Queenstown.
Cyfeirnod: WaW0277
Adroddiad papur newydd a llun
Erthygl gyda llun o Anne Davies, a oedd ar goll ar y pryd ar ôl suddo’r Lusitania. Cambria Daily leader 10fed Mai 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad yn cadarnhau marwolaeth Anne Davies, Cambria Daily Leader 19eg Mai 1915.
Cecelia Mildred (Cissie) Owens (née Smith)
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Mam
Marwolaeth: 1966, Abertawe, Achos anhysbys
Nodiadau: Symudodd Cecelia a’i gŵr Hubert Owens ynghyd â’i dau fab Ronald a Reginald i UDA yn 1909. Roedd hi a’r bechgyn yn dychwelyd ar y Lusitania, gyda’i brawd Alfred Smith, ei wraig Elizabeth a’u plant Helen [qv] a’r baban Hubert. Gwahanwyd y ddwy set o rieni a’r plant ar ôl y ffrwydrad a Cecelia a’i nith Helen oedd yr unig oroeswyr. Achubwyd Helen gan ohebydd o Ganada, tra llwyddodd Cecelia, a allai nofio, arnofio gyda chymorth gwregys achub a chafodd ei hachub gan gwch pysgota ar ôl rhai oriau yn y dŵr. Cafodd ei hadnabod gan Helen mewn gwesty yn Queenstown, Iwerddon, lle’r aethpwyd â’r goroeswyr. Dychwelodd Cecelia i UDA gyda’i gŵr, ond dychwelasant i Abertawe yn yr 1930au.
Llun o Cecelia a Hubert Owens a dynnwyd yn Pennsylvania. rnGare Maritime, Trwy garedigrwydd Carol Keeler.rn
Ronald a Reginald Owens, Helen Smith
Llun o Ronald a Reginald Owens, a’u cyfnither Helen Smith. Gare Maritime, Courtesy of Carol Keeler.
Adroddiad papur newydd
Rhan o adroddiad am brofiadau Cecelia Owens ar y Lusitania. Cambrian Daily Leader 11egMai 1915.
Mary Evans
Man geni: Abertawe ?
Gwasanaeth: Masseuse, VAD, 1914 - 1918
Nodiadau: Roedd Mary Evans yn masseuse broffesiynol a wirfoddolodd i fod yn VAD mewn pedwar Ysbyty’r Groes Goch. Torrodd ei hiechyd yn 1918, a chafodd hi ei hun mewn ysbyty. Cymerodd Mr a Mrs Walton ei busnes drosodd yn 1919.
Cyfeirnod: WaW0418
Cerdyn cofnod yr Groes Goch
Cerdyn cofnod ar gyfer Mary Evans
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cerdyn cofnod Mary Evans yn rhoi manylion ei gwasaneth VAD
Hysbyseb papur newydd
Rhybudd fod y Waltons yn cymryd practis Miss Evans drosodd. Cambria Daily Leader 23 Rhagfyr 1919
Rhestr Anrhydedd
Enw Midd Mary Evans ar Restr Anrhydedd Capel Stryd Henrietta, Abertawe. Diolch i Gethin Matthews.