Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Mabel Mary Tunley
Man geni: Pontypridd, 1870
Gwasanaeth: Prif Fetron Weithredol, QAIMNS, 1903 - 1925
Nodiadau: Ar ôl gwasanaethu yn Rhyfel y Boeriaid, ymunodd Mabel Tunley â’r QAIMNS yn 1903 yn nyrs staff, gan gael ei dyrchafu’n Brif Fetron Weithredol yn Ffrainc a Fflandrys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymysg anrhydeddau eraill, derbyniodd y Fedal Filwrol am waith eithriadol, yn helpu i gael yr holl gleifion, 260 ohonynt, i lawr i’r seleri ac felly pan fomiwyd yr Orsaf Glirio ni anafwyd yr un claf. Bu ei sirioldeb a’i dewrder yn allweddol yn cadw pawb a ddaeth i gysylltiad â hi i fyny â’r safon. Er iddi gael ei chlwyfo ychydig, parhaodd ar ddyletswydd. Bethune, 7fed Awst 1916
Ffynonellau: http://anurseatthefront.org.uk/names-mentioned-in-the-diaries/other-people/medical-colleagues/mabel-mary-tunley/
Cyfeirnod: WaW0087
Margaret K Turner
Gwasanaeth: Gwyddnonydd, Arddangoswraig Gemeg , University College Aberystwyth / Coleg Prifysgol A, 1915
Nodiadau: Penodwyd Margaret yn Arddangoswraig yn yr adran Gemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gynnar yn ystod y rhyfel. Roedd hi’n gweithio ar baratoi diethylamine, atalydd a ddefnyddir mewn fferylliaeth. Ar ddiwedd y cytundeb hwn ysgrifennodd at Bwyllgor Rhyfel y Sefydliad Cemegol yn dweud y gallai roi ei holl amser a’i hegni i’w gwasanaethu am y chwe wythnos nesaf a’i bod yn awyddus i wybod a allai’r ychydig gynorthwywyr i lawr yno (Aberystwyth) gael caniatâd i gyfrannu ymhellach at anghenion y wlad. Byddai yn ddiolchgar iawn petai nhw’n gallu ei hysbysu a oedd unrhyw baratoadau eraill y gallen nhw eu gwneud, gan ei bod hi, ei hun, yn barod ac yn eiddgar i anghofio unrhyw syniad o gael gwyliau tra bod angen cymaint yn rhagor o waith. Ni wyddom a gymerwyd mantais o’r cynnig hwn.
Ffynonellau: Chemistry Was Their Life: Pioneer British Women Chemists 1880 – 1949. Marelene Rayner-Canham & Geoff Rayner-Canham Imperial College Press 2008
Cyfeirnod: WaW0312
Eleanor Vachell
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gwyddonydd, Botanegydd , Gwirfoddolwraig, VAD
Nodiadau: Ganwyd Eleanor yn 1879, yn ferch i feddyg. Daeth yn fotanegydd nodedig, a chymerodd gyfrifoldeb am Adran Fotaneg a Llysieufa Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Hydref 1914 pan ymunodd y Ceidwad â’i gatrawd. Bu’n gwrifoddoli hefyd yn 3edd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin, Caerdydd. Yn 1918 daeth yn VAD, gan rannu ei hamser yn ofalus iawn rhwng yr ysbyty a’r Amgueddfa. Bu farw Eleanor Vachell yn 1948.
Cyfeirnod: WaW0200
Hilda Campbell Vaughan (Morgan)
Man geni: Llanfair ym Muallt
Gwasanaeth: Cogyddes, trefnydd amaethyddol, nofelydd, VAD, WLA, 1915 - 1919
Marwolaeth: 1985, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Hilda Vaughan yn 1892, yn ferch i gyfreithiwr adnabyddus yn siroedd Brycheiniog a Maesyfed. Yn gynnar yn ystod y Rhyfel ymunodd â’r VAD yn gogyddes yn Ysbyty’r Groes Goch yn Llanfair ym Muallt ond yn 1917 gadawodd i wneud gwaith ar y tir am dâl. Tra’r oedd yn gweithio yn y VAD, arweiniodd ymgais i drefnu llyfrgell rad yn y dref, agorodd hi yn Nhachwedd 1917. Roedd Hilda eisoes yn gysylltiedig ag annog menywod i weithio ar y tir, ac annog ffermwyr i’w derbyn. Ei swydd newydd oedd yn ysgrifenyddes trefnu Byddin y Tir yn siroedd Brycheiniog a Maesyfed. Ar ôl y Rhyfel symudodd Hilda i Lundain a phriodi’r nofelydd Charles Morgan. Dechreuodd hithau ysgrifennu. Dylanwadwyd ar ei gwaith yn fawr gan ei phrofiadau yn cwrdd â menywod o gefndiroedd gwahanol ym Myddin y Tir.
Ffynonellau: https://www.southwales.ac.uk/study/subjects/history/worldwarone/jayne-bowden/
Cyfeirnod: WaW0383
Adroddiad papur newydd
Rhan gyntaf adroddiad am y Llyfrgell newydd Rad yn Llanfair ym Muallt. Brecon County Times, 25ain Tachwedd 1915
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyfarfod yn yr awyr agored yn Aberhonddu, i roi cyhoeddusrwydd i fenywod a gwaith fferm. Brecon and Radnor Express 5ed Ebrill 1917
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyfarfod yn yr awyr agored yn Rhaeadr yn nodi ‘dull … dymunol a pherswadiol’ Miss Vaughan. Brecon and Radnor Express 31ain Mai 1917
Jennie Vaughan
Man geni: Sir Forgannwg ? neu Lundain ?
Gwasanaeth: Athrawes a gweithredwraig
Nodiadau: Roedd Jennie Vaughan yn athrawes gynorthwyol yn Ysgol Sirol Garnant; roedd wedi’i haddysgu ei hun ac nid oedd wedi bod mewn coleg hyfforddi. Efallai nad oedd yn athrawes naturiol. Yn 1915 cafodd ei tharo gan fam ‘y ferch waethaf yn yr ysgol’ achos a adroddwyd yn hirfaith yn yr Amman Valley Chronicle ac mewn mannau eraill. At hyn cafodd ddadl gyda rheolwyr yr Ysgol am ei thâl. Etholwyd Jennie ar gyngor rheoli Plaid Lafur Rhanbarth Seneddol Cylch Llanelli yn Ebrill 1918, a thraddododd rai areithiau o blaid yr ymgeisydd Llafur yn etholiad cyffredinol 1918.
Cyfeirnod: WaW0289
Adroddiad papur newydd
Dechrau adroddiad hir ar achos ymosod ar Jennie Vaughan. Cafwyd yr adroddiad cyfan yn yr Amman Valley Chronicle 23ain Medi 1915, tud 3 ac mae dros 4000 o eiriau.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am araith Jennie Vaughan o blaid yr ymgeisydd Llafur. Amman Valley Chroncle 5ed Rhagfyr 1918.
Ethel Vaughan Owen
Man geni: Llanidloes
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Roedd Ethel yn ferch i feddyg ac ymunodd â’r VAD yn 1915. Yn ystod ei gwasanaeth cafodd ei hanfon i’r Llong Ysbyty Britannia ac i Ysbyty Valletta, Malta, lle trawyd hi’n ddifrifol wael â disentri. Gwellodd o hyn. Bu llawer fawr ohono. rn
Cyfeirnod: WaW0402
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Ethel Vaughan Owen, yn dangos ei gwasanaeth dramor.rn
Lizzie Veal
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig rheilffordd, GWR
Nodiadau: Roedd gan Lizzie Veal gysylltiad ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Mae’r Roath Road Roamer, a argreffid yn fisol o Dachwedd 1914 ymlaen yn cynnwys gwybodaeth am fenywod yn ogystal â dynion oedd yn gwasanaethu yn y rhyfel. Roedd Lizzie yn un o’r ‘Road Roamers’, yn ôl rhifyn Ebrill 1919. Ar y pryd roedd hi’n un o’r dros 1000 o fenywod a gyflogid gan y GWR yn borteriaid a chasglwyr tocynnau. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg (DWESA6)
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0109
Lizzie Veal, Gweithwraig ar y Rheilffyrdd
Roedd Lizzie Veal yn gweithio ar y Great Western Railway. Efallai ei bod yn borter neu yn glerc tocynnau.
Lily Vinnicombe (née ?)
Gwasanaeth: Gweithwraig Ffatri Arfau
Marwolaeth: 1918/05/22, Ysbyty Frenhinol Gwent, Sepsis following abortion / Madredd yn dilyn erthyliad
Nodiadau: Roedd Lily Vinnicombe yn weddw 29 mlwydd oed. Bu farw o ganlyniad i hunan- erthyliad.
Cyfeirnod: WaW0356
Marjorie Wagstaff
Man geni: Casnewydd ?
Gwasanaeth: ‘Eillwraig’ , VAD ?
Nodiadau: Roedd Marjorie Wagstaff yn wirfoddolwraig o Gasnewydd a fyddai’n mynd i mewn i Adran Casnewydd o 3edd Ysbyty Milwrol Cyffredinol y Gorllewin ddwywaith yr wythnos i eillio’r cleifion. Erbyn diwedd y rhyfel roedd wedi perfformio dros 2000 o eilliadau. Gwelwyd ei llun yn y Daily Mirror ac yn the South Wales Argus
Cyfeirnod: WaW0336
Gertrude Annie Walters
Man geni: Pen-y-bont ar Ogwr?
Gwasanaeth: Gwyddonydd a botanegydd
Nodiadau: Roedd Gertrude yn un o ddau sgolor o Ysgol Sir Pen-y-bont ar Ogwr a enillodd ysgoloriaeth sirol Morgannwg i astudio mewn prifysgol yng Nghymru. (Roedd 7 ysgoloriaeth sirol i gyd). Mae’n amlwg ei bod yn wyddonydd yn ifanc iawn (ei phynciau eraill Lefel A eraill oedd Ffiseg a Chemeg), graddiodd o Aberystwyth yn 1919 gyda gradd ddosbarth cyntaf ‘wych’ ac ymunodd â’r adran Fotaneg.
Cyfeirnod: WaW0463
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ganlyniadau Tystysgrif Ysgol Uwch Gertrude, Glamorgan Gazette 24 Medi 1915
Adroddiad Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth
Adroddiad o Adran Fotaneg, Coleg Prifysgol Aberystwyth, 1919