Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Fannie Thomas
Man geni: Dolgellau
Gwasanaeth: Athrawes, Swffragét, Cynghorydd
Nodiadau: Ganwyd hi yn 1868, yn un o chwech o blant i gyfrifydd gyda’r National Provincial Bank. Roedd Fannie Thomas yn athrawes, swffragét ac o 1895 ymlaen yn Brifathrawes gyntaf ysgol y Babanod ac ar ôl 1908 Ysgol y Merched Ffaldau, Pontycymer, lle bu am 35 mlynedd. Deilliodd ei diddordeb mewn rhyddfreinio menywod o ymaelodi gyda’r National Union of Teachers a oedd yn brwydro am dâl cyfartal ag athrawon gwrywaidd. Yn 1906 roedd yn un o sylfaenwyr y National Union of Women Teachers, a bu’n Llywydd arno yn 1912. Gwahoddodd Adela Pankhurst i siarad am ryddfreinio menywod ym Mhontycymer (i godi arian i’r NSPCC) yn Ebrill 1907, a bu hithau’n annerch mewn sawl digwyddiad hefyd. Disgrifiodd y Glamorgan Gazette hi fel ‘rhyfelwraig ddewr dros achos menywod’. Roedd hi’n rhan o’r fintai Gymreig yng Ngorymdaith Goroni’r Menywod yn 1911. Trwy ei gwaith roedd yn ymwybodol iawn o dlodi’r ardal, ac ym mis Tachwedd 1914 safodd yn aflwyddiannus ar gyfer Bwrdd y Gwarcheidwaid (trechwyd hi gan fenyw arall, Mrs Edmund Evans, o 32 pleidlais). Fodd bynnag safodd Fannie yn llwyddiannus fel ymgeisydd Llafur ar gyfer Cyngor Dosbarth Trefol Ogwr a Garw yn 1919. Dwedir mai Fannie Thomas oedd y fenyw gyntaf i wisgo britsh pen-glin (ei llysenw’n lleol oedd Fanny Bloomers) ac mai hi oedd y gyntaf i reidio beic-modur. Gyda llawer o ddiolch i Ryland Wallace
Ffynonellau: Ryland Wallace :‘A doughty warrior in the women’s cause’. Llafur 2018 volume 12 number 3
Cyfeirnod: WaW0460
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am anerchiad Adela Pankhurst ar ran yr NSPCC a drefnwyd gan Fannie Thomas. Glamorgan Gazette 19 Ebrill 1907
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddadl am ryddfreinio menywod yn Institiwt Ffaldau; cyflwynodd Fannie Thomas y cynnig a ddylai menywod gael y bleidlais. Glamorgan Gazette 22 Ionawr 1909
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y gystadleuaeth am sedd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid. Collodd Fannie Thomas. Glamorgan Gazette 13 Tachwedd 1914.
Adroddiad papur newydd
Sylw ar ethol Miss F M Thomas i Gyngor Dosbarth Trefol Aberogwr a Garw. Glamorgan Gazette 11 Ebrill 1919
Gorymdaith Goroni’r Menywod
Fannie Thomas ail o’r dde, yn cario basged. Gwelir Rachel Barrett ar y chwith eithaf hefyd. Gorymdaith Goroni’r Menywod Mehefin 1911
Ysgol y Merched Ffaldau
Merched ac athrawon Ysgol y Merched Ffaldau 1925. Fannie Thomas yw’r ail ar y dde.
Gertie Thomas
Man geni: Caerfyrddin
Nodiadau: Cymhwysodd Gertie Thomas yn ddosbarthwraig tabledi gyda Chymdeithas Apothecari Llundain yn Awst 1916. Dim ond newydd droi 19 oed ydoedd, yr oedran ieuengaf ar gyfer gwenud y cymhwyster hwn.
Cyfeirnod: WaW0307
Margaret Haig Thomas (Mrs/Lady Mackworth, Lady Rhondda)
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Swffragét, menyw fusnes, Comisiynydd a Rheolwraig, golygydd a chyhoeddwraig, Women’s National Service Department, Ministry of
Marwolaeth: 1958/07/20, Llundain, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Margaret Haig Thomas yn 1883, yn unig ferch i D.A.Thomas AS, Is-iarll y Rhondda a’i wraig Sybil. Roedd cartref y teulu yn Llanwern. Cefnogai’r teulu ryddfreinio menywod, ac ymunodd Margaret â’r WSPU yng Nghasnewydd yn 1909, gan ddatgblygu’n fwyfwy milwriaethus. Ym Mehefin 1913 treuliodd chwe niwrnod yng Ngharchar Brynbuga oherwydd iddi geisio llosgi bocs postio yng Nghasnewydd. Cefnogai’r rhyfel i’r carn ond nid oedd yn cytuno â jingoistiaeth eithafol Emmeline a Christabel Pankhurst. Ar ôl gweithio dros ffoaduriaid o Wlad Belg ar ddechrau’r rhyfel, roedd yn teithio i Efrog Newydd ar fwrdd y Lusitania gyda’i thad pan ymosodwyd ar y llong gan yr Almaenwyr ar 7fed Mai 1915. Goroesodd Margaret a’i thad, ond bu hi’n anymwybodol yn y dŵr am dros ddwy awr [clicliwch ar y cyswllt i weld ei hadroddiad hi a recordiwyd yn 1950 http://www.bbc.co.uk/programmes/p02qvqwp]. Yn 1916 dechreuodd weithio dros Weinyddiaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol yng Nghymru, a Llundain, a daeth yn Gomisiynydd Gwasanaeth Cenedlaethol Menywod yng Nghymru a Sir Fynwy yn gynnar yn 1917, gyda’r cyfrifoldeb dros annog merched a menywod i fyd amaeth. Cyn hir roedd yn recriwtio’n drwm dros annog merched ifanc i ymuno â’r WAAC, yn enwedig i gael rhai i weithio yn glercod y fyddin yn Ffrainc. Roedd angen menywod hefyd ar wasanaethau newydd y WRNS a’r WRAF. Yn Chwefror 1918 penodwyd hi yn Brif Reolwraig Adran y Menywod o Weinyddiaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol. Pan fu farw ei thad yn 1918, etifeddodd Margaret y teitl Arglwyddes Rhondda. Parhaodd ym myd busnes a bywyd cyhoeddus am sawl blwyddyn wedi’r rhyfel.
Ffynonellau: Angela V John Turning the Tide’, Parthian Books 2013 http://www.bbc.co.uk/programmes/p02qvqwp
Cyfeirnod: WaW0257
Hysbyseb papur newydd
Hysbyseb papur newydd am gyfarfod yn Aberhonddu i’w annerch gan Arglwyddes Mackworth. Brecon County Times 12th April 1917
Adroddiad papur newydd
Adrna gyntaf adroddiad hir am brofiadau Arglwyddes Mackworth yn suddo’r Lusitania. Cambrian Daily leader 10fed Mai 1915. Adroddiad llawn – gweler:rnhttp://newspapers.library.wales/search?alt=full_text%3A%22Lady%22+AND+full_text%3A%22Mackworth%22&range%5Bmin%5D=1915-1-01T00%3A00%3A00Z&range%5Bmax%5D=1915-12-31T00%3A00%3A00Z&page=5rn
Adroddiad papur newydd
Adoddiad am ryddhau Mrs Mackworth o Garchar brynbuga. Aberdare Leader 19eg Gorffennaf 1913
Ffotograff o glercod WAAC
FFotograff o glercod WAAC newydd eu recriwtio ar risiau Llysoedd Barn Caerdydd, mehefin 1917. Maent ar fin ymadael am Ffrainc. Mae Margaret Mackworth yn y blaen ar y dde.
Welsh Outlook
Erthygl Margaret Mackworth am Wasanaeth Cenedlaethol i Gymraesau, yn y cylchgrawn Welsh Outlook, Cyf. 4, rhif 7, Gorffennaf 1917
Hysbyseb papur newydd
Hysbyseb am arddangosfa Wythnos Gwaith Rhyfel Menywod a gynhaliwyd yn siop Howells, Caerdydd, Ebrill 1918.
Mary Elizabeth Thomas (née ?)
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel, NEF Pembrey, 1917 - 1918
Marwolaeth: 1918/12/16, Ffatri Bowdwr Pen-bre , Pulmonary oedema / Oedema ysgyfeiniol
Nodiadau: Roedd Mary, 33 oed, wedi bod yn gweithio ym Mhen-bre am tua blwyddyn. Ar 16eg Rhagfyr roedd wrthi’n dangos proses – sut i ddadgydosod sieliau, i gydweithwraig. Yn sydyn ymgwympodd a bu farw yn fuan wedyn. Yn ôl ei gŵr roedd wedi dioddef pennau tost difrifol ers 12 mis, er ei bod yn iach pan adawsai i fynd i’r gwaith y bore hwnnw.
Cyfeirnod: WaW0299
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y cwest i farwolaeth Mary Thomas, Llanelly Star 21ain Rhagfyr 1918.
Lily Tobias (Shepherd)
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Awdur, actifydd, cenedlaetholwraig
Nodiadau: Roedd Lily yn ferch i rieni Iddewig Rwsaidd a ffodd o Rwsia i osgoi gorfodaeth filwrol, a setlo yn Abertawe ac yna Ystalyfera; hi oedd y plentyn cyntaf a anwyd iddynt yng Nghymru. Dechreuodd ysgrifennu i Llais Llafur yn 14 oed, ac roedd yn gefnogol iawn i achosion rhyddfreinio menywod, y Blaid Lafur Annibynnol a gweithgareddau heddychwyr. Roedd ei brodyr yn wrthwynebwyr cydwybodol. Disgrifir hi gan y gwleidydd Llafur, Fenner Brockway, fel “heddychwraig weithredol a rhyfelgar … a ddangosodd ddyfeisgarwch a dewrder mawr yn herio’r awdurdodau ac yn helpu’r rhai oedd yn ceisio osgoi cael eu galw i fyny, a’r rhai yn y carchar.” Yn ddiweddarach bu’n brwydro dros achos sefydlu’r wladwriaeth Iddewig , ac ysgrifennodd sawl nofel.
Ffynonellau: Jasmine Donahaye The Greatest Need: The creative life and troubled times of Lily Tobias, a Welsh Jew in Palestine. Honno 2015 https://wciavoices.wordpress.com/2016/12/07/the-shepherd-family-of-ystalyfera-and-pontypridd-in-the-first-world-war
Cyfeirnod: WaW0245
Edith Mary Tonkin
Man geni: Sandford, Dyfnaint
Gwasanaeth: Morwyn ward. , VAD, 1917/11/06 – 1918/10/13
Marwolaeth: 1918-10-13, 3ydd Ysbyty Cyffredinol Le Treport, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Cofeb Ryfel, Llandaf, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Edith ar fferm yn swydd Dyfnaint yn 1892. Symudodd i Gaerdydd pan etifeddodd ei thad dafarn gan ei ewythr. Gweithiodd yn forwyn ward yn 3ydd Ysbyty Cyffredinol Tréport, Ffrainc, lle bu farw yn 26 oed. Gwelir ei henw ar gofeb Llandaf gyda’i brawd iau William John (Jack) fu farw ym mrwydr Loos yn 1915.
Cyfeirnod: WaW0061
Carreg fedd
Carreg fedd yn coffáu Edith Mary Tonkin, Claddfa Filwrol Mount Huon, Normandi. Trwy garedigrwydd Peter Bennett Dewberry, swydd Efrog.
Teulu Tonkin
Darlun o’r teulu Tonkin ar fferm y teulu yn Nyfnaint c. 1910. Trwy garedigrwydd Maureen Roberts, Gorllewin Awstraliarn
Edith Townsend
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweinyddes, QMAAC, 1918 -
Nodiadau: Roedd Edith Towsend a’i chwaer Gladys yn gysylltiedig ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Disgrifion nhw eu profiadau cynnar yn y Roath Roamer (Cyf.44, t.6). Ar ôl hyfforddi treulion nhw’u hamser ger Woolwich (a chael profiad o dri chyrch awyr), cyn cael eu hanfon i’r gogledd i Newcastle, a oedd, meddent ‘yn debyg iawn i Gaerdydd’. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifdy Morgannwg (DWESA6).
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0120
Gladys Townsend
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweinyddes, QMAAC, 1918 -
Nodiadau: Roedd Gladys Towsend a’i chwaer Edith yn gysylltiedig ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Disgrifion nhw eu profiadau cynnar yn y Roath Roamer (Cyf.44, t.6). Ar ôl hyfforddi treulion nhw’u hamser ger Woolwich (a chael profiad o dri chyrch awyr), cyn cael eu hanfon i’r gogledd i Newcastle, a oedd, meddent ‘yn debyg iawn i Gaerdydd’. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifdy Morgannwg (DWESA6).
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0121
Nora Treadwell
Man geni: Swydd Gaerhirfryn
Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC
Nodiadau: Ychydig a wyddys am Nora Treadwell. Cafodd ei magu ym Mryn-coch, Morgannwg; efallai fod ei rhieni yn byw yn Primrose Bank, Bryn-cochrnrnrn
Cyfeirnod: WaW0192
Cerdyn post
Cerdyn post Corfflu Gwirfoddol Byddin y Merched, 18 Mehefin 1918.Anfonwyd y cerdyn post hwn gan Nora at ei hen fam-gu, Mrs Treadwell, o Plymouth ble’r oedd yn gweithio mewn ysbyty ymadfer.
Caroline Pearse Tremain
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: University College Aberystwyth, 1914 - 1919+
Nodiadau: Roedd Caroline Pearse Tremain yn warden Neuadd Alexandra, neuadd breswyl i fenywod yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, gydol y Rhyfel. Hyfforddodd yng Ngholeg Hyfforddi i Fenywod, Caergrawnt dan Elizabeth Phillips Hughes [qv], gan gael diploma gydag rhagoriaeth. Ar ôl rhai blynyddoedd yn dysgu, astudiodd Caroline am radd BA mewn Saesneg yn Aberystwyth yn 1899 a daeth yn wadren Neuadd Alexandra yn 1914. Hyrwyddodd sawl digwydiad codi arain yn y Neuadd, o ddarlithoedd i arddangosfeydd, ac anogodd y myyfyrwragedd i wneud gwaith rhyfel gyda’r VADs a sefydliadau eraill, ac i godi arian (codwyd bron £200 ar gyfer tystysgrifau Benthyciadau Rhyfel yn 1918) a bu rhai myfyrwragedd mentrus yn codi cerrig ac yn chwynnu i godi arian ar gyfer Wythnos Arfau Rhyfel. Roedd hi’n un o brif drefnwyr yr Ysgolion Haf a drefnid gan y Coleg bob blwyddyn hefyd.
Cyfeirnod: WaW0450
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am anerchiad agoriadol Caroline Pearse Tremain menw arwerthiant er buddy r YMCA. Cambrian news 6 Tachwedd 1914.
Adroddiad papur newydd
Darlith ar ‘Ymladd Clefyd Gwenerol yn Neuadd Alexandra. Caroline Pearse Tremain oedd yn llywyddu a mynychwyd hi gan 400 o fenywod. Cambrian News 12 Rhagfyr 1919