Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Rosa Cliff Ward
Man geni: yr India
Gwasanaeth: Arweinydd Geidiau, 1912 - 1943
Marwolaeth: 1984, Corscombe, Dorset, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganes Rosa yn yr India yn 1893. Roedd ei thad yn Frigadydd Cyffredinol. Yn 1912 sefydlodd y cwmni cyntaf o Geidiau yng ngogledd Cymru – yn Ninbych. Yng Nghaerfyrddin yr oedd y cyntaf (1910). E rei bod yn dal o dan 21 oed cafodd ei phenodi yn fuan yn Gomisiynydd Sir yn Sir Ddinbych. Ymddengsy mai Rosa Ward gyflwynodd gwersylla i’r Geidiau; sefydlwyd y gwersyll cyntaf yng nghymru mae’n debyg ganddi yn Segrwyd yn 1916, ac erbyn 1931 hi oedd Comisiynydd Gwersylla’r Geidiau. Rhwng 1939 a 1944 hi oedd Prif Gomisiynydd Cymru. Bu farw yn 101 oed yn 1984.
Cyfeirnod: WaW0413
Adroddiad papur newydd
Adroddiad o wersyll y Geidiau yn Segrwyd, sir ddinbych. Free Press 26 Awst 1916.
Gladys Mina Watkins
Man geni: Y Fenni
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS
Nodiadau: Ganwyd Gladys Watkins yn 1882, ac ymunodd â’r QAIMNS yn Ebrill 1909, ac anfonwyd hi i Ffrainc yn fuan wedi dechrau’r rhyfel. Cafodd ei hanfon adre ym Medi 1917, yn dioddef o ’neurasthenia’; ymddengys iddi dorri i lawr yn llwyr yn feddyliol. Treuliodd ran helaethaf y ddwy flynedd nesaf yn yr ysbyty, mewn cartrefi nyrsio neu’n aros gyda’i chwaer Edith a oedd yn nyrs hefyd. Wynebodd nifer o fyrddau meddygol y fyddin, a datganodd y rhan fwyaf ohonynt ei bod yn ffit i fynd adre neu i wasanaeth eisteddog. Mae llythyron gan Gladys ei hun, ei chwaer a nifer o ddoctoriaid wedi goroesi yng nghofnodion yr Archif Genedlaethol. Disgrifiant ei hagroffobia, ei thueddiadau tuag at gyflawni hunan-laddiad a’i hofnau nos ‘yn gysylltiedig â sieliau’n ffrwydro’. Cyflwynodd ei hymddiswyddiad o’r QAIMNS yn haf 1918, er i hwn gael ei ohirio ac yna’i dynnu yn ôl. Erbyn haf 1919 roedd ei hiechyd yn gwella:rn‘Rwyf wedi bod yn gwneud gwaith y tu allan, dofednod a.y.b. dros y tri mis diwethaf ac rwy’n teimlo’n llawer cryfach yn awr.’ Datganwyd ei bod yn ffit ar gyfer gwasanaeth cartref yn Hydref 1919, a pharhaodd â’i gyrfa yn Ysbyty Milwrol Netley. Ceir y cofnod olaf amdani yn haf 1923, pan ddywed ei ffeil ‘Rhybudd ar gyfer taith o wasanaeth tramor’.Enillodd Gladys Y Groes Goch Frenhinol pan ddychwelodd o Ffrainc yn 1917.
Ffynonellau: National Archives WO 399_8743
Cyfeirnod: WaW0279
Adrodddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Gladys Mina Watkins â’r Groes Goch Frenhinol. Abergavenny Chronicle 26ain Ionawr 1917
Dorothy Mary Watson
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1917:07:31 , Pen-bre, Explosion / Ffyrwydrad
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Lladdwyd mewn ffrwydrad 'heb eglurhad' iddi gyda Mildred Owen a dau gyd-weithiwr.
Ffynonellau: Funeral / Angladd South Wales Daily Post 11 August / Awst 1917; Inquest/Cwest The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser 24th August / Awst 1917
Cyfeirnod: WaW0062
Dorothy Mary Watson
Ffotograff o Mary a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel.
Margaret Watts
Man geni: Llanelli
Gwasanaeth: Plentyn
Nodiadau: Yn Nhachwedd 1915 cynhaliodd Margaret Watts fasâr yn ei chartref, gan werthu ‘ei holl deganau ac addurniadau bach’ dros ddau niwrnod. Cododd hanner gini (10s 6c) tuag at gost Ambiwlans Modur Llanelli
Cyfeirnod: WaW0234
Gabrielle (Bobby) West
Man geni: Bournemouth
Gwasanaeth: Cogyddes / Plismones, VAD, 1916 - 1917
Marwolaeth: 1990, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Gabrielle (Bobby) West yr ieuengaf o bum plentyn. Offeiriad oedd ei thad. Yn y dechrau gwirfoddolodd yn cogyddes gyda’r VAD ond ni allai fforddio i barhau i weithio heb dâl, ac felly dechreuodd weithio am dâl mewn cantîn ffatri arfau yn Llundain. Pan ddechreuwyd recriwtio plismonesau i weithio mewn ffatrïoedd arfau rhyfel ymunodd hi a’i ffrind, Miss Buckpitt. Ar ôl cyfnod byr yn Ffatri NEF yn y Fferi Isaf cawsant eu dyrchafu i weithio ym Mhen-bre yn Ionawr 1917. Mae ei hadroddiad am ei chyfnod ym Mhen-bre yn rhoi darlun manwl o fywydau’r gweithwyr yno. Gweler ei hadroddiad am Mary Morgan [qv] a’i ffitiau. Ym Mai 1917 cafodd ei throsglwyddo i’r Ffatri Ordnans Frenhinol, Rotherwas, Swydd Henffordd. Pan oedd hi’n 89 oed recordiodd Bobby ei hanes ar gyfer archifau llafar yr Imperial War Museum.
Ffynonellau: ed Avalon Richards Menus Munitions and Keeping the Peace: The Home Front Diaries of Gabrielle West 1914 -1917. Pen&Sword 2016https://www.iwm.org.uk/collections/item/object/80008574
Cyfeirnod: WaW0308
Gabrielle West
Gabrielle (Bobby) West mewn gwisg swyddogol plismones. Mae hi yn y rhes gefn yr ail o’r chwith.
Pen-bre
Darlun Gabrielle o’r adeiladau peryglus ym Mhen-bre. Dyma meddai lle cai’r gwaith peryclaf ei wneud, roedd y siedau, meddai, i mewn yn y bryniau.
Mary Ann Whaley
Man geni: Caerdydd ?
Gwasanaeth: Gweithio mewn stordy, WFC [Womens Forage Corps]
Marwolaeth: 1918, Influenza / Y Fliw
Nodiadau: Roedd Mary Ann yn gweithio mewn stordy i Gorfflu Porthiant y Menywod yn cael hyd i, ac yn prosesu porthiant i geffylau’r Fyddin. Defnyddiwyd dros filiwn o geffylau ac asynnod gan y Fyddin Brydeinig yn ystod y rhyfel, yn bennaf ar gyfer cludiant a chludo nwyddau. Roedd Mary Ann yn 39 pan fu farw; ei pherthynas agosaf oedd ei thad Thomas Whaley o Gaerdydd.
Ffynonellau: Femina Patriae Defensor Paris 1934
Cyfeirnod: WaW0221
Rhestr enwau
Enw Mary Ann ar y Rhestr Enwol o Swyddogion ac aelodau a fu farw tra roedd yn gwasanaethu yng Nghorfflu Porthiant y Menywod.
Florence Wheeler
Gwasanaeth: Tafarnwraig
Nodiadau: Gwnaeth Florence Wheeler gais i Lys yr Heddlu Llanelli am hawl i ddal trwydded ar gyfer y Swan Inn, Llanelli. Roedd rhywfaint o amheuaeth a allai menyw ddal trwydded, ond bu’n llwyddiannus. Roedd hi wedi rheoli’r Greyhound, ‘tafarn fwyaf y dref’, eisoes.
Cyfeirnod: WaW0327
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gais llwyddiannus Florence Wheeler am drwydded ar gyfer tafarn y Swan, Llanelli.
Oliver Annie Wheeler
Man geni: Aberhonddu
Gwasanaeth: Addysgwraig a Seicolegydd
Marwolaeth: 1963, Achos anhysbys
Nodiadau: Addysgwyd Olive Wheeler yn Aberhonddu yn 1885 a mynychodd Ysgol Sir y Merched yno. Mae’n amlwg ei bod yn gyn-ferch i fri yn yr ysgol hi roddodd anerchiad yn ystod dathliadau’r brifathrawes, Miss Davies yn 1917. Bu’n fyfyrwarig yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth gan ennill gradd BSc in 1907 ac MSc yn 1911, a gwasanethodd yn Llywydd Cyngor Cynrychioliadol Y Myfyrwyr. Yna gadawodd am Goleg Bedford Llundain lle’r enillodd ei doethuriaeth. Ni wnaeth ddychwelyd i Gymru tan ddechrau’r 20einiau. Olynodd Millicent MacKenzie [qv] yn Ymgeisydd Llafur Prifysgolion Cymru yn etholiad 1922 a daeth yn Athro Addysg yng Nghaerdydd yn 1925. Yn 1914 dyrchafwyd hi’n Fonesig am ei gwasanaeth i Addysg
Cyfeirnod: WaW0452
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am bresenoldeb Olive Wheeler yn nathliadau Ysgol Sir Aberhonddu. Brecon and Radnor Express 2 Awst 1917.
Amy Laura Whitcombe
Man geni: Hengoed
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-11-03, S C Convalescent Hospital, Plymouth, Influenza / Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Ystrad Mynach a Hengoed, Morgannwg
Nodiadau: 24 oed.
Cyfeirnod: WaW0063
Alice A White
Man geni: Pontardulais
Gwasanaeth: Athrawes, Penswyddog , VAD, 1916/09/01 – 1919/05/10
Nodiadau: Roedd Alice White yn brifathrawes Ysgol y Babanod Wood Green, Caerdydd. Roedd hi’n Benswyddog Ysbyty Atodol Samuel House Caerdydd hefyd a derbyniodd y Groes Goch Frenhinol am ei gwasanaeth ym mis Awst 1919.
Cyfeirnod: WaW0469
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Alice White â’r Groes Goch Frenhinol Cambria Daily Leader 7 Ebrill 1919
Ysgol y Babanod Wood Street
Llun o ddisgyblion Ysgol y Babanod Wood Street, 1925. Roedd Wood Street, a elwid yn Dref Dirwest hefyd, yn ardal boblog iawn ger Gorsaf Caerdydd.