Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Annie Sanders
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Postmones, Post Office / Swyddfa Bost
Nodiadau: Ychydig a wyddys am Annie Saunders, heblaw ei bod yn aelod yn Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Mae’r Roath Road Roamer, a argreffid yn fisol o Dachwedd 1914 ymlaen yn cynnwys gwybodaeth am fenywod yn ogystal â dynion oedd yn gwasanaethu yn y rhyfel. Roedd Annie yn un o’r ‘Road Roamers’. Cyflwynodd y Swyddfa Bost y wisg swyddogol las o frethyn gwrymog sydd amdani yn 1914. Cafwyd y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg (DWESA6)
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0108
Edith Townsend
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweinyddes, QMAAC, 1918 -
Nodiadau: Roedd Edith Towsend a’i chwaer Gladys yn gysylltiedig ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Disgrifion nhw eu profiadau cynnar yn y Roath Roamer (Cyf.44, t.6). Ar ôl hyfforddi treulion nhw’u hamser ger Woolwich (a chael profiad o dri chyrch awyr), cyn cael eu hanfon i’r gogledd i Newcastle, a oedd, meddent ‘yn debyg iawn i Gaerdydd’. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifdy Morgannwg (DWESA6).
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0120
Gladys Townsend
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweinyddes, QMAAC, 1918 -
Nodiadau: Roedd Gladys Towsend a’i chwaer Edith yn gysylltiedig ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Disgrifion nhw eu profiadau cynnar yn y Roath Roamer (Cyf.44, t.6). Ar ôl hyfforddi treulion nhw’u hamser ger Woolwich (a chael profiad o dri chyrch awyr), cyn cael eu hanfon i’r gogledd i Newcastle, a oedd, meddent ‘yn debyg iawn i Gaerdydd’. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifdy Morgannwg (DWESA6).
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0121
Mabel Mary Tunley
Man geni: Pontypridd, 1870
Gwasanaeth: Prif Fetron Weithredol, QAIMNS, 1903 - 1925
Nodiadau: Ar ôl gwasanaethu yn Rhyfel y Boeriaid, ymunodd Mabel Tunley â’r QAIMNS yn 1903 yn nyrs staff, gan gael ei dyrchafu’n Brif Fetron Weithredol yn Ffrainc a Fflandrys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymysg anrhydeddau eraill, derbyniodd y Fedal Filwrol am waith eithriadol, yn helpu i gael yr holl gleifion, 260 ohonynt, i lawr i’r seleri ac felly pan fomiwyd yr Orsaf Glirio ni anafwyd yr un claf. Bu ei sirioldeb a’i dewrder yn allweddol yn cadw pawb a ddaeth i gysylltiad â hi i fyny â’r safon. Er iddi gael ei chlwyfo ychydig, parhaodd ar ddyletswydd. Bethune, 7fed Awst 1916
Ffynonellau: http://anurseatthefront.org.uk/names-mentioned-in-the-diaries/other-people/medical-colleagues/mabel-mary-tunley/
Cyfeirnod: WaW0087
Lizzie Veal
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig rheilffordd, GWR
Nodiadau: Roedd gan Lizzie Veal gysylltiad ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Mae’r Roath Road Roamer, a argreffid yn fisol o Dachwedd 1914 ymlaen yn cynnwys gwybodaeth am fenywod yn ogystal â dynion oedd yn gwasanaethu yn y rhyfel. Roedd Lizzie yn un o’r ‘Road Roamers’, yn ôl rhifyn Ebrill 1919. Ar y pryd roedd hi’n un o’r dros 1000 o fenywod a gyflogid gan y GWR yn borteriaid a chasglwyr tocynnau. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg (DWESA6)
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0109
Lizzie Veal, Gweithwraig ar y Rheilffyrdd
Roedd Lizzie Veal yn gweithio ar y Great Western Railway. Efallai ei bod yn borter neu yn glerc tocynnau.
Annie Whyte
Man geni: Trelai, Caerdydd c 1890
Gwasanaeth: Prif weinyddes , WRAF, 1917 - 1919?
Nodiadau: Roedd Annie Whyte yn gysylltiedig ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Ymunodd yn gyntaf â’r Fyddin (WAAC) ond yna trosglwyddodd i’r Awyrlu (WRAF) wedi iddo gael ei sefydlu yng ngwanwyn 1918. Gweithiai’n bennaf yn Ysgol Arfau y Corfflu Awyr Brenhinol yn Uxbridge. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifdy Morgannwg (DWESA6).
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0116
Alice Williams
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Nyrs, French Red Cross / Y Groes Goch Ffrengig, 1915 - 1918
Nodiadau: Ganwyd Alice Williams yn 1863, yr ieuengaf o 12 plentyn David Williams, AS Meirionnydd. Gan ei bod yn gorfod byw gartref yn gydymaith i’w mam treuliodd ei hamser mewn eisteddfodau, cwmniau drama amatur a chyda rhyddfreinio menywod. Ar ôl i’w mam farw, a hithau bellach yn 40 oed, rhannodd ei hamser rhwng Llundain a Pharis, lle cyfarfu â’u chyfeilles am oes Fanny Laming. Pan dorrodd y rhyfel allan gweithiodd y ddwy dros y Groes Goch Ryngwladol yn Geneva, ond yn 1915 sefydlodd Swyddfa ym Mharis (ac yn Llundain yn ddiweddarach) i chwilio am newyddion a’i rannu am bersonau a aeth ar goll oherwydd y rhyfel. Yn ddiweddarach y flwyddyn hon daeth yn ysgrifennydd dros Gymru o Gronfa Argyfwng y Ffrancwyr a Anafwyd. Enillodd wobr y Médaille de la Reconnaissance Française yn 1920. Yn 1916 daeth yn sylfaenydd / Llywydd pedwaredd cangen Sefydliad y Merched yng Nghymru (yn Deudraeth) , gan ddarparu Neuadd ar eu cyfer, sy’n parhau i gael ei defnyddio heddiw. Hi oedd golygydd cyntaf Home and Country, cylchgrawn SyM hefyd. Yn Eisteddfod 1917 cafodd ei derbyn i Orsedd y Beirdd (fel dramodwraig) a dewisodd yr enw barddol Alys Meirion. Yn syth ar ôl y rhyfel, yn 1919, sefydlodd hi a Fanny y Forum Club preswyl yn Llundain, man cyfarfod cymdeithasol poblogaidd i fenywod yn unig, gan gynnwys Is-iarlles Rhondda.
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0110
Alice Williams yng ngwisg y Groes Goch Ffrengig
Roedd Alice Williams yn aelod o’r Groes Goch Ffrengig yn gweithio mewn ysbytai maes yn Ffrainc 1915-1918.
Mair Jenkins
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Plentyn
Nodiadau: Ffotograff adeg pen-blwydd efallai o Mair, 7 neu 8 oed. Ganwyd hi ar 18fed Ebrill 1908, ac mae’n gwisgo ‘gwisg nyrs’ newydd sbon.
Cyfeirnod: WaW0125
Winifred Owen
Man geni: Sir Drefaldwyn
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Roedd Winifred (ganed 1888) yn ferch i feddyg. Gwasanaethodd menw ysbyty yng Nghaergrawnt gydol y rhyfel, gan eistedd un tro nesaf at fwyler hydrotherapi a oedd yn bygwth ffrwydro er mwyn lleddfu ofnau’r cleifion. Priododd feddyg ar ôl y rhyfel, ac ni fu’n gweithio wedyn.
Cyfeirnod: WaW0126
C Lloyd
Man geni: Tonpentre
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Cofeb: Capel M C Jerusalem , Tonpentre, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Miss C Lloyd y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentre
Cyfeirnod: WaW0157
Restr Anrhydedd
Enw Miss C Lloyd, Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentrernrn