Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Rose Owen
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: Erthylwraig
Nodiadau: Daethpwyd a Rose Owen gerbron yr ynadon ym Mhen-y-bont ym mis Awst 1919 wedi ei chyhuddo o roi llawdriniaeth anghyfreithlon I Elizabeth Williams, gweddw. Bu’r achos yn un hir gan fod Elizabeth Williams yn ddifrifol wael. Fodd bynnag, gwellodd ac anonwyd yr achos I Lys y Goron Caerdydd lle dedfrydwyd Mrs Owen I 18 mis o lafur caled. Ymddengys ei bod yn erthylwraig broffesiynol gan fod menywod o’r cymoedd ac o Gaerdydd wedi eu gweld yn mynd I’w thy, yn ogystal â merched sengl a oed dyn aros yno.
Cyfeirnod: WaW0461
Adroddiad papur newydd
Rhan o adroddiad achos llys a dedfryd euog Rose Owen yn Llys y Goron, Caerdydd. Glamorgan Gazette 21 Tachwedd 1919
Gertrude Morgan
Man geni: Pen-y-bont ar Ogwr?
Gwasanaeth: Tocynwraig , GWR
Nodiadau: Roedd Gertrude yn docynwraig yng ngorsaf reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr, ond ymosodwyd arni gan Lewis Davies, gan ei chicio y neu chlun. Roedd a glowr arall wedi cieiso teithio heb docyn. Yn ôl y nad roedd llawer gormod o’r fath hwliganiaeth hyn ym MHen-y-bont a dirwywyd Davies £2.
Cyfeirnod: WaW0458
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y ffrwgwd yng Ngorsaf Reilffordd Pen-y-bont. Glamorgan Gazette 13 Medi 1918
Nancy Davies
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Plentyn yn perfformio
Nodiadau: Gelwid ‘Nancy Davies Fach’ yn ‘Seren Fach Abertawe’. Yn blentyn roedd yn gomediwraig o fri a gymerai ran mewn cyngherddau codi arian yn ardal Abertawe yn 1918 ac yn rheolaidd yn yr Empire, Abertawe. Ymddangosodd hefyd yn yr Empire Caerdydd.
Cyfeirnod: WaW0456
Hysbyseb papur newydd
Enw Nancy Davies ar hysbyseb yr Empire Aberatwe. Cambria Daily Leader 18 Ebrill 1919
Adroddiad papur newydd
Adolygiad am Nancy Davies yn yr Empire Abertawe. South Wales Weekly Post 10 Mai 1919
Fannie Thomas
Man geni: Dolgellau
Gwasanaeth: Athrawes, Swffragét, Cynghorydd
Nodiadau: Ganwyd hi yn 1868, yn un o chwech o blant i gyfrifydd gyda’r National Provincial Bank. Roedd Fannie Thomas yn athrawes, swffragét ac o 1895 ymlaen yn Brifathrawes gyntaf ysgol y Babanod ac ar ôl 1908 Ysgol y Merched Ffaldau, Pontycymer, lle bu am 35 mlynedd. Deilliodd ei diddordeb mewn rhyddfreinio menywod o ymaelodi gyda’r National Union of Teachers a oedd yn brwydro am dâl cyfartal ag athrawon gwrywaidd. Yn 1906 roedd yn un o sylfaenwyr y National Union of Women Teachers, a bu’n Llywydd arno yn 1912. Gwahoddodd Adela Pankhurst i siarad am ryddfreinio menywod ym Mhontycymer (i godi arian i’r NSPCC) yn Ebrill 1907, a bu hithau’n annerch mewn sawl digwyddiad hefyd. Disgrifiodd y Glamorgan Gazette hi fel ‘rhyfelwraig ddewr dros achos menywod’. Roedd hi’n rhan o’r fintai Gymreig yng Ngorymdaith Goroni’r Menywod yn 1911. Trwy ei gwaith roedd yn ymwybodol iawn o dlodi’r ardal, ac ym mis Tachwedd 1914 safodd yn aflwyddiannus ar gyfer Bwrdd y Gwarcheidwaid (trechwyd hi gan fenyw arall, Mrs Edmund Evans, o 32 pleidlais). Fodd bynnag safodd Fannie yn llwyddiannus fel ymgeisydd Llafur ar gyfer Cyngor Dosbarth Trefol Ogwr a Garw yn 1919. Dwedir mai Fannie Thomas oedd y fenyw gyntaf i wisgo britsh pen-glin (ei llysenw’n lleol oedd Fanny Bloomers) ac mai hi oedd y gyntaf i reidio beic-modur. Gyda llawer o ddiolch i Ryland Wallace
Ffynonellau: Ryland Wallace :‘A doughty warrior in the women’s cause’. Llafur 2018 volume 12 number 3
Cyfeirnod: WaW0460
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am anerchiad Adela Pankhurst ar ran yr NSPCC a drefnwyd gan Fannie Thomas. Glamorgan Gazette 19 Ebrill 1907
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddadl am ryddfreinio menywod yn Institiwt Ffaldau; cyflwynodd Fannie Thomas y cynnig a ddylai menywod gael y bleidlais. Glamorgan Gazette 22 Ionawr 1909
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y gystadleuaeth am sedd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid. Collodd Fannie Thomas. Glamorgan Gazette 13 Tachwedd 1914.
Adroddiad papur newydd
Sylw ar ethol Miss F M Thomas i Gyngor Dosbarth Trefol Aberogwr a Garw. Glamorgan Gazette 11 Ebrill 1919
Gorymdaith Goroni’r Menywod
Fannie Thomas ail o’r dde, yn cario basged. Gwelir Rachel Barrett ar y chwith eithaf hefyd. Gorymdaith Goroni’r Menywod Mehefin 1911
Ysgol y Merched Ffaldau
Merched ac athrawon Ysgol y Merched Ffaldau 1925. Fannie Thomas yw’r ail ar y dde.
Margaret Lewis (Morris)
Man geni: Merthyr Tydful
Gwasanaeth: TFNS, 1916 - 1919
Nodiadau: Hyfforddodd Margaret Lewis yn Cumberland ac roedd yn Nyrs Ardal (Queen’s) cyn ymuno â staff y 4ydd Ysbyty Cyffredinol Deheuol (Southern General Hospital) yn Plymouth yn Nhachwedd 1916. Anfonwyd hi i Ffrainc yn 1917 a gwasanaethodd mewn sawl ysbyty a gorsafoedd clirio rhai a anafwyd. Cafodd gynnig cyfle i wasanaethu ‘yn y Dwyrain’ yn lle cael ei dadfyddino yn 1919, ond gwrthododd. Yn hytrach arhosodd gyda’r TANS (dan ei enw newydd) am sawl blwyddyn, gan gael ei dyrchafu o Nyrs Staff i Chwaer yn 1922, dywedir ei bod ‘yn dda ei thymer ac yn ddoeth’. Ymddiswyddodd ar ol priodi yn 1928.
Cyfeirnod: WaW0457
R E Jones
Man geni: Abertawe ?
Gwasanaeth: Swansea Infirmary Ysbyty Abertawe , 1916 -
Nodiadau: Roedd Miss R E Jones yn ymarferydd profiadol a phenodwyd hi yn Fferyllydd yn Ysbyty Abertawe ym mis Hydref 1916, gan guro dau ymgeisydd gwryw am y swydd. Roedd i dderbyn cyflog o £176 y flwyddyn.
Cyfeirnod: WaW0462
G L Reynolds
Gwasanaeth: Gwyddonydd, Cemegydd, 1917
Nodiadau: Yn 1915 Miss G L Reynolds oedd yr unig fyfyriwr ol-radd yn adran Gemeg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Adeg y Nadolig 1916 rhoddodd ei hymchwil o’r neilltu dros dro i fynd i wneud gwaith o ‘bwysigrwydd cenedlaethol’ i gwmni lliwio Morton Sundour Fabrics yng Nghaerliwelydd. Roedd y diwydiant lliwio wedi bod yn ddibynnol ar gemegion Almaenaidd, ac roedd angen arbenigedd Prydeinig. Nid yw’n glir a ddychwelodd i Aberystwyth neu beidio.
Cyfeirnod: WaW0464
Adroddiad Adrannol
Adroddiad yr adran Gemeg yn nodi bod Miss R G Reynolds wedi cael caniatâd i adael i wneud ‘ymchwil ar wneud llifynion arbennig’ yng Nghaerliwelydd.
Eva Jennie Fry (Savage)
Gwasanaeth: Gwyddonydd, botanegydd , University College Aberys
Nodiadau: Roedd tad Eva yn athro ysgol gynradd ac aeth hi yn fyfyrwraig fotaneg i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Roedd ganddi ddiddordeb neilltuol mewn mwsoglau. Ymunodd â’r Moss Exchange Club yn 1915. Graddiodd â gradd ddosbarth cyntaf Baglor yn y Gwyddorau yn 1916, a Meistr yn y Gwyddorau yn 1919, a chyhoeddodd ei hymchwil. Bu’n Ddarlithydd Cynorthwyol yn yr Adran Fotaneg cyn mynd yn ddarlithydd Botaneg yng Ngholeg Westfield, Prifysgol Llundain, yn 1925.
Cyfeirnod: WaW0462
Eva Jennie Fry (Savage)
Gwasanaeth: Gwyddonydd, botanegydd
Nodiadau: Roedd tad Eva yn athro ysgol gynradd ac aeth hi yn fyfyrwraig fotaneg i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Roedd ganddi ddiddordeb neilltuol mewn mwsoglau. Ymunodd â’r Moss Exchange Club yn 1915. Graddiodd â gradd ddosbarth cyntaf Baglor yn y Gwyddorau yn 1916, a Meistr yn y Gwyddorau yn 1919, a chyhoeddodd ei hymchwil. Bu’n Ddarlithydd Cynorthwyol yn yr Adran Fotaneg cyn mynd yn ddarlithydd Botaneg yng Ngholeg Westfield, Prifysgol Llundain, yn 1925.
Cyfeirnod: WaW0466
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am radd ddosbarth cyntaf Eva Jennie Fry. Cambrian News 21 Gorffennaf 1916.
Gertrude Annie Walters
Man geni: Pen-y-bont ar Ogwr?
Gwasanaeth: Gwyddonydd a botanegydd
Nodiadau: Roedd Gertrude yn un o ddau sgolor o Ysgol Sir Pen-y-bont ar Ogwr a enillodd ysgoloriaeth sirol Morgannwg i astudio mewn prifysgol yng Nghymru. (Roedd 7 ysgoloriaeth sirol i gyd). Mae’n amlwg ei bod yn wyddonydd yn ifanc iawn (ei phynciau eraill Lefel A eraill oedd Ffiseg a Chemeg), graddiodd o Aberystwyth yn 1919 gyda gradd ddosbarth cyntaf ‘wych’ ac ymunodd â’r adran Fotaneg.
Cyfeirnod: WaW0463
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ganlyniadau Tystysgrif Ysgol Uwch Gertrude, Glamorgan Gazette 24 Medi 1915
Adroddiad Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth
Adroddiad o Adran Fotaneg, Coleg Prifysgol Aberystwyth, 1919