Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Hannah Jane Davies
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1918/06/13 – 1919/03/26
Nodiadau: Roedd Hannah Davies yn nyrs dan hyfforddiant yn Ysbyty Milton, Portsmouth pan gafodd ei galw i fyny i Wasanaethu Gartref yn 3edd Ysbyty Cyffredinol Orllewinol Caerdydd, lle cafodd ei dyrchafu’n nyrs staff. Ymddengys iddi ddal y ffliw yn Chwefror 1919, pan y caiff ei disgrifio yn ‘welw’ ac anemig. Efallai mai dyma pam y cafodd ei rhyddhau o’i gwaith ym mis Mawrth 1919. Parhaodd i fod yn gysylltiedig â Gwasanaeth Nyrsio’r Fyddin Diriogaethol (dan ei enw newydd) nes iddi ymddeol yn 1936
Ffynonellau: WO-399-10779
Cyfeirnod: WaW0431
Datganiad o anabledd [rhan]
Anogid aelodau’r lluoedd arfog i lenwi datganiad anabledd wrth gael eu rhyddhau fel y gallent ei ddefnyddio yn dystiolaeth mewn unrhyw gais yswiriant yn y dyfodol.
Zillah Mary Jones
Man geni: Llanpumsaint
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Ganwyd Zillah yn sir Gaerfyrddin yn 1870 a hyfforddodd yn Ysbyty St Bartholomew Llundain. Ymddengys iddi weithio yn nyrs breifat am sawl blwyddyn, swydd a olygai fynd gyda chleifion i’r Aifft ac India’r Gorllewin, yna cafodd ei galw i fyny yn 1914 i wasanaethu ar long ysbyty Carisbrooke Castle. Roedd rhai o’r milwyr Cymreig yr oedd hi’n gofalu amdanynt wrth eu bodd i gael rhywun mewn awdurdod oedd yn siarad Cymraeg. Tra yno cafodd ei dyrchafu o fod yn Nyrs Staff i Chwaer. Yn ôl ei hunangofiant, roedd wedi gobeithio ymuno a Gwasanaeth Nyrsio yr RN, ac wedi anghofio iddi arwyddo i fod yn y TFNS. Ym mis Hydref 1915 cafodd ei hanfon i’r 4edd Ysbyty Cyffredinol Gogleddol yn Lincoln, er ei bod yn gobeithio cael gweithio ar long ysbyty arall. Mae’n cofnodi bod yr un a gymerodd ei lle ar y Carisbrooke Castle yn dioddef yn ddifrifol o salwch môr. Tra oedd hi’n Lincoln (lle bu am weddill y rhyfel) cafodd ddamwain ar ei beic a thorri ei bigwrn yn ddrwg. Ceir llawer o lythyrau am hyn yn ffeil y Swyddfa Ryfel. Ar ol cael ei rhyddhau dychwelodd i wneud nyrsio preifat. Cyhoeddwyd ei hunangofiant yn 1964.
Ffynonellau: A Sister’s Log: A Nurse\\\'s Reminiscences. Gomerian Press, 1964
Cyfeirnod: WaW0432
Hannah Davies (Hughes)
Man geni: Brymbo
Gwasanaeth: Nyrs, Not known / anhysbys
Nodiadau: Roedd Hannah Davies yn nyrs wedi ei hyfforddi ac efallai iddi wasanaethu yn un o ysbytai milwrol Lerpwl neu Gaer. Pan oedd yno cwrddodd ac yn ddiweddarach priododd y Preifat Joseph Hughes, a ddeuai o ardal Brymbo. Diolch i Nikki Dutton.
Cyfeirnod: WaW0427
Violet Williams
Gwasanaeth: Plismones, nyrs gynt, Ministry of Munitions Women’s Police Service
Nodiadau: Roedd Violet Williams, a Muriel Richards [qv], yn rhan o ymgyrch ar 28ain Rhagfyr 1918 i ddinoethi dwy fenyw dweud ffortiwn yn Nhanerdy, Abergwili. Dwedodd y fenyw dweud ffortiwn gyntaf, Eleanor Rees, wrth Violet fod dyn tywyll yn ei charu, a’i fod wedi ysgrifennu llawer o lythyron ati ond nad oedd hi wedi eu derbyn. Pan ofynnwyd iddi a oedd wedi ysgrifennu at ddyn, atebodd Violet ‘Ydw – dwi wedi ysgrifennu at fy mrawd sawl gwaith.’ Talodd 6c. am y sesiwn. Mary Evans oedd yr ail fenyw dweud ffortiwn yr ymwelodd y ddwy blismones â hi yr un bore. Dwedodd wrth Violet fod ‘dyn tywyll .. mewn swydd dda yn y Llywodraeth’ eisiau ei phriodi, ac y byddent yn cael deuddeg o blant yn cynnwys dwy set o efeilliaid! Cododd Mrs Evans 1/- am y sesiwn. Cafwyd y ddwy fenyw dweud ffortiwn yn euog a’u dirwyo 5/- yr un.
Cyfeirnod: WaW0446
Adroddiad papur newydd
Rhan o adroddiad y llys am achos llys dwy fenyw dweud ffortiwn; Roedd Violet Williams yn un o ddau dyst yr heddu. Carmarthen Journal 10 Ionawr 1919.
Janet Gulliver
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Athrawes, plisemones gweirfoddolwragedd, Swansea Women’s Patrols, February / Chwefror 1916-1917
Nodiadau: Roedd Janet Gulliver yn athrawes fathemateg a addysgwyd yng Ngholeg Somerville, Rhydychen. Ymunodd â Phatrol y Menywod yn Abertawe yn gynnar yn 1916. Efallai mai hi oedd y Janet Gulliver a anafodd ei choes wrth gwympo oddi ar wal ym mis Mai 1917.
Ffynonellau: https://blogs.some.ox.ac.uk/thegreatwar/2016/02/03/february-1916-women-patrols-moral-guardians-and-prototype-police/
Cyfeirnod: WaW0447
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Janet Gulliver yn anafu ei choes. Cambria Daily Leader 28ain Mai 1917.
Sergeant [later Inspector] Guthrie
Gwasanaeth: Plismones, Ministry of Munitions Women’s Police Service
Nodiadau: Dechreuodd Sarsiant Guthrie weithio ym Mhen-bre yn Ebrill 1917. Roedd wedi bod yn gweithio i’r heddlu am beth amser. Yn ôl Gabrielle West [qv] ‘Mae Sarsiant Guthrie yn gwneud y lle hwn yn anghyfannedd. Mae hi’n berson rhyfedd iawn: gwallt wedi ei dorri’n grop fel dyn; corff byrdew a dim gwasg fel dyn, traed mawr fel dyn; a math o lais tenor fel dyn. Yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf, nid oedd merched yn fodlon cael eu harchwilio ganddi: roeddent yn dweud ei bod yn ddyn-dditectif, nid yn blismones o gwbl … Beth bynnag, mae hi’n helbulus ac ychydig yn ansad.’
Ffynonellau: ed Avalon Richards Menus Munitions and Keeping the Peace: The Home Front Diaries of Gabrielle West 1914 -1917. Pen & Sword 2016.
Cyfeirnod: WaW0444
Ministry of Munitions Women’s Police Service
Plismonesau mewn ffatri arfau rhyfel (nid Pen-bre) Efallai mai Sarsiant Guthrie sydd yn y rhes gefn, yn ail o’r dde.
Muriel Richards
Gwasanaeth: Plismones, nyrs gynt, Ministry of Munitions Women’s Police Service
Nodiadau: Roedd Muriel Richards, a Violet Williams [qv], yn rhan o ymgyrch ar 28ain Rhagfyr 1918 i iddinoethi dwy wraig dweud ffortiwn yn Nhanerdy, Abergwili. Dwedodd y fenyw gyntaf, Eleanor Rees, wrth Muriel y byddai’n priodi dyn ifanc hardd, ac y byddai ei theulu’n gwrthwynebu hynny. Talodd 6c. am y sesiwn. Mary Evans oedd yr ail fenyw dweud ffortiwn yr ymwelodd y ddwy blismones â hi ar yr un bore. Dwedodd wrth Muriel y byddai’n cwrdd â dyn tywyll iawn; byddent yn priodi ac yn cael wyth o blant. Cododd Mary Evans 1/- am hyn. Cafwyd y ddwy fenyw dweud ffortiwn yn euog a chawsant ddirwy o 5/-.
Cyfeirnod: WaW0445
Adroddiad papur newydd
Darn o adroddiad llys am achos llys y ddwy fenyw dweud ffortiwn. Roedd Muriel Richards yn un o ddau dyst yr heddlu Carmarthen Journal 10 Ionawr 1919.
Gretta Davies
Man geni: Sili, Bro Morgannwg
Gwasanaeth: Llaethferch
Nodiadau: Erbyn cyfrifiad 1911 trigai Gretta a oedd yn 13 oed, ar fferm y teulu yn Llansbyddid ger Aberhonddu. Yn dilyn cwrs gwaith llaethdy yn Aberhonddu ddechrau haf 1917, enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Llaethdy Coleg y Brifysgol Aberystwyth. Fodd bynnag ymddengys bod Gretta wedi cymryd swydd athrawes yn ysgol newydd gydweithredol gwneud caws yng Ngwynfe, sir Gaerfyrddin yng Ngorffennaf 1919.
Cyfeirnod: WaW0453
Adroddiad papur newydd
Gretta a’i theulu a chymdogion yn perfformio mewn sgets ddoniol mewn cyngerdd yn Libanus, sir frycheiniog. Brecon Radnor Express 18 Ebrill 1918.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ganlyniadau Gretta yn ysgol llaethdy Aberhonddu Brecon Radnor Express 24 Ionawr 1918
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ysgoloriaeth Gretta i astudio am ddiploma mewn Llaethyddiaeth. Brecon County Times 30 Ionawr 1919.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Gretta yn athrawes mewn gwneud caws. Carmarthen Journal 18 Gorffennaf 1919.
Caroline Pearse Tremain
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: University College Aberystwyth, 1914 - 1919+
Nodiadau: Roedd Caroline Pearse Tremain yn warden Neuadd Alexandra, neuadd breswyl i fenywod yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, gydol y Rhyfel. Hyfforddodd yng Ngholeg Hyfforddi i Fenywod, Caergrawnt dan Elizabeth Phillips Hughes [qv], gan gael diploma gydag rhagoriaeth. Ar ôl rhai blynyddoedd yn dysgu, astudiodd Caroline am radd BA mewn Saesneg yn Aberystwyth yn 1899 a daeth yn wadren Neuadd Alexandra yn 1914. Hyrwyddodd sawl digwydiad codi arain yn y Neuadd, o ddarlithoedd i arddangosfeydd, ac anogodd y myyfyrwragedd i wneud gwaith rhyfel gyda’r VADs a sefydliadau eraill, ac i godi arian (codwyd bron £200 ar gyfer tystysgrifau Benthyciadau Rhyfel yn 1918) a bu rhai myfyrwragedd mentrus yn codi cerrig ac yn chwynnu i godi arian ar gyfer Wythnos Arfau Rhyfel. Roedd hi’n un o brif drefnwyr yr Ysgolion Haf a drefnid gan y Coleg bob blwyddyn hefyd.
Cyfeirnod: WaW0450
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am anerchiad agoriadol Caroline Pearse Tremain menw arwerthiant er buddy r YMCA. Cambrian news 6 Tachwedd 1914.
Adroddiad papur newydd
Darlith ar ‘Ymladd Clefyd Gwenerol yn Neuadd Alexandra. Caroline Pearse Tremain oedd yn llywyddu a mynychwyd hi gan 400 o fenywod. Cambrian News 12 Rhagfyr 1919
Mary Brebner
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: University College Aberystwyth, 1898 - 1919
Nodiadau: Graddiodd Mary Brebner yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth ac yna bu’n hyfforddi yng Ngholeg Hyfforddi i Fenywod Caergrawnt dan Elizabeth Phillips Hughes [qv]. Yna enillodd MA ym Mhrifysgol Llundain yn 1891. Ar ôl gweithio yn Llundain a Chymru bu’n teithio ar ysgoloriaeth. Mae ei llyfr The Method of Teaching Modern Languages in Germany yn dal mewn print, ac mae hi wedi cael ei disgrifio fel y fenyw fwyaf dylanwadol mewn dysgu ieithoedd tramor modern ym Mhrydain. Yn 1899 cafodd ei phenodi yn Ddarlithydd Cymorthwyol mewn ieithoed dmodern a Lladin yn Aberystwyth. Ddechrau’r Rhyfel roedd Dr Ethē, Athro Almaeneg yn Aberystwyth ers 1875 yn yr Almaen a wnaeth ei ddim dychwelyd oddi yno. Dyrchafwyd Mary yn ddarlithydd a rhedodd yr adran gydol y Rhyfel gan gynnwys yn sesiwn 1918-19 cyfnod welodd gryn anaswterau oherwydd y ffliw fawr. Yna ymddeolodd, a daeth dyn i’w holynu a bu’r byw ym Mhenmaenmawr, e rei bod yn dal ar fwrdd Prifysgol Cymru.
Cyfeirnod: WaW0451
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am MA Mary Brebner ym Mhrifysgol Llundain. South Wales Daily News 31st July 1893
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Mary Brebner i'r Coleg Prifysgol.Welsh Gazette 5th October 1899