Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Bessie M Richards
Man geni: Wenallt ?
Gwasanaeth: Comisiynydd Rhanbarthol y Geidiau, Girl Guides, 1915 - 1918
Nodiadau: Roedd Bessie yn Geid amlwg ac yn ddigon hen i wneud gwaith gwirfoddol yn Ysbyty’r Groes Goch yn Aberdâr. Yn Awst 1917 penodwyd hi’n Gomisiynydd dros Aberdâr a Merthyr, gyda’r nod o sefydlu cwmnïau newydd yn yr ardal.
Cyfeirnod: WaW0412
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Bessie Richards yn Gomisiynydd dros Aberdâr a Merthyr. Aberdare Leader 11 Awst 1917
Elizabeth Roberts
Man geni: Sir Ddinbych ?
Nodiadau: Mae cerdyn y Groes Goch yn cofnodi i Elizabeth weithio am 11 mis fel golchwraig yn Ysbyty Atodol Bryncunallt, Y Waun am 4-5 diwrnod yr wythnos, un ohonynt heb dâl. Roedd ei gŵr yn löwr, ac i ffwrdd yn ymladd. Yn ôl y penswyddog ‘Roedd y gwaith yn drwm iawn, a gweithiodd oriau ychwanegol heb rwgnach, a gwneud y gwaith yn rhagorol.’ Nid oedd yn Aelod o’r Groes Goch Brydeinig.
Cyfeirnod: WaW0417
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Elizabeth Roberts [cefn] yn nodi ei gwasanaeth.
Gwerfyl R Williams
Man geni: Bangor
Gwasanaeth: 1919 -
Nodiadau: Penodwyd Gwerfyl Williams yn masseuse yng nghlinig cleifion allanol y Weinyddiaeth Bensiynau ym Mangor ym mis Hydref 1919.
Cyfeirnod: WaW0419
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Gwerfyl yn masseuse ym MangorrnNorth Wales Chronicle 31 Hydref 1919
Lily Stock
Man geni: Pont-y-pŵl
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, November 1917 – August 1919
Nodiadau: Gwasanaethodd Lily yn VAD mewn ysbytai ym Mryste a Colchester. Cafodd ei thalu a chododd y tâl o £12 y flwyddyn i £20 y flwyddyn. Gwelir ei henw ar Gofrestr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Griffithstown – ddwywaith efallai, enwir Nyrs Stock a Lily Stock. Mae dwy set o gardiau Croes Goch, un yn enw Beatrice Lily Stock ac un yn Lily yn unig. Fel arall mae’r manylion yr un fath.
Cyfeirnod: WaW0416
Rhestr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Griffithstown
Rhestr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Griffithstown gydag enwau Nyrs Stock a Lily Stock. Diolch i Gethin Matthews. rn
Mary Evans
Man geni: Abertawe ?
Gwasanaeth: Masseuse, VAD, 1914 - 1918
Nodiadau: Roedd Mary Evans yn masseuse broffesiynol a wirfoddolodd i fod yn VAD mewn pedwar Ysbyty’r Groes Goch. Torrodd ei hiechyd yn 1918, a chafodd hi ei hun mewn ysbyty. Cymerodd Mr a Mrs Walton ei busnes drosodd yn 1919.
Cyfeirnod: WaW0418
Hysbyseb papur newydd
Rhybudd fod y Waltons yn cymryd practis Miss Evans drosodd. Cambria Daily Leader 23 Rhagfyr 1919
Rhestr Anrhydedd
Enw Midd Mary Evans ar Restr Anrhydedd Capel Stryd Henrietta, Abertawe. Diolch i Gethin Matthews.
Queenie Parry
Man geni: Glyn Ebwy ?
Gwasanaeth: Nyrs, Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel a chwaraewraig rygbi, VAD, March 1915 – May 1918 Mawrth
Nodiadau: Roedd Queenie yn Aelod o VAD Glyn Ebwy yn wreiddiol, ond cafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Maindiff Court, Y Fenni. Gweithia yno fel nyrs nos am £20 y flwyddyn. Cafodd ei symud i weithio i ffatri arfau Rotherwas , swydd Henffordd. Cynigiodd ddychwelyd i Maindiff Court petai angen.rn
Cyfeirnod: WaW0424
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cefn cerdyn Queenie Parry yn nodi manylion ei symud i’r ffatri arfau.
R Ellis
Man geni: Aberystwyth ?
Gwasanaeth: Masseuse, VAD, 1919 -
Nodiadau: Roedd Miss R Ellis yn gweithio fel masseuse yn Ysbyty’r Groes Goch, Aberystwyth. Caeodd honno yn 1919. Gwnaed trefniadau dros dro iddi barhau i weithio gyda chyn-filwyr anabl yn yr Ysbyty.
Cyfeirnod: WaW0420
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y trefniadau gwaith a wnaed ar gyfer Miss Ellis. Cambrian News 25 Ebrill 1919.
Ella Jane Vincentia MacLaverty
Man geni: Llangatwg Feibion Afel
Gwasanaeth: Gyrwraig, FANY, Red Cross, 1914 ? - 1919
Nodiadau: Ganwyd Ella MacLaverty yn 1880, yn ieuengaf o blant ficer cyfoethog o Langatwg ger Trefynwy. Efallai iddi ymuno â’r Groes Goch yn yrwraig yn 1914; roedd hi’n bendant yn Aelod o Iwmyn Nyrsio Cymorth Cyntaf erbynGorffennaf 1918, ac efallai iddi fod yn rhan o gonfoi St Omer pan ymwelodd George V â meysydd y gad. Yn ddiweddar yn ystod y rhyfel ac ar ôl y Cadoediad bu’n gweithio yn gyrru’r rhai oedd yn clrio bomiau heb ffrwydro yn Hazebrouck a Poperinge.
Cyfeirnod: WaW0414
Gwenllian Lewis
Man geni: Treharis
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, November/Tachwedd 1914 – Jul
Nodiadau: Ymddengys i Gwenllian Lewis weithio yn nyrs breifat yng Nghanolbarth Lloegr cyn cael ei galw i ymrestru yn 1914. Treuliodd dair blynedd yn y 5fed Ysbyty Cyffredinol Gogleddol yng Nghaerlŷr cyn mynd i Ffrainc yn 1917. Arhosodd yno tan yn gynnar yn 1919 ac yna dychwelodd i Gaerlŷr. Mae pob un o’i gwerthusiadau blynyddol yn cyfeirio ati yn ‘nyrs dda’ a oedd yn garedig wrth y cleifion. Colli ei bathodyn TFNS oedd yr unig beth wnaeth hi o le, a gorfu iddi dalu am un newydd yn ei le.
Cyfeirnod: WaW0426
Esther Novinski/y
Man geni: Tonypandy
Gwasanaeth: Meddyg
Nodiadau: Merch gemydd yn Nhonypandy , rhan o’r gymuned Iddewig yn y Cymoedd oedd Esther. Mynychodd Ygsol Sir y Porth cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd. Ar ôl graddio yn 1915 cwblhaodd Esther ei hyfforddiant meddygol yn Ysbyty’r Royal Free, Llundain. Cafodd ei phenodi yn brif lawfeddyg yno ym Mai 1918 er nad oedd eto’n 27 oed!
Cyfeirnod: WaW0436
Adroddiad papur newydd
Adroddiad at benodiad Esther Novinski yn Ysbyty Royal Free. Rhondda Leader 18 Mai 1918.