Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Catherine Dorothy Thomas
Man geni: Crai Pont Senni c 1897
Gwasanaeth: Merch
Marwolaeth: 1918-11-28, Influenza / Y Ffliw
Nodiadau: Roedd Dorothy yr ail ieuengaf mewn teulu o wyth o blant. Bu ei mam farw yn 1912. Yn ôl yr hanes, meddai Catrin Edwards, trawyd y teulu gan y ffliw fawr ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Dorothy yn 21 oed ar y pryd a bu’n nyrsio’i theulu nes eu bod yn well, ond yna, yn 1918, daliodd hithau’r ffliw a bu farw ar Dachwedd 28ain.
Cyfeirnod: WaW0105
Catherine Dorothy Thomas c.1912
Catherine Dorothy ‘Dollis’ Thomas, tua 14 oed. Ymddengys ei bod yn gwisgo mwrning, felly efallai i’r llun gael ei dynnu yn 1912 pan fu farw ei mam.
Celia Janet (yn sefyll) a Polly Thomas, c.1912
Celia Janet (‘Sis’) Thomas a’i chwaer hŷn Polly. Ymddengys eu bod yn gwisgo mwrning, felly efallai i’r llun gael ei dynnu yn 1912 pan fu farw eu mam.
Amy Laura Whitcombe
Man geni: Hengoed
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-11-03, S C Convalescent Hospital, Plymouth, Influenza / Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Ystrad Mynach a Hengoed, Morgannwg
Nodiadau: 24 oed.
Cyfeirnod: WaW0063
Ada Doris Maud Lesser (Radcliffe)
Man geni: Nova Scotia
Gwasanaeth: Gweithwraig , QMAAC
Marwolaeth: 1918/12/04, ]Ysbyty Milwrol Tidsworth, Wiltshire , Influenza / y ffliw
Cofeb: Cycladdfa Dan-y-graig, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Ada tua 1879, a symudodd ei theulu i Abertawe. rnPriododd Arthur Charles Lesser yn Rhagfyr 1899. Yn ôl yr adysgrif a rei bed yr oedd yn 36 oed pan fu farw, ond mae’n debygol ei bod yn hŷn na hynny. Diolch i Diana Morgan.
Cyfeirnod: WaW0190
Gwynedd Violet Llewellyn
Man geni: Bewdley, swydd Gaerwrangon
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1918/11/03, Rouen, Ffrainc, Influenza / Y Ffliw
Nodiadau: Ymddengys enw Gwynedd Violet Llewellyn yn Llyfr Cofio cenedlaethol Cymru. Yn anffodus, er gwaetha’i henw, nid ymddengys fod ganddi unrhyw gysylltiad â Chymru. Roedd ei chysylltiadau teuluol â siroedd Caerwrangon a Gwlad yr Haf.
Cyfeirnod: WaW0214
Lily Jenkins
Man geni: Coety ?
Gwasanaeth: Nyrs
Marwolaeth: 1918/11/28, East Hampstead, Influenza / Y Ffliw
Nodiadau: Ni wyddys fawr ddim am Lily Jenkins, a fu’n nyrs yn Ysbyty Bracknell, East Hampstead am bedair blynedd. Bu farw yn 21 oed.
Cyfeirnod: WaW0348
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth ac angladd Nyrs Lily Jenkins. Glamorgan Gazette 20fed Rhagfyr 1918
Violet Pearce
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: clerc bwcio, NWR
Marwolaeth: November 1918, Abertawe, Influenza / y ffliw
Nodiadau: Roedd Violet Pearce yn glerc bwcio ar Orsaf Victoria Abertawe pan fu farw o’r ffliw Sbaenaidd ddechrau Tachwedd 1918.
Cyfeirnod: WaW0373
Kate Hopkins
Man geni: Ystradgynlais
Gwasanaeth: Nyrs, Not known / anhysbys, 1915 - 1918
Marwolaeth: 1918/10/26, Llundain, Influenza / y ffliw
Nodiadau: Roedd Kate Hopkins yn athrawes addawol, wedi ei hyfforddi yn Stafford trwy ysgloriaeth gan Forgannwg. Dechreuodd nyrsio yn Llundain am Great Western Hospital yn 1915, a bu farw yno o’r ffliw Sbaenaidd yn 34 oed.
Cyfeirnod: WaW0406
Emily May Thomas (née Matthews)
Man geni: Caerfyddin
Marwolaeth: November /1918 / Tac, Caerfyddin, Influenza / y ffliw
Nodiadau: Addysgwyd Emily yn Ysgol Sir y Merched, Caerfyrddin a matricwleiddiodd yn ifanc, yn 16 oed. Daeth yn athrawes yn Ysgol (Eglwysig) Model, Caerfyrddin. Yn Chwefror 1918 priododd yr Is-gapten Richard Thomas o Gorfflu y Gynnau Periiant a oedd yn athro hefyd. Anafwyd ef ym mis Hydref 1918. Ym mis Tachwedd yn syth wedi iddo ddod adref o’r Ysbyty, daliodd Emily’r ffliw a bu farw.
Cyfeirnod: WaW0423
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am lwyddiant Emily Matthews yn yr arholiad rnCarmarthen Weekly Reporter 9 Medi 1910.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am briodas Emily Matthews a Richard Thomas rnCarmarthen Weekly Reporter 15 Chwefror 1918.
Ida Williams
Man geni: Llangammarch
Gwasanaeth: Athrawes
Marwolaeth: August / 1918 / Awst, Llangammarch , Influenza / y ffliw
Nodiadau: Graddiodd Ida Williams yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth. Dysgodd mewn ysgolion canolradd yn Aberystwyth, Caerdydd, Bargoed ac yn olaf Llundain, lle collodd ei hiechyd tua blwyddyn cyn iddi farw. Ymddengys ei bod yn gerddorol a’i bod wedi cyfrannu at gyhoeddiadau gan gynnwys Y Cymro.
Cyfeirnod: WaW0422
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar farwolaeth ac angladd Miss Ida Williams BA. Brecon County Times 8 Awst 1918
Megan Davies
Man geni: Aberdâr
Gwasanaeth: Cantores, clerc mewn banc
Marwolaeth: 1919/03/25, Aberdâr, Influenza / y ffliw
Nodiadau: Roedd Megan Davies yn adnabyddus fel unawdydd o gontralto yn ardal Aberdâr a pherfformiodd mewn llawer o gyngherddau i Arwyr y Rhyfel. Gweithiai ym Manc Barclay’s Merthyr
Cyfeirnod: WaW0421
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd o Chyngerdd Arwr Rhyfel gyda'r enw Megan Davies.Aberdare Leader 5ed Ionwawr 1918.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Megan Davies o’r ffliw, yn 29 oed. Aberdare Leader 29 Mawrth 1919