Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Edith Frances Barker
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: VAD, February/Chwefror 1915 – Apr
Marwolaeth: 1918/04/03, St Omer, Ffrainc, Illness / Salwch
Cofeb: Eglwys Sant Collen, Llangollen, Sir Ddinbych
Nodiadau: Ganed hi yn 1869, yn ferch i fragwr o Lerpwl. Trigai Edith gyda’i dau frawd yn Neuadd Pen-y-Bryn, Llangollen am sawl blwyddyn o 1901 ymlaen. Bu’n nyrsio ym Malta a Ffrainc lle bu farw yn 49 mlwydd oed. Cafodd ei chladdu ym Mynwent Goffa Longueness (St Omer) a gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Llangollen.
Ffynonellau: https://grangehill1922.wordpress.com/2013/11/19/edith-frances-barker/
Cyfeirnod: WaW0174
Dogfen Beddau’r Imperial War
Dogfen yn rhoi cyfarwyddiadau am arysgrifau ar gerrig beddau ym mynwent Goffa Longueness. Nodir arni bod Edith yn 49oed.
Ryda Rees
Man geni: Cei Newydd, Ceredigion
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915 - 1919
Marwolaeth: 1919/11/16, illness / salwych
Nodiadau: Roedd Ryda yn 29 oed pan fu farw. Bu’n gwasanaethu yn 3edd Ysbyty Gorllewinol, Caerdydd ‘nes i’w hiechyd ddirywio’.
Cyfeirnod: WaW0206
Ryda Rees
Casglwyd llun Ryda gan Isbwyllgor Menywod yr Imperial War Museum yn rhan o’i chasgliad o fenywod a fu farw yn ystod y rhyfel.
Caroline Jackson Davies
Man geni: Llanymddyfri
Gwasanaeth: Prif arweinydd adrannol Cogyddes, WRNS, 22/05/1918
Marwolaeth: 1918-10-26, Caerfyrddin, illness/salwch
Nodiadau: 22 oed. Claddwyd yn Llandingad
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-war-memorials/
Cyfeirnod: WaW0005
Clemima Coopey
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel, 1916 - 1918
Marwolaeth: 1918-02-26, Ysbyty Gweithwyr Blaenafon , Industrial Accident / Damwain Ddiwydiannol
Nodiadau: Cafodd Clemima Coopey ei dal mewn peiriant yn nhŷ-peiriant Cwmni Blaenavon Cyf. Roedd yn rhuthro i ddal y trên 9.30 y.h., ac roedd wedi gadael ei hesgidiau yno yn anghyfreithlon. Roedd ei gŵr yn ymladd yn Salonica, ac roedd ganddi dri phlentyn bach.
Cyfeirnod: WaW0071
Helena May Rowlands
Man geni: Llangefni
Gwasanaeth: Nyrs, Territorial Nursing Service/Gwasanaeth Nyrsio Tiri
Marwolaeth: 1919-05-10, Ysbyty Twymyn Milwrol Lerpwl, Influenza
Cofeb: Cofeb y Nyrsys, Llanelwy, Sir y Fflint
Nodiadau: 24/25 oed. Claddwyd yng Nghapel Mynydd Seion, Abergele. Aethpwyd â'i chorff ar y trên o Lerpwl i Abergele, ac yn syth i'r gladdfa i osgoi heintio.
Cyfeirnod: WaW0054
Aldwyth Katrin Williams
Man geni: Llanbedr-y-Cennin
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 - 1918
Marwolaeth: 1918/11/08, Influenza / Ffliw
Cofeb: Gladdfa St Tudno, Llandudno, Sir Gaernarfon
Nodiadau: Unig ferch rheithor Llanbedr-y-Cennin oedd Aldwyth. Ymunodd â’r VAD yn gynnar yn ystod y rhyfel, a gweithiodd dri niwrnod yr wythnos yn ysbytai’r Groes Goch yn Llandudno, yn coginio a glanhau yn ogystal â nyrsio. 26 mlwydd oed oedd hi pan fu farw.
Ffynonellau: http://historypoints.org/index.php?page=great-orme-grave-aldwyth-williams
Cyfeirnod: WaW0262
Bedd Aldwyth Williams
Bedd Aldwyth Katrin Williams, Eglwys Sant Tudno, Y Gogarth, Llandudno. Llun trwy garedigrwydd Laurence Manton
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am angladd Aldwyth Katrin Williams, Y Clorianydd 27 Tachwedd 1918. Argraffwyd adroddiadau cyffelyb yn Y Cymro a Y Dydd. rn
Hannah Davies
Man geni: Y Glog, sir Benfro
Gwasanaeth: Chwaer
Marwolaeth: 1918 ?, Y Glog, sir Benfro, Influenza / Ffliw
Nodiadau: Roedd Hannah Davies yn chwaer i ddau filwr, William a John, a oedd yn gwasanaethu tramor. Lladdwyd John, yr ieuengaf, a chladdwyd ef yn Jeriwsalem. Goroesodd William, ond daeth â’r ffliw Sbaenaidd adre gydag ef. Goroesodd hwnnw hefyd, ond daliodd Hannh ef wrth ei nyrsio, a bu farw. Mae llythyrau oddi wrth y ddau frawd, yn Gymraeg a Saesneg, wedi goroesi.
Cyfeirnod: WaW0243
Llythyr
Llythyr Saesneg oddi wrth William at Hannah Davies, ysgrifennwyd ar bapur YMCA, ar Ionawr 21ain, 1918
Llythyr (cefn)
Cefn llythyr yn Saesneg oddi wrth William at Hannah Davies, wedi ei ysgrifennu ar bapur YMCA, ar Ionawr 21ain, 1918
Lythyr
Llythyr yn Gymraeg oddi wrth William at Hannah Davies, wedi ei ysgrifennu ar bapur Church Army Recreation Hut. Gaeaf 1917-18
Llythyr (cefn)
Llythyr yn Gymraeg oddi wrth William at Hannah Davies, wedi ei ysgrifennu ar bapur Church Army Recreation Hut. Gaeaf 1917-18 (cefnrn
Hylda Salathiel
Man geni: Pencoed
Gwasanaeth: Nyrs, chwaraewraig hoci, South Wales Nursing Association
Marwolaeth: 1918/11/06, Caerdydd, Influenza / Ffliw
Nodiadau: Roedd Hylda Salathiel, yn un o saith chwaer ac addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd Penybont ar Ogwr. Hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol Merthyr. Am gyfnod bu’n chwaraewraig hoci ryngwladol, gan chwarae i dimau Menywod Penybont a De Cymru. Bu’n nyrsio yn Bournemouth am gyfnod, ond dychwelodd i dde Cymru, lle daliodd y ffliw a bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach. Gwellodd y claf ac anfonodd flodau i angladd Hylda.
Cyfeirnod: WaW0301
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gêm hoci ryngwladol rhwng Menywod de Cymru a Mynwy a Menywod Munster. Glamorgan Gazette 12fed Chwefror 1909
Hilda Jessie Downing
Man geni: Y Drenewydd
Gwasanaeth: Nyrs, 1914 - 1918
Marwolaeth: 1918-10-10, Y Drenewydd, Influenza / Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn
Nodiadau: 29 oed. Gweithiai yn ysbyty filwrol Broadstairs, Caint
Cyfeirnod: WaW0010
Olive Jenkins
Man geni: Pontnewynydd
Gwasanaeth: Chwaer Nyrsio, VAD, 1916-07-04 - 1918-12-02
Marwolaeth: 1918-12-02, Ysbyty Caerleon, Influenza / Y Ffliw
Cofeb: Giatiau Coffa Rhyfel , Pont-y-pŵl, Sir Fynwy
Nodiadau: Marw oed 28.
Ffynonellau: http://www.gwentarchives.gov.uk/media/38358/ww1-newsletter-13082014-compressed.pdf;http://www.redcross.org.uk/About-us/Who-we-are/History-and-origin/First-World-War/Search?fname=Olive&sname=Jenkins&hosp=Pontypool
Cyfeirnod: WaW0088