Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl galwedigaeth
Jean Arbuckle
Man geni: Yr Alban
Gwasanaeth: Merch
Nodiadau: 'Ganwyd fy mam, Jean Wardlaw Arbuckle, yn yr Alban a threuliodd ei blynyddoedd cynnar yno mewn nifer o drefi a phentrefi bychain yn y canolbarth rhwng Gourock yn y gorllewin a Preston Pans yn y dwyrain. Hi oedd y trydydd plentyn mewn teulu o ddeuddeg. Pan oedd hi tuag 11 oed, symudodd y teulu i gymoedd glofaol de Cymru, wrth i’w thad geisio am ddyrchafiad yn y diwydiant glo. Roedd fy mam yn 15 oed pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn yr atgofion a draddododd i mi sonia am brinder difrifol o fwyd, ei gost uchel, nes cyflwyno dogni. Dwedodd fod hyn yn hollol annheg ar deuluoedd tlawd iawn, ac i ddogni wella’r sefyllfa. Ar ddechrau’r Rhyfel trigai’r teulu yn Nhon-du, i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr, ond symudon nhw i Lanharan wyth milltir o Ben-y-bont rywdro yn 1915. Mynychodd hi Ysgol Sir Pen-y-bont yn y cyfnod hwn, gan deithio yno o orsaf drên Llanharan. Roedd prinder staff wedi arwain at gyfuno rhywfaint ar ysgolion y bechgyn a’r merched. Ymddengys bod y drefn hytrach yn llac a bod tipyn o chwarae triwant. Byddai’r disgyblion yn diflannu yn aml yn ystod y dydd, yn cerdded Merthyr Mawr, yn fechgyn a merched gyda’i gilydd. Un diwrnod penderfynodd hi adael yr ysgol yn gynnar, cafodd lifft gan ffermwr, ar ei geffyl a chert nôl i Lanharan ar hyd heolydd troellog, cul. Gan fy nhad-cu roedd un o’r ceir cyntaf yn yr ardal bryd hynny, a chlywodd hi e’n dod ar hyd y ffordd tuag atynt. Gwyddai, pe gwelai e hi y câi ei churo â strapen, felly neidiodd oddi ar y gert, dros y clawdd, a cherddodd weddill y ffordd adre. Roedd y teulu yn aelodau gyda’r Brodyr Plymouth, ond nid yw hynny fel petai wedi rhwystro’r plant rhag bod ychydig yn ddi-wardd.' Janet Davies 13.11.2015.
Cyfeirnod: WaW0078
Catherine Dorothy Thomas
Man geni: Crai Pont Senni c 1897
Gwasanaeth: Merch
Marwolaeth: 1918-11-28, Influenza / Y Ffliw
Nodiadau: Roedd Dorothy yr ail ieuengaf mewn teulu o wyth o blant. Bu ei mam farw yn 1912. Yn ôl yr hanes, meddai Catrin Edwards, trawyd y teulu gan y ffliw fawr ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Dorothy yn 21 oed ar y pryd a bu’n nyrsio’i theulu nes eu bod yn well, ond yna, yn 1918, daliodd hithau’r ffliw a bu farw ar Dachwedd 28ain.
Cyfeirnod: WaW0105
Catherine Dorothy Thomas c.1912
Catherine Dorothy ‘Dollis’ Thomas, tua 14 oed. Ymddengys ei bod yn gwisgo mwrning, felly efallai i’r llun gael ei dynnu yn 1912 pan fu farw ei mam.
Celia Janet (yn sefyll) a Polly Thomas, c.1912
Celia Janet (‘Sis’) Thomas a’i chwaer hŷn Polly. Ymddengys eu bod yn gwisgo mwrning, felly efallai i’r llun gael ei dynnu yn 1912 pan fu farw eu mam.
Elzabeth Francis (Hopkin)
Man geni: Coity, Penybont-ar-Ogwr
Gwasanaeth: Merch fferm
Nodiadau: Ganed Elizabeth yn 1898 ac roedd hi’n ail ferch fermwr a chigydd. Roedd ganddi nifer o frodyr a chwiorydd iau. Gadawodd hunangofiant a ysgrifennwyd yn 1981.‘… Cadwem forwyn bob amser, hynny yw nes i mi adael yr ysgol yn 14 oed. Roedd fy mam yn falch i’m cael gartref gan ein bod wedi cael anhawster cadw morynion am ein bod mor anghysbell.‘ Symudodd y teulu i Langrallo yn 1914, lle bu hi’n helpu gyda gwaith tŷ ac yn y llaethdy. Galwyd ei brawd hŷn i’r fyddin yn 1916. Dywed eu bod arfer anfon parseli o fwyd, sigarennau yr arferent eu gwnïo i lieiniau a.y.b. ato. Goroesodd y rhyfel yn ddi-anaf. Priododd Elizabeth yrrwr injan, Cadwaladr Ivor Hopkin, yn 1925.
Cyfeirnod: WaW0131
Helene Geens (Smart)
Man geni: Malines/Mechelen, Gwlad Belg
Gwasanaeth: merch ysgol
Marwolaeth: 1994, Achos anhysbys
Nodiadau: HHelene Geens oedd un o’r ffoaduriaid cyntaf o Wlad Belg i gyrraedd Prestatyn ym mis Hydref 1914, gyda’i rhieni, ei brawd bach a dwy fodryb ddi-briod. Dychwelodd ei rheini a’i brawd i Wlad Belg yn 1915, ond arhosodd hi gyda’i dwy fodryb. Setlodd yn gyflym i fywyd yno, gan fynychu ysgol breifat i ferched Pendre, lle’r ymddengys iddi serennu, ac ymunodd â’r Geidiau. Dychwelodd i Wlad Belg ar ôl y rhyfel. Cyrfarfu a phriododd ei Sais o ŵr yng Ngwlad Belg yn 1928, setlon nhw yn Swydd Gaerloyw. Darparodd eu merch Diane lawer o wybodaeth a lluniau ar gyfer Gwefan Ffoaduriaid Belgaidd y Rhyl.
Ffynonellau: https://refugeesinrhyl.wordpress.com/geens/
Cyfeirnod: WaW0437
Megan Arfon Lloyd George
Man geni: Cricieth
Gwasanaeth: Merch ysgol, gwleidydd yn ddiweddarach
Marwolaeth: 1966/05/14, Achos anhysbys
Nodiadau: Notes [En] For the first few years of her life Megan lived in the family’s Welsh-speaking home in Criccieth. When she was 4 her father Lloyd George became Chancellor of the Exchequer, and the family from then on split their time between 11 (later 10) Downing Street and North Wales. From an early age she appeared with her father at public events. In February 1919, when she was 17, she accompanied him to the Paris Peace Conference. Her presence created something of a stir, though she was in fact at school in Paris too. Later she wrote ‘I’ve had politics for breakfast, lunch, tea and dinner all my life.’ In 1928 she became Wales’s first woman Member of Parliament, for Anglesey.rnNotes [Cy] Yn ystod ei blynyddoedd cynnar roedd Megan yn byw gyda’i theulu o Gymry Cymraeg yng Nghricieth. Pan oedd yn 4 oed daeth ei thad David Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys, ac wedi hynny rhannai’r teulu ei amser rhwng 11 (wedyn 10) stryd Downing a gogledd Cymru. O oedran cynnar byddai’n ymddangos gyda’i thad mewn digwyddiadau cyhoeddus. Yn Chwefror 1919, pan oedd hi’n 17 oed, aeth gydag e fi Gynhadledd Heddwch Paris. Gwnaeth hynny gryn argraff, er ei bod mewn gwirionedd yn yr ysgol ym Mharis hefyd. Yn ddiweddarach ysgrifennodd ‘Rwyf wedi cael gwleidyddiaeth i frecwast, cinio, te a swper ar hyd fy mywyd.’ Yn 1928 hi oedd y fenyw gyntaf i ddod yn Aelod Seneddol dros Gymru a hynny yn Sir Fôn. rn
Ffynonellau: A Radical Life: Biography of Megan Lloyd George, 1902-66. Mervyn Jones
Cyfeirnod: WaW0434
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Megan yn agor estyniad i feithrinfa yn y Claremont Central Mission. Evening Express 15 Awst 1910
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar fywyd cymdeithasol byrlymus Megan ym Mharis Llangollen Adevrtiser 7 Chwefror 1919.
Jane M Jones
Man geni: Llandeiniol
Gwasanaeth: Metron, RRC
Cofeb: Plac i'r rhai fu yn gwasanaethu, Eglwys Sant Deiniol, Llandeiniol, Ceredigion
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/ceredigion-war-memorials; http://1914-1918.invisionzone.com/forums/index.php?showtopic=149755
Cyfeirnod: WaW0035
Margaret Jane Meredith
Man geni: Erwyd
Gwasanaeth: Morwyn fferm
Marwolaeth: 1916/02/23, Fferm Grugwyllt, Margam, Poisoning / Gwenwyno
Nodiadau: Roedd Margaret Meredith wedi bod yn forwyn fferm ar Fferm Grugwyllt, Margam am ‘tua blwyddyn’. Roedd yn 27-28 oed. Gyda’r nos ar Chwefror 23ain 1916 bwytodd ddail ywen i geisio achosi erthyliad a bu farw o’i gwenwyno. Roedd ganddi filwr o gariad, ond nid oedd wedi ei weld am flwyddyn. Honnid ei bod yn gweld dyn o Gwmafan. Mewn adroddiad hirach yn Brecon County Times dangosir i’r crwner holi ei chyflogwr, Caradoc Jones, gŵr gweddw, am ei chyflwr. Gwadodd unrhyw gyfrifoldeb. Y ddedfryd oedd ‘marwolaeth trwy ei gwenwyno o gymryd dail ywen pan oedd dros dro yn wallgof.’
Cyfeirnod: WaW0298
Pennawd papur newydd
Pennawd i adroddiad am gwest Margaret Jane Meredith. Cambria Daily Leader 25ain Chwefror 1916
Adroddiad papur newydd
Rhan gyntaf adroddiad cwest marwolaeth Margaret Meredith. Gwelir yr adroddiad llawn yn y Cambria Daily Leader, 25ain Chwefror 1916, t.16.
Catherine Jane (Kit) Evans (Grainger)
Man geni: Llanasa, Sir y Fflint
Gwasanaeth: Morwyn fferm , Womens Land Army
Marwolaeth: 1969, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Catherine, a anwyd yn 1896, yn un o 10 o blant – 6 chwaer a 3 brawd. Yn 15 oed , yn 1911, roedd yn gweithio yn Nhafarn Afon Goch Inn, Trelogan. Yn 1917 ymunoddd â’r Fyddin Dir, a c ymddengys iddi gael ei hanfon i ardal Machynlleth. Yma, cwrddodd a phriododd Preifat G V Grainger o’r South Lancashire Regiment yn 1918. Diolch i Sue Hickman.
Cyfeirnod: WaW0448
Llun
Darlun o Catherine Evans yn ei gwisg Byddin Dir y Menywod gyda’i phedair chwaer, o’r chwith i’r dde Harriet, Rebecca, Sarah a Miriam.
Mary Elizabeth Lewis
Man geni: Y Fenni
Gwasanaeth: Morwyn ward, VAD
Marwolaeth: 1923/04/06, Y Fenni, Achos anhysbys
Nodiadau: Ymunodd Mary Elizabeth Lewis â’r VAD yn 29 oed yn 1918. Gwasanaethodd yn forwyn ward yn Ffrainc, yn Ysbyty Awstralaidd Sutton Verney, ac yna yn Ffrainc eto am 6 mis, cyn iddi gael ei rhyddhau yn Ionawr 1920. Bu farw dair blynedd wedyn. Mae bathodyn Cymdeithas y Groes Goch Brydeinig ar ei charreg fedd yng nghladdfa’r Fenni.
Cyfeirnod: WaW0384
Carreg fedd
Carreg fedd Mary Elizabeth lewis yn dangos bathodyn y Groes Goch Brydeining a’r adysgrif ‘She served for two years in France during the Great War as a British Red Cross Nurse’. Diolch i Marian Senior ac ALHS.
Edith Mary Tonkin
Man geni: Sandford, Dyfnaint
Gwasanaeth: Morwyn ward. , VAD, 1917/11/06 – 1918/10/13
Marwolaeth: 1918-10-13, 3ydd Ysbyty Cyffredinol Le Treport, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Cofeb Ryfel, Llandaf, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Edith ar fferm yn swydd Dyfnaint yn 1892. Symudodd i Gaerdydd pan etifeddodd ei thad dafarn gan ei ewythr. Gweithiodd yn forwyn ward yn 3ydd Ysbyty Cyffredinol Tréport, Ffrainc, lle bu farw yn 26 oed. Gwelir ei henw ar gofeb Llandaf gyda’i brawd iau William John (Jack) fu farw ym mrwydr Loos yn 1915.
Cyfeirnod: WaW0061
Carreg fedd
Carreg fedd yn coffáu Edith Mary Tonkin, Claddfa Filwrol Mount Huon, Normandi. Trwy garedigrwydd Peter Bennett Dewberry, swydd Efrog.
Teulu Tonkin
Darlun o’r teulu Tonkin ar fferm y teulu yn Nyfnaint c. 1910. Trwy garedigrwydd Maureen Roberts, Gorllewin Awstraliarn