Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Amy Curtis (née Chamberlain)
Man geni: Wolverhampton
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, July – November 1918 / Gorff
Marwolaeth: 1918/11/06, Ysbyty Atodol Wallasey, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Gwersyllt, Sir Ddinbych
Nodiadau: Roedd tad Amy yn gweithio ar y rheilffordd. Symudodd ei deulu o gwmpas canolbarth Lloegr cyn setlo yng Ngwersyllt. Priododd hi James Chamberlain yn 1909 a chafodd ferch o’r enw Lilly. Lladdwyd James ar faes y gad yn Rhagfyr 1917, ac ymunodd Amy a’r Fintai Gymorth yng Ngorffennaf 1917. Bu farw yn 31 oed; gwelir ei henw yn Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru.
Ffynonellau: http://www.clwydfhs.org.uk/cofadeiladau/gwersyllt_wm.htm
Cyfeirnod: WaW0231
Edith Frances Barker
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: VAD, February/Chwefror 1915 – Apr
Marwolaeth: 1918/04/03, St Omer, Ffrainc, Illness / Salwch
Cofeb: Eglwys Sant Collen, Llangollen, Sir Ddinbych
Nodiadau: Ganed hi yn 1869, yn ferch i fragwr o Lerpwl. Trigai Edith gyda’i dau frawd yn Neuadd Pen-y-Bryn, Llangollen am sawl blwyddyn o 1901 ymlaen. Bu’n nyrsio ym Malta a Ffrainc lle bu farw yn 49 mlwydd oed. Cafodd ei chladdu ym Mynwent Goffa Longueness (St Omer) a gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Llangollen.
Ffynonellau: https://grangehill1922.wordpress.com/2013/11/19/edith-frances-barker/
Cyfeirnod: WaW0174
Dogfen Beddau’r Imperial War
Dogfen yn rhoi cyfarwyddiadau am arysgrifau ar gerrig beddau ym mynwent Goffa Longueness. Nodir arni bod Edith yn 49oed.
Emma Hardy
Man geni: Caerdydd /
Gwasanaeth: Nurs, VAD, 15/10/07 – 17/11/06
Cofeb: Neuadd y Ddinas, Caerdydd, Morgannwg
Nodiadau: Gwethiai Emily Hardy i Gyngor Caerdydd. Gwasanaethodd yn VAD, gan gael ei thalu, am ddwy flynedd, yn gyntaf yn 3ydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin ac yna yn y 26ain Ysbyty Cyffredinol yn Ffrainc. Gwelir ei henw ar y Rhestr Anrhydedd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd
Cyfeirnod: WaW0015
Rhestr Anrhydedd Caerdydd
Enw Emma Hardy (ail golofn, tua’r brig) ar y Rhestr Anrhydedd yn Neuadd y Dinas, Caerdydd
Mary Thompson Ritchings
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Meddyg, Penswyddog , VAD
Nodiadau: Ganed Dr Mary Ritchings yn 1879 a hi oedd Penswyddog y VAD yn Abertawe erbyn 1912. Yn 1915 fe’i dyrchafwyd yn gyfarwyddwraig feddygol Ysbyty Groes Goch yr YMCA, un o ysbytai mwyaf Cymru gyda 360 gwely. Gweithiodd yno tan ddiwedd y rhyfel, ond parhaodd hefyd i gynnal sesiynau wytnosol yn y clinig arloesol y Mother and Baby Welcome a gymeradwywyd gan y Frenhines Mary ymysg eraill. Enillodd yr MBE ym Mehefin 1918.
Cyfeirnod: WaW0250
Llun papur newydd
Arolwg o VAD Abertawe, gyda Mary Ritchings, y Penswyddog. Cambrian Daily Leader 31ain Hydraf 1913
Ann (Annie) Louisa Handley
Man geni: Llanmyddyfri
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914/12 - 1919/03
Marwolaeth: 1969, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Annie Handley yn un o dair nyrs o Gymru yn gwasanaethu ar y llong ysbyty Britannic (chwaer long y Titanic). M A Harries a Nyrs Edwards oedd y ddwy arall. Goroesodd y tair pan drawyd y llong gan ffrwydryn yn y Môr Aegeaidd ar 21ain Tachwedd 1916 a suddo, gan golli 30 o fywydau o’r 1065 ar fwrdd y llong. Treuliodd weddill y rhyfel yn nyrsio yn Ffrainc.
Ffynonellau: https://livesofthefirstworldwar.org/lifestory/4956464
Cyfeirnod: WaW0254
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am rodd i Annie Handley yn Williams Pantycelyn Memorial Vestry, Cambria Daily Leader 8fed Ionawr 1917
Mary Hopkins
Man geni: Pontardulais
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915 - 1919
Nodiadau: Ymunodd Mary Hopkins â’r VAD yn rhan amser ym Medi 1915. Efallai iddi hyfforddi yn nyrs yn Llundain. Yna gweithiodd yn yr Ysbyty Milwrol Cymreig yn Netley cyn cael ei throsglwyddo i Ffrainc ym Mawrth 1917. Lladdwyd ei brawd yr Ail Is-gapten Daniel Hopkins, athro mathemateg yn Ysgol Sir Caergybi, ym Mrwydr Arras ychydig wythnosau wedi i Mary gyrraedd Ffrainc. Ni wyddys a gwrddon nhw yn Ffrainc cyn iddo farw, ond doedd y fath gyfarfyddiad ddim yn anghyffredin.
Ffynonellau: https://sites.google.com/site/holyheadwarmemorial19141918/home/army/daniel-idwal-hopkins-south-wales-borderers.
Cyfeirnod: WaW0253
Catherine (Katie) Evans
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1914/10/16, Caergybi, Peritonitis
Nodiadau: Roedd Katie yn ail o saith o ferched (a oroesodd) Hugh Evans, peiriannydd morol, a’i wraig Elizabeth (bu farw dwy efeilles yn fabanod). Nid yw ei chofnod Croes Goch wedi goroesi, ond mae’n debygol iddi wasanaethu yn Ysbyty Croes Goch Caergybi. Bu farw yn 34 oed. Ar ddiwrnod ei hangladd gwirfoddolodd ei chwaer Pollie Williams [qv] ar gyfer y VAD. Diolch yn fawr i Aled L Jones a Barry Hillier.
Cyfeirnod: WaW0251
Pollie (Mary) Williams (née Evans)
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914/10/21 – August 1918
Nodiadau: Roedd Pollie yn un o chwiorydd iau Katie (Catherine) Evans VAD [qv] a fu farw ar 16eg Hydref 1914. Ymunodd Pollie â’r VAD ddiwrnod wedi angladd ei chwaer. Yn Awst 1918 priododd Hugh Williams
Cyfeirnod: WaW0259
Lythyr
Llythyr oddi wrth Pollie Evans at Agnes Conway o’r Is-bwyllgor Gwaith Menywod am ddarlun Katie. rn
Aldwyth Katrin Williams
Man geni: Llanbedr-y-Cennin
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 - 1918
Marwolaeth: 1918/11/08, Influenza / Ffliw
Cofeb: Gladdfa St Tudno, Llandudno, Sir Gaernarfon
Nodiadau: Unig ferch rheithor Llanbedr-y-Cennin oedd Aldwyth. Ymunodd â’r VAD yn gynnar yn ystod y rhyfel, a gweithiodd dri niwrnod yr wythnos yn ysbytai’r Groes Goch yn Llandudno, yn coginio a glanhau yn ogystal â nyrsio. 26 mlwydd oed oedd hi pan fu farw.
Ffynonellau: http://historypoints.org/index.php?page=great-orme-grave-aldwyth-williams
Cyfeirnod: WaW0262
Bedd Aldwyth Williams
Bedd Aldwyth Katrin Williams, Eglwys Sant Tudno, Y Gogarth, Llandudno. Llun trwy garedigrwydd Laurence Manton
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am angladd Aldwyth Katrin Williams, Y Clorianydd 27 Tachwedd 1918. Argraffwyd adroddiadau cyffelyb yn Y Cymro a Y Dydd. rn
Elizabeth Thirza Gorvin
Man geni: Caerdydd ?
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915 - 1919
Nodiadau: Gweithiai Thirza Gorvin yn wirfoddolwraig ddi-dal mewn Ysbytai yng Nghaerdydd a Sir Fynwy. Cafwyd y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg
Cyfeirnod: WaW0266
Thirza Gorvin
Darlun wedi ei arwyddo o Thirza Gorvin yng ngwisg VAD. Trwy garedigrwydd Archifau Morgannwgrn