English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r casgliad

Trefnwyd yn ôl carfan

Janet Jones

Man geni: Llanrwst

Gwasanaeth: Swyddog Cyflenwi, WRAF

Marwolaeth: 1918/12/21, Pneumonia/Flu?

Cofeb: Cofeb Rhyfel, Llanrwst, Conwy

Nodiadau: 28 mlwydd oed. Claddwyd hi yn Mynwent Seion, Capel y Methodistiaid Calfinaidd, Llanrwst.rnMae Miss Janet Jones, merch Mr D. Jones, Elwy House, wedi pasio arholiad Ysgoloriaetih y Brenin, a chaiff fynediad i Goleg Hyfforddiadol Gogledd Cymru, Bangor.rnCyfrifiad 1911: Myfyrwraig ym Mangor

Cyfeirnod: WaW0141

Enw Janet Jones, Cofeb Rhyfel, Llanrwst

Cofeb Rhyfel, Llanrwst

Enw Janet Jones, Cofeb Rhyfel, Llanrwst

Mae Miss Janet Jones, Elwy House, wedi ei phenodi yn Lieut. Quarter-Master yn yr Aerial Corps - Y Dinesydd Cymreig 11 Medi 1918

Adroddiad o'i dyrchafiad

Mae Miss Janet Jones, Elwy House, wedi ei phenodi yn Lieut. Quarter-Master yn yr Aerial Corps - Y Dinesydd Cymreig 11 Medi 1918

LLANRWST.rnMarw Sydyn.—Gyda braw a gofid y derbyniwyd y newydd yn yr ardal am farwolaeth sydyn Miss Janet Jones, annwyl ferch Mr David Jones, Elwy House. Yr oedd Miss Jones yn swyddog gyda'r W.R.A.F., ac ar hyn o bryd yn Ascot. Bu adref am ychydig ddyddiau o seibiant, a dychwelodd yn ol y dydd Gwener blaenorol. Anfonwyd pelleb i'w thad yn ei hysbysu ei bod yn beryglus wael, ac aeth yntau a'i ferch Annie i Ascot, a chyrhaeddasant yno ddydd Sadwrn. Ond er pob gofal, bu farw am hanner awr wedi unarddeg nos Sadwrn. Cafodd ei chwaer y fraint o fod yn ei chwmni am y chwe awr ddiweddaf o'i hoes, ac yr oedd hyd y munud diweddaf yn sirol, ac yn hyderu y cai adferiad; ond cymerwyd hi ymaith yn sydyn trwy 'pneumonia.' Yr oedd yn 28 mlwydd oed, ac yn ferch ieuanc rinweddol iawn, ac yn hoffus dros ben gan bawb a'i hadwaenai, a bydd bwlch mawr ar ei hol mewn amli gylch. Y mae cydymdeimlad dwfnaf ardal gyfan a'i theulu yn eu profedigaeth lem ac annisgwyliadwy yr oedd yn swyddog mawr ei pharch. Claddwyd yr hon oedd farwol ohoni yn mynwent Capel Seion bore lau, Rhagfyr 26ain. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch W. Thomas ac R. Rowlands. Y Dinesydd Cymreig 8/1/1919

Adrodd o'i marwolaeth

May Stratford

Man geni: Casnewydd

Gwasanaeth: Gweinyddes, WRAF, February 1918 – September 19

Nodiadau: Ganwyd May Stratford yn 1898 ac ymunodd â’r WRAF yn 1918. Ymddengys iddi wasanaethu, yn weinyddes, mewn sawl canolfan i’r RAF yn ne ddwyrain Lloegr. Bu farw yn 1982.

Cyfeirnod: WaW0191

May Stratford yn ei gwisg WRAF. Yn y llun hefyd mae darn arian wedi ei ysgythru â’i henw a ‘WRAF’

May Stratford

May Stratford yn ei gwisg WRAF. Yn y llun hefyd mae darn arian wedi ei ysgythru â’i henw a ‘WRAF’

Papurau rhyddhau Mat Stratford. Medi 1919

Papurau rhyddhau

Papurau rhyddhau Mat Stratford. Medi 1919

Tu mewn i glawr llyfr llofnodion May, yn dangos lle bu’n gwasanaethu.

Autograph book

Tu mewn i glawr llyfr llofnodion May, yn dangos lle bu’n gwasanaethu.

Tudalen o lyfr llofnodion May Stratford gyda darlun o awyren

Llyfr llofnodion

Tudalen o lyfr llofnodion May Stratford gyda darlun o awyren

Mary Ann Holland (née ?)

Man geni: Talywaun ?

Gwasanaeth: Menyw yng ngofal storfa, WRAF

Nodiadau: Cafodd Mrs Holland ei rhyddhau o’r WRAF yn Hydref 1919 pan oedd yn 30 oed. Dwedwyd bod ei gwaith yn dda iawn. Ymrestrodd a gweithiodd yn Llundain, ac roedd yn briod, er na wyddom ei henw morwynol. Gwelir ei henw ar restr Anrhydedd Capel Pisgah, Talywaun.

Cyfeirnod: WaW0292

Tystysgrif rhyddhad Mary Ann Holland 17eg Hydref 1919

Tystysgrif Rhyddhad

Tystysgrif rhyddhad Mary Ann Holland 17eg Hydref 1919

Enw Mrs M A Holland ar Restr Anrhydedd Capel Pisgah, Talywaun.

Rhestr Anrhydedd

Enw Mrs M A Holland ar Restr Anrhydedd Capel Pisgah, Talywaun.

Caroline Jackson Davies

Man geni: Llanymddyfri

Gwasanaeth: Prif arweinydd adrannol Cogyddes, WRNS, 22/05/1918

Marwolaeth: 1918-10-26, Caerfyrddin, illness/salwch

Nodiadau: 22 oed. Claddwyd yn Llandingad

Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-war-memorials/

Cyfeirnod: WaW0005

Edith Picton Turbervill

Man geni: Fownhope, Swydd Henffordd

Gwasanaeth: Gweithwraig Lles, AS, Y W C A

Marwolaeth: 1960, Achos anhysbys

Nodiadau: Roedd Edith (a aned yn 1872) yn efeilles [qv Beatrice Picton-Warlow], ac yn un o blant niferus John Picton Turbervill a etifeddodd Briordy Ewenni, Morgannwg yn 1891. Roedd hi’n grefyddol iawn, bu’n gweithio gyda nafis tlawd rheilffordd Bro Morgannwg a theuluoedd tlawd Llundain. Ar ôl chwe blynedd yn India dychwelodd i Brydain i fod yn ysgrifennydd tramor yr Y.W.C.A. Pan dorrodd y rhyfel allan, cododd chwarter miliwn o bunnau i godi hosteli i’r Y.W.C.A. ar gyfer gweithwragedd ffatrïoedd arfau rhyfel a gweithwyr fferm. Roedd yn gefnogol iawn i ordeinio menywod a phregethodd mewn sawl capel anghydffurfiol yng Nghymru cyn dod yn y fenyw gyntaf i bregethu mewn Eglwys Anglicanaidd, yn 1919, yn gwisgo casog a gwenwisg. Gan ei bod dros chwe throedfedd, a chanddi lais braidd yn uchel, gwnaeth argraff yn y papurau newyddion. Yn y flwyddyn honno hefyd, ymunodd â’r blaid Lafur. Ar ôl dwy ymdrech aflwyddiannus, etholwyd hi yn AS dros Wrekin yn Swydd Amwythig yn 1929. Yn ystod ei gyrfa Seneddol fer llwyddodd i gyflwyno deddf i atal menywod beichiog rhag cael eu dienyddi.

Ffynonellau: Angela V John: Rocking the Boat, Parthian Press 2018

Cyfeirnod: WaW0442

rnLlun Edith Picton Turbervill, c.1910rnrn

Edith Picton Turbervill

rnLlun Edith Picton Turbervill, c.1910rnrn

Mae’n amlwg fod Edith yn saethwraig dda! Glamorgan Gazette 23ain Hydref 1908

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am y cyfarfod cyntaf i lansio darparu hosteli Y.M.C.A. ar gyfer gweithwragedd ffatrïoedd  arfau yng Nghymru (rhan 1) Glamorgan Gazette 13 Hydref 1916.

Adroddiad am y cyfarfod cyntaf i lansio darparu hosteli ar gyfer gweithwragedd ffatrïoedd arfau yng Nghymru (Rhan 2) .Glamorgan Gazette 13 Hydref 1916.

Adroddiad am Edith Picton Turbervill yn pregethu yng nghapel Annibynwyr Bishopgate. Cambrian Daily Leader 14 Chwefror 1919.

Colofn ‘Small Talk’ yn disgrfio Edith Picton Turbervill yn pregethu mewn gwasanaeth rheolaidd yn Egwys Loegr yn Somercotes, Swydd Lincoln. Glamorgan Gazette 11 Gorffennaf 1919.

Adroddiad am Edith Picton Turbervill yn ymuno â’r Blaid Lafur. Cambria Daily Leader 18 Ionawr 1919

rnY menywod Llafur a etholwyd yn ASau yn 1929. Mae Edith Picton Turbervill yn y canol yn y cefn. Ar y dde yn y blaen mae Jennie Lee ifanc iawn, a briododd Aneurin Bevan yn ddiweddarach. Yn 24 oed roedd hi’n rhy ifanc i bleidleisio ond nid yn rhy ifanc i sefyll. Yn nesaf ati hi mae Ellen Wilkinson.

Llun

Administration