Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Lilly Huntley
Man geni: Bradford
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1918
Nodiadau: Ganwyd Lilly Huntley yn Bradford a hyfforddodd yn Llundain. Roedd wedi bod yn gweithio yn Arolygwr i’r Swyddog Meddygol yn Adran Iechyd Caerdydd. Ymunodd â’r Groes Goch ar 1af Medi 1914 a chafodd ei hanfon i Gastell-nedd, yn nyrs staff i ddechrau ac yna’n chwaer. Enillodd Y Groes Goch Frenhinol. Ar ôl y Rhyfel daeth yn Bennaeth y gwasanaethau Bydwreigiaeth yng Nghaerdydd. Gwelir ei henw ar y Rhestr Anrhydedd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.
Cyfeirnod: WaW0263
Rhestr Anrhydedd, Neuadd y Ddinas Caerdydd
Enw Lilly Huntley ar Restr Anrhydedd Neuadd y Ddinas Caerdydd
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyflwyno’r Groes Goch Frenhinol i’r Chwaer Lilly Huntley, Herald of Wales and Monmouthshire Recorder 14eg Hydref 1916.
Katherine Conway-Jones
Man geni: Bangor
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1917
Marwolaeth: After / Ar ôl 1947, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Katherine Conway-Jones tua 1880 a hyfforddodd yn Leicester Infirmary a ailenwyd yn 1914 yn 5th Northern General Hospital (ac a newidiwyd yn ôl wedyn). Yn 1915 gwirfoddolodd i weithio tramor, gan wasanaethu’n gyntaf yn Ffrainc ac wedyn ar longau ysbyty yn gwasanaethu’r Dardanelles, yr Aifft, Mesopotamia a German East Africa. Penodwyd hi’n fetron ar HMHS Oxfordshire yn Ebrill 1916. Yn haf 1917 dwedwyd nad oedd yn addas i weithio yn y trofannau bellach, ond yn addas i wasanaethu yn yr Aifft, a dychwelodd i’r DU ar Maheno, llong ysbyty Seland Newydd, lle gwasanaethodd unwaith eto yn Fetron. Treuliodd weddill ei hamser yng Nghaerlŷr. Soniwyd amdani mewn adroddiadau deirgawith, ac enillodd y Groes Goch Frenhinol ail ddosbarth yn 1916 an ei gwaith yn y Dardanelles, a dosbarth cyntaf yn 1917 am ei dewrder pan ymosodwyd ar SS Tyndareus oddi ar Dde’r Affrig. Gwerthwyd ei medalau am £2,800 yn 2015. rnAr ôl gadael y TFNS yn 1919 ymfudodd i Ganada i sefydlu tyddyn ar Ynys Lulu, Vancouver, gyda Julia Hamilton, nyrs o Ganada a gwrddodd yn Salonica. rnCeir ffeil drwchus o bapurau swyddogol Katherine yn yr Archifau Cenedlaethol.
Ffynonellau: National Archives WO 399_10526
Cyfeirnod: WaW0273
HMHS Oxfordshire
Roedd Katherine yn fetron ar y llong hon, yn teithio drwy Gamlas Suez i India ac yn ôl i Dde a Dwyrain Affrica.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Katherine Conway-Jones â’r Groes Goch Frenhinol, Y Dydd 22ain Mehefin 1917
Lythyr
Llythyr oddi wrth K C-J yn ceisio hawlio’n ôl -weithredol Lwfans Mesopotamia yr oedd gan nyrsys a fu’n gweithio i’r dwyrain o’r Suez hawl iddo. Gwrthodwyd hi, ond ymgeisiodd eto yn 1947.
Lythyr (cefn)
Llythyr oddi wrth K C-J yn ceisio hawlio’n ôl -weithredol Lwfans Mesopotamia yr oedd gan nyrsys a fu’n gweithio i’r dwyrain o’r Suez hawl iddo. Gwrthodwyd hi, ond ymgeisiodd eto yn 1947. (cefn)
Elizabeth Anne Montgomery Wilson
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: Nyrs (Prif Fetron), TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Bu Elizabeth Montgomery Wilson yn gwasanaethu yn Rhyfel y Boer, yn uwcharolygydd Gwasanaeth Nyrsio Byddin Gristnogol y Dywysoges. Roedd hi’n Fetron Ysbyty Infirmary Caerdydd eisoes, ac yn Brif Fetron pan ddaeth yr ysbyty yn 3ydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin yn 1914. Dychwelodd i swydd metron ar ddiwedd y rhyfel.
Cyfeirnod: WaW0339
Elizabeth Montgomery Wilson
Elizabeth Montgomery Wilson yn narlun Margaret Lindsay Williams o 3ydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin. Mae hi ar y chwith.
London Gazette
Gwobr o far i’r Groes Goch Frenhinol a gyhoeddwyd yn y London Gazette. Roedd Elizabeth Montgomery Wilson eisoes wedi derbyn yr anrhydedd hwn yn gynt yn y rhyfel. London Gazette13th January 1920
Sarah Annie Evans (later Kyght)
Man geni: Caerfyrddin
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Gweithiai dau riant Annie, i Undeb Gwarcheidwaid Deddf y Tlodion ac yn 13 oed daeth hi’n ddisgybl-athrawes. Yn ddiweddarach hyfforddodd yn nyrs yn Ysbyty Frenhinol Bryste ac ymunodd â’r TFNS. Ar ddechrau’r rhyfel daeth Ysbyty Frenhinol Bryste yn Ysbyty Filwrol. Anfonwyd Annie i’r Aifft yn Hydref 1915, ac yna cafodd ei throsglwyddo i HMHS Braemar Castle yn Ebrill 1916, lle’r arhosodd nes iddi gael ei tharo gan ffrwydron ym Môr yr Aegean ar 23ain Tachwedd. Ni chollwyd bywydau, ond treuliodd beth amser yn y môr. Treuliodd weddill y rhyfel yn Ffrainc, lle dyrchafwyd hi’n Chwaer. Cafodd ei diswyddo o’r FNS gyda geirda clodwiw, yn 1919, a dychwelodd i Ysbyty Frenhinol Bryste – redden nhw wrth eu bodd ei chael yn ôl yno, meddid. Gadawodd nyrsio a’r TFNS pan briododd hi Bert Kyght yn 1923
Cyfeirnod: WaW0394
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymadawiad Sarah am yr Aifft. Carmarthen Journal 29ain Hydref 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am yrfa Sarah, a gyhoeddwyd pan oedd hi adref ar ymweliad. Carmarthen Journal 29ain Tachwedd 1918.
Gwenllian Lewis
Man geni: Treharis
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, November/Tachwedd 1914 – Jul
Nodiadau: Ymddengys i Gwenllian Lewis weithio yn nyrs breifat yng Nghanolbarth Lloegr cyn cael ei galw i ymrestru yn 1914. Treuliodd dair blynedd yn y 5fed Ysbyty Cyffredinol Gogleddol yng Nghaerlŷr cyn mynd i Ffrainc yn 1917. Arhosodd yno tan yn gynnar yn 1919 ac yna dychwelodd i Gaerlŷr. Mae pob un o’i gwerthusiadau blynyddol yn cyfeirio ati yn ‘nyrs dda’ a oedd yn garedig wrth y cleifion. Colli ei bathodyn TFNS oedd yr unig beth wnaeth hi o le, a gorfu iddi dalu am un newydd yn ei le.
Cyfeirnod: WaW0426
Hannah Jane Davies
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1918/06/13 – 1919/03/26
Nodiadau: Roedd Hannah Davies yn nyrs dan hyfforddiant yn Ysbyty Milton, Portsmouth pan gafodd ei galw i fyny i Wasanaethu Gartref yn 3edd Ysbyty Cyffredinol Orllewinol Caerdydd, lle cafodd ei dyrchafu’n nyrs staff. Ymddengys iddi ddal y ffliw yn Chwefror 1919, pan y caiff ei disgrifio yn ‘welw’ ac anemig. Efallai mai dyma pam y cafodd ei rhyddhau o’i gwaith ym mis Mawrth 1919. Parhaodd i fod yn gysylltiedig â Gwasanaeth Nyrsio’r Fyddin Diriogaethol (dan ei enw newydd) nes iddi ymddeol yn 1936
Ffynonellau: WO-399-10779
Cyfeirnod: WaW0431
Datganiad o anabledd [rhan]
Anogid aelodau’r lluoedd arfog i lenwi datganiad anabledd wrth gael eu rhyddhau fel y gallent ei ddefnyddio yn dystiolaeth mewn unrhyw gais yswiriant yn y dyfodol.
Zillah Mary Jones
Man geni: Llanpumsaint
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Ganwyd Zillah yn sir Gaerfyrddin yn 1870 a hyfforddodd yn Ysbyty St Bartholomew Llundain. Ymddengys iddi weithio yn nyrs breifat am sawl blwyddyn, swydd a olygai fynd gyda chleifion i’r Aifft ac India’r Gorllewin, yna cafodd ei galw i fyny yn 1914 i wasanaethu ar long ysbyty Carisbrooke Castle. Roedd rhai o’r milwyr Cymreig yr oedd hi’n gofalu amdanynt wrth eu bodd i gael rhywun mewn awdurdod oedd yn siarad Cymraeg. Tra yno cafodd ei dyrchafu o fod yn Nyrs Staff i Chwaer. Yn ôl ei hunangofiant, roedd wedi gobeithio ymuno a Gwasanaeth Nyrsio yr RN, ac wedi anghofio iddi arwyddo i fod yn y TFNS. Ym mis Hydref 1915 cafodd ei hanfon i’r 4edd Ysbyty Cyffredinol Gogleddol yn Lincoln, er ei bod yn gobeithio cael gweithio ar long ysbyty arall. Mae’n cofnodi bod yr un a gymerodd ei lle ar y Carisbrooke Castle yn dioddef yn ddifrifol o salwch môr. Tra oedd hi’n Lincoln (lle bu am weddill y rhyfel) cafodd ddamwain ar ei beic a thorri ei bigwrn yn ddrwg. Ceir llawer o lythyrau am hyn yn ffeil y Swyddfa Ryfel. Ar ol cael ei rhyddhau dychwelodd i wneud nyrsio preifat. Cyhoeddwyd ei hunangofiant yn 1964.
Ffynonellau: A Sister’s Log: A Nurse\\\'s Reminiscences. Gomerian Press, 1964
Cyfeirnod: WaW0432
Margaret Lewis (Morris)
Man geni: Merthyr Tydful
Gwasanaeth: TFNS, 1916 - 1919
Nodiadau: Hyfforddodd Margaret Lewis yn Cumberland ac roedd yn Nyrs Ardal (Queen’s) cyn ymuno â staff y 4ydd Ysbyty Cyffredinol Deheuol (Southern General Hospital) yn Plymouth yn Nhachwedd 1916. Anfonwyd hi i Ffrainc yn 1917 a gwasanaethodd mewn sawl ysbyty a gorsafoedd clirio rhai a anafwyd. Cafodd gynnig cyfle i wasanaethu ‘yn y Dwyrain’ yn lle cael ei dadfyddino yn 1919, ond gwrthododd. Yn hytrach arhosodd gyda’r TANS (dan ei enw newydd) am sawl blwyddyn, gan gael ei dyrchafu o Nyrs Staff i Chwaer yn 1922, dywedir ei bod ‘yn dda ei thymer ac yn ddoeth’. Ymddiswyddodd ar ol priodi yn 1928.
Cyfeirnod: WaW0457
Llythyr
Rhan o lythyr oddi wrth Margaret Lewis i Swyddfa’r Rhyfel yn rhestru lle bu’n gwasanaethu.
Lily Ellis
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Roedd Lily yn ferch i arweinydd côr adnabyddus, Hugh Ellis, yn Aberpennar, a hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol a Llygaid Abertawe. Ar ôl gweithio yn Abertawe a Malvern cafodd ei phenodi yn chwaer theatr yn Ysbyty Lewisham, Llundain. Ar ddechrau’r Rhyfel ymunodd â’r TFNS ac roedd yn gwasanaethu yn yr Ysbyty Cyffredinol Deheuol 1af pan ymwelodd y Brenin George V yn 1916; enillodd y Groes Goch Frenhinol.
Cyfeirnod: WaW0486
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Lily Ellis â’r Groes Goch Frenhinol. Aberdare Leader 24 Mehefin 1916
Annie Matilda Breeze
Man geni: Machynlleth
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS ?, 1914 -
Nodiadau: Mae’n debygol i Annie Breeze hyfforddi yn Llundain, gan fod ei henw yn ymddangos yn rhif 1 ar Restr Anrhydedd Caple Cymraeg Kings Cross. Gweithiodd mewn ysbytai yn Aldershot cyn gadael am Ffrainc yn 1916. Enillodd fedal y Groes Goch Brydeining y flwyddyn honno.
Cyfeirnod: WaW0196
Rhestr Anrhydedd
Rhestr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Caple Cymraeg Kings Cross, Llundain
Enw Annir Breeze anr Restr Anrhydedd
Enw Annie Breeze ar Restr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am Annie Breeze, Cambrain News and Merioneth Standard 3ydd Tachwedd 1916