Nodiadau: Gweithiai Gertrude Rosewarne yn ddisgybl-athrawes yn 1911. Ymunodd â’r Fintai Gymorth Wirfoddol (VAD) yn gynnar yn ystod y Rhyfel, yn gyntaf yn y Fenni ac yna yng Nglyn Ebwy. Casglodd gyfraniadau gan nifer o’i chleifion yn ei halbwm llofnodion.
Cyfeirnod: WaW0100
Gertrude Rosewarne VAD
Gertrude Rosewarne yn iwnifform y Fintai Gymorth Wirfoddol (VAD);
Mintai y Groes Goch Glyn Ebwy 1914;
Mintai y Groes Goch Glyn Ebwy yn paredio, Tachwedd 1914
tudalen o nyrsys o albwm Gertrude Rosewarne
Cerdyn y Groes Goch
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Gertrude Rosewarne
Cerdyn y Groes Goch (cefn)
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Gertrude Rosewarne
Nodiadau: 24/25 oed. Claddwyd yng Nghapel Mynydd Seion, Abergele. Aethpwyd â'i chorff ar y trên o Lerpwl i Abergele, ac yn syth i'r gladdfa i osgoi heintio.
Enw Ellen Williams, Cofeb Ryfel y Santes Fair, Aberteifi
Alice Williams
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Nyrs, French Red Cross / Y Groes Goch Ffrengig, 1915 - 1918
Nodiadau: Ganwyd Alice Williams yn 1863, yr ieuengaf o 12 plentyn David Williams, AS Meirionnydd. Gan ei bod yn gorfod byw gartref yn gydymaith i’w mam treuliodd ei hamser mewn eisteddfodau, cwmniau drama amatur a chyda rhyddfreinio menywod. Ar ôl i’w mam farw, a hithau bellach yn 40 oed, rhannodd ei hamser rhwng Llundain a Pharis, lle cyfarfu â’u chyfeilles am oes Fanny Laming. Pan dorrodd y rhyfel allan gweithiodd y ddwy dros y Groes Goch Ryngwladol yn Geneva, ond yn 1915 sefydlodd Swyddfa ym Mharis (ac yn Llundain yn ddiweddarach) i chwilio am newyddion a’i rannu am bersonau a aeth ar goll oherwydd y rhyfel. Yn ddiweddarach y flwyddyn hon daeth yn ysgrifennydd dros Gymru o Gronfa Argyfwng y Ffrancwyr a Anafwyd. Enillodd wobr y Médaille de la Reconnaissance Française yn 1920. Yn 1916 daeth yn sylfaenydd / Llywydd pedwaredd cangen Sefydliad y Merched yng Nghymru (yn Deudraeth) , gan ddarparu Neuadd ar eu cyfer, sy’n parhau i gael ei defnyddio heddiw. Hi oedd golygydd cyntaf Home and Country, cylchgrawn SyM hefyd. Yn Eisteddfod 1917 cafodd ei derbyn i Orsedd y Beirdd (fel dramodwraig) a dewisodd yr enw barddol Alys Meirion. Yn syth ar ôl y rhyfel, yn 1919, sefydlodd hi a Fanny y Forum Club preswyl yn Llundain, man cyfarfod cymdeithasol poblogaidd i fenywod yn unig, gan gynnwys Is-iarlles Rhondda.
Roedd Alice Williams yn aelod o’r Groes Goch Ffrengig yn gweithio mewn ysbytai maes yn Ffrainc 1915-1918.
Mary Anne Eliza Young
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1919-02-13, 57fed Ysbyty Cyffredinol, Achos anhysbys
Cofeb: Rhestr Anrhydedd Neuadd y Ddinas; Bedd Rhyfel Claddfa Mazargues, Marseilles, Caerdydd, Morgannwg
Nodiadau: 35 oed. Cyn-athrawes yn Ysgol Sir Lansdowne Rd, Caerdydd. Claddwyd hi yng Nghladdfa Ryfel Mazargues, Marseilles.
Cyfeirnod: WaW0068
Rhestr Anrhydedd, Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Enw Mary Ann Eliza Young, VAD, Rhestr Anrhydedd, Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Mary Ann Eliza Young
Ffotograff o Mary Ann a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel
Llythyr oddi wrth J R Young
Llythyr oddi wrth J R Young. Tad MAEY. Rhan o ‘Deaths: Nurses Deaths to 1920’ (cofnodion gweinyddol yr Amgueddfa) 1919-04-08
Winifred Owen
Man geni: Sir Drefaldwyn
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Roedd Winifred (ganed 1888) yn ferch i feddyg. Gwasanaethodd menw ysbyty yng Nghaergrawnt gydol y rhyfel, gan eistedd un tro nesaf at fwyler hydrotherapi a oedd yn bygwth ffrwydro er mwyn lleddfu ofnau’r cleifion. Priododd feddyg ar ôl y rhyfel, ac ni fu’n gweithio wedyn.
Cyfeirnod: WaW0126
Winifred Owen VAD
Winifred Owen gyda chlaf yn cael hydrotherapi
Winifred May Price
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Nyrs, Scottish Womens Hospitals
Nodiadau: Ymunodd Winifred (Ganwyd 1898) ag Ysbytai Menywod yr Alban yn nyrs yng Ngorffennaf 1915, yn 18 oed. Roedd yn cael ei galw yn ‘Kiddie’ am ei bod mor ifanc. Nyrsiodd yn Serbia, a bu’n ffodus i ddianc pan ymosododd yr Awstriaid.
Cyfeirnod: WaW0127
Daisy Colnett Spickett
Man geni: Pontypridd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Ymunodd Daisy, merch i gyfreithiwr, â VADs pan ffurfion nhw yn 1910. Gwasanaethodd mewn ysbytai yng Nghymru a Lloegr ac ar longau ysbyty. Dilynwch y cyswllt am gyfweliad diddorol iawn gyda Daisy a recordiwyd yn 1974 (IWM). Mae 8 rîl o dapiau yn gwneud cyfweliad tua 2 awr o hyd.
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Daisy Spickett (cefn)
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Daisy Spickett
Daisy Spickett VAD
Daisy Spickett mewn gwisg VAD
Jennie Williams
Man geni: Llanberis ?
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, June 1916 – January 1919 / M
Marwolaeth: 1919/1/31, Le Havre, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Cofeb Rhyfel, Llanberis, Sir Gaernarfon
Nodiadau: Deuai Jennie Williams o deulu reit gefnog ac ymunodd yn VAD ym Mehefin 1915. Gadawodd am Ffrainc yn Hydref 1916 a bu farw o niwmonia yn dilyn y ffliw yn Ionawr 1919, yn 45 oed. Mae wedi ei chladdu yng Nghladdfa Ste Marie, Le Havre.
Llythyr i Isbwyllgor Gwaith y Menywod, Amgueddfa’r Imperial War, ynglŷn â ffotograff Jennie Williams
Ffurflen Adrodd Cofrestru Beddau
Ffurflen Adrodd Cofrestru Beddau yn cynnwys manylion am Jennie Williams, Claddfa Ste Marie, Le Havre
Llyfr Coffáu Cymru
Enw Miss Jennie Williams gyda nyrsys eraill yn Llyfr Coffáu Cymru
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am farwolaeth Jennie Williams, Y Dinesydd Cymreig, Chwef. 12, 1919
Lilian Kate Jones
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1916/06/06, Unknown/Anhysbys
Nodiadau: Ymunodd Lilian â’r VAD yn Awst 1915, yn 35 oed. Gweithiodd yn 2il Ysbyty Milwrol Cyffredinol Deheuol, Bryste, lle roedd ganddi gysylltiadau teuluol.