Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Sally Constant
Man geni: Y Rhondda
Gwasanaeth: Nyrs (Chwaer), 1914 - 1918
Marwolaeth: 1949, Achos anhysbys
Nodiadau: Bu’r Chwaer Sally Constant yn nyrsio yn Ysbyty Llwynypïa, y Rhondda, gydol y Rhyfel. Efallai iddi hyfforddi yng Nghaerdydd cyn y Rhyfel. Fel cynifer o nyrsys roedd ganddi albwm (yn dyddio’n ôl i 1907) sy’n cynnwys llawer o gyfraniadau gan filwyr o gleifion. Bu’n gweithio tan yr Ail Ryfel Byd.
Cyfeirnod: WaW0148
Tudalen o Albwm
Tudalen o Albwm gyda cherdyn post doniol, wedi’i llofnodi gan y gyrrwr, Driver Whiteside, 1918
Tudalen o Albwm
Tudalen o Albwm wedi’i llofnodi gan y gynnwr Gunner H Tyllyer 1916. Anafwyd deirgwaith ‘Nil Desperandum’
Katherine Conway-Jones
Man geni: Bangor
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1917
Marwolaeth: After / Ar ôl 1947, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Katherine Conway-Jones tua 1880 a hyfforddodd yn Leicester Infirmary a ailenwyd yn 1914 yn 5th Northern General Hospital (ac a newidiwyd yn ôl wedyn). Yn 1915 gwirfoddolodd i weithio tramor, gan wasanaethu’n gyntaf yn Ffrainc ac wedyn ar longau ysbyty yn gwasanaethu’r Dardanelles, yr Aifft, Mesopotamia a German East Africa. Penodwyd hi’n fetron ar HMHS Oxfordshire yn Ebrill 1916. Yn haf 1917 dwedwyd nad oedd yn addas i weithio yn y trofannau bellach, ond yn addas i wasanaethu yn yr Aifft, a dychwelodd i’r DU ar Maheno, llong ysbyty Seland Newydd, lle gwasanaethodd unwaith eto yn Fetron. Treuliodd weddill ei hamser yng Nghaerlŷr. Soniwyd amdani mewn adroddiadau deirgawith, ac enillodd y Groes Goch Frenhinol ail ddosbarth yn 1916 an ei gwaith yn y Dardanelles, a dosbarth cyntaf yn 1917 am ei dewrder pan ymosodwyd ar SS Tyndareus oddi ar Dde’r Affrig. Gwerthwyd ei medalau am £2,800 yn 2015. rnAr ôl gadael y TFNS yn 1919 ymfudodd i Ganada i sefydlu tyddyn ar Ynys Lulu, Vancouver, gyda Julia Hamilton, nyrs o Ganada a gwrddodd yn Salonica. rnCeir ffeil drwchus o bapurau swyddogol Katherine yn yr Archifau Cenedlaethol.
Ffynonellau: National Archives WO 399_10526
Cyfeirnod: WaW0273
HMHS Oxfordshire
Roedd Katherine yn fetron ar y llong hon, yn teithio drwy Gamlas Suez i India ac yn ôl i Dde a Dwyrain Affrica.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Katherine Conway-Jones â’r Groes Goch Frenhinol, Y Dydd 22ain Mehefin 1917
Lythyr
Llythyr oddi wrth K C-J yn ceisio hawlio’n ôl -weithredol Lwfans Mesopotamia yr oedd gan nyrsys a fu’n gweithio i’r dwyrain o’r Suez hawl iddo. Gwrthodwyd hi, ond ymgeisiodd eto yn 1947.
Lythyr (cefn)
Llythyr oddi wrth K C-J yn ceisio hawlio’n ôl -weithredol Lwfans Mesopotamia yr oedd gan nyrsys a fu’n gweithio i’r dwyrain o’r Suez hawl iddo. Gwrthodwyd hi, ond ymgeisiodd eto yn 1947. (cefn)
Winifred Margaret Coombe Tennant (née Pearce-Serocold)
Man geni: Stroud
Gwasanaeth: Pwyllgorwraig, swffragydd, bardd, ysbrydegydd, noddwraig, mam.
Marwolaeth: 1956, Llundain, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Winifred yn 1874, roedd ei mam née Mary Richardson, yn Gymraes. Priododd Charles Coombe Tennant yn 1895 a buon nhw’n byw yn Cadoxton Lodge, ger Castell Nedd. Ymunodd â’r NUWSS yn 1911 a gwasanaethodd ar ei bwyllgor yn ddiweddarach, yn ogystal â chadeirio pwyllgor Castell Nedd. Yn ystod y rhyfel bu’n Gadeirydd pwyllgor Pensiynau Castell Nedd a phwyllgor Amaeth y rhyfel ym Morgannwg; roedd ganddi ddiddordeb hefyd mewn tai gwledig a diwygio’r deddfau cosb (daeth yn Ustus Heddwch yn 1920). Yn 1917 derbyniwyd hi i Orsedd y Beirdd a dewisodd yr enw barddol ‘Mam o Nedd’. Cadeiriodd Bwyllgor Celf a Chrefft Eisteddfod 1918, ac yn ddiweddarach daeth yn Feistres y Gwisgoedd. Roedd wedi dechrau ymddiddori mewn ysbrydegaeth yn dilyn marwolaeth ei merch Daphne yn 1908, ac atgyfodwyd y diddordeb yn dilyn marwolaeth ei mab hynaf a laddwyd yn Fflandrys ym Medi 1917, yn 19 oed. Fe ddaeth yn gyfrwng mawr ei pharch er mai dim ond ychydig o bobl a wyddai pwy ydoedd – defnyddiai’r ffugenw Mrs Willet. Safodd yn aflwyddiannus yn ymgeisydd Rhyddfrydol dros Fforest y Ddena yn etholiad cyffredinol 1922, ac roedd yn noddwraig gywir i nifer o artistiaid Cymreig, yn enwedig Evan Walters.
Ffynonellau: Winifred Tennant: a life through Art Peter Lord NLW 2007.\r\nhttp://yba.llgc.org.uk/en/s2-COOM-MAR-1874.htm
Cyfeirnod: WaW0268
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ethol Winifred Coombe Tennant i bwyllgor yr NUWSS, Cambria Daily Leader 8fed Gorffennaf 1915
Adroddiad papur newydd
Winifred trefnyddes Glamorgan War Agricultural Committee, Herald of Wales 20th May 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyfarfod i drafod adferiad gwledig Cymru wedi’r Rhyfel. Herald of Wales 10fed Awst 1918rn
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am agor Adran Gelf a Chrefft Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd 1918. Eto yn yr Herald of Wales 10fed Awst 1918rn
Elizabeth Cooper
Man geni: Hampshire
Gwasanaeth: Gweithwraig gydag Elusennau Cristnogol, 1914 - 1919
Nodiadau: Derbyniodd Elizabeth Cooper yr OBE yn 1918 am ei gwaith ar ran llongwyr ar longau ysgubo ffrwydron a oedd yn gweithio allan o Aberdaugleddau. Symudodd i’r ardal yn yr 1890au yn uwcharolygydd i’r Mission to Deep Sea Fishermen. Bu llawer o dreill-longau yn ysgubo ffrwydron yn ystod y Rhyfel.
Cyfeirnod: WaW0224
Elizabeth Cooper
Elizabeth Cooper OBE, Cymdeithas Cyflenwi Cysuron i Weithwyr y Llongau Ysgubo Ffrwydron
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Elizabeth Cooper â’r OBE, Haverfordwest & Milford Haven Telegraph 9 Jan 1918
Clemima Coopey
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel, 1916 - 1918
Marwolaeth: 1918-02-26, Ysbyty Gweithwyr Blaenafon , Industrial Accident / Damwain Ddiwydiannol
Nodiadau: Cafodd Clemima Coopey ei dal mewn peiriant yn nhŷ-peiriant Cwmni Blaenavon Cyf. Roedd yn rhuthro i ddal y trên 9.30 y.h., ac roedd wedi gadael ei hesgidiau yno yn anghyfreithlon. Roedd ei gŵr yn ymladd yn Salonica, ac roedd ganddi dri phlentyn bach.
Cyfeirnod: WaW0071
Elizabeth Beatrice Cope
Man geni: Sir Gaerhirfryn, c.1871
Gwasanaeth: Mam
Nodiadau: Trigai Beatrice Cope gyda’i g?r George yn Nhryleg, Sir Fynwy. Cyn hynny roeddent wedi byw yn Sir Ddinbych. Yma gwelir hi mewn ffotograff gyda’i mab ieuengaf George, a elwid yn Eric. Roedd e’n ail lefftenant dros dro yn 2il Gatrawd (1st Tyneside Scottish) Ffiwsilwyr Northumberland. Mae’n debyg i’r darlun gael ei dynnu’n union cyn i Eric gael ei anfon i Ffrainc yn Ionawr 1916. Lladdwyd Eric ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme, 1af Gorffennaf 1916. Dim ond 18 mlwydd oed ydoedd.
Cyfeirnod: WaW0069
Edith E Copham
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1918-11-18, Pen-bre, Ffrwydrad
Cofeb: Senotaff , Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: 19 oed. Lladdwyd hi yn yr un ffrwydrad â Mary Fitzmaurice a Jane Jenkins; Rhannodd MF a EEC angladd cyhoeddus.
Ffynonellau: Explosion report Herald of Wales 14th December 1914; Funeral report South Wales Weekly Post 30 Nov 1918 / Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914; Adroddiad am yr angladd South Wales Weekly Post 30ain Tachwedd 1918
Cyfeirnod: WaW0002
Elsie Agnes Courtis
Man geni: Llandaf, 1894
Gwasanaeth: Gyrwraig , FANY, 1914 - 1918
Nodiadau: Ar gyfer ‘dyletswyddau cegin a nyrsio’ yr arwyddodd Elsie yn wreiddiol, ond yn ddiweddarach bu’n gyrru ambiwlans. Gwobrwywyd hi â Medal Filwrol yn 1917 ‘am ei dewrder yn achub milwyr clwyfedig yn ystod y brwydro yn Ffrainc’.
Cyfeirnod: WaW0129
Menywod a wobrwywyd â Medal Filwrol
Ffotograff o fenywod, gan gynnwys Elsie Courtis, a wobrwywyd â’r Fedal Filwrol, 1918
London Gazette, 26ain Mehefin 1918
Gwobr Medal Filwrol Elsie Courtis a gofnodwyd yn y London Gazette, 26ain Mehefin 1918
Cissie Cripps
Man geni: Aberhonddu
Gwasanaeth: Gwirfoddolwraig , Womens Volunteer Reserve Corps, 1915 - ?
Marwolaeth: 1956, Montreal, Canada, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Cissie yn yrwraig cyn y rhyfel, roedd ganddi ddau frawd yn gwasanaethu yn y fyddin, ac ymunodd â Chorfflu Wrth Gefn y Gwirfoddolwragedd yn Folkestone yn Awst 1915. Yn 1920 ymfudodd i Montreal, Canada, lle priododd hi George Elsdon Mears yn ddiweddarach. Roedd ganddynt dair merch. Diolch i Ian Sumpter.
Cyfeirnod: WaW0374
Cissie Cripps
Cissie Cripps o Aberhonddu, yn edrych yn ‘smart iawn’ yn ei gwisg swyddogol. Brecon County Times 12fed Awst 1915.
Annie Crosby
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: Ymdeithiwr
Marwolaeth: 1915-05-07, SS Lusitania, Drowning/Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Bagillt, Sir y Fflint
Nodiadau: 36 oed. Boddwyd gyda ei chwaer Ellen pan suddwyd y Lusitania.
Ffynonellau: http://www.flintshirewarmemorials.com; www.rmslusitania.info/
Cyfeirnod: WaW0003