Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Cecelia Mildred (Cissie) Owens (née Smith)
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Mam
Marwolaeth: 1966, Abertawe, Achos anhysbys
Nodiadau: Symudodd Cecelia a’i gŵr Hubert Owens ynghyd â’i dau fab Ronald a Reginald i UDA yn 1909. Roedd hi a’r bechgyn yn dychwelyd ar y Lusitania, gyda’i brawd Alfred Smith, ei wraig Elizabeth a’u plant Helen [qv] a’r baban Hubert. Gwahanwyd y ddwy set o rieni a’r plant ar ôl y ffrwydrad a Cecelia a’i nith Helen oedd yr unig oroeswyr. Achubwyd Helen gan ohebydd o Ganada, tra llwyddodd Cecelia, a allai nofio, arnofio gyda chymorth gwregys achub a chafodd ei hachub gan gwch pysgota ar ôl rhai oriau yn y dŵr. Cafodd ei hadnabod gan Helen mewn gwesty yn Queenstown, Iwerddon, lle’r aethpwyd â’r goroeswyr. Dychwelodd Cecelia i UDA gyda’i gŵr, ond dychwelasant i Abertawe yn yr 1930au.
Cyfeirnod: WaW0294
Cecelia a Hubert Owens
Llun o Cecelia a Hubert Owens a dynnwyd yn Pennsylvania. rnGare Maritime, Trwy garedigrwydd Carol Keeler.rn
Ronald a Reginald Owens, Helen Smith
Llun o Ronald a Reginald Owens, a’u cyfnither Helen Smith. Gare Maritime, Courtesy of Carol Keeler.
Adroddiad papur newydd
Rhan o adroddiad am brofiadau Cecelia Owens ar y Lusitania. Cambrian Daily Leader 11egMai 1915.
Minnie Pallister
Man geni: Kilkhampton, Cernyw
Gwasanaeth: Athrawes, actifydd, awdur
Marwolaeth: 1960, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Minnie Pallister yng Nghernyw a chafodd ei haddysgu ym mhrifysgol Caerdydd, cyn mynd yn athrawes ym Mryn Mawr. Etholwyd hi’n llywydd Ffederasiwn Sir Fynwy o’r Blaid Lafur Annibynnol yn union cyn dechrau’r Rhyfel yn 1914. Roedd hi’n enwog am siarad am heddwch a’r mudiad Llafur, a hi oedd trefnydd cenedlaethol Cymru y No Conscription Fellowship. At hyn roedd yn bianydd medrus, yn cyfeilio i Gymgeithas Gorawl Menywod Bryn mawr ac eraill mewn cyngherddau codi arian dros y Groes Goch.
Cyfeirnod: WaW0230
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Minnie Pallister yn Llywydd Sir Fynwy y Blaid Lafur Annibynnol, Llais Llafur 1af Awst 1914
Janet Parry
Man geni: Y Dre Newydd
Gwasanaeth: Nyrs (Prif), TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Cyn y Rhyfel gweithiai Nyrs Parry yn Ysbyty Heswall, Cilgwri. Wedi cyfnod yn gweithio yn Ysbyty Cyffredinol Cyntaf y Gorllewin (Ysbyty Fazackerly), Lerpwl, bu’n gwasanaethu ar yr HMHS Mauretania, yn hwylio yn ôl a blaen i’r Aifft sawl tro. Wedi cyrraedd yr Aifft yr eildro, ysgrifennodd adre “I can't say that I am in any rnway struck with Egyptian life, and the food, oh dear! I suppose you get used to it. ... ”. Yn ddiweddarach bu’n gwasanaethu yn Ffrainc ac enillodd yr Royal Red Cross yn Ionawr 1919. rn
Ffynonellau: Montgomeryshire Express, Montgomeryshire County Times
Cyfeirnod: WaW0149
Louisa Parry
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Stiwardes
Marwolaeth: 1918-10-10, RMS Leinster, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Caergybi, Ynys Mon
Nodiadau: 22 oed. Tarawyd RMS Leinster gan dorpido ar Fôr yr Iwerydd. Bu farw LP ynghyd â Hannah Owen
Ffynonellau: http://www.findagrave.com/cgi-bin/fg.cgi?page=gr&GRid=15368549
Cyfeirnod: WaW0042
Louisa Parry
Man geni: Gaergybi
Gwasanaeth: Stiwardes, CPSPCo, 1914 - 1918
Marwolaeth: 1918/10/10, RMS Leinster, Drowning/Boddi
Cofeb: Cofeb Rhyfel, Gaergybi, Ynys Mon
Nodiadau: 22 oed. Trawyd RMS Leinster gan dorpido ar Fôr yr Iwerydd. Bu farw LP ynghyd â Hannah Owen.
Ffynonellau: http://1914-1918.invisionzone.com/forums/index.php?/topic/3929-wanted-photos-nationwide/&page=19
Cyfeirnod: WaW0042
Queenie Parry
Man geni: Glyn Ebwy ?
Gwasanaeth: Nyrs, Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel a chwaraewraig rygbi, VAD, March 1915 – May 1918 Mawrth
Nodiadau: Roedd Queenie yn Aelod o VAD Glyn Ebwy yn wreiddiol, ond cafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Maindiff Court, Y Fenni. Gweithia yno fel nyrs nos am £20 y flwyddyn. Cafodd ei symud i weithio i ffatri arfau Rotherwas , swydd Henffordd. Cynigiodd ddychwelyd i Maindiff Court petai angen.rn
Cyfeirnod: WaW0424
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cefn cerdyn Queenie Parry yn nodi manylion ei symud i’r ffatri arfau.
D Parry Jones
Man geni: Ystrad Mynach ?
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Cofeb: Capel Meth. Calf. Bethania- Siloh, Ystrad Mynach, Morgannwg
Nodiadau: Gwelir enw D Parry Jones ar y Rhestr Anrhydedd
Cyfeirnod: WaW0156
Rhestr Anrhydedd
Enw D Parry Jones Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel ar Restr Anrhydedd Capel Meth. Calf. Bethania- Siloh Ystrad Mynach
Doris Patterson
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Nodiadau: 34 oed. Bu Doris Patterson yn dyst i’r ffrwydrad a laddodd Gwenllian Williams ac Eleanor Thomas. Ni chafodd niwed er mai dim ond ‘dwy lath i ffwrdd ‘ yr oedd hi.
Cyfeirnod: WaW0095
Adroddiad tyst am ffrwydrad
Adroddiad papur newydd; adroddiad tyst – Doris Patterson o ffrwydrad, South Wales Daily Post 18 Ionawr 1919
Gladys Paynter-Williamson
Man geni: Margam
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1914/08/05 - 1919/ 08/24
Marwolaeth: 1936, Carcinoma
Nodiadau: Hyfforddodd Gladys yn nyrs yn Ysbyty’r Santes Fair, Paddington. Roedd ei thad yn ficer Margam. Fel nyrs wrth gefn cafodd ei galw i fyny yn Awst 1914. Ar y dechrau gwasanaethai mewn ysbtytai rhyfel yn Lloegr, ond yn 1917 cafodd ei hanfon i ffrainc (Etaples) ac ar ôl y Cadoediad i Bonn yn yr Almane. Enillodd y Groes Goch Frenhinol yn Chwefror 1917. Ymddengys ei bod yn berson unig, a bu’n rhaid iddi ofyn am gymorth ariannol pan ddatblygodd hi gancr yn 1934. Ar ei marwolaeth cofnodir ‘Nid yw’n ymddangos fod gan Miss Paynter-Williamson berthnasau yr oedd yn cadw mewn cysylltiad â nhw.’
Cyfeirnod: WaW0401
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar wobrwyo Gladys Paynter-Williamson â’r GRoes Goch Frenhinol. Cambria Daily Leader 11eg Ebrill 1917.
Adroddiad Meddygol
Llythyr meddyg yn dweud bod Gladys Paynter-Williamson yn ffit i wasanaethu tramor. 27ain Gorfennaf 1917.
Violet Pearce
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: clerc bwcio, NWR
Marwolaeth: November 1918, Abertawe, Influenza / y ffliw
Nodiadau: Roedd Violet Pearce yn glerc bwcio ar Orsaf Victoria Abertawe pan fu farw o’r ffliw Sbaenaidd ddechrau Tachwedd 1918.
Cyfeirnod: WaW0373