English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r casgliad


Trefnwyd yn ôl enw

Not known / Anhysbys

Man geni: De Cymru

Gwasanaeth: Gwneuthurwraig briciau

Nodiadau: Tynnwyd llun y fenyw hon yn mowldio briciau clai silica ar gyfer casgliad Cyflogaeth Menywod yn yr Imperial War Museum a oedd newydd ei sefydlu, tua 1917.

Cyfeirnod: WaW0189

Menyw yn mowldio briciau

Gwneuthurwraig briciau

Menyw yn mowldio briciau


Esther Novinski/y

Man geni: Tonypandy

Gwasanaeth: Meddyg

Nodiadau: Merch gemydd yn Nhonypandy , rhan o’r gymuned Iddewig yn y Cymoedd oedd Esther. Mynychodd Ygsol Sir y Porth cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd. Ar ôl graddio yn 1915 cwblhaodd Esther ei hyfforddiant meddygol yn Ysbyty’r Royal Free, Llundain. Cafodd ei phenodi yn brif lawfeddyg yno ym Mai 1918 er nad oedd eto’n 27 oed!

Cyfeirnod: WaW0436

Adroddiad at benodiad Esther Novinski yn Ysbyty Royal Free. Rhondda Leader 18 Mai 1918.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad at benodiad Esther Novinski yn Ysbyty Royal Free. Rhondda Leader 18 Mai 1918.


Hetty Onions

Cofeb: Eglwys Wesley, Tredegar, Sir Fynwy

Nodiadau: Gwelir enw Hetty Onions at y Rhestr Anrhydedd (dan QM WAACS) gynt yn yr Eglwys Wesleaidd, Teras Harcourt, Tredegar

Cyfeirnod: WaW0163

Enw Hetty Onions ar y Rhestr Anrhydedd

Rhestr Anrhydedd

Enw Hetty Onions ar y Rhestr Anrhydedd


Hannah Owen

Man geni: Caergybi

Gwasanaeth: Stiwardes, c.1905 - 1918

Marwolaeth: 1918-10-10, RMS Leinster, Drowning / Boddi

Cofeb: Cofeb Ryfel, Coflech Capel Hyfrydle , Caergybi, Ynys Mon

Nodiadau: Tarawyd RMS Leinster gan dorpido ar Fôr yr Iwerydd. Bu farw HO ynghyd â Louise Parry

Ffynonellau: http://www.findagrave.com/cgi-bin/fg.cgi?page=gr&GRid=107830381

Cyfeirnod: WaW0040

Hannah Owen, Stiwardes ar SS Leinster a suddwyd 10 Hydref 1918

Hannah Owen

Hannah Owen, Stiwardes ar SS Leinster a suddwyd 10 Hydref 1918

Enw Hannah Owen yn Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru

Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru

Enw Hannah Owen yn Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru


Kate Owen

Man geni: Aberystwyth

Gwasanaeth: Cogyddes, yna teilwres , WAAC/QMAAC, 1917 - 1918

Nodiadau: Ymunodd Kate Owen â’r WAAC yn hydref 1917, yn 45 oed. Roedd wedi ei hyfforddi’n wniadyddes, a chafodd ei symud yn gyflym i’r Adran deilwra. Gwasanaethodd yn nifer o’r prif wersylloedd, gan gynnwys Gwersyll Halton swydd Buckingham a Gwersyll Cinmel, gogledd Cymru (ddwywaith) Cafodd ei rhyddhau ym Medi 1918.

Ffynonellau: National Archives WO-398-170-4

Cyfeirnod: WaW0319

Cofnod o wasanaeth Kate Owen, yn dangos sawl lle y bu’n gwasanaethu.

Cofnod o wasanaeth

Cofnod o wasanaeth Kate Owen, yn dangos sawl lle y bu’n gwasanaethu.


M Jane Owen

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel

Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg

Cyfeirnod: WaW0041

Enw Jane Jenkins, Senotaff Abertawe

Senotaff Abertawe

Enw Jane Jenkins, Senotaff Abertawe


Mildred Owen

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel

Marwolaeth: 1917:07:31 , Pen-bre, Explosion / Ffyrwydriad

Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg

Nodiadau: 18 oed. Bu farw yr un pryd â Dorothy Mary Watson

Ffynonellau: Funeral / angladd South Wales Daily Post 11 August / Awst 1917; Inquest / Cwest The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser 24th August / Awst1917

Cyfeirnod: WaW0039

Enw Mildred Owen, Senotaff Abertawe

Senotaff Abertawe

Enw Mildred Owen, Senotaff Abertawe

Adroddiad am angladdMildred Owen a Dorothy Mary Watson.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am angladdMildred Owen a Dorothy Mary Watson.


Adroddiad am gwest i farwolaethau Mildred Owen a Dorothy Mary Watson

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am gwest i farwolaethau Mildred Owen a Dorothy Mary Watson


Morfydd Owen

Man geni: Trefforest

Gwasanaeth: Cyfansoddwraig / cantores

Marwolaeth: 1918/09/07, Y Mwmbwls , Appendicitis/reaction to chloroform / Pendics/adwaith i glorofform

Nodiadau: anwyd Morfydd Owen yn 1891 i deulu cyffredin o gapelwyr cerddorol. Dangosodd addewid cerddorol mawr yn gynnar – dywedir iddi ddechrau cyfansoddi yn 6 oed – a chafodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Caerdydd yn 1909. Yn 1912 perswadiwyd ei rhieni i ganiatáu iddi astudio cyfansoddi yn y Royal Academy of Music, lle’r enillodd bob gwobr bosibl yn ystod ei blwyddyn gyntaf. Yn Llundain dechreuodd droi mewn cylchoedd Cymreig dylanwadol, yn 1914 bu’n helpu i gasglu a threfnu caneuon Cymraeg traddodiadol o Sir Y Fflint a Dyffryn Clwyd. Roedd yn gyfansoddwraig gynhyrchiol iawn a chantores â llais mezzo-soprano hyfryd dros ben. Roedd yn flaenllaw mewn cylchoedd mwy Bohemaidd hefyd: ymysg ei ffrindiau roedd Ezra Pound a D H Lawrence. Yn 1917 priododd, yn annisgwyl, Ernest Jones, y seico-therapydd a bywgraffydd Freud. Cyfyngodd hyn yn ddifrifol ar ei gyrfa broffesiynol, yn arbennig gan nad oedd Jones yn hoffi iddi berfformio’n gyhoeddus. Yng Ngorffennaf 1918 ysgrifennodd at ffrind nad oedd hi’n hawdd addasu i fywyd priodasol a’i fod yn mynd â’i holl amser. Ym Medi pan oedd yn aros gyda’i theulu-yng-nghyfraith yn Y Mwmbwls datblygodd Morfydd bendics a bu farw, efallai yn dilyn llawdriniaeth a fwnglerwyd. Ysgrifennodd ei hathro ym Mhrifysgol Caerdydd, David Evans amdnai ei fod yn ystyried ei marwolaeth yn golled ddi-fesur i gerddoriaeth Gymreig, ac nad oedd yn gwybod am unrhyw gyfansoddwr ifanc Prydeinig arall a ddangosai’r fath addewid. Er mai dim ond 26 oed oedd hi pan fu farw mae 250 o’i chyfansoddiadau wedi goroesi.

Ffynonellau: http://discoverwelshmusic.com/composers/morfydd-owen. www.illuminatewomensmusic.co.uk/illuminate-blog/rhian-davies-an-incalculable-loss-morfydd-owen-1891-1918

Cyfeirnod: WaW0335

Morfydd Owen yn 1915. Casgliad preifat.

Morfydd Owen

Morfydd Owen yn 1915. Casgliad preifat.

Caneuon gwerin a gasglwyd gan Mrs Herbert Lewis a Morfydd Owen.

Caneuon gwerin

Caneuon gwerin a gasglwyd gan Mrs Herbert Lewis a Morfydd Owen.


Hysbyseb ar gyfer un o’r cyfrolau coffa o ganeuon Morfydd Owen, 1923.

Caneuon Morfydd Owen

Hysbyseb ar gyfer un o’r cyfrolau coffa o ganeuon Morfydd Owen, 1923.


Rose Owen

Man geni: anhysbys

Gwasanaeth: Erthylwraig

Nodiadau: Daethpwyd a Rose Owen gerbron yr ynadon ym Mhen-y-bont ym mis Awst 1919 wedi ei chyhuddo o roi llawdriniaeth anghyfreithlon I Elizabeth Williams, gweddw. Bu’r achos yn un hir gan fod Elizabeth Williams yn ddifrifol wael. Fodd bynnag, gwellodd ac anonwyd yr achos I Lys y Goron Caerdydd lle dedfrydwyd Mrs Owen I 18 mis o lafur caled. Ymddengys ei bod yn erthylwraig broffesiynol gan fod menywod o’r cymoedd ac o Gaerdydd wedi eu gweld yn mynd I’w thy, yn ogystal â merched sengl a oed dyn aros yno.

Cyfeirnod: WaW0461

Adroddiad papur newydd

Rhan o adroddiad achos llys a dedfryd euog Rose Owen yn Llys y Goron, Caerdydd. Glamorgan Gazette 21 Tachwedd 1919

Adroddiad papur newydd

Rhan o adroddiad achos llys a dedfryd euog Rose Owen yn Llys y Goron, Caerdydd. Glamorgan Gazette 21 Tachwedd 1919


Winifred Owen

Man geni: Sir Drefaldwyn

Gwasanaeth: Nyrs, VAD

Nodiadau: Roedd Winifred (ganed 1888) yn ferch i feddyg. Gwasanaethodd menw ysbyty yng Nghaergrawnt gydol y rhyfel, gan eistedd un tro nesaf at fwyler hydrotherapi a oedd yn bygwth ffrwydro er mwyn lleddfu ofnau’r cleifion. Priododd feddyg ar ôl y rhyfel, ac ni fu’n gweithio wedyn.

Cyfeirnod: WaW0126

Winifred Owen gyda chlaf yn cael hydrotherapi

Winifred Owen VAD

Winifred Owen gyda chlaf yn cael hydrotherapi



Administration