Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Annie Matthews (Cousins)
Man geni: Treboeth, Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Nodiadau: Roedd Annie Matthews yn gweithio ym Mhen-bre. Er ei bod yn gweithio ar ddau achlysur pan gafwyd ffrwydrad, ni cahfodd hi niwed. Ar ôl y Rhyfel priododd Arthur Cousins. Cwrddodd hi ag e wrth ddisgwyl am ei thrên i Ben-bre o Abertawe.
Cyfeirnod: WaW0165
Una McCarthy
Man geni: Abertylri ?
Gwasanaeth: Nyrs
Marwolaeth: October/Hydref 1918, Achos anhysbys
Nodiadau: Ni wyddys unrhywbeth ar hyn o bryd am Una McCarthy y gwelir ei llun gydag eraill mewn papur newydd, yr Argus o bosib, dan y pennawd ‘Died on Service’.
Cyfeirnod: WaW0390
May McIndoe
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel, NEF Pembrey / Pen-bre
Nodiadau: Daethpwyd â May McIndoe, 53 oed, gerbron y llys yn Awst 1918 am fod â thin wedi ei selio o faco yn ei meddiant i’w roi i ddyn. Gwrthodwyd yr achos, gan iddi gael ei dal yn mynd ag ef i’r ystafell fwyta, lle câi nwyddau o’r fath eu gadael. Roedd hyn o fewn y rheolau ynglŷn â deunyddiau ymfflamychol yn y ffatri gwneud arfau rhyfel.
Cyfeirnod: WaW0381
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am yr achos a fethodd yn erbyn May McIndoe. Cambrian Daily Leader 22ain Awst 1918
Phyllis Violet McKie
Man geni: Bangor
Gwasanaeth: Gwyddonydd, Ymchwilydd Cemegol
Nodiadau: Ganwyd Phyllis yng Ngorffennaf 1893, yn ferch i glerc yn Chwarel y Penrhyn. Aeth i Goleg Prifysgol Bangor yn 1912, ac enillodd radd Meistr yn y Gwyddorau, yn ogystal â Baglor yn y Gwyddorau yn 1916, i gydnabod ei gwaith gyda’r rhyfel. Datblygodd hi ddull newydd o gynhyrchu’r cemegyn tetranitromethane ffrwydrol yn ogystal â dulliau o wneud sacarin a fanila ffug. Aeth yn ei blaen i gael gyrfa ddisglair mewn sawl Prifysgol.
Ffynonellau: Chemistry Was Their Life: Pioneer British Women Chemists 1880 – 1949. Marelene Rayner-Canham & Geoff Rayner-Canham Imperial College Press 2008
Cyfeirnod: WaW0233
Margaret Sara Meggitt (née ?)
Man geni: Grantham
Gwasanaeth: Athrawes, undebwraig lafur
Nodiadau: Symudodd Margaret Meggitt i Gasnewydd yn 1906 gyda’i gŵr. Cyn hynny roeddent wedi byw ym Mansfield, lle bu’n ymwneud â’r mudiad rhyddfreinio menywod. Ymunodd â’r Blaid Lafur yn 1913, a ffurfio Cangen Casnewydd o Ffederasiwn Genedlaethol y Gweithwragedd, a gwasanaethodd yn ysgrifenyddes iddi am bedair blynedd. Hi oedd y fenyw gyntaf i eistedd ar Gyngor Llafur a Masnach Casnewydd ac roedd yn asesydd ar dribiwnlys ffatrioedd arfau rhyfel Casnewydd yn Sir Fynwy, gyda phwyslais arbennig ar amodau gwaith merched a menywod. At hyn roedd ar bwyllgor gwaith Pwyllgor Sir Fynwy o Gyngor Cenedlaethol y Fam Ddibriod a’i Phlentyn, a chefnogodd yr apêl i amddiffyn Gladys May Snell [qv].
Ffynonellau: Who’s Who in Newport 1920
Cyfeirnod: WaW0363
Bathodyn NFWW
Bathodyn y National Federation of Women Workers o Sir Fynwy mae’n bosibl. Diolch i Pete Strong.
Alice Meldrum
Man geni: Trefor, Llangollen, 1880
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS Reserve / Wrth gefn, 1914 - 1920
Nodiadau: Goroesodd Alice Meldrum pan suddodd Llong Ysbyty HMHS Anglia ar 17eg Tachwedd 1915. Roedd y llong yn cario dynion clwyfedig o Boulogne i Folkestone pan drawodd ffrwydryn. Yn ei hadroddiad disgrifia Alice sut y carion nhw gymaint â phosibl i fyny ar y dec, a sut y taflodd y rhai oedd yn gallu eu hunain i’r môr. Gostyngwyd eraill i fad achub, ond yn anffodus dim ond un bad y llwyddwyd i’w ostwng gan fod y llong yn suddo mor gyflym. Cadwodd y cleifion eu pennau’n rhyfeddol, meddai. Doedd dim panig o gwbl, a phan gofir eu bod yn dioddef o aelodau wedi’u torri, clwyfau difrifol a thrychiadau ym mhob achos bron, mae’n destament i’w gwir ysbryd, eu gwroldeb a’u dewrder, oherwydd mae’n rhaid eu bod yn dioddef poenau arteithiol. Pan oedd y criw yn hollol fodlon nad oedd yn bosibl o gwbl i gael rhagor o gleifion allan, oherwydd erbyn hyn roedd trwyn y llong wedi mynd dan y d?r, a dim ond y starn uwchben y d?r, gyda’r propelorau yn troi’n gyflym tu hwnt ac yn ein dallu ag ewyn, yna aethant i lawr ar y llyw a neidio i’r môr. Achubwyd tri chant o’r clwyfedig a’r criw gan longau’r llynges a llongau eraill a oedd yn yr ardal. Disgrifia Alice ochr ddoniol y sefyllfa hefyd, oherwydd bydden nhw wedi edrych yn rhyfedd iawn yn y dilladach gwahanol a gawsent gan swyddogion a dynion y llongau distryw, a wnaeth bopeth y gallent i ofalu amdanynt. Pwysleisia nad yw 40 munud yn y d?r yn Nhachwedd y math o ymdrochi y byddai llawer yn dewis ei wneud. Ar ôl pryd da o fwyd ar y Trên Ambiwlans, cyn pen dim roeddent ar eu ffordd i Lundain. Enillodd Alice Meldrum y Groes Goch Frenhinol ac ysgrifennodd adroddiad byr am ei phrofiadau. Treuliodd weddill y Rhyfel yn gweithio mewn ysbytai maes yn Ffrainc.
Ffynonellau: http://greatwarnurses.blogspot.co.uk/2009/11/sinking-of-hospital-ship-anglia.html
Cyfeirnod: WaW0101
Margaret Jane Meredith
Man geni: Erwyd
Gwasanaeth: Morwyn fferm
Marwolaeth: 1916/02/23, Fferm Grugwyllt, Margam, Poisoning / Gwenwyno
Nodiadau: Roedd Margaret Meredith wedi bod yn forwyn fferm ar Fferm Grugwyllt, Margam am ‘tua blwyddyn’. Roedd yn 27-28 oed. Gyda’r nos ar Chwefror 23ain 1916 bwytodd ddail ywen i geisio achosi erthyliad a bu farw o’i gwenwyno. Roedd ganddi filwr o gariad, ond nid oedd wedi ei weld am flwyddyn. Honnid ei bod yn gweld dyn o Gwmafan. Mewn adroddiad hirach yn Brecon County Times dangosir i’r crwner holi ei chyflogwr, Caradoc Jones, gŵr gweddw, am ei chyflwr. Gwadodd unrhyw gyfrifoldeb. Y ddedfryd oedd ‘marwolaeth trwy ei gwenwyno o gymryd dail ywen pan oedd dros dro yn wallgof.’
Cyfeirnod: WaW0298
Pennawd papur newydd
Pennawd i adroddiad am gwest Margaret Jane Meredith. Cambria Daily Leader 25ain Chwefror 1916
Adroddiad papur newydd
Rhan gyntaf adroddiad cwest marwolaeth Margaret Meredith. Gwelir yr adroddiad llawn yn y Cambria Daily Leader, 25ain Chwefror 1916, t.16.
Kate (Anna Catherine) Miller
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC, 1918 - 1920
Marwolaeth: 1920-07-29, Claddfa St Pol-sur-Ternoise,Ffrainc, Pneumonia / Niwmonia
Nodiadau: 27 oed. Claddwyd yng nghladdfa St Pol-sur-Ternoise
Ffynonellau: http://www.cwgc.org/find-war-dead.aspx?cpage=11&sort=name&order=asc; folder
Cyfeirnod: WaW0038
Augusta Minshull
Man geni: Atherstone
Gwasanaeth: Nyrs, St John’s Ambulance, Scottish Women’s Hospital
Marwolaeth: 1915/03/21, Kraguievatz, Typhus fever / Haint teiffws
Cofeb: Nghladdfa Filwrol Chela Kula , Nĭs, Serbia
Nodiadau: Ganwyd Augusta Minshull yn 1861 yn Atherstone, ger Manceinion, ond cafodd ei magu yn Ninbych lle roedd ei rhieni yn rhedeg y Crown Hotel. Ymddengys iddi hyfforddi’n nyrs ar ôl i’w mam farw. Cafodd lu o brofiadau mewn ysbytai yn Lloegr a Dulyn. Yn 1914 ymddengys iddi deithio i Wlad Belg ac yna i Kraguievatz, Serbia yn gynnar yn 1915. Bu farw yn yr epidemig o deiffws yn 53 neu 54 oed.
Cyfeirnod: WaW0468
LlunAugusta Minshull
Casglwyd llun Augusta gan Is-bwyllgor y Menywod fel rhan o’i gasgliad o fenywod fu farw yn ystod y rhyfel.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Augusta Minshull yn Serbia. Denbighshire Free Press 17th April 1915
Isabella Lilian Mitchell
Man geni: Cattistock, Dorset
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn cantîn, Gyrwraig Ambiwlans , French Red Cross, 1915 - 1918 ?
Marwolaeth: 1970, Swydd Caint , Achos anhysbys
Nodiadau: Unig ferch teulu o’r Alban a oedd wedi ymsefydlu yn Aberhonddu oed Isabella. A A Mitchell, Henadur ac YH oedd ei thad a gwirfoddolodd ei dau frawd yn swyddogion yn y fyddin. Yn mis Medi roedd yn gweithio yng Nghantîn y Groes Goch Ffrengig yng Ngorsaf Creil, i’r gogledd o Baris. Dywedir iddi dderbyn y Croix de Guerre yn haf 1918 am dair blynedd o wasanaeth i ambiwlans modur Byddin Ffrainc, ac yn arbennig am ei gwaith da yn Creil. Diolch i Marianne Last.
Cyfeirnod: WaW0395
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am waith cantîn Isabella yn Creil, Ffrainc. Brecon County Times 2il Medi 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Isabella â’r Croix de Guerre. Brecon County Times 1af Awst 1918