Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Rosina Lloyd
Gwasanaeth: Nyrs
Marwolaeth: 1918/10/10, Ysbyty Heintiau Pen-y-bont ar Ogwr, Pneumonia / Niwmonia
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Rosina Lloyd ar hyn o bryd ac eithrio rhybudd byr am ei marwolaeth. Yn rhyfeddol, ni chyhoeddwyd hwn am dros fis ar ôl iddi farw.
Cyfeirnod: WaW0345
Megan Arfon Lloyd George
Man geni: Cricieth
Gwasanaeth: Merch ysgol, gwleidydd yn ddiweddarach
Marwolaeth: 1966/05/14, Achos anhysbys
Nodiadau: Notes [En] For the first few years of her life Megan lived in the family’s Welsh-speaking home in Criccieth. When she was 4 her father Lloyd George became Chancellor of the Exchequer, and the family from then on split their time between 11 (later 10) Downing Street and North Wales. From an early age she appeared with her father at public events. In February 1919, when she was 17, she accompanied him to the Paris Peace Conference. Her presence created something of a stir, though she was in fact at school in Paris too. Later she wrote ‘I’ve had politics for breakfast, lunch, tea and dinner all my life.’ In 1928 she became Wales’s first woman Member of Parliament, for Anglesey.rnNotes [Cy] Yn ystod ei blynyddoedd cynnar roedd Megan yn byw gyda’i theulu o Gymry Cymraeg yng Nghricieth. Pan oedd yn 4 oed daeth ei thad David Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys, ac wedi hynny rhannai’r teulu ei amser rhwng 11 (wedyn 10) stryd Downing a gogledd Cymru. O oedran cynnar byddai’n ymddangos gyda’i thad mewn digwyddiadau cyhoeddus. Yn Chwefror 1919, pan oedd hi’n 17 oed, aeth gydag e fi Gynhadledd Heddwch Paris. Gwnaeth hynny gryn argraff, er ei bod mewn gwirionedd yn yr ysgol ym Mharis hefyd. Yn ddiweddarach ysgrifennodd ‘Rwyf wedi cael gwleidyddiaeth i frecwast, cinio, te a swper ar hyd fy mywyd.’ Yn 1928 hi oedd y fenyw gyntaf i ddod yn Aelod Seneddol dros Gymru a hynny yn Sir Fôn. rn
Ffynonellau: A Radical Life: Biography of Megan Lloyd George, 1902-66. Mervyn Jones
Cyfeirnod: WaW0434
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Megan yn agor estyniad i feithrinfa yn y Claremont Central Mission. Evening Express 15 Awst 1910
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar fywyd cymdeithasol byrlymus Megan ym Mharis Llangollen Adevrtiser 7 Chwefror 1919.
Olwen Elizabeth Lloyd George (Carey Evans)
Man geni: Cricieth
Gwasanaeth: Gwirfoddolwraig, Cogyddes gynorthwyol, 1914 - 1916
Marwolaeth: 1990, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Olwen yn ail ferch David Lloyd George, a dechreuodd wirfoddoli yn Ysbyty’r Groes Goch ger Cricieth yn 1914 pan oedd hi’n 22. Yna symudodd i Lundain (lle roedd Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys ac yn byw yn 11 Downing Street) a bu’n helpu ei mam gyda Chronfa Gymreig Cysuron i Filwyr. Ym Mai 1915 gwirfoddolodd yn gynorthwywraig yn y Gorsafoedd Gorffwys yn Boulogne ac wedi hynny yn Hesdigneul. Ysgrifennodd yn ddiweddarach ‘ Rhyw fân gogyddes oeddwn i ac arferwn sgrwbio’r platfform. Arferwn ddweud wrth fy ffrindiau “os gwelwch chi ddarn sy’n lanach na’r gweddill, dyna fy narn i.” Gweithiwn mor galed wrthi nes mod i bron â chredu y gallech chi fod wedi bwyta oddi ar y llawr!’ Ar ôl dychwelyd i Lundain a phriodi Capten Tom Carey Evans, noda ei cherdyn Croes Goch na allai weithio! Mae ffilm newyddion fer gan Pathé o’i phriodas yng Nghapel y Bedyddwyr Cymreig yn Westminster, gyda thyrfaoedd yn gwylio. rnrn
Ffynonellau: https://www.youtube.com/watch?v=lze8jeBJKOo
Cyfeirnod: WaW0430
Cerdyn cofnod yr Groes Goch
Cerdyn y Gores Goch ar gyfer Olwen Lloyd George. Mae dyddiadau ei gwasanaeth wedi eu newid mewn pensil.
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cefn cerdyn cofnod Olwen Lloyd George yn nodi manylion ei gwasanaeth.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad aam briodas Olwen Lloyd George a Capten Tom Carey Evans. Herald of Wales 23 Gorffennaf 1917.
Margaret Ann (Peggy) Lyons
Man geni: Tregaron
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNSR, 1915 - 1919
Nodiadau: Ganwyd Peggy Lyons yn Nhregaron yn 1875. Hyfforddodd yn Ysbyty Caerfyrddin ac yn 1900 symudodd i Lundain lle bu’n gweithio mewn dau ysbyty, gyda chleifion preifat. Ymgeisiodd i ymuno â’r QAIMNS yn Ionawr 1915, a gwasanaethodd mewn ysbyty milwrol Prydeinig am 18 mis. Ym Mehefin 1916 cafodd ei hanfon trwy Bombay i Fesopotamia lle y bu nes iddi gael ei hanfon adre yn wael ac yn dioddef o falaria ym Medi 1919. Ar ôl derbyn triniaeth cafodd ei dadfyddino gyda geirda ardderchog ar 29ain Medi 1919. Efallai iddi symud wedyn i weithio yn Ne’r Affrig. Enillodd Peggy y Groes Goch Frenhinol ym Mehefin 1916. Gweithiai ei chwaer Kate Phyllis Davies [gweler] yn chwaer yn ysbyty Croes Goch Aberystwyth.
Ffynonellau: National Archives WO 399_5063
Cyfeirnod: WaW0280
Adroddiad papur newydd a llun
Ffotograff ac adroddiad am Peggy Lyons yn derbyn y Groes Goch Frenhinol. Cambrian News 23ain Mehefin 1916.
Adroddiad papur newydd
Rhan gyntaf llythyr Peggy Lyons adre o Fesopotamia, ac a gyhoeddwyd yn y Cambrian News 24ain Awst, 1917.
Agnes Irene (Renée) Macdonald (James)
Man geni: Merthyr ?
Gwasanaeth: Gwyddonydd Myfyrwraig
Nodiadau: Ganwyd Renée MacDonald yn 1898, ac aeth i Brifysgol Caerdydd yn 1916 i astudio gwyddoniaeth. Enillodd radd Baglor yn y Gwyddorau mewn Bioleg a Botaneg, ac yna Meistr yn y Gwyddorau yn Abertawe a Doethuriaeth mewn Daeareg a Phaleontoleg yng Ngoleg Imperial, Llundain.
Cyfeirnod: WaW0186
Cais am fynediad i Neuadd Aberdâr, Prifysgol Caerdydd
Cais am fynediad gan Renée McDonald’s i Neuadd Aberâr, Prifysgol Caerdydd, Mai 1916
Hester Millicent MacKenzie (née Hughes)
Man geni: Bryste
Gwasanaeth: Addysgwraig, actifydd
Marwolaeth: 1942, Brockweir, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganed Millicent MacKensie yn 1863 a chafodd ei phenodi yn Athro Addysg (menywod) Prifysgol Cymru, De Cymru a Sir Fynwy (Prifysgol Caerdydd yn ddiweddarach) yn 1904 ac yn Athro llawn yn 1910. Hi oedd yr athro benywaidd cyntaf yng Nghymru. Roedd yn gyd-sefydlydd Cymdeithas Ryddfreinio Menywod Caerdydd a’r Cylch yn 1908, ac erbyn 1914 dyma’r gangen fwyaf y tu allan i Lundain gyda 1200 o aelodau. Cyn ac yn ystod y Rhyfel roedd yn weithgar gyda Chlwb y Merched yn Sefydliad y Brifysgol yn Sblot, Caerdydd (lle cwrddodd â’i gŵr, yr Athro J S MacKensie). Safodd, yn aflwyddiannus, fel ymgeisydd Llafur dros sedd prifysgolion Cymru yn etholiad 1918, yr unig fenyw i sefyll am sedd yng Nghymru.
Ffynonellau: http://www.walesonline.co.uk/lifestyle/nostalgia/how-women-classes-came-together-12596684
Cyfeirnod: WaW0246
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ganlyniadau ymgeiswyr benywaidd yn Etholiad Cyffredinol 1918. Cambrian News and Merionethshire Standard 3ydd Ionawr 1919.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gostau etholiadol, ymgeiswyr Prifysgol Cymru. North Wales Chronicle 14eg Chwefror 1919.
Ella Jane Vincentia MacLaverty
Man geni: Llangatwg Feibion Afel
Gwasanaeth: Gyrwraig, FANY, Red Cross, 1914 ? - 1919
Nodiadau: Ganwyd Ella MacLaverty yn 1880, yn ieuengaf o blant ficer cyfoethog o Langatwg ger Trefynwy. Efallai iddi ymuno â’r Groes Goch yn yrwraig yn 1914; roedd hi’n bendant yn Aelod o Iwmyn Nyrsio Cymorth Cyntaf erbynGorffennaf 1918, ac efallai iddi fod yn rhan o gonfoi St Omer pan ymwelodd George V â meysydd y gad. Yn ddiweddar yn ystod y rhyfel ac ar ôl y Cadoediad bu’n gweithio yn gyrru’r rhai oedd yn clrio bomiau heb ffrwydro yn Hazebrouck a Poperinge.
Cyfeirnod: WaW0414
Gertrude Madley
Man geni: Llanelli, 1892
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS Reserve / Wrth gefn, September 1916 - May 1920
Nodiadau: Roedd Gertrude Madley yn ferch i rolerwr yn y gwaith tun, a gweithiai yn y gwaith hwnnw cyn hyfforddi’n nyrs yn Abertawe yn 1913. Ymunodd â Gwasanaeth (wrth gefn) Nyrsio Milwrol Ymerodrol y Frenhines Alexandra yn nyrs staff ym mis Medi 1916. Yn ddim ond tair ar hugain oed roedd ymhlith y nyrsys ieuengaf i wasanaethu gyda’r Adfyddin yn ystod y Rhyfel Mawr. Gwasanaethodd ym Malta i ddechrau ac yna yn Ffrainc, 1918 – 1920.
Ffynonellau: http://greatwarnurses.blogspot.co.uk/2014/09/from-small-acorns-mighty-oaks-grow.html
Cyfeirnod: WaW0098
Hannah Dunlop Mark
Man geni: Pen-y-bont ar Ogwr
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS
Marwolaeth: 1918/10/10, Ysbyty Cyffredinol Rhif 1, Fazackerley, Lerpwl, Pneumonia following influenza / Niwmonia yn dilyn y ffliw
Nodiadau: Ymddengys i Hannah, a oedd yn nyrs wedi ei hyfforddi, fawr o’r Ffliw Sbaenaidd. Roedd hi’n 23 mlwydd oed pan fu farw, claddwyd ym mynwent Pen-y-bont ar Ogwr
Ffynonellau: http://www.cwgc.org/find-war-dead.aspx?cpage=1
Cyfeirnod: WaW0208
Hannah Dunlop Mark
Casglwyd llun Hannah gan Isbwyllgor Menywod yr Imperial War Museum yn rhan oi chasgliad o fenywod a fu farw yn ystod y rhyfel.
Llythyr
Llythyr at Ysgrifennydd y Pwyllgor Menywod gan frawd Hannah, yr Is-gapten David Mark, Tachwedd 16eg, 1918
G[w]ladys Allet Mathias
Man geni: Glynrhedynog
Gwasanaeth: Gweinyddes, WAAC, 1918 - 1919
Nodiadau: Ymunodd G[w]ladys â’r WAAC yng Nghasnewydd ym Mai 1918. Cafodd ei hanfon i Barc Kinmel yng ngogledd Cymru, ac yna i Wersyll Chadderton ger Oldham. Cyn hynny roedd wedi gweithio mewn tafarn ac mae ei geirda ar gyfer y WAAC yn ei disgrifio fel morwyn lân, dda, ond efallai nad oedd yn hoff o fywyd yn y fyddin a chafodd ei dirwyo ddwywaith am fod yn absennol heb ganiatâd.
Ffynonellau: National Archives WO-398-146-1
Cyfeirnod: WaW0313