Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Mary Anne Eliza Young
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1919-02-13, 57fed Ysbyty Cyffredinol, Achos anhysbys
Cofeb: Rhestr Anrhydedd Neuadd y Ddinas; Bedd Rhyfel Claddfa Mazargues, Marseilles, Caerdydd, Morgannwg
Nodiadau: 35 oed. Cyn-athrawes yn Ysgol Sir Lansdowne Rd, Caerdydd. Claddwyd hi yng Nghladdfa Ryfel Mazargues, Marseilles.
Cyfeirnod: WaW0068
Rhestr Anrhydedd, Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Enw Mary Ann Eliza Young, VAD, Rhestr Anrhydedd, Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Mary Ann Eliza Young
Ffotograff o Mary Ann a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel
Llythyr oddi wrth J R Young
Llythyr oddi wrth J R Young. Tad MAEY. Rhan o ‘Deaths: Nurses Deaths to 1920’ (cofnodion gweinyddol yr Amgueddfa) 1919-04-08
Violet Phillips
Man geni: Casnewydd 1899
Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC/QMAAC, 1917 - 1919
Marwolaeth: 1919-03-08, Hostel Chadderton, Achos anhysbys
Cofeb: Sant Gwynlliw , Casnewydd, Sir Fynwy
Nodiadau: Roedd hi’n ferch i Mrs C.M.Phillips, 32 Barrack Hill, Casnewydd
Ffynonellau: http://www.cwgc.org/find-war-dead/casualty/390079/PHILLIPS,%20V
Cyfeirnod: WaW0118
Mary Olwen Evans
Man geni: Llangadog, April 1896
Gwasanaeth: Cynorthwyydd (Cogyddes), QMAAC
Marwolaeth: 1919-03-23, Influenza?/Y Ffliw?
Nodiadau: 20 oed, claddwyd Glyn Ebwy
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-war-memorials/
Cyfeirnod: WaW0013
Helena May Rowlands
Man geni: Llangefni
Gwasanaeth: Nyrs, Territorial Nursing Service/Gwasanaeth Nyrsio Tiri
Marwolaeth: 1919-05-10, Ysbyty Twymyn Milwrol Lerpwl, Influenza
Cofeb: Cofeb y Nyrsys, Llanelwy, Sir y Fflint
Nodiadau: 24/25 oed. Claddwyd yng Nghapel Mynydd Seion, Abergele. Aethpwyd â'i chorff ar y trên o Lerpwl i Abergele, ac yn syth i'r gladdfa i osgoi heintio.
Cyfeirnod: WaW0054
Fanny Irene Sprake Jones
Man geni: Caerfyrddin
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNS
Marwolaeth: 1919-06-11, Achos anhysbys
Cofeb: Cofeb Ryfel, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Nodiadau: 36 oed. Ymgymhwysodd yn Ysbyty Coleg y Brenin , Llundain , Mai 1913
Cyfeirnod: WaW0037
Catherine Williams
Man geni: Bae Colwyn
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS
Marwolaeth: 1919-08-04, Achos anhysbys
Cofeb: Cofeb Ryfel, Bae Colwyn, Sir Gaernarfon
Nodiadau: 38 oed. Claddwyd yng nghladdfa Bron-y-nant Bae Colwyn.
Ffynonellau: http://historypoints.org/index.php?page=colwyn-bay-memorial-fww-surnames-s-y
Cyfeirnod: WaW0064
Margaret Davies
Man geni: Pontymister ?
Gwasanaeth: Cogyddes, QMAAC
Marwolaeth: 1919/02/18, Anhysbys, Not known / Anhysbys
Cofeb: Clafa Hen Rhisga, Rhisga, Sir Fynwy
Nodiadau: Nid oes fawr ddim yn hysbys am Madge Davies a oedd yn gogyddes yn y QMAAC.
Cyfeirnod: WaW0350
Mary Ann Evans
Man geni: Glyn Ebwy
Gwasanaeth: Cogyddes gynorthwyol , QMAAC
Marwolaeth: 1919/03/23, Percy House Auxiliary Military Hospital, Isleworth, Middlesex, Influenza ? / Fliw ?
Nodiadau: Yn ol cyfrifiad 1911 roedd Mary Ann, mae’n debyg, o deulu Cymraeg ei iaith. Roedd ei thad yn fforman mewn pwll glo. Roedd hi’n gweithio ym Middlesex pan fu farw. O’r ffliw mwy na thebyg. Mae ei henw wedi ei gofnodi’n ddiweddar ar garreg fedd goffaol yng nghladdfa Risga.
Ffynonellau: http://firstworldwar.gwentheritage.org.uk/content/catalogue_item/mary-ann-evans
Cyfeirnod: WaW0283
Megan Davies
Man geni: Aberdâr
Gwasanaeth: Cantores, clerc mewn banc
Marwolaeth: 1919/03/25, Aberdâr, Influenza / y ffliw
Nodiadau: Roedd Megan Davies yn adnabyddus fel unawdydd o gontralto yn ardal Aberdâr a pherfformiodd mewn llawer o gyngherddau i Arwyr y Rhyfel. Gweithiai ym Manc Barclay’s Merthyr
Cyfeirnod: WaW0421
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd o Chyngerdd Arwr Rhyfel gyda'r enw Megan Davies.Aberdare Leader 5ed Ionwawr 1918.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Megan Davies o’r ffliw, yn 29 oed. Aberdare Leader 29 Mawrth 1919
Daphne Elizabeth Powell
Man geni: Talgarth ?
Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC/QMAAC, Novermber 1917 - April 1919 /
Marwolaeth: 1919/04/11, The Old Vicarage Talgarth , brief illness / salwch byr
Cofeb: Eglwys y Santes Gwendoline, Talgarth, Sir Frycheinog
Nodiadau: Gwasanaethodd Daphne Powell gyda’r WAAC/QMAAC yn Swanage, lle bu’n ‘weithwraig effeithlon iawn’. Roedd yn 21 mlwydd oed pan fu farw, o’r ffliw Sbaenaidd, mae’n bosib.
Cyfeirnod: WaW0194
Bedd Daphne Powell
Bedd Daphne Powell, Eglwys y Santes Gwendoline, Talgarth. Mae ei bedd hi ar y dde; ac un ei brawd Charles Baden Powell, fu farw yn 1921, ar y chwith.
Cofrestr feddau y Santes Gwendoline
Y gofrestr feddau yn dangos cofnodion ar gyfer Daphne Powell a’i brawd Charles. Yn wreiddiol twmpathau o borfa oedd y ddau fedd: codwyd y cerrig beddau yn ddiweddar gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.