English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Cofebion Rhyfel a Rhestrau Anrhydedd


Mae Senotaffau trawiadol a cherfddelwau mud yn coffáu’r miloedd ar filoedd fu farw yn y ddau Ryfel Byd yn ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yng Nghymru. Gan amlaf maent yn cofnodi enwau’r dynion a laddwyd mewn brwydrau ar y môr, ar y tir ac yn yr awyr air ac yn ddieithriad mae darllen y rhestrau diderfyn yn brofiad sobreiddiol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, i ‘ddathlu’ y Rhyfel Byd Cyntaf bu haneswyr proffesiynol ac amatur yn ceisio adnabod y milwyr, y morwyr a’r awyrenwyr hyn a rhoi mwy o werth ac ystyr i’w hanesion.

Yn annisgwyl braidd, wrth ymgymryd â’r prosiect hwn: Menywod yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf: y profiad Cymreig, gwelsom fod enwau rhai menywod wedi eu cofnodi ar y cofebion hyn. Ar Senotaff Abertawe yr ymddengys y nifer mwyaf ohonynt gan fod o leiaf deg o’r gweithwyr ffatri arfau a gofnodir arno yn fenywod, tra bod enwau unigol yn nyrsys, stiwardesau a menywod fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel ar gofebion lleol ar hyd a lled Cymru. Fel ag yn achos y dynion a goffeir, deuai’r rhan fwyaf o’r menywod o gefndiroedd cyffredin ac mae’r ffaith fod eu henwau’n ymddangos o gwbl ar y fath gofebion cysegredig yn rhyfeddod. Gall ymchwilio i hanesion y menywod hyn a dysgu mwy am eu cyfraniadau i’r ymdrech ryfel fod yn dasg heriol. Mae’r ymchwil wedi’n harwain i chwilio am feddau rhyfel ac i astudio papurau newydd lleol, ond deil llawer i’w wneud. Ar fedd Ethel Thomas, 25 mlwydd oed, yng Nghladdfa Dan-y-graig, Abertawe, er enghraifft, nodir iddi farw ‘ar wasanaeth gweithredol’ ym Mesopotamia, a dyfynnir, yn eironig, yr adnod Feiblaidd, ‘Greater love hath no man than this, that a man lay down his life for his friends’, ond nid oes cofnod pellach o’i gwasanaeth yn y rhyfel.



Cofnodir enwau menywod ar y Rhestrau Anrhydedd sy’n addurno muriau eglwysi, capeli, , neuaddau coffa ac ysgolion hefyd, gan goffáu, nid yn unig y rhai fu farw yn y gwrthdaro, ond y rhai fu’n gwasanaethu yn ogystal. Yn ddi-os gwelir y rhestr fwyaf maith yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, lle aroleuir enwau’r rhai wnaeth yr aberth eithaf mewn aur. Ar y llaw arall, mae’r llyfr ysblennydd sy’n cynnwys Rhestr Anrhydedd Casnewydd yn canolbwyntio ar y meirwon yn unig, oherwydd ynddo,‘are written the names of four Women and one thousand, five hundred and eleven men who, in the Great War, laid down their lives for their King and Country.’

Mae placiau cyffelyb yn dal i ddod i’r amlwg ac rydym yn ddyledus iawn i Dr Gethin Matthews a’i dîm ym Mhrifysgol Abertawe am rannu eu hymchwil i Restrau Anrhydedd â ni.

Mae’r ymchwil yn parhau ac os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am gofebion rhyfel neu Restrau Anrhydedd cysylltwch â’r safle hwn, os gwelwch yn dda.


Administration