Ladas Powell (WAAC/QMAAC)
Ymunodd Ladas May Powell â Chorfflu Byddin Atodol y Menywod (Women’s Auxiliary Army Corps - WAAC ) ym mis Mai 1918, efallai, cred ei merch, wedi iddi glywed Margaret Haig Thomas (Arglwyddes Mackworth ar y pryd) yn areithio yng Nghaerdydd. Efallai iddi ymweld â’r arddangosfa ar wasanaeth menywod yn y Rhyfel yn Siop James Howells yn ystod mis Ebrill 1918. Dim ond 16 oed oedd hi ar y pryd.
Ganwyd Ladas, a enwyd yn ôl traddodiad teuluol ar ôl ceffyl rasio, yng Nghwmaman ger Aberdâr ar 15 Rhagfyr 1901, yn ferch i löwr. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Sir y Merched Cwmaman. Mae ei hadroddiad ysgol olaf yng Ngorffennaf 1914, pan oedd yn Safon 5, yn dweud bod ei Hysgrifennu, eI Chyfansoddi, a’i Hymddygiad yn ‘Ardderchog’ a’i Chynnydd Cyffredinol yn ‘Foddhaol Iawn.’.
Yn y WAAC gelwid Ladas yn Gladys. Ymddengys iddi dreulio’r rhan fwyaf o’i hamser yng Ngwersyll Stonar, Sandwich, Caint. Roedd Gwersyll Stonar yn enfawr gan iddo gael ei adeiladu i wasanaethu harbwr newydd Richborough a adeiladwyd i wasanaethu’r traffig milwrol i ac o Ffrainc. Parhawyd i’w ddefnyddio tan 1920 o leiaf, pan ryddhawyd Ladas o’i gwasanaeth. Gweithiai’r Wacau yn gogyddion a gweinyddesau yn y gwersyll; ystyrid y menywod hyn yn ‘weithwyr’ a thrigent mewn is-wersyll ar wahân ar draws y ffordd. Bu Ladas yn byw yng Nghwt 167, 3 Gwersyll Stonar.
Ym mis Medi 1919 cafodd Ladas albwm. Gofynnodd, nid yn unig i’w ffrindiau a rannai ei chwt gyda hi i ysgrifennu ynddo, ond, at hyn, cadwodd ffotograffau, trwydded deithio, gwahoddiad i barti dadfyddino (gyda chyfaill o ddyn) a’i cherdyn busnes swyddog ynddo
Yn ogystal, ysgrifennodd neu ysgrifennodd allan benillion yn dathlu newid enw’i gwasanaeth hi o WAAC i Gorfflu Atodol Byddin y Frenhines Mary: y Queen Mary’s Army Auxiliary Corps (QMAAC), yn Ebrill 1918, a cherdd hir ‘Only a WAAC’
Mae’r darnau eraill yn amrywio’n fawr. Mae un darlun dyfrlliw bach da o long ryfel yn cyrraedd harbwr, a fersiwn hytrach yn amheus o Mary Had a Little Lamb. Mae sillafu ac ysgrifen y rhan fwyaf o’r cyfranwyr yn dda iawn, ac yn glod i’r addysg fer a gâi merched dosbarth gweithiol a adawsai’r ysgol yn 13 neu 14 oed.
Ymhlith y papurau eraill ar y safle hwn ceir papur dadfyddino Ladas, dyddiedig 2il Chwefror 1920 a ffotograff, yn dathlu’r Cadoediad efallai o QMAACau, gan gynnwys Ladas, yn gorymdeithio trwy Sandwich.
Ar ôl ei rhyddhau o’r QMAAC dychwelodd Ladas i Gymru, lle bu’n gweithio yn forwyn barlwr yn Glandare House, Aberdâr. Yn 1928, priododd Charles Pritchard, a gawsai ei anafu’n ddifrifol yn y Rhyfel ac a fuasai yn yr ysbyty am flynyddoedd. Ymsefydlon nhw yn Aberdâr a chael dau blentyn. Bu farw Charles yn 1962. Parhaodd Ladas Pritchard i gefnogi Adain Menywod y Lleng Prydeinig yn frwd tan ei marwolaeth yn 1977, yn 75 oed.
Rydym yn ddiolchgar i ferch Ladas, Mildred Stearn, am ganiatâd i ddefnyddio’r defnydd hwn.
title?