English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r casgliad

Trefnwyd yn ôl carfan

Daphne Elizabeth Powell

Man geni: Talgarth ?

Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC/QMAAC, Novermber 1917 - April 1919 /

Marwolaeth: 1919/04/11, The Old Vicarage Talgarth , brief illness / salwch byr

Cofeb: Eglwys y Santes Gwendoline, Talgarth, Sir Frycheinog

Nodiadau: Gwasanaethodd Daphne Powell gyda’r WAAC/QMAAC yn Swanage, lle bu’n ‘weithwraig effeithlon iawn’. Roedd yn 21 mlwydd oed pan fu farw, o’r ffliw Sbaenaidd, mae’n bosib.

Cyfeirnod: WaW0194

Bedd Daphne Powell, Eglwys y Santes Gwendoline, Talgarth. Mae ei bedd hi ar y dde; ac un ei brawd Charles Baden Powell, fu farw yn 1921, ar y chwith.

Bedd Daphne Powell

Bedd Daphne Powell, Eglwys y Santes Gwendoline, Talgarth. Mae ei bedd hi ar y dde; ac un ei brawd Charles Baden Powell, fu farw yn 1921, ar y chwith.

Y gofrestr feddau yn dangos cofnodion ar gyfer Daphne Powell a’i brawd Charles. Yn wreiddiol twmpathau o borfa oedd y ddau fedd: codwyd y cerrig beddau yn ddiweddar gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.

Cofrestr feddau y Santes Gwendoline

Y gofrestr feddau yn dangos cofnodion ar gyfer Daphne Powell a’i brawd Charles. Yn wreiddiol twmpathau o borfa oedd y ddau fedd: codwyd y cerrig beddau yn ddiweddar gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.

Adroddiad am angladd Daphne Powell. Brecon County Times 1af Mai 1919

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am angladd Daphne Powell. Brecon County Times 1af Mai 1919

Gwladys Rowlands

Man geni: Talywaun

Gwasanaeth: WAAC/QMAAC, 1917/09 - 1919/10

Nodiadau: Ymunodd Gwladys â’r WAAC ym mis Medi 1917 pan oedd yn forwyn yn Ysbyty Pontypŵl. Mae ei phapurau WAAC wedi goroesi yn yr Archifau Cenedlaethol, gan gynnwys llythyr at Arglwyddes Mackworth (Margaret Haig Thomas) yn Awst 1917, yn holi am y posiblrwydd y gallai ymuno â chorfflu byddin y menywod. Gwasanaethodd yn gogyddes gynorthwyol, yn Bisley ger Llundain i ddechrau, ac yna yng Ngwersyll Catterick, swydd Efrog. Cafodd ei gollwng o’r WAAC am resymau trugarog yn Hydref 1919.

Ffynonellau: National Archives WO-398-193-26

Cyfeirnod: WaW0291

Geirda Gwladys Rowlands o Ysbyty Pontypŵl

Geirda i gael ymuno â’r WAAC

Geirda Gwladys Rowlands o Ysbyty Pontypŵl

Gwisg WAAC ar gyfer Gwladys Rowlands (1)

Rhestr gwisg swyddogol

Gwisg WAAC ar gyfer Gwladys Rowlands (1)

Gwisg WAAC ar gyfer Gwladys Rowlands (2)

Rhestr gwisg swyddogol

Gwisg WAAC ar gyfer Gwladys Rowlands (2)

Enw Gwladys Rowlands ar Restr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Pisgah, Talywaun.

Rhestr Anrhydedd

Enw Gwladys Rowlands ar Restr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Pisgah, Talywaun.

Kate Owen

Man geni: Aberystwyth

Gwasanaeth: Cogyddes, yna teilwres , WAAC/QMAAC, 1917 - 1918

Nodiadau: Ymunodd Kate Owen â’r WAAC yn hydref 1917, yn 45 oed. Roedd wedi ei hyfforddi’n wniadyddes, a chafodd ei symud yn gyflym i’r Adran deilwra. Gwasanaethodd yn nifer o’r prif wersylloedd, gan gynnwys Gwersyll Halton swydd Buckingham a Gwersyll Cinmel, gogledd Cymru (ddwywaith) Cafodd ei rhyddhau ym Medi 1918.

Ffynonellau: National Archives WO-398-170-4

Cyfeirnod: WaW0319

Cofnod o wasanaeth Kate Owen, yn dangos sawl lle y bu’n gwasanaethu.

Cofnod o wasanaeth

Cofnod o wasanaeth Kate Owen, yn dangos sawl lle y bu’n gwasanaethu.

Mary Ann Whaley

Man geni: Caerdydd ?

Gwasanaeth: Gweithio mewn stordy, WFC [Womens Forage Corps]

Marwolaeth: 1918, Influenza / Y Fliw

Nodiadau: Roedd Mary Ann yn gweithio mewn stordy i Gorfflu Porthiant y Menywod yn cael hyd i, ac yn prosesu porthiant i geffylau’r Fyddin. Defnyddiwyd dros filiwn o geffylau ac asynnod gan y Fyddin Brydeinig yn ystod y rhyfel, yn bennaf ar gyfer cludiant a chludo nwyddau. Roedd Mary Ann yn 39 pan fu farw; ei pherthynas agosaf oedd ei thad Thomas Whaley o Gaerdydd.

Ffynonellau: Femina Patriae Defensor Paris 1934

Cyfeirnod: WaW0221

Enw Mary Ann ar y Rhestr Enwol o Swyddogion ac aelodau a fu farw tra roedd yn gwasanaethu yng Nghorfflu Porthiant y Menywod.

Rhestr enwau

Enw Mary Ann ar y Rhestr Enwol o Swyddogion ac aelodau a fu farw tra roedd yn gwasanaethu yng Nghorfflu Porthiant y Menywod.

Doris Jones

Man geni: Langenni

Gwasanaeth: Gweithio ar fferm, WLA, 1917 - 1918

Nodiadau: Roedd Doris a'i chwaer Winnie yn feched fferm ac yn gweithio ym Myddin Dir y Merched

Cyfeirnod: WaW0167

Doris (ar y chwith)  a Winnie Jones, Merched y Fyddin Dir yn Llangenni 1917

Doris Jones (ar y chwith)

Doris (ar y chwith) a Winnie Jones, Merched y Fyddin Dir yn Llangenni 1917

Doris Jones yn cynaeafu, 1918

Doris Jones

Doris Jones yn cynaeafu, 1918

Winnie Jones

Man geni: Llangenni

Gwasanaeth: Gweithio ar fferm , WLA

Nodiadau: Roedd Winnie a’i chwaer Doris yn ferched fferm ac yn gweithio ym Myddin Dir y Merched.

Cyfeirnod: WaW0168

Winnie Jones ( ar y llaw dde)

Winnie Jones

Winnie Jones ( ar y llaw dde)

Mary Sutherland

Man geni: Llundain

Gwasanaeth: Coedwigwraig , WLA, 1916 -17

Marwolaeth: 1955, Wellington, Seland Newydd, Achos anhysbys

Nodiadau: Mary Sutherland oedd un o’r menywod cyntaf ym Mhrydain i ennill gradd mewn Coedwigaeth. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol gogledd Cymru Bangor o 1912-1916. Ar ôl graddio (yn yr un flwyddyn â Mary Dilys Glynne a Violet Jackson qv) gweithiodd yn adran goedwigaeth Byddin Dir y Menywod, ac o 1917 yn swyddog arbrofi cynorthwyol y Comisiwn Coedwigaeth. Wedi i’r Comisiwn Coedwigaeth grebachu yn 1922 symudodd i Seland Newydd lle gweithiodd yng Ngwasanaeth Coedwigaeth y Wladwriaeth a oedd newydd ei sefydlu.

Ffynonellau: Dictionary of New Zealand Biography, 1998.

Cyfeirnod: WaW0314

Adroddiad am raddedigion o Fangor gan gynnwys Mary Sutherland, Violet Gale Jackson a Mary Glynne. North Wales Chronicle 7fed Gorffennaf 1916.

Adroddiad paper newydd

Adroddiad am raddedigion o Fangor gan gynnwys Mary Sutherland, Violet Gale Jackson a Mary Glynne. North Wales Chronicle 7fed Gorffennaf 1916.

Mary Sutherland yn yr 1920au yn Seland Newydd. Te Amorangi Trust Museum.

Mary Sutherland

Mary Sutherland yn yr 1920au yn Seland Newydd. Te Amorangi Trust Museum.

Gwladys Perrie Williams (Morris)

Man geni: Llanrwst

Gwasanaeth: Addysgwraig, gweinyddwraig, WLA

Marwolaeth: 1958/07/13, Achos anhysbys

Nodiadau: Ganwyd Gwladys i rieni oedd yn siarad Cymraeg a hi oedd y seren yn Ysgol Sir Llanrwst – dim ond dau ddisgybl oedd yn y chweched dosbarth. Graddiodd o Goleg y Brifysgol Bangor. Enillodd gymrodoriaeth i astudio Ffrangeg canoloesol yn y Sorbonne, Paris a derbyniodd radd D Litt yn 1915. Mae ei golygiad hi o Le Bel Inconnu (1929) yn dal i gael ei ddarllen. Yn ôl yn ne Cymru yn 1917 cafodd ei phenodi yn drefnydd arolygydd Byddin Dir y Menywod yn ne Cymru. Cafodd ei derbyn i Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yn 1918. Cyhoeddodd ‘Welsh Education in Sunlight & Shadow’ (1919), gan gymharu addysg ganolradd yng Nghymru a Ffrainc yn seiliedig ar ei phrofiadau ei hunan. Mae’n cynnwys llawer o bapurau arholiad y Bwrdd Arholi Canolog Cymreig o dystygrifau ar lefel iau i lefel gradd. Priododd [Syr] Rhys Hopkins Morris, pennaeth cyntaf BBC Wales ac As Gorllewin Caerfyrddin yn 1918, ond cadwodd ei henw ei hun ar gyfer gwaith proffesiynol. Cwrddon nhw ym Mhrifysgol Bangor.

Cyfeirnod: WaW0415

Adroddiad yn dangos llwyddiannau ysgol Gwladys Perrie Williams. The Weekly News 27 Rhagfyr 1907.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad yn dangos llwyddiannau ysgol Gwladys Perrie Williams. The Weekly News 27 Rhagfyr 1907.

Adroddiad ar aelodaeth Gwladys o Gymdeithas y Cymmrodorion.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad ar aelodaeth Gwladys o Gymdeithas y Cymmrodorion.

Welsh Education in Sunlight & Shadow. Constable 1918.

Llyfr

Welsh Education in Sunlight & Shadow. Constable 1918.

Golygiad Gwladys o Le Bel Inconnu. Argraffwyd yn 1991.

Llyfr

Golygiad Gwladys o Le Bel Inconnu. Argraffwyd yn 1991.

Margaret Haig Thomas (Mrs/Lady Mackworth, Lady Rhondda)

Man geni: Llundain

Gwasanaeth: Swffragét, menyw fusnes, Comisiynydd a Rheolwraig, golygydd a chyhoeddwraig, Women’s National Service Department, Ministry of

Marwolaeth: 1958/07/20, Llundain, Achos anhysbys

Nodiadau: Ganwyd Margaret Haig Thomas yn 1883, yn unig ferch i D.A.Thomas AS, Is-iarll y Rhondda a’i wraig Sybil. Roedd cartref y teulu yn Llanwern. Cefnogai’r teulu ryddfreinio menywod, ac ymunodd Margaret â’r WSPU yng Nghasnewydd yn 1909, gan ddatgblygu’n fwyfwy milwriaethus. Ym Mehefin 1913 treuliodd chwe niwrnod yng Ngharchar Brynbuga oherwydd iddi geisio llosgi bocs postio yng Nghasnewydd. Cefnogai’r rhyfel i’r carn ond nid oedd yn cytuno â jingoistiaeth eithafol Emmeline a Christabel Pankhurst. Ar ôl gweithio dros ffoaduriaid o Wlad Belg ar ddechrau’r rhyfel, roedd yn teithio i Efrog Newydd ar fwrdd y Lusitania gyda’i thad pan ymosodwyd ar y llong gan yr Almaenwyr ar 7fed Mai 1915. Goroesodd Margaret a’i thad, ond bu hi’n anymwybodol yn y dŵr am dros ddwy awr [clicliwch ar y cyswllt i weld ei hadroddiad hi a recordiwyd yn 1950 http://www.bbc.co.uk/programmes/p02qvqwp]. Yn 1916 dechreuodd weithio dros Weinyddiaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol yng Nghymru, a Llundain, a daeth yn Gomisiynydd Gwasanaeth Cenedlaethol Menywod yng Nghymru a Sir Fynwy yn gynnar yn 1917, gyda’r cyfrifoldeb dros annog merched a menywod i fyd amaeth. Cyn hir roedd yn recriwtio’n drwm dros annog merched ifanc i ymuno â’r WAAC, yn enwedig i gael rhai i weithio yn glercod y fyddin yn Ffrainc. Roedd angen menywod hefyd ar wasanaethau newydd y WRNS a’r WRAF. Yn Chwefror 1918 penodwyd hi yn Brif Reolwraig Adran y Menywod o Weinyddiaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol. Pan fu farw ei thad yn 1918, etifeddodd Margaret y teitl Arglwyddes Rhondda. Parhaodd ym myd busnes a bywyd cyhoeddus am sawl blwyddyn wedi’r rhyfel.

Ffynonellau: Angela V John Turning the Tide’, Parthian Books 2013 http://www.bbc.co.uk/programmes/p02qvqwp

Cyfeirnod: WaW0257

Hysbyseb papur newydd am gyfarfod yn Aberhonddu i’w annerch gan Arglwyddes Mackworth. Brecon County Times 12th April 1917

Hysbyseb papur newydd

Hysbyseb papur newydd am gyfarfod yn Aberhonddu i’w annerch gan Arglwyddes Mackworth. Brecon County Times 12th April 1917

Adrna gyntaf adroddiad hir am brofiadau Arglwyddes Mackworth yn suddo’r Lusitania. Cambrian Daily leader 10fed Mai 1915. Adroddiad llawn – gweler:rnhttp://newspapers.library.wales/search?alt=full_text%3A%22Lady%22+AND+full_text%3A%22Mackworth%22&range%5Bmin%5D=1915-1-01T00%3A00%3A00Z&range%5Bmax%5D=1915-12-31T00%3A00%3A00Z&page=5rn

Adoddiad am ryddhau Mrs Mackworth o Garchar brynbuga. Aberdare Leader 19eg Gorffennaf 1913

Adroddiad papur newydd

Adoddiad am ryddhau Mrs Mackworth o Garchar brynbuga. Aberdare Leader 19eg Gorffennaf 1913

FFotograff o glercod WAAC newydd eu recriwtio ar risiau Llysoedd Barn Caerdydd, mehefin 1917. Maent ar fin ymadael am Ffrainc. Mae Margaret Mackworth yn y blaen ar y dde.

Ffotograff o glercod WAAC

FFotograff o glercod WAAC newydd eu recriwtio ar risiau Llysoedd Barn Caerdydd, mehefin 1917. Maent ar fin ymadael am Ffrainc. Mae Margaret Mackworth yn y blaen ar y dde.

Erthygl Margaret Mackworth am Wasanaeth Cenedlaethol i Gymraesau, yn y cylchgrawn Welsh Outlook, Cyf. 4, rhif 7, Gorffennaf 1917

Welsh Outlook

Erthygl Margaret Mackworth am Wasanaeth Cenedlaethol i Gymraesau, yn y cylchgrawn Welsh Outlook, Cyf. 4, rhif 7, Gorffennaf 1917

Hysbyseb am arddangosfa Wythnos Gwaith Rhyfel Menywod a gynhaliwyd yn siop Howells, Caerdydd, Ebrill 1918.

Hysbyseb papur newydd

Hysbyseb am arddangosfa Wythnos Gwaith Rhyfel Menywod a gynhaliwyd yn siop Howells, Caerdydd, Ebrill 1918.

Elsie Williams

Man geni: Abertyleri ?

Gwasanaeth: Cymorth Byrnu, Womens Forage Corps (WFC)

Nodiadau: Ymddengys enw Elsie ar restr o enwau menywod a fu farw yn gweithio yng Nghorfflu Porthiant y Menywod. Ei pherthynas agosaf oedd Mrs Williams, 7 Cyril Place, Abertyleri. Ni wyddys unrhyw beth arall amdani.

Cyfeirnod: WaW0146

Rhestr o aelodau’r WFC a fu farw tra’n gwasanaethu

Rhestr Enwau

Rhestr o aelodau’r WFC a fu farw tra’n gwasanaethu

Administration