Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Doris Genner
Man geni: Glyn Ebwy
Gwasanaeth: Gweithwriag, WAAC
Cofeb: Eglwys Wesleaidd Stryd James (bellach ar y Senotaff, Glyn Ebwy, Morgannwg
Nodiadau: Nid oes unrhyw beth yn hysbys am Doris Jenner
Ffynonellau: http://firstworldwar.gwentheritage.org.uk/content/catalogue_item/james-street-wesleyan-church-memorials-ebbw-vale
Cyfeirnod: WaW0193
Elsie Towyn Jones (Taylor)
Man geni: Cwmaman
Gwasanaeth: Gweinyddwraig, WAAC, 1917 - 19
Nodiadau: Merch hynaf y Parch. Josiah Towyn Jones AS Dwyrain Caerfyrddin oedd Elsie. Fel merch AC gwelir ei henw yn bur aml yn y papurau newydd Cymreig. Daeth yn ‘Swyddog’ gyda’r WAACau yn Hydref 1917. Ar ôl cyfnod yn swyddog cludiant, yn gyfrifol am drefniadau teithio’r WAACau, ym mis Mawrth 1918 cafodd ei dyrchafu yn swyddog cyflenwi’r WAAC yn Ffrainc, yn gyfrifol am gyflenwi eu holl iwnifformau. Ym Mehefin goroesodd gyrch bomio, ac erbyn Awsyt roedd yn ôl ym mhencadlys y WAAC yn Llundain yn defnyddio’i ‘gwybodaeth dechnegol'.
Cyfeirnod: WaW0236
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Elsie yn dod yn ‘swyddog’ gyda’r WAAC, Carmarthen Journal 19eg Hydref 1917.
Adroddiad papue newydd
Adroddiad am ddyrchafiad Elsie yn Swyddog Cyflenwi, Herald of Wales 23ain Mawrth 1918
Adroddiad papur newydd
Elsie Towyn Jones ym mhencadlys y WAAC. Amman Valley Chronicle 15th August 1918
Jean Roberts
Man geni: Blaenau Ffestiniog
Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC, 1917/11/08 – 1918/01/05
Marwolaeth: 1918/01/05, Ysbyty Milwrol Bangor , Spotted fever / Teiffws
Nodiadau: Deunaw oed oedd Jean pan fu farw. Hi oedd yr hynaf o chwe phlentyn mam weddw. Yn Nhachwedd 1919 cododd AS Meirionnydd, Haydn Jones, ei hachos yn y Senedd. Jean oedd y penteulu, ond ni chafodd ei mam unrhyw iawndal a bu’n rhaid iddi ofyn am gymorth y plwyf. ‘Ystyriwyd’ y mater gan Ysgrifennydd Cyllid Swyddfa’r Rhyfel, ond ni wyddys beth ddeilliodd o hynny. Gwelir enw Jean Roberts yn Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru.
Cyfeirnod: WaW0260
Adroddiad papur newwydd
Adroddiad papur newydd o gwestiwn seneddol am Jean Roberts. North Wales Chronicle 14eg Tachwedd 1919
Coflech Cofeb Ryfel
Enw Jean Roberts ar Gofeb Ryfel Eglwys Dewi Sant Blaenau Ffestiniog. Mae’n amlwg iddo gael ei ychwanegu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, sy’n egluro’r camgymeriad – rhoi WAAF yn lle QMAAC
G[w]ladys Allet Mathias
Man geni: Glynrhedynog
Gwasanaeth: Gweinyddes, WAAC, 1918 - 1919
Nodiadau: Ymunodd G[w]ladys â’r WAAC yng Nghasnewydd ym Mai 1918. Cafodd ei hanfon i Barc Kinmel yng ngogledd Cymru, ac yna i Wersyll Chadderton ger Oldham. Cyn hynny roedd wedi gweithio mewn tafarn ac mae ei geirda ar gyfer y WAAC yn ei disgrifio fel morwyn lân, dda, ond efallai nad oedd yn hoff o fywyd yn y fyddin a chafodd ei dirwyo ddwywaith am fod yn absennol heb ganiatâd.
Ffynonellau: National Archives WO-398-146-1
Cyfeirnod: WaW0313
Enid Spedding
Man geni: Goginan
Gwasanaeth: Clerc ?, WAAC, 1917 -
Nodiadau: Ymddengys i Enid ymuno â’r WAAC yn Hydref 1917.
Cyfeirnod: WaW0310
Annie Lillian Thomas (later McLoughlin)
Man geni: Cwm-iou
Gwasanaeth: Postmones, WAAC
Nodiadau: Ymunodd Annie Thomas â’r WAAC ym mis Mehefin 1918, yn 21 oed. Cyn hynny roedd wedi gweithio yn weinyddes yn Ysbyty Frenhinol Gwent. Cafodd ei hanfon i’r Ysbyty Milwrol Awstralaidd, Dartford. Erbyn iddi gael ei rhyddhau yng Ngorffennaf 1919 roedd wedi priodi, er na wyddys unrhyw beth am ei gŵr.
Ffynonellau: National Archives WO-398-153-8
Cyfeirnod: WaW0305
Ffurflen gofrestru WAAC
Ffurflen gofrestru Annie Thomas. Mae ei chyfenw a’i statws priodasol wedi cael eu newid. rn
Gwladys Alice Samuel
Man geni: Aberystwyth
Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC, February 1918 -
Nodiadau: Anfonwyd Gwladys, Geid frwdfrydig, i Wersyll Cinmel, gogledd Cymru yn Chwefror 1918. Roedd ei thad a’i dau frawd yn gwasanaethu yn y fyddin.
Cyfeirnod: WaW0317
Adroddiad papur newydd a llun
Adroddiad byr am Gwladys Samuel yn ymuno â’r WAAC, ynghyd â llun ohoni. Cambrian News 22ain Chwefror 1918.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymadawiad Gwladys â Gorsaf Aberystwyth, Cambrian News 15fed Chwefror 1918.
Maud Jepson
Man geni: Aberystwyth
Gwasanaeth: Clerc, WAAC, June / Mehefin 1917
Nodiadau: Maud Jepson oedd y wirfoddolwraig gyntaf o Aberystwyth i ymuno â’r grŵp o glercod y WAAC a gynullwyd gan Arglwyddes Mackworth i weithio yn Ffrainc.
Cyfeirnod: WaW0326
Sarah Ann Rees
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Cogyddes Gynorthwyol, WAAC, Ionawr - Mawrth 1918 / January
Nodiadau: Ymgeisiodd Ann Rees i ymuno â’r WAAC fel morwyn cegin: ar y pryd roedd yn gweithio yn pacio blawd yn Star Mills, Casnewydd. Yn rhyfedd, er mai fel aelod o’r Eglwys yng Nghymru y cofnodir ei chrefydd, cafodd ei geirda gan y Tad Hickey, offeiriad yn Eglwys y Santes Fair, Stow Hill, a’r Chwaer Agnes o Gwfaint Sant Joseph, a mynychodd ysgol Holy Cross. Ymddengys iddi ymuno â’r WAAC heb roi gwybod na chael cefnogaeth ei rhieni yn gynnar yn 1918: yn dilyn gohebiaeth rhyngddi hi a’i mam, cafodd Ann ei rhyddhau am reswm tosturiol ar 14eg Mawrth 1918.
Cyfeirnod: WaW0379
Llythyr
Llythyr oddi wrth Mrs Bridget Rees, mam Ann, yn egluro pam fod ei hangen gartref [1] yr Archif Genedlaethol
Llythyr
Llythyr oddi wrth Mrs Bridget Rees, mam Ann, yn egluro pam fod ei hangen gartref [2] yr Archif Genedlaethol.
Llythyr
Llythyr oddi wrth Mrs Bridget Rees, mam Ann, yn egluro pam fod ei hangen gartref [3] yr Archif Genedlaethol
Sarah Jenkins
Man geni: Pwll y Glaw, Cwmafon
Gwasanaeth: Cogyddes , WAAC, 1918/01/15 – 1919/11/12
Nodiadau: Roedd Sarah yn 22 pan ymunodd â’r WAAC. Efallai iddi weithio rywdro yn y gwaith tunplat er bod ei chofnodion WAAC yn honni mai pobydd oedd hi. Treuliodd Sarah y rhan fwyaf o’i hamser yn Ddirpwy Gogydd, yna’n Gogydd, yn Shirehampton Remount Depot, Bryste. Roedd y Depo’n trin miloedd o geffylau ac asynnod. Cedwid pob anifail am bythefnos dair a’u profi am afiechydon. Y bwriad oedd cael yr anifail yn lan a ffit, yn barod i’r hyfforddi ac i wasanaethu. O’r 339,602 o geffylau ac asynnod a aeth trwy’r Depo, dim ond 13,811, ddaeth adre wedi’r rhyfel. Diolch i Bev Gulley.
Ffynonellau: National Archives
Cyfeirnod: WaW0405