English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r casgliad


Trefnwyd yn ôl carfan

Betty Morris

Man geni: Hwylffordd

Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915/05/27 – 1918/07/12.

Nodiadau: Ymunodd Betty Morris â’r VAD ym mis Mai 1915, gan weithio’n wreiddiol yn Ysbyty Ategol Cottesmore, Hwlffordd. Ym mis Tachwedd cafodd ei hanfon i Ffrainc, i Boulogne i ddechrau ond cafodd ei dyrchafu i ‘ysbyty mwy’ yn fuan, y nyrs ieuengaf yno, yn 20 oed. Siaradai Ffrangeg yn rhugl, ac arhosodd gyda’r VAD tan fis Gorffennaf 1918. Cyhoeddwyd rhai o’i llythyron adre yn y Haverfordwest and Milford Haven Telegraph.

Cyfeirnod: WaW0478

Llun o Betty Morris yn ei gwisg VAD awyr agored. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 16eg Chwefror 1916

Llun papur newydd

Llun o Betty Morris yn ei gwisg VAD awyr agored. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 16eg Chwefror 1916

Adroddiad papur newydd am ymadawiad Betty Morris am Ffrainc. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 10fed Tachwedd 1915

Adroddiad papur newydd

Adroddiad papur newydd am ymadawiad Betty Morris am Ffrainc. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 10fed Tachwedd 1915


Adroddiad am Nadolig Betty Morris yn Ffrainc. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 16eg Chwefror  1916

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am Nadolig Betty Morris yn Ffrainc. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 16eg Chwefror 1916


Nancy Roberts

Gwasanaeth: Nyrs, VAD ?

Nodiadau: Nid oes unrhyw beth yn hysbys am Nancy Roberts, y gwelir ei henw yn rhif 60 ar Restr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yng Nghapel Cymraeg Kings Cross, Llundain

Cyfeirnod: WaW0201

Rhestr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain.

Rhestr Anrhydedd

Rhestr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain.

Enw Nancy Roberts ar Restr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain.

Enw Nancy Roberts ar Restr Anrhydedd

Enw Nancy Roberts ar Restr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain.


Mary Andrews

Man geni: Llansawel

Gwasanaeth: Nyrs, VAD ?

Nodiadau: Enillodd Mary Andrews y Groes Goch Frenhinol ym Mai 1919. Gwasanaethodd yn Ysbyty Milwrol Croesoswallt.

Cyfeirnod: WaW0272


Marjorie Wagstaff

Man geni: Casnewydd ?

Gwasanaeth: ‘Eillwraig’ , VAD ?

Nodiadau: Roedd Marjorie Wagstaff yn wirfoddolwraig o Gasnewydd a fyddai’n mynd i mewn i Adran Casnewydd o 3edd Ysbyty Milwrol Cyffredinol y Gorllewin ddwywaith yr wythnos i eillio’r cleifion. Erbyn diwedd y rhyfel roedd wedi perfformio dros 2000 o eilliadau. Gwelwyd ei llun yn y Daily Mirror ac yn the South Wales Argus

Cyfeirnod: WaW0336

Llun Marjorie Wagstaff yn y South Wales Argus. Diolch i Peter Strong

Marjorie Wagstaff

Llun Marjorie Wagstaff yn y South Wales Argus. Diolch i Peter Strong


Etta J O Booker

Man geni: Southerndown ?

Gwasanaeth: Swyddog Cyflenwi, Nyrs , VAD, FANY, 1909 - 1919

Nodiadau: Gwasanaethodd Etta Booker yn Swyddog Cyflenwi mintai Morgannwg [22] pan sefydlwyd hi yn 1909. Ym mis Tachwedd 1914, roedd yn rhan o grŵp o chwe nyrs o Forgannwg a anfonwyd i Ysbyty’r Gwersyll Ffrengig yn Saumur am 6 mis. Ar ôl dychwelyd i Southerndown gweithiodd am gyfnod yn Ysbyty Tuscar House, ond ymddiswyddodd o’i safle yn Swyddog Cyflewni i fynd i Calais gyda’r FANY. Pan dorrodd ei hiechyd cafodd ei symud i Nice i weithio yn Ysbyty’r Swyddogion, yna yn ôl i ogledd Ffrainc lle bu’n gweithio mewn sawl ysbyty, cyn gorffen yn nyrs mewn gofal yn yr Ysbyty Eingl-Felgaidd yn Rouen yn 1919. Roedd hi bron yn 40 oed erbyn hyn, a dim ond egwyliau byr a gawsai gartref, lle bu’n gwethio gyda’i chwiorydd [Booker qv] yn Tuscar House. Ymddengys i Etta barhau’n aelod o’r Groes Goch, ac ymysg ei medalau mae medal Jiwbili Arian (1935) a thlysau Ffrengig a Belgaidd.

Cyfeirnod: WaW0471

Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Etta Booker, gyda llawer o nodiadau. arno

Cerdyn Cofnod y Groes Goch

Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Etta Booker, gyda llawer o nodiadau. arno

Cefn cerdyn y Groes Goch Etta Booker, gyda manylion am ei gwasanaeth, (a ysgrifennwyd mae’n debyg gan e chwaer Ethel [qv]).

Cerdyn Cofnod y Groes Goch (cefn)

Cefn cerdyn y Groes Goch Etta Booker, gyda manylion am ei gwasanaeth, (a ysgrifennwyd mae’n debyg gan e chwaer Ethel [qv]).


Adroddiad am ymadawiad Etta i Ffrainc. Glamorgan Gazette 6 Tachwedd 1914

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am ymadawiad Etta i Ffrainc. Glamorgan Gazette 6 Tachwedd 1914

Medalau Etta Booker, a werthwyd yn Bonhams, Llundain am £1440 yn 2013. Yn eu plith mae Medal y Frenhines Elizabeth; medal arian Gweinidog Mewnol Gwlad Belg a Ffrainc

Medalau Etta Booker

Medalau Etta Booker, a werthwyd yn Bonhams, Llundain am £1440 yn 2013. Yn eu plith mae Medal y Frenhines Elizabeth; medal arian Gweinidog Mewnol Gwlad Belg a Ffrainc


Cofnod o’r medalau a dderbyniodd Etta Booker. Mae dau gerdyn gwahanol yn y National Archives, mae hwn yn ei rhestru yn filwr ac yn yn Nyrs gyda’r FANY

Cerdyn medal

Cofnod o’r medalau a dderbyniodd Etta Booker. Mae dau gerdyn gwahanol yn y National Archives, mae hwn yn ei rhestru yn filwr ac yn yn Nyrs gyda’r FANY

Cofnod o fedalau a dderbyniodd Etta Booker. Mae dau gerdyn gwahanol yn y National Archives, mae hwn yn dweud ei bod yn VAD, gyda’r Groes Goch Ffrengig a FANY

Cerdyn medal

Cofnod o fedalau a dderbyniodd Etta Booker. Mae dau gerdyn gwahanol yn y National Archives, mae hwn yn dweud ei bod yn VAD, gyda’r Groes Goch Ffrengig a FANY


Hilda Campbell Vaughan (Morgan)

Man geni: Llanfair ym Muallt

Gwasanaeth: Cogyddes, trefnydd amaethyddol, nofelydd, VAD, WLA, 1915 - 1919

Marwolaeth: 1985, Achos anhysbys

Nodiadau: Ganwyd Hilda Vaughan yn 1892, yn ferch i gyfreithiwr adnabyddus yn siroedd Brycheiniog a Maesyfed. Yn gynnar yn ystod y Rhyfel ymunodd â’r VAD yn gogyddes yn Ysbyty’r Groes Goch yn Llanfair ym Muallt ond yn 1917 gadawodd i wneud gwaith ar y tir am dâl. Tra’r oedd yn gweithio yn y VAD, arweiniodd ymgais i drefnu llyfrgell rad yn y dref, agorodd hi yn Nhachwedd 1917. Roedd Hilda eisoes yn gysylltiedig ag annog menywod i weithio ar y tir, ac annog ffermwyr i’w derbyn. Ei swydd newydd oedd yn ysgrifenyddes trefnu Byddin y Tir yn siroedd Brycheiniog a Maesyfed. Ar ôl y Rhyfel symudodd Hilda i Lundain a phriodi’r nofelydd Charles Morgan. Dechreuodd hithau ysgrifennu. Dylanwadwyd ar ei gwaith yn fawr gan ei phrofiadau yn cwrdd â menywod o gefndiroedd gwahanol ym Myddin y Tir.

Ffynonellau: https://www.southwales.ac.uk/study/subjects/history/worldwarone/jayne-bowden/

Cyfeirnod: WaW0383

Hilda Vaughan yn fenyw ifanc.

Hilda Vaughan

Hilda Vaughan yn fenyw ifanc.

Cofnod o wasanaeth Hilda Vaughan

Cerdyn cofnod yr Groes Goch

Cofnod o wasanaeth Hilda Vaughan


Cofnod o wasanaeth Hilda Vaughan [cefn]

Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]

Cofnod o wasanaeth Hilda Vaughan [cefn]

Rhan gyntaf adroddiad am y Llyfrgell newydd Rad yn Llanfair ym Muallt. Brecon County Times, 25ain Tachwedd 1915

Adroddiad papur newydd

Rhan gyntaf adroddiad am y Llyfrgell newydd Rad yn Llanfair ym Muallt. Brecon County Times, 25ain Tachwedd 1915


Adroddiad am gyfarfod yn yr awyr agored yn Aberhonddu, i roi cyhoeddusrwydd i fenywod a gwaith fferm. Brecon and Radnor Express 5ed Ebrill 1917

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am gyfarfod yn yr awyr agored yn Aberhonddu, i roi cyhoeddusrwydd i fenywod a gwaith fferm. Brecon and Radnor Express 5ed Ebrill 1917

Adroddiad am gyfarfod yn yr awyr agored yn Rhaeadr yn nodi ‘dull … dymunol a pherswadiol’ Miss Vaughan. Brecon and Radnor Express 31ain Mai 1917

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am gyfarfod yn yr awyr agored yn Rhaeadr yn nodi ‘dull … dymunol a pherswadiol’ Miss Vaughan. Brecon and Radnor Express 31ain Mai 1917


Clawr papur nofel Hilda Vaughan ‘The Soldier and the Gentlewoman’, 1932

Novel

Clawr papur nofel Hilda Vaughan ‘The Soldier and the Gentlewoman’, 1932


Ellen Catherine Clay (née Williams)

Man geni: Penrhos

Gwasanaeth: Nyrs (Pennaeth), Cadeirydd Byddin Dir y Merched, Caergybi, VAD, WLA/Byddin Dir y Merched

Nodiadau: Ganwyd Ellen Williams yn ferch i ffermwr tua 1866. Priododd feddyg lleol, Thomas William Clay, yn 1898. Pan dorrodd y Rhyfell allan daeth hi’n Ben swyddog Cynorthwyol VAD (Mintai Atodol Wirfoddol) Caergybi. Gweithiodd yn Ysbyty’r Groes Goch Holborn yn ogystal ag ar Ynys Môn; at hyn bu’n helpu rhedeg Cantîn y Groes Goch yng Ngorsaf Reilffordd Caergybi. Yn ogystal bu Mrs Clay yn cadeirio pwyllgor recriwtio Byddin Dir y Merched. Bu farw yn 1935.

Ffynonellau: Holyhead and Anglesey Mail 7 May / Mai 2014

Cyfeirnod: WaW0153

Ellen Catherine Clay VAD

Ellen Catherine Clay

Ellen Catherine Clay VAD


Beatrice Olivette (Olive) White

Man geni: Casnewydd

Gwasanaeth: Telegraffydd signalau , WAAC, November 1917 - August 1918 /

Marwolaeth: 1918-11-29, Casnewydd, Pneumonia following influenza / Niwmonia yn dilyn y ffliw

Cofeb: Eglwys Fethodistaidd St Julian, Casnewydd, Sir Fynwy

Nodiadau: Ganwyd Olive yn 1886 ac ymunodd â’r Swyddfa Bost yng Nghasnewydd yn ddysgwraig yn 1903. Yn ddiweddarach bu’n gweithio yn Totnes a Phont-y-pŵl. Yn Nhachwedd 1917 ymunodd â’r WAAC yn delegraffydd – signalau, a gyrrwyd hi i Abbeville yng ngogledd Ffrainc ac oddi yno i Calais. Pan oedd gartref ar ymweliad ym mis Mai 1918 cafodd ei tharo’n wael,a chafodd ei dadfyddino o’r WAAC ym mis Awst. Er iddi ddychwelyd i wneud gwaith sifiliad, bu farw o gymlethdodau’r ffliw Sbaenaidd. Gwelir ei henw ar y plac coffa yn Eglwys Fethodistaidd St Julian, Casnewydd ac mae wedi ei chladdu yng nghladdfa Christchurch.

Ffynonellau: Sylvia Mason: Every Woman Remembered, Daughters of Newport in the Great War. Saron publishers 2018

Cyfeirnod: WaW0107

Rhybudd marwolaeth Olive White, South Wales Argus

Rhybudd marwolaeth Olive White

Rhybudd marwolaeth Olive White, South Wales Argus


Alice Prosser

Man geni: Llanfair-ym-Muallt

Gwasanaeth: Gweinyddes yna Cogyddes, WAAC, 1918/05/O7– 1918/08/05/

Nodiadau: Gwasanaethodd Alice, 23 oed, yn gyntaf yn weinyddes, ac yna’n gogyddes, yn ystod ei gyrfa fer yn y WAAC/QMAAC. Cafodd ei dadfyddino ar seiliau meddygol.

Cyfeirnod: WaW0133


Nora Treadwell

Man geni: Swydd Gaerhirfryn

Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC

Nodiadau: Ychydig a wyddys am Nora Treadwell. Cafodd ei magu ym Mryn-coch, Morgannwg; efallai fod ei rhieni yn byw yn Primrose Bank, Bryn-cochrnrnrn

Cyfeirnod: WaW0192

Nora Treadwell yn ei gwisg WAAC.

Nora Treadwell

Nora Treadwell yn ei gwisg WAAC.

Cerdyn post Corfflu Gwirfoddol Byddin y Merched, 18 Mehefin 1918.Anfonwyd y cerdyn post hwn gan Nora at ei hen fam-gu, Mrs Treadwell, o Plymouth ble’r oedd yn gweithio mewn ysbyty ymadfer.

Cerdyn post

Cerdyn post Corfflu Gwirfoddol Byddin y Merched, 18 Mehefin 1918.Anfonwyd y cerdyn post hwn gan Nora at ei hen fam-gu, Mrs Treadwell, o Plymouth ble’r oedd yn gweithio mewn ysbyty ymadfer.



Administration