Gwasanaeth: Prif oruchwylwraig, gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel, NFF Rotherwas
Nodiadau: Cyhuddwyd Nellie Prosser yn hydref 1919 o gael gafael ar £15.10s mewn tâl diweithdra yn anonest pan oedd hi yn gweithio fel morwyn i Mrs Solly-Flood [qv], gwraig adnabyddus yn y gymdeithas leol. Roedd wedi ei rhoi ar y clwt, gyda’r holl weithwyr eraill yn ffatri lenwi sieliau Rotherwas ar ddiwedd y rhyfel, ond wedi hawlio yng Nghyfnewidfa Waith y Fenni ei bod yn disgwyl i’r ffatri ailagor. Yn ôl Rheithor Gofilon, a oedd yn adnabod y teulu yn dda, roedd Nellie wedi ei dyrchafu’n brif oruchwylwraig y ffatri er ei bod yn dioddef o wenwyn TNT a ffitiau o’r herwydd. Roedd hefyd yn un o chwiorydd hŷn May Prosser [qv]. Dirwywyd Nellie Prosser i dalu £25, neu dri mis o lafur caled.
Cyfeirnod: WaW0382
Adroddiad papur newydd
Adroddiad o Lys Heddlu’r Fenni o achos yn erbyn Nellie Prosser. Abergavenny Chronicle 3ydd Hydref 1919.
Annie Whyte
Man geni: Trelai, Caerdydd c 1890
Gwasanaeth: Prif weinyddes , WRAF, 1917 - 1919?
Nodiadau: Roedd Annie Whyte yn gysylltiedig ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Ymunodd yn gyntaf â’r Fyddin (WAAC) ond yna trosglwyddodd i’r Awyrlu (WRAF) wedi iddo gael ei sefydlu yng ngwanwyn 1918. Gweithiai’n bennaf yn Ysgol Arfau y Corfflu Awyr Brenhinol yn Uxbridge. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifdy Morgannwg (DWESA6).
Enw Mary E Smith, Park Lane, Cofeb Ryfel Dolgellau
Lily Briggs
Man geni: Y Barri ?
Gwasanaeth: Putain
Nodiadau: rnDedfrydwyd Lily Briggs i un diwrnod ar hugain o lafur caled ym mis Gorffennaf 1915 am geisio denu milwyr ifanc [o wersyll Nell’s Point, Ynys y Barri] i’r caeau. At hyn defnyddiodd iaith fochaidd pan arestiwyd hi. rn
Cyfeirnod: WaW0476
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymddangosiad a dedfryd Lily Briggs yn y llys fel ‘putain gyffredin’. Barry Dock News 9fed Gorffennaf 1915.
Ann Nora Jenkins
Man geni: Aberdâr ?
Gwasanaeth: Pwyllgorwraig, cynghorydd
Nodiadau: Roedd Mrs Jenkins, cyn-athrawes, yn aelod o Bwyllgor Pensiynau’r Rhyfel, Bwrdd Gwarcheidwaid Merthyr a sawl un arall, yn ystod y rhyfel. Etholwyd hi’n gynghorydd dosbarth yn 1919, ac enillodd yr OBE yn 1920.
Cyfeirnod: WaW0235
Cllr Mrs A N Jenkins
Mrs Ann Nora Jenkins OBE
Mrs A N Jenkins (cefn)
Cefn llun Mrs Jenkins
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyfarfod etholiadol, Aberdare Leader 5ed Ebrill 1919
London Gazette
Dyfyniad am OBE Mrs A N Jenkins, London Gazette, 30ain Mawrth 1920
Lilias Stuart Mitchell (née Wilsone)
Man geni: Straights Settlement
Gwasanaeth: Pwyllgorwraig, mam
Marwolaeth: 1949, Swydd Caint , Achos anhysbys
Nodiadau: Gwraig A A Mitchell, Henadur ac YH yn Aberhonddu a mam Isabella Mitchell [qv] a fu’n gyrru ambiwlansysy yn Ffrainc oedd Lilias Mitchell. Lladdwyd ei mab hynaf ym Mesopotamia yn 1917 ac anafwyd ei mab ieuengaf yn ddifrifol yn Ffrainc yn 1918. Roedd hi a’i gŵr yn Geidwadwyr lleol nodedig; cefnogodd Lilias ffoaduriaid ac Ysbyty’r Groes Goch Penoyre. At hyn hi oedd Ysgrifennydd Pwyllgor Ffair Gyflogi Aberhonddu ac roedd yn Aelod o Bwyllgor y Ddeddf Diffyg Meddyliol. Ym Mehefin 1918 gwobrwywyd hi â’r Medaille de la Reine Elisabeth am ei gwaith gyda ffoaduriaid Gwlad Belg. Gadawodd hi a’i gŵr yr ardal yn 1919.
Cyfeirnod: WaW0396
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Mrs Mitchell i Bwyllgor Deddf Diffyg Meddyliol. Brecon County Times 5ed Awst 1915.
Llythr papur newydd
Llythyr i’r papur Newydd am ddarpariaeth i’r merched yn Ffair Gyflogi Aberhonddu. Brecon County Times 26ain Ebrill 1917.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Mrs Mitchell â’r Medaille de la Reine Elisabeth. Brecon and Radnor Express 27ain Mehefin 1918.
Rhybudd o ocsiwn
Rhestr o offer gardd a stabl a werthwyd gan y teulu Mitchell cyn iddynt ymadael ag Aberhonddu. Brecon County Times 21ain Awst 1919.
Winifred Margaret Coombe Tennant (née Pearce-Serocold)
Nodiadau: Ganwyd Winifred yn 1874, roedd ei mam née Mary Richardson, yn Gymraes. Priododd Charles Coombe Tennant yn 1895 a buon nhw’n byw yn Cadoxton Lodge, ger Castell Nedd. Ymunodd â’r NUWSS yn 1911 a gwasanaethodd ar ei bwyllgor yn ddiweddarach, yn ogystal â chadeirio pwyllgor Castell Nedd. Yn ystod y rhyfel bu’n Gadeirydd pwyllgor Pensiynau Castell Nedd a phwyllgor Amaeth y rhyfel ym Morgannwg; roedd ganddi ddiddordeb hefyd mewn tai gwledig a diwygio’r deddfau cosb (daeth yn Ustus Heddwch yn 1920). Yn 1917 derbyniwyd hi i Orsedd y Beirdd a dewisodd yr enw barddol ‘Mam o Nedd’. Cadeiriodd Bwyllgor Celf a Chrefft Eisteddfod 1918, ac yn ddiweddarach daeth yn Feistres y Gwisgoedd. Roedd wedi dechrau ymddiddori mewn ysbrydegaeth yn dilyn marwolaeth ei merch Daphne yn 1908, ac atgyfodwyd y diddordeb yn dilyn marwolaeth ei mab hynaf a laddwyd yn Fflandrys ym Medi 1917, yn 19 oed. Fe ddaeth yn gyfrwng mawr ei pharch er mai dim ond ychydig o bobl a wyddai pwy ydoedd – defnyddiai’r ffugenw Mrs Willet. Safodd yn aflwyddiannus yn ymgeisydd Rhyddfrydol dros Fforest y Ddena yn etholiad cyffredinol 1922, ac roedd yn noddwraig gywir i nifer o artistiaid Cymreig, yn enwedig Evan Walters.