Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Gwenllian (Gwendoline) Williams
Man geni: Cydweli
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1919-01-08, Explosion/Ffrwydrad
Nodiadau: 21 oed. Dangosodd y dystiolaeth I'r ffrwydrad ddigwydd pan oedd Gwenllian Williams yn drilio sgriw o siel. Roedd Eleanor Thomas yn cario siel pan ddigwyddodd y ffrwydrad.
Ffynonellau: http://newspapers.library.wales/search?query=gwenllian&page=14; The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser
Cyfeirnod: WaW0065
Gwerfyl R Williams
Man geni: Bangor
Gwasanaeth: 1919 -
Nodiadau: Penodwyd Gwerfyl Williams yn masseuse yng nghlinig cleifion allanol y Weinyddiaeth Bensiynau ym Mangor ym mis Hydref 1919.
Cyfeirnod: WaW0419
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Gwerfyl yn masseuse ym MangorrnNorth Wales Chronicle 31 Hydref 1919
Gwladys Perrie Williams (Morris)
Man geni: Llanrwst
Gwasanaeth: Addysgwraig, gweinyddwraig, WLA
Marwolaeth: 1958/07/13, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Gwladys i rieni oedd yn siarad Cymraeg a hi oedd y seren yn Ysgol Sir Llanrwst – dim ond dau ddisgybl oedd yn y chweched dosbarth. Graddiodd o Goleg y Brifysgol Bangor. Enillodd gymrodoriaeth i astudio Ffrangeg canoloesol yn y Sorbonne, Paris a derbyniodd radd D Litt yn 1915. Mae ei golygiad hi o Le Bel Inconnu (1929) yn dal i gael ei ddarllen. Yn ôl yn ne Cymru yn 1917 cafodd ei phenodi yn drefnydd arolygydd Byddin Dir y Menywod yn ne Cymru. Cafodd ei derbyn i Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yn 1918. Cyhoeddodd ‘Welsh Education in Sunlight & Shadow’ (1919), gan gymharu addysg ganolradd yng Nghymru a Ffrainc yn seiliedig ar ei phrofiadau ei hunan. Mae’n cynnwys llawer o bapurau arholiad y Bwrdd Arholi Canolog Cymreig o dystygrifau ar lefel iau i lefel gradd. Priododd [Syr] Rhys Hopkins Morris, pennaeth cyntaf BBC Wales ac As Gorllewin Caerfyrddin yn 1918, ond cadwodd ei henw ei hun ar gyfer gwaith proffesiynol. Cwrddon nhw ym Mhrifysgol Bangor.
Cyfeirnod: WaW0415
Adroddiad papur newydd
Adroddiad yn dangos llwyddiannau ysgol Gwladys Perrie Williams. The Weekly News 27 Rhagfyr 1907.
Ida Williams
Man geni: Llangammarch
Gwasanaeth: Athrawes
Marwolaeth: August / 1918 / Awst, Llangammarch , Influenza / y ffliw
Nodiadau: Graddiodd Ida Williams yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth. Dysgodd mewn ysgolion canolradd yn Aberystwyth, Caerdydd, Bargoed ac yn olaf Llundain, lle collodd ei hiechyd tua blwyddyn cyn iddi farw. Ymddengys ei bod yn gerddorol a’i bod wedi cyfrannu at gyhoeddiadau gan gynnwys Y Cymro.
Cyfeirnod: WaW0422
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar farwolaeth ac angladd Miss Ida Williams BA. Brecon County Times 8 Awst 1918
Jennie Williams
Man geni: Llanberis ?
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, June 1916 – January 1919 / M
Marwolaeth: 1919/1/31, Le Havre, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Cofeb Rhyfel, Llanberis, Sir Gaernarfon
Nodiadau: Deuai Jennie Williams o deulu reit gefnog ac ymunodd yn VAD ym Mehefin 1915. Gadawodd am Ffrainc yn Hydref 1916 a bu farw o niwmonia yn dilyn y ffliw yn Ionawr 1919, yn 45 oed. Mae wedi ei chladdu yng Nghladdfa Ste Marie, Le Havre.
Cyfeirnod: WaW0175
Llythyr
Llythyr i Isbwyllgor Gwaith y Menywod, Amgueddfa’r Imperial War, ynglŷn â ffotograff Jennie Williams
Ffurflen Adrodd Cofrestru Beddau
Ffurflen Adrodd Cofrestru Beddau yn cynnwys manylion am Jennie Williams, Claddfa Ste Marie, Le Havre
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am farwolaeth Jennie Williams, Y Dinesydd Cymreig, Chwef. 12, 1919
Maggie Williams
Man geni: Cwmparc ?
Gwasanaeth: Nyrs
Marwolaeth: October / Hydref 191, Chichester, Pneumonia following influenza / Niwmonia yn dilyn y ffliw
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Maggie Williams ar hyn o bryd, ac eithrio’r toriad papur newydd isod.
Cyfeirnod: WaW0347
Margaret Williams
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Stiwardes, 1914 - d
Marwolaeth: 1916-11-03, SS Connemara, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Caergybi, Ynys Mon
Nodiadau: 32 oed. Suddwyd SS Connemara mewn gwrthdrawiad gyda llong gario glo Retriever. Dwedwyd bod MW ar ei shifft olaf cyn ei phriodas. Ni chafwyd hyd i'w chorff.
Ffynonellau: https://sites.google.com/site/holyheadwarmemorial19141918/home/ss-connemara/margaret-williams-stewardess
Cyfeirnod: WaW0067
Maud Williams
Man geni: Llanhari ?
Gwasanaeth: Nyrs
Cofeb: Capel Penuel, Llanhari, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Nyrs Maud Williamsy gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Penuel, Llanhari
Cyfeirnod: WaW0171
Miss Williams (Mrs Fisher)
Man geni: Abertyleri
Nodiadau: Eisteddodd Miss Williams, y cyfeiriri ati yn adroddiadau’r wasg fel Mrs Fisher hefyd, wrth droed Cofeb Ryfel Abertyleri yn ei seremoni gysegru ar 1af Rhagfyr, 1926. Roedd yn gwisgo medalau ei thri brawd a laddwyd yn ymladd yn Ffrainc.
Ffynonellau: Angela Gaffney Aftermath: remembering the Great War in Wales University of Wales Press 1998; http://www.britishpathe.com/video/lord-allenby-unveils-abertillery-war-memorial/query/monuments
Cyfeirnod: WaW0210
Pollie (Mary) Williams (née Evans)
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914/10/21 – August 1918
Nodiadau: Roedd Pollie yn un o chwiorydd iau Katie (Catherine) Evans VAD [qv] a fu farw ar 16eg Hydref 1914. Ymunodd Pollie â’r VAD ddiwrnod wedi angladd ei chwaer. Yn Awst 1918 priododd Hugh Williams
Cyfeirnod: WaW0259
Lythyr
Llythyr oddi wrth Pollie Evans at Agnes Conway o’r Is-bwyllgor Gwaith Menywod am ddarlun Katie. rn