Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Ada May King
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: TVR
Nodiadau: Rhegodd rhyw Alfred Collins ar Ada, porthor rheilffordd, a’i tharo yn ei mynwes, yng ngorsaf Aberdâr. Roedd e’n ceisio osgoi talu am docyn (eto).
Cyfeirnod: WaW0372
Evelyn Kirk
Gwasanaeth: Gweithwraig ffatri arfau rhyfel
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Evelyn Kirk, a enillodd anrhydedd MOBE am weithio’n ddyfal yn ffatri arfau rhyfel Y Fferi Isaf 10fed Mehefin 1918. Efallai ei bod yn dod o swydd Durham.
Cyfeirnod: WaW0202
E Kitson
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel a chwaraewraig rygbi
Nodiadau: E. Kitson oedd capten Cardiff Ladies. Roedd yn chwarae yn yr un tîm â Lilian Rees [qv] a Maria Eley [qv] ac yn cydweithio â hwy, mae’n debyg.
Ffynonellau: https://cardiffrugbymuseum.org/articles/earliest-photograph-women%E2%80%99s-team
Cyfeirnod: WaW0398
Adroddiad papur newydd
Hysbyseb papur newydd am y gêm rhwng Newport Ladies a Cardiff Ladies, Rhagfyr 1917
Toriad o’r wasg
Toriad yn rhoi sgôr y gêm rhwng Newport Ladies a Cardiff Ladies, Rhagfyr 1917. Ffynhonnell anhysbys.
not known / anhysbys Knott
Man geni: Pont-y-pridd
Gwasanaeth: not known / anhysbys
Nodiadau: Does dim byd yn hysbys ar hyn o bryd am Nyrs Knott y gwelir ei henw ar Restr Anrhydedd Eglwys St Matthew, Trallwng, Pontypridd.
Cyfeirnod: WaW0140
Rhestr anrhydedd
Enw Nyrs Knott ar Restr Anrhydedd Eglwys St Matthew, Trallwng, Pontypridd. Trwy garedigrwydd Dr Gethin Matthews.
Mathilde Augusta Lilian Laloe
Man geni: Caerfyddin 1877
Gwasanaeth: Gweinyddwraig, SWH, 1916 - 1920
Nodiadau: Roedd Lilian Laloe yn ferch i Auguste Felix Laloe, athro o Ffrainc a ddaeth yn brifathro Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth yn 1874. Ymunodd hi âg Ysbytai Menywod yr Alban yn gogydd, ond cafodd ei dyrchafu yn Weinyddwraig ymhen dim.
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0086
Lilian Laloe, (cefn, ail o’r chwith)
Lilian Laloe (cefn, ail o’r chwith) gyda Doctoriaid Ysbyty Menywod yr Alban, Salonica, 1917?
Lily Maud Leaver
Man geni: Aberdâr
Gwasanaeth: Gweithwraig ffatri arfau rhyfel , Not known / anhysbys
Marwolaeth: 1917/12/28, TNT poisoning / Gwenwyni gan TNT
Nodiadau: Ni wyddys llawer am Lily Leaver a anwyd yn 1896. Trigai ei rhieni bryd wedyn yn Abertridwr, sir Forgannwg.
Cyfeirnod: WaW0325
Lily Maud Leaver
Casglwyd ffotograff Lily gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum yn rhan o’r casgliad o luniau menywod fu farw yn ystod y rhyfel.
Mabel Sybil (May) Leslie (Burr)
Man geni: Woodlesford, Leeds
Gwasanaeth: Gwyddonydd, Cemegwraig, HM Factory Penrhyndeudraeth, 1915 - 1918
Marwolaeth: 1937/07/03, Cancer / canser
Nodiadau: Notes [Cy] Ganwyd May Leslie yn 1887, yn ferch i lowr. Roedd gan ei thad ddiddordeb mawr mewn addysg a hunan-les ar ei gyfer ei hun a’i blant. Enillodd May ysgoloriaeth i’r Ysgol uwchradd ac i Brifysgol Leeds lle enillodd radd ddosbarth cyntaf mewn Cemeg yn 1908, ac yna cafodd ysgoloriaeth dair blynedd i astudio gyda Marie Curie ym Mharis. Yn 1914 cafodd swydd darlithydd cynorthwyol yng Ngholeg Prifysgol Bangor ac yn 1915 galwyd arni i ddechrau gweithio yn Ffatri Ffrwydron Litherland. Dyrchafwyd hi yn Gemegydd a Gofal Labordy safle anarferol iawn i fenyw ac yna symudwyd hi i’r un rol yn Ffatri H M Penrhyndeurdraeth, yn gweithio gyda ffrwydron. Daeth y swydd hon i ben ar ddiwedd y rhyfel a dychwelodd i fywyd academaidd yn Lloegr.rnrn
Ffynonellau: https://newwoodlesford.xyz/schools/may-sybil-leslie/ Devotion to Their Science: Pioneer Women of Radioactivity, Rayner-Canham Marelene and Geoffrey
Cyfeirnod: WaW0438
Ada Doris Maud Lesser (Radcliffe)
Man geni: Nova Scotia
Gwasanaeth: Gweithwraig , QMAAC
Marwolaeth: 1918/12/04, ]Ysbyty Milwrol Tidsworth, Wiltshire , Influenza / y ffliw
Cofeb: Cycladdfa Dan-y-graig, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Ada tua 1879, a symudodd ei theulu i Abertawe. rnPriododd Arthur Charles Lesser yn Rhagfyr 1899. Yn ôl yr adysgrif a rei bed yr oedd yn 36 oed pan fu farw, ond mae’n debygol ei bod yn hŷn na hynny. Diolch i Diana Morgan.
Cyfeirnod: WaW0190
Gwen Lewis
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Athrawes
Nodiadau: Hwyliodd Gwen Lewis o Tilbury am Gibraltar ar 26ain Chwefror 1916, i briodi yn Gibraltar. Y diwrnod canlynol, tua 10.30 o’r gloch, trawodd y llong, SS Majola, ffrwydryn oddi ar Dover, suddodd a chollwyd 155 o fywydau. Goroesodd Gwen, ond collodd ei holl eiddo gan gynnwys wats deithio a gyflwynwyd iddi pan adawodd Ysgol Terrace Road. Cyflwynwyd ei stori yn fanwl yn y South Wales Weekly Post a Llais Llafur.
Cyfeirnod: WaW0265
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am brofiadau Gwen Lewis (1). South Wales Weekly Post 4ydd Mawrth 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am brofiadau Gwen Lewis (2) South Wales Weekly Post 4ydd Mawrth 1916
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am brofiadau Gwen Lewis (3). South Wales Weekly Post 4ydd Mawrth 1916
Adrodiad papur newydd
Adroddiad am brofiadau Gwen Lewis (4), South Wales Weekly Post 4ydd Mawrth 1916
Gwenllian Lewis
Man geni: Treharis
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, November/Tachwedd 1914 – Jul
Nodiadau: Ymddengys i Gwenllian Lewis weithio yn nyrs breifat yng Nghanolbarth Lloegr cyn cael ei galw i ymrestru yn 1914. Treuliodd dair blynedd yn y 5fed Ysbyty Cyffredinol Gogleddol yng Nghaerlŷr cyn mynd i Ffrainc yn 1917. Arhosodd yno tan yn gynnar yn 1919 ac yna dychwelodd i Gaerlŷr. Mae pob un o’i gwerthusiadau blynyddol yn cyfeirio ati yn ‘nyrs dda’ a oedd yn garedig wrth y cleifion. Colli ei bathodyn TFNS oedd yr unig beth wnaeth hi o le, a gorfu iddi dalu am un newydd yn ei le.
Cyfeirnod: WaW0426