Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Jean Arbuckle
Man geni: Yr Alban
Gwasanaeth: Merch
Nodiadau: 'Ganwyd fy mam, Jean Wardlaw Arbuckle, yn yr Alban a threuliodd ei blynyddoedd cynnar yno mewn nifer o drefi a phentrefi bychain yn y canolbarth rhwng Gourock yn y gorllewin a Preston Pans yn y dwyrain. Hi oedd y trydydd plentyn mewn teulu o ddeuddeg. Pan oedd hi tuag 11 oed, symudodd y teulu i gymoedd glofaol de Cymru, wrth i’w thad geisio am ddyrchafiad yn y diwydiant glo. Roedd fy mam yn 15 oed pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn yr atgofion a draddododd i mi sonia am brinder difrifol o fwyd, ei gost uchel, nes cyflwyno dogni. Dwedodd fod hyn yn hollol annheg ar deuluoedd tlawd iawn, ac i ddogni wella’r sefyllfa. Ar ddechrau’r Rhyfel trigai’r teulu yn Nhon-du, i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr, ond symudon nhw i Lanharan wyth milltir o Ben-y-bont rywdro yn 1915. Mynychodd hi Ysgol Sir Pen-y-bont yn y cyfnod hwn, gan deithio yno o orsaf drên Llanharan. Roedd prinder staff wedi arwain at gyfuno rhywfaint ar ysgolion y bechgyn a’r merched. Ymddengys bod y drefn hytrach yn llac a bod tipyn o chwarae triwant. Byddai’r disgyblion yn diflannu yn aml yn ystod y dydd, yn cerdded Merthyr Mawr, yn fechgyn a merched gyda’i gilydd. Un diwrnod penderfynodd hi adael yr ysgol yn gynnar, cafodd lifft gan ffermwr, ar ei geffyl a chert nôl i Lanharan ar hyd heolydd troellog, cul. Gan fy nhad-cu roedd un o’r ceir cyntaf yn yr ardal bryd hynny, a chlywodd hi e’n dod ar hyd y ffordd tuag atynt. Gwyddai, pe gwelai e hi y câi ei churo â strapen, felly neidiodd oddi ar y gert, dros y clawdd, a cherddodd weddill y ffordd adre. Roedd y teulu yn aelodau gyda’r Brodyr Plymouth, ond nid yw hynny fel petai wedi rhwystro’r plant rhag bod ychydig yn ddi-wardd.' Janet Davies 13.11.2015.
Cyfeirnod: WaW0078
Mary Bagnall
Man geni: Wrecsam ?
Gwasanaeth: Gwraig, Mam
Nodiadau: Roedd Mary yn un o’r rhai a laddwyd pan ffrwydrodd siel a ddaeth ei gŵr, y milwr John Bagnall, adre fel swfenîr. Yn ddamweiniol cwympodd e’r siel ar 9fed Mawrth, 1916 yn eu cartref yn Moss, Wrecsam. Anafodd y ffrwydrad ei merch fach Sarah, ei dwy nith Violet Williams a Mary Roberts a lladdodd ei nith Ethel Roberts. Collodd Mary ei dwy droed a chollodd ei gŵr a’i chwaer Sarah Roberts eu dwy goes. Claddwyd y merched mewn dau fedd ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, lle codwyd cofeb iddynt ym Mawrth 2016.
Ffynonellau: http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/wrexham-remembers-four-children-killed-11027982
Cyfeirnod: WaW0215

Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ffrwydrad y siel a laddodd bedair merch ac aanafodd dri oedolyn yn y North Wales Chronicle 10fed Mawrth 1916
Sarah Hannah Bagnall
Man geni: Wrecsam
Gwasanaeth: Plentyn
Marwolaeth: 1916/03/09, Moss, Wrecsam, Explosion / Ffrwydrad
Cofeb: Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, Wrecsam, Sir Ddinbych
Nodiadau: Lladdwyd Sarah, blwydd oed, pan ffrwydrodd siel y daethai ei thad â hi adre’n swfenîr, ac a laddodd neu a anafodd yn ddifrifol hi a’i thair cyfnither. Anafwyd ei mam Mary Bagnall ei thad a’i modryb Sarah Roberst yn ddifrifol hefyd. Claddwyd y plant mewn dau fedd ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, lle cafodd cofeb iddynt ei chysegru ym Mawrth 2016.
Ffynonellau: http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/wrexham-remembers-four-children-killed-11027982
Cyfeirnod: WaW0217

Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ffrwydrad y siel a laddodd bedair merch ac anafu tri oedolyn, North Wales Chronicle 10fed Mawrth1916

adroddiad papur newydd
Adroddiad am y ffrwydrad yn enwi’r dioddefwyr.Abergavenny Chronicle 17 Mawrth 1916

Adroddiad papur newydd
Cofeb i Sarah Bagnall, Ethel Roberts, Mary Roberts a Violet Williams ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt a gysegrwyd ym mis Mawrth 2016.
Gertrude Mary Bailey (née Buchanan)
Man geni: Sunderland
Gwasanaeth: Gwraig fusnes, Pwyllgorwraig,, 1914 - 1919
Marwolaeth: 1942, Achos anhysbys
Nodiadau: Symudodd Gertrude Bailey i Gasnewydd ar ôl priodi yr atgyweiriwr llongau cyfoethog o Gasnewydd C H Bailey yn 1895. Ar ôl iddo farw yn 1907 bu hi’n rhedeg ei fusnes llwyddiannus. Wedi dechrau’r Rhyfel bu’n ymwneud â sawl gweithgaredd yn gysylltiedig â’r rhyfel, gan gynnwys helpu Ffoaduriaid Gwlad Belg a’r Groes Goch, a gwasanaethu ar bwyllgor Pensiynau Rhyfel. Yn 1917 sefydlodd Gertrude feithrinfa ar gyfer plant menywod yn gweithio yn y ffatrïoedd arfau. Enillodd anrhydedd y CBE yn 1918; yn rhyfeddol nid oes datganiad yn ei henw. Efallai ei bod yn rhy brysur gyda chymaint o bethau i’w henwi. Yn 1920 trosglwyddodd y busnes i’w meibion a daeth yn un o ddau ynad heddwch benywaidd cyntaf Casnewydd. Roedd Gertrude yn erbyn rhyddfreinio menywod cyn y Rhyfel a noddai gymdeithasau dirwest. Yn Who’s Who in Newport (1920) disgrifir hi yn ‘La Grande Dame of the place’.
Ffynonellau: Sylvia Mason: Every Woman Remembered. Saronpublishers 2018\r\nhttp://www.newportpast.com/gallery/photos/php/search.php?search=munition&search2=&Submit=Submit
Cyfeirnod: WaW0360

Meithrinfa Gweithwyr y Ffatrïoedd Arfau
Agor Meithrinfa Gweithwyr y Ffatrïoedd Arfau, Casnewydd 1917.
Alice M Bale
Gwasanaeth: Athrawes
Nodiadau: Alice Bale oedd prifathrawes gyntaf Adran y Babanod am ysgol Marlborough Road pan agorodd hi yn 1900. Ymddeolodd yn 1924. Yn 1918 cafodd ei hethol yn un o dri phennaeth yn aelodau o Lys Prifysgol Cymru.
Cyfeirnod: WaW0407

Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ethol Alice Bale i Lys Prifysgol Cymru, Llangollen Advertsier 15 Mawrth 1918rn
Rachel Barber
Man geni: Y Barri ?
Gwasanaeth: Glanhawraig locomotifau , Barry Railway Company
Nodiadau: Ar 10fed Medi 1917 cafodd Rachel anaf ar ei thalcen wrth iddi ddod allan o dan yr injan a tharo cyplydd yn siglo. Roedd yn 23 oed ac yn ennill 25s 3d yr wythnos. Y tâl cyfartalog i fenywod yn gweithio ar y dyddiad hwnnw oddeutu 10 swllt yr wythnos.
Ffynonellau: Women and the Barry Railway.Blog by Mike Esbester on March 22, 2021
Cyfeirnod: WaW0481
Isabelle Eugenie Marie Barbier
Man geni: Caerdydd 1885
Gwasanaeth: Nyrs, CHR, 11/08/1914 - 1919
Nodiadau: Roedd Isabelle Barbier yn un o ferched Paul Barbier, athro Ffrangeg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Hyfforddodd yn nyrs yn Ysbyty Brenhinol Bryste. Cafodd ei galw i fyny’n gynnar yn y rhyfel, a’i hanfon i helpu Maud MacCarthy, y Brif Fetron yn Ffrainc, a oedd wedi croesi i Ffrainc yr un pryd â hi a ddim yn gallu siarad Ffrangeg. Bu Isabelle yn gynorthwyydd personol iddi gydol y Rhyfel, gan weithio yn Ffrainc a Fflandrys. Yn ddiweddarach bu’n lleian a bu farw yn 96 oed yn 1982.
Ffynonellau: http://www.fairestforce.co.uk/6.html
Cyfeirnod: WaW0104
Edith Frances Barker
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: VAD, February/Chwefror 1915 – Apr
Marwolaeth: 1918/04/03, St Omer, Ffrainc, Illness / Salwch
Cofeb: Eglwys Sant Collen, Llangollen, Sir Ddinbych
Nodiadau: Ganed hi yn 1869, yn ferch i fragwr o Lerpwl. Trigai Edith gyda’i dau frawd yn Neuadd Pen-y-Bryn, Llangollen am sawl blwyddyn o 1901 ymlaen. Bu’n nyrsio ym Malta a Ffrainc lle bu farw yn 49 mlwydd oed. Cafodd ei chladdu ym Mynwent Goffa Longueness (St Omer) a gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Llangollen.
Ffynonellau: https://grangehill1922.wordpress.com/2013/11/19/edith-frances-barker/
Cyfeirnod: WaW0174

Dogfen Beddau’r Imperial War
Dogfen yn rhoi cyfarwyddiadau am arysgrifau ar gerrig beddau ym mynwent Goffa Longueness. Nodir arni bod Edith yn 49oed.
Ethel Clara Basil Jayne
Man geni: Llanelli
Gwasanaeth: Menyw fusnes, perchennog golchdy, swyddog lles ffatri arfau, ymgynghorydd y llywodraeth
Marwolaeth: 1940, St Albans, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Ethel Jayne yn 1874, yn ferch i berchennog Cwmni Glo a Haearn Brynmawr cyf. Hyfforddodd mewn gwaith golchdy a chychwynnodd ei chwmni golchdy stêm ei hun, Little Laundries Ltd, yn Harrow tua 1906. Ar ddechrau’r Rhyfel ymunodd ag Adfyddin Wirfoddol y Menywod a gweithiodd hefyd yn trefnu cantinau i’r Groes Goch Ffrengig. Yn 1916 penodwyd hi yn brif swyddog lles cwmni arfau rhyfel Armstrong Whitworth, gyda chyfrifoldeb dros fwy nag 20,000 o fenywod cyflogedig yng ngogledd Lloegr a Glasgow. Ymhlith y datblygiadau newydd a wnaeth roedd golchdai stem. Yn 1919 cyflwynodd dystiolaeth ar les i’r Pwyllgor Seneddol ar Fenywod mewn Diwydiant. Roedd ymhlith y gyntaf i ennill OBE yn Awst 1917. Ar ôl iddi farw claddwyd ei llwch ym medd y teulu yn Llanelli.
Ffynonellau: https://doi.org/10.1093/odnb/9780198614128.013.111297
Cyfeirnod: WaW0370

Ethel Basil Jayne 1907
Ethel Basil Jayne yn gyrru i un o’i golchdai cynnar mewn poni a thrap. Dyma’i hoff ddull o deithio, fe ymddengys.
Gwyneth Marjorie Bebb (Thomson)
Man geni: Rhydychen
Marwolaeth: 1921, Edgbaston, Birmingham, Complications of childbirth / Cymhlethdodau esgor
Nodiadau: Symudodd Gwyneth Bebb i Gymru pan benodwyd ei thad, Llewellyn John Montford Bebb, yn Brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr pont Steffan yn 1898. Mynychodd Ysgol y Merched Llambed am gyfnod (roedd yn frwd dros chwarae hoci). Astudiodd y gyfraith yng Ngholeg St Hugh, hi oedd y chweched fenyw i astudio’r gyfraith yn Rhydychen, a’r gyntaf i ennill marciau dosbarth cyntaf yn ei harholiadau terfynol, er na châi raddio. Yn 1931 dechreuodd hi a thair menyw arall achos cyfreithiol aflwyddiannus a elwid Bebb yn erbyn Cymdeithas y Gyfraith, i alluogi menywod i ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol. Roedd cryn gefnogaeth i hyn yn y wasg Gymreig. Erbyn y dyddiad hwn gallai menywod ymuno â phob proffesiwn arall ac eithrio’r gyfraith a’r Eglwys. Methodd yr achos ac ni chafodd menywod fynediad i’r proffesiwn cyfreithiol tan wedi pasio Deddf Gwahardd (Symud ymaith) ar sail Rhyw, 1919. Yn ystod y rhyfel gweithiodd Gwyneth yn y Weinyddiaeth Fwyd. Yn Bennaeth Adran Gyfreithiol y Weinyddiaeth Fwyd yn y Canolbarth defnyddiodd ei sgiliau cyfreithiol i erlyn y rhai oedd yn gweithredu ar y farchnad ddu. Tra yno cwrddodd a phriododd â T W Thompson, cyfreithiwr. Ganwyd ei baban cyntaf wedi i Ddeddf Gwahardd (symud ymaith) ar sail Rhyw ddod yn ddeddf. Yn fuan wedyn derbyniwyd hi i astudio ar gyfer y Bar yn Lincoln’s Inn. Hi fuasai bargyfreithwraig gyntaf Prydain petai heb farw yn 31 oed yn dilyn genedigaeth drasig ei hail blentyn.
Cyfeirnod: WaW0400

Llun papur newydd
Llun ac erthygl bapur newydd ‘Are Lawyers Afraid of Women’s Brains?’ Daily Sketch, Rhagfyr 1913.

Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gêm hoci rhwng Tîm Menywod Llambed a Thîm Ysgol y Merched Llambed. Gwyneth yw’r unig ferch ysgol i’w henwi. Carmarthen Journal 27ain Mehefin 1903.

Adroddiad papur newydd
Adroddiad am dystiolaeth Gwyneth Bebb gerbron y Llys Apêl. Carmarthen Weekly Reporter 4ydd Gorffennaf 1913.

Adroddiad papur newydd
Adroddiad am dderbyn Gwyneth Bebb (Mrs Thomson) i Lincoln’s Inn. Cambria Daily Leader 31ain Rhagfyr 1919.