English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r casgliad

Trefnwyd yn ôl cofeb

Elsie Lavinia Gibbs

Man geni: Grangetown, Caerdydd

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel

Marwolaeth: 1918/07/01, Ffatri Sieliau Genedlaethol, Chilwell, Nottinghamshire , Explosion / Ffrwydrad

Cofeb: Saltmead Gospel Hall, Grangetown, Caerdydd, Morgannwg

Nodiadau: Ganwyd Elsie yn 1901, a dwedodd gelwydd am ei hoedran er mwyn cael gweithio mewn ffatri arfau rhyfel (roedd yn rhaid bod yn 18 oed). Anfonwyd hi i Ffatri Sieliau Genedlaethol, Chilwell, Nottingham, lle bu farw mewn ffrwydrad a laddodd 133 o weithwyr, y trasiedi gwaethaf o blith sifiliaid yn ystod y Rhyfel. Ni lwyddwyd i adnabod ei chorff, a chladdwyd hi mewn bedd cyffredin gyda 101 o ddioddefwyr eraill na lwyddwyd i’w hadnabod.

Ffynonellau: www.grangetownwar.co.uk

Cyfeirnod: WaW0211

Grŵp o weithwyr ffatri arfau. Mae Elsie ar y chwith i’r dyn â mwstas, coler a thei yn yr ail res.  Tynnwyd y llun yn Chilwell, mae’n debyg.

Gweithwyr ffatri arfau

Grŵp o weithwyr ffatri arfau. Mae Elsie ar y chwith i’r dyn â mwstas, coler a thei yn yr ail res. Tynnwyd y llun yn Chilwell, mae’n debyg.

Rhan o Ffatri Chilwell ar ôl y ffrwydrad ar 1af Gorffennaf, 1918

Ar ôl y ffrwydrad.

Rhan o Ffatri Chilwell ar ôl y ffrwydrad ar 1af Gorffennaf, 1918

Copi o dystysgrif marwolaeth Elsie, yn nodi achos ei marwolaeth ‘presumed killed as result of explosion – Deceased know[n] to have been in works at time and since missing’. Nodir, yn anghywir, ei bod yn 19 oed a’i bod yn gweithio yn y gwaith powdwr ac yn ferch i Albert Gibbs. Rhoddir cyfeiriad yn Nottingham iddo ond roedd e’n byw yn Dorset Street, Grangetown, Caerdydd.

Tystysgrif marolwaeth

Enw Elsie Gibbs ar  y Gofeb Ryfel, Saltmead Gospel Hall, Grangetown, Caerdydd.

Cofeb Rhyfel

Enw Elsie Gibbs ar y Gofeb Ryfel, Saltmead Gospel Hall, Grangetown, Caerdydd.

Edith Mary Tonkin

Man geni: Sandford, Dyfnaint

Gwasanaeth: Morwyn ward. , VAD, 1917/11/06 – 1918/10/13

Marwolaeth: 1918-10-13, 3ydd Ysbyty Cyffredinol Le Treport, Pneumonia / Niwmonia

Cofeb: Cofeb Ryfel, Llandaf, Morgannwg

Nodiadau: Ganwyd Edith ar fferm yn swydd Dyfnaint yn 1892. Symudodd i Gaerdydd pan etifeddodd ei thad dafarn gan ei ewythr. Gweithiodd yn forwyn ward yn 3ydd Ysbyty Cyffredinol Tréport, Ffrainc, lle bu farw yn 26 oed. Gwelir ei henw ar gofeb Llandaf gyda’i brawd iau William John (Jack) fu farw ym mrwydr Loos yn 1915.

Cyfeirnod: WaW0061

Enw Edith Mary Tonkin, VAD, Cofeb Ryfel Llandaf

Cofeb Ryfel Llandaf

Enw Edith Mary Tonkin, VAD, Cofeb Ryfel Llandaf

Cofrestr mynwent Mont Huon, Tréport, gyda chofnod am Edith Tonkin

Cofrestr Beddau Rhyfel

Cofrestr mynwent Mont Huon, Tréport, gyda chofnod am Edith Tonkin

Edith Tonkin yng ngwisg VAD. Diolch i Maureen Roberts, Gorllewin Awstralia

Edith Tonkin

Edith Tonkin yng ngwisg VAD. Diolch i Maureen Roberts, Gorllewin Awstralia

Carreg fedd yn coffáu Edith Mary Tonkin, Claddfa Filwrol Mount Huon, Normandi. Trwy garedigrwydd Peter Bennett Dewberry, swydd Efrog.

Carreg fedd

Carreg fedd yn coffáu Edith Mary Tonkin, Claddfa Filwrol Mount Huon, Normandi. Trwy garedigrwydd Peter Bennett Dewberry, swydd Efrog.

Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Edith Mary Tonkin.

Cerdyn cofnod y Groes Goch

Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Edith Mary Tonkin.

Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Edith Mary Tonkin (cefn)

Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)

Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Edith Mary Tonkin (cefn)

Darlun o’r teulu Tonkin ar fferm y teulu yn Nyfnaint c. 1910. Trwy garedigrwydd Maureen Roberts, Gorllewin Awstraliarn

Teulu Tonkin

Darlun o’r teulu Tonkin ar fferm y teulu yn Nyfnaint c. 1910. Trwy garedigrwydd Maureen Roberts, Gorllewin Awstraliarn

Maud Williams

Man geni: Llanhari ?

Gwasanaeth: Nyrs

Cofeb: Capel Penuel, Llanhari, Morgannwg

Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Nyrs Maud Williamsy gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Penuel, Llanhari

Cyfeirnod: WaW0171

Enw Nyrs Maud Williams ar Rhestr Anrhydedd Capel Penuel, Llanharri, Sir Forgannwg

Rhestr Anrhydedd

Enw Nyrs Maud Williams ar Rhestr Anrhydedd Capel Penuel, Llanharri, Sir Forgannwg

Eva Martha Davies

Man geni: Llanilltud Fawr ?

Gwasanaeth: Nyrs, VAD, Aug / Awst-1914 - 1918

Marwolaeth: 1918-06-16, Casnewydd, Septic poisoning contracted on duty. Gwenwyno septig a gafwyd tra ar ddyletswydd

Cofeb: Cofeb Ryfel , Llanilltud Fawr, Morgannwg

Nodiadau: Gweithiai yn Ysbyty Casnewydd.Ffotograff o Eva a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel. Lladdwyd dau o frodyr Eva yn Ffrainc. Merch Mary Davies (WaW0172),

Cyfeirnod: WaW0008

Enw Eva Martha Davies, VAD, Cofeb Ryfel Llanilltud Fawr

Cofeb Ryfel Llanilltud Fawr

Enw Eva Martha Davies, VAD, Cofeb Ryfel Llanilltud Fawr

Adroddiad am angladd Eva Martha Davies

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am angladd Eva Martha Davies

Ffotograff o Eva a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel.

Eva Martha Davies

Ffotograff o Eva a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel.

Emily Ada Pickford (née Pearn)

Man geni: Penarth

Gwasanaeth: Difyrwraig

Marwolaeth: -1919-07.02, Afon Somme, Drowning / Boddi

Cofeb: Cofeb Ryfel, Penarth, Morgannwg

Nodiadau: 37 oed. Aelod o un o Bartïon Cyngerdd Lena Ashwell, bu farw pan blymiodd car yr oedd hi’n teithio ynddo i afon Somme ar y ffordd adre o gyngerdd. Claddwyd yng Nghladdfa Gymunedol Abbeville, llain V, Rhes G, Bedd 23

Cyfeirnod: WaW0043

Enw Emily Pickford, Cofeb Ryfel Penarth, roedd hi'n gantores a foddodd mewn damwain yn y Somme, Ionawr 1919

Cofeb Ryfel Penarth

Enw Emily Pickford, Cofeb Ryfel Penarth, roedd hi'n gantores a foddodd mewn damwain yn y Somme, Ionawr 1919

Florence Gwendolin Howard

Man geni: Pontypridd ?

Gwasanaeth: Nyrs, Territorial Nursing Service/Gwasanaeth Nyrsio Tiri

Marwolaeth: 1914-11-18, Anhysbys, Septic poisoning / Gwenwyno septig

Cofeb: Coflech yn Eglwys y Santes Catrin; Bedd Claddfa Glyntâf, Pontypridd, Morgannwg

Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Florence Howard ar hyn o bryd

Ffynonellau: http://twgpp.org/information.php?id=2257521; http://www.qaranc.co.uk/war_graves_memorials_Nurse/Nyrss.php

Cyfeirnod: WaW0026

Enw Florence Howard ar goflech ryfel yn Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd

Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd

Enw Florence Howard ar goflech ryfel yn Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd

Florence Howard yn ei hiwnifform

Florence Howard

Florence Howard yn ei hiwnifform

C Lloyd

Man geni: Tonpentre

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel

Cofeb: Capel M C Jerusalem , Tonpentre, Morgannwg

Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Miss C Lloyd y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentre

Cyfeirnod: WaW0157

Enw Miss C Lloyd, Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentrernrn

Restr Anrhydedd

Enw Miss C Lloyd, Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentrernrn

M Morgan

Man geni: Tonpentre

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel

Cofeb: Capel M C Jerusalem , Tonpentre, Morgannwg

Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Miss M Morgan y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentre

Cyfeirnod: WaW0158

Name of Miss M Morgan, Munitions Worker, on Roll of Honour, in Jerusalem Calvinistic Methodist Chapel, Ton Pentre

Rhestr Anrhydedd

Name of Miss M Morgan, Munitions Worker, on Roll of Honour, in Jerusalem Calvinistic Methodist Chapel, Ton Pentre

M Roberts

Man geni: Tonpentre

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel

Cofeb: Capel M C Jerusalem , Tonpentre, Morgannwg

Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Miss M Roberts y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentre

Cyfeirnod: WaW0159

Enw Miss M Roberts gweithwraog mewn Ffatri Arfau Rhyfel, ar Restr Anrhydedd Capel Meth. Calf.  Jerusalem, Tonpentre

Rhestr Anrhydedd

Enw Miss M Roberts gweithwraog mewn Ffatri Arfau Rhyfel, ar Restr Anrhydedd Capel Meth. Calf. Jerusalem, Tonpentre

Amy Laura Whitcombe

Man geni: Hengoed

Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC

Marwolaeth: 1918-11-03, S C Convalescent Hospital, Plymouth, Influenza / Y Ffliw

Cofeb: Cofeb Ryfel, Ystrad Mynach a Hengoed, Morgannwg

Nodiadau: 24 oed.

Cyfeirnod: WaW0063

Enw Amy Whitcombe, Cofeb Rhyfel Ystrad Mynach

Cofeb Rhyfel Ystrad Mynach

Enw Amy Whitcombe, Cofeb Rhyfel Ystrad Mynach

Cofnod bedd Amy Whitcombe

Cofnod bedd

Cofnod bedd Amy Whitcombe

Administration