Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl cofeb
Jane E Jones
Man geni: Tan-yr-Allt, Cynwyd
Cofeb: Rhyfel Cofeb, Cynwyd, Merionydd
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Jane E Jones ar hyn o bryd
Cyfeirnod: WaW0144
Elizabeth (Lizzie) Thomas
Man geni: Blaendulais
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1915 - 1920
Marwolaeth: 1921/09/27, Castell-nedd ?, Tuberculosis / Y dicléin
Cofeb: Blaendulais, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Lizzie yn 1890 a mynychodd Ysgol Sir Castell nedd a hyfforddi yn nyrs yn Ysbyty Gyffredinol a Llygaid Abertawe. Gwrifoddolodd i ymuno â’r QAIMNS Wrth Gefn yn 1915, ac anfonwyd hi i Salonika trwy’r Aifft ym mis Tachwedd. Dywedir i’r llong filwyr yr oedd hi arni gael ei tharo â thorpido ac iddi dreulio sawl awr yn y dŵr. Dychwelodd adre ym mis Rhagfyr 1916, ac yn Ionawr 1917 cafodd dderbyniad gan y gymuned leol, gan gynnwys ei chyflwyno â medal a chanu cân eithriadol or-glodfawr iddi yn Gymraeg. Treuliodd weddill y Rhyfel, tan ei rhyddhau ym Hydref 1920 yn Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham. Gwobrwywyd hi â Medal y Groes Goch ym mis Ebrill 1919. Dychwelodd Lizzie adre i nyrsio yng Nghastell nedd, ond bu farw flwyddyn yn ddiweddarach o’r dicléin. Gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Blaendulais.
Ffynonellau: Jonathan Skidmore: Neath and Briton Ferry in the First World War
Cyfeirnod: WaW0477
Cerdd / cân
Y gân chwithig a berfformiwyd yn nerbyniad Nyrs Thomas ym mis Ionawr 1917. Y cyfansoddwr oedd Mr R.D.Harris a chanwyd hi gan y Mri D.T.Davies a John Hughes. Llais Llafur 6ed Ionawr 1917.
Ffurflen y Fyddin W.3538
Cofnod anfon Lizzie Thomas i Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham, 1af Medi 1917
Eunice Thomas
Man geni: Abertawe ?
Cofeb: Capel Mynydd Bach, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Eunice Thomas y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Mynydd Bach, Abertawe (60)
Cyfeirnod: WaW0162
Restr Anrhydedd
Cofnod o wasanaeth rhyfel Eunice Thomas ar Restr Anrhydedd Capel Mynydd Bach, Swansea
Margaret Jane Evans
Man geni: Treforis, Abetawe ?
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Cofeb: Capel Soar, Treforis, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Bu Margaret Evans yn nyrsio yn 3ydd Ysbyty Milwrol Cyffredinol y Gorllewin, Caerdydd. Gwelir ei henw ar Restr Anrhydedd Capel Soar, Trefforest.
Cyfeirnod: WaW0170
Ada Doris Maud Lesser (Radcliffe)
Man geni: Nova Scotia
Gwasanaeth: Gweithwraig , QMAAC
Marwolaeth: 1918/12/04, ]Ysbyty Milwrol Tidsworth, Wiltshire , Influenza / y ffliw
Cofeb: Cycladdfa Dan-y-graig, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Ada tua 1879, a symudodd ei theulu i Abertawe. rnPriododd Arthur Charles Lesser yn Rhagfyr 1899. Yn ôl yr adysgrif a rei bed yr oedd yn 36 oed pan fu farw, ond mae’n debygol ei bod yn hŷn na hynny. Diolch i Diana Morgan.
Cyfeirnod: WaW0190
Edith E Copham
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1918-11-18, Pen-bre, Ffrwydrad
Cofeb: Senotaff , Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: 19 oed. Lladdwyd hi yn yr un ffrwydrad â Mary Fitzmaurice a Jane Jenkins; Rhannodd MF a EEC angladd cyhoeddus.
Ffynonellau: Explosion report Herald of Wales 14th December 1914; Funeral report South Wales Weekly Post 30 Nov 1918 / Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914; Adroddiad am yr angladd South Wales Weekly Post 30ain Tachwedd 1918
Cyfeirnod: WaW0002
Mary D Davies
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Anhysbys, ATS
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Mary D Davies ar hyn o bryd, ond efallai iddi weithio fel WAAC, yng Ngwasanaeth Cludiant y Fyddin (Army Transport Service).
Cyfeirnod: WaW0119
Mary Fitzmaurice
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1918-11-18, Pen-bre , Explosion/Ffrwydrad
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: 36 oed. Mam i chwech o blant. Lladdwyd hi yn yr un ffrwydrad ag Edith Copham a Jane Jenkins; rhannodd MF a EEC angladd cyhoeddus
Ffynonellau: Explosion report Herald of Wales 14th December 1914 / Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914
Cyfeirnod: WaW0020
Elizabeth Foulkes
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: 28 oed. Claddwyd yn eglwys Sant Mihangel, Rhydaman
Cyfeirnod: WaW0022
Catherine (Kate ) Hill
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: TNT poisoning/Gwenwyno TNT
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Ffynonellau: http://1914-1918.invisionzone.com/forums
Cyfeirnod: WaW0025