Beth yw ystyr y blaenlythrennau hyn?
ATS | Army Transport Service (Gwasanaeth Cludiant y Fyddin) | Roedd rhai WAACau yn gweithio i’r ATS fel cogyddion, clercod a.y.b. Roedd Gwasanaeth Cludiant y Fyddin yn rhan o Gorfflu Gwasanaeth y Fyddin, yn darparu bwyd ac offer i’r fyddin. |
CHR | Civilian Hospital Reserve (Sifiliad Wrth Gefn mewn Ysbytai) | Cofrestr o nyrsys wedi eu hyfforddi mewn ysbytai a oedd ar gael i’w galw i wasanaethu yn ystod y Rhyfel. |
FANY | First Aid Nursing Yeomanry (Iwmyn Nyrsio Cymorth Cyntaf) | Roedd y FANYs, grŵp a ffurfiwyd yn 1907, yn nyrsio a gyrru ambiwlansys yn Ffrainc. Ar y cyfan roeddent o gefndiroedd cefnog; roedd gan rai ohonynt geir. |
QAIMNS | Queen Alexandra’s Imperial Military Nursing Service (Gwasanaeth Nyrsio Milwrol Ymerodrol y Frenhines Alexandra) | Ffurfiwyd yn 1902, roedd hwn yn wasanaeth nyrsio rheolaidd yn gysylltiedig â’r Fyddin. Mae’n dal mewn bodolaeth heddiw. |
QARNNS | Queen Alexandra’s Royal Naval Nursing Service (Gwasanaeth Nyrsio Morol Brenhinol y Frenhines Alexandra) | Ffurfiwyd yn 1902, roedd hwn yn wasanaeth nyrsio rheolaidd yn gysylltiedig â’r Llynges Frenhinol. |
QMAAC | Queen Mary’s Army Auxiliary Corps (Corfflu Atodol Byddin y Frenhines Mary) | Ailenwyd WAAC yn QMAAC ar 9 fed Ebrill 1918. Y Frenhines Mary oedd eu Prif Gyrnol. Cafodd ei ddiddymu yn 1920. |
SWH | Scottish Women’s Hospitals (Ysbytai Menywod yr Alban) | Ffurfiwyd gan fenywod (er gwaetha gwrthwynebiad swyddogol) yn 1914. Gweithiodd doctoriaid benywaidd a nyrsys, rhai o Gymru, mewn amodau anodd yn Serbia and Salonica, a hefyd yn Ffrainc. |
TFNS | Territorial Forces Nursing Service (Gwasanaeth Nyrsio'r Lluoedd Tiriogaethol) | Cyfwerth â’r Fyddin Diriogaethol, gellid galw am wasanaeth nyrsys sifil hyfforddedig o’r ysbytaisifil. |
VAD | Voluntary Aid Detachment (Mintai Gymorth Wirfoddol) | Gweithiai’r rhan fwyaf o VADs fel nyrsys heb hyfforddiant, er bod y Groes Goch yn darparu hyfforddiant. Gwasanaethodd llawer yn agos i gartref, ond anfonwyd rhai dramor. |
WAAC | Women’s Army Auxiliary Corps (Corfflu Atodol Byddin y Menywod) | Sefydlwyd yn Rhagfyr 1916. Cymerodd menywod le milwyr yn gwneud tasgau domestig a chlerigol. O ystyried maint, deuai mwy o WAACau o Gymru nag o rannau eraill y DU. Ailenwyd yn QMAAC yn 1918. |
WLA | Women’s Land Army (Byddin Dir y Menywod) | Sefydlwyd yn Ionawr 1917 i recriwtio merched ifanc i weithio ar ffermydd. Roedd llawer o fenywod a merched eisoes yn gweithio ar ffermydd, ond trefnodd hyn nhw a rhoi gwisg swyddogol a hyfforddiant iddynt. |
WRAF | Women’s Royal Air Force (Awyrlu Brenhinol y Menywod) | Sefydlwyd ar 1 Ebrill 1918. Cymerodd menywod le awyrenwyr yn gwneud tasgau domestig a chlerigol, Cafodd ei ddiddymu yn 1920. |
WRNS | Women’s Royal Naval Service (Gwasanaeth Morol Brenhinol y Menywod) | Sefydlwyd yn Nhachwedd 1917. Cymerodd menywod le morwyr yn gwneud tasgau domestig a chlerigol. Cafodd ei ddiddymu yn 1919. |