English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Menywod yng Nghymru yn 1914


Elizabeth a David Hopkins (c) AMC / WAW

Elizabeth a David Hopkins

Synnwyd y rhan fwyaf o’r wlad pan dorrodd y Rhyfel allan ar y 4ydd Awst 1914. Y diwrnod cynt roedd hi’n Ŵyl Banc mis Awst. Ymwelodd tua 50,000 o ymwelwyr undydd o Gaerdydd a’r cymoedd glofaol ag Ynys y Barri, ac roedd trefi gwyliau glannau’r gogledd dan eu sang hefyd. Eto i gyd, o fewn wythnos i gyhoeddi’r rhyfel roedd llawer o fenywod eisoes yn rhan weithredol ohono. Galwyd nyrsys wrth gefn Gwasanaeth Nyrsio Milwrol Ymerodrol y Frenhines Alexandra (y QAIMNS) a Nyrsys wrth gefn y Lluoedd Tiriogaethol i’r gad. Mae’n bosibl iawn fod Florence Howard o Bontypridd ymhlith y rhain (1). Bu hi farw ym mis Tachwedd 1914, felly mae’n rhaid ei bod yn gwasanaethu’n gynnar yn ystod y rhyfel.

Un arall oedd Hilda Downing o’r Drenewydd (2). Roedd Hilda yn nyrsio mewn ysbyty plant yng Nghaint a drowyd yn ysbyty milwrol pan dorrodd y rhyfel allan, a bu farw o’r ffliw yn 1918.

Yn fwy nodweddiadol, dechreuodd menywod dosbarth canol ac uwch yng Nghymru roi trefn ar bethau (3,4). Ledled y wlad roedd grwpiau’r Groes Goch yn addysgu a dysgu cymorth cyntaf, neu’n darparu cyflenwadau i ysbytai; er enghraifft, erbyn dechrau mis Tachwedd, roedd dros 1,500 o ddillad wedi eu darparu gan Gronfa’r Faeres yn y Fenni(5).
Ar unwaith dechreuodd Miss Maud Starkie Bence(6), ffrind Arglwydd ac Arglwyddes Glanusk o Grughywel, drefnu cerbydau modur yn sir Frycheiniog. Ar 17eg Awst gallai raffu ystadegau mewn erthygl at olygydd y Brecon County Times. Noda fod tua 522 o gerbydau ar lyfrau’r swyddfa drwyddedu yn sir Frycheiniog - 205 car modur, 238 beic modur, 79 cerbyd masnach, roedd gan Fwrdeistref Aberhonddu gyfanswm o 107, rhanbarthau Bryn-mawr 28, Llanfair ym Muallt a Llanwrtyd 68, Crughywel 83, Defynnog 17, Gelli Gandryll 32, Merthyr a Phencelli 43, Penderyn 11, Talgarth 41, ac Ystradgynlais 92. Yn fras, felly, honnai fod 150 o gerbydau at wasanaeth y wlad a’r sir. Yn ddiweddarach, er mai Saesnes ydoedd, bu’n trefnu cysuron ar gyfer Cyffinwyr De Cymru. Roedd mor effeithiol fel pan fu farw yn 1916 gosododd y gatrawd blac yn eglwys Sant Brynach er cof amdani(7).

Cymerodd y frwydr dros ryddfreinio menywod, a oedd wedi mynd â bryd llawer o’r menywod hyn ddechrau’r ganrif, safle israddol i’r ymdrech ryfel yn awr. Efelychodd rhai menywod jingoistiaeth frwd Emmeline Pankhurst, ond cymerodd eraill fantais o gyfleoedd newydd i weithio, naill ai trwy fudiadau gwirfoddol, mewn gwaith cyflogedig newydd, neu mewn gweithgareddau gwrthynebu’r rhyfel .

Y menywod a effeithiwyd fwyaf oedd y rheiny yr oedd eu gwŷr neu eu meibion eisoes yn y fyddin neu’r llynges, neu a ymunodd yn wladgarol gynnar. Un o’r rhain oedd Elizabeth Hopkins o Gasnewydd y bu i’w gŵr David ymrestru’n wirfoddol ym mis Tachwedd 1914, er ei fod yn 37 mlwydd oed ac yn dad i bedwar o blant bach. Yn y ffotograff a dynnwyd i nodi hyn, mae e’n ymddangos yn falch iawn, ond golwg o bryder dwys sydd ar wyneb Elizabeth(8). Goroesodd David Hopkins y rhyfel, ond anafwyd ef yn ddifrifol yn Gallipoli.


Delweddau


Administration